Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

40.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings, R. Lewis ac A. Morgan. 

 

41.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

42.

Cofnodion pdf icon PDF 155 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi, 2022 yn rhai cywir.

 

43.

Rhaglen Waith y Cabinet pdf icon PDF 100 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor.  Bydd y Rhaglen Waith yn llywio gweithgarwch canghennau eraill o'r Cyngor ynghyd â gwaith y Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am Raglen Waith y Cabinet, gan gynnwys y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu trafod yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Cadeirydd fod y Rhaglen Waith yn cryfhau proses gwneud penderfyniadau'r Cyngor ac yn ein galluogi ni i amserlennu gwaith cyn y cam craffu mewn modd amserol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn 2022-23 y Cyngor (bydd modd ei haddasu yn ôl yr angen) a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

 

44.

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor (Chwarter 1) pdf icon PDF 391 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n rhoi trosolwg i'r Aelodau o gyflawniad y Cyngor dros dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2022), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella, drosolwg i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon, o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Mae'r adroddiad yn crynhoi sefyllfa cyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor ar 30 Mehefin 2022 (chwarter 1).

 

Mae'r sefyllfa o ran cyllideb refeniw Chwarter 1 yn rhagweld gorwariant o £10.405miliwn. Mae'r rhagamcaniad ar gyfer y flwyddyn gyfan, a gafodd ei lunio ym Mehefin 2022, yn ystyried cynnydd yn y galw ar gyfer gwasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau gofal cymdeithasol, costau chwyddiannol ychwanegol, er enghraifft, costau sy'n gysylltiedig â chytundebau cludiant o'r cartref i'r ysgol; a lle mae disgwyl llai o incwm oherwydd bod llai o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth, er enghraifft, y Gwasanaethau Hamdden. Mae gwaith yn cael ei gynnal yn rhan o drefniadau rheoli ariannol a rheoli gwasanaethau er mwyn adolygu holl feysydd gwariant ac incwm, rydyn ni hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch gofynion cyllid ychwanegol, i leihau'r bwlch rhwng y sefyllfa ariannol a'r gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella mai’r buddsoddiad Cyfalaf ar 30 Mehefin 2022 oedd £13.842miliwn. Cafodd nifer o gynlluniau eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu'r newid o ran costau ac amserlenni cyflawni wedi'u diweddaru, yn ogystal â chynnwys cyllid grant allanol newydd sydd wedi'i gymeradwyo yn ystod chwarter 1 yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf. Mae'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynrychioli'r parhad â'r strategaeth fuddsoddi hirdymor sy'n cefnogi gwelliannau gweladwy i seilwaith ac asedau ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad yn nodi’r heriau sylweddol y mae gwasanaethau’n eu hwynebu oherwydd effeithiau parhaus pandemig Covid-19 ac Argyfwng Costau Byw'r DU. 

 

Mynegodd yr Aelod o'r Cabinet ei phryderon ynghylch y pwysau cynyddol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi gweld cynnydd o ran galw a chostau.  Mae'r Gwasanaeth Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol wedi wynebu costau sylweddol yn sgil costau tanwydd.  Roedd y Gwasanaethau Hamdden hefyd yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd bod llai o bobl yn defnyddio'r gwasanaethau o ganlyniad i'r Argyfwng Costau Byw. Cynghorodd y Cabinet fod rhaglen waith yn cael ei chynnal sy'n edrych ar sut y bydd y Cyngor yn ariannu'r Cynllun Talu a buddsoddiadau’r Rhaglen Gyfalaf.  Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiadau hirdymor ar gyfer Rhaglenni Moderneiddio Ysgolion, gwaith Gwella'r Priffyrdd a gwaith safle ar gyfer cyfleusterau Gofal Ychwanegol a llety â chymorth.  Mae gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i osod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan mewn 30 maes parcio sydd dan ofal y Cyngor. 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ein bod ni'n wynebu gaeaf heriol a fydd yn effeithio ar ystod eang o wasanaethau a arweinir gan y Cyngor gan gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd fod rheolwyr yn ceisio nodi meysydd lle mae modd sicrhau arbedion, fodd bynnag, ni fydd hyn yn mynd i'r afael â'r holl bwysau.  Daeth hi i ben drwy ddweud bod y Cyngor yn parhau i gyfathrebu â Llywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

45.

Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig – y Newyddion Diweddaraf pdf icon PDF 195 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022/23 tan 2025/26, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2023/24 yn ystod misoedd yr hydref.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022/23 tan 2025/26, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2023/24 yn ystod misoedd yr hydref. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y tybiaethau modelu manwl wedi'u cynnwys yn rhan o'r 'Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2025/26' wedi'i ddiweddaru ac mae modd eu gweld nhw yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynllun wedi'i ddiweddaru yn nodi sail fanwl y strategaeth tymor canolig gan gyfeirio at wariant refeniw, cynlluniau cyfalaf, lefelau incwm a chronfeydd wrth gefn.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw’r dyraniadau cyllid dangosol presennol ar gyfer 2023/24 a 2024/25 yn adlewyrchu’r galw a’r pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol o gwbl. O ganlyniad i hyn, yn absenoldeb unrhyw sicrwydd ynghylch cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ac yna Llywodraeth Cymru, rhaid i GBS Rhondda Cynon Taf gynnal adolygiad mewn perthynas â'i holl wasanaethau i nodi opsiynau y mae modd eu hystyried i gau’r bwlch yn y gyllideb a wynebir a galluogi’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd statudol i bennu cyllideb fantoledig ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 erbyn 11 Mawrth 2023.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod heriau sylweddol a digynsail o’n blaenau a bod yn rhaid i ni barhau i lobïo Llywodraeth Cymru a San Steffan am gyllid gan nad ydyn ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae angen lleihau gwasanaethau'r Cyngor.  Dywedodd y bydd yr Awdurdod yn gwneud popeth o fewn ei allu i fod yn fwy effeithlon ond bydd angen archwilio'r holl fesurau arbed arian.  

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y rhagamcaniad yn eithaf brawychus a dywedodd y bydd y cynnydd o 2% yn Nhreth y Cyngor yn cael ei drafod a'i ystyried ymhellach, nododd hefyd y byddai dileu swyddi dim ond yn cael ei ystyried fel cam olaf.   

 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r 'Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2025/26' a derbyn diweddariad pellach yn yr hydref yn rhan o broses pennu'r gyllideb flynyddol; a

 

2.    Nodi y bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Medi ac yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn unol â'i gylch gorchwyl ochr yn ochr â'n trefniadau ar gyfer ymgynghori ar y gyllideb.

 

46.

Cynnig i ddatblygu Ysgol Arbennig newydd yn RhCT pdf icon PDF 311 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet am ein darpariaeth ysgolion arbennig bresennol yn dilyn adroddiadau blaenorol i'r Cabinet ym mis Chwefror a Hydref 2021 lle cytunodd y Cabinet i waith cwmpasu ychwanegol gael ei gynnal er mwyn llywio cynigion am newid yn ein darpariaeth ysgolion arbennig; a cheisio cymeradwyaeth i gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig ar gyfer Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu amlen ariannu rhaglen fuddsoddi Band B y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein darpariaeth ysgolion arbennig yn dilyn adroddiadau a gafodd eu cyflwyno i’r Cabinet ym mis Chwefror a mis Hydref 2021 lle cytunodd y Cabinet i gynnal gwaith cwmpasu ychwanegol i lywio cynigion ar gyfer newid yn ein darpariaeth ysgolion arbennig.

 

Bydd agor ysgol arbennig newydd yn destun ymgynghoriad statudol ynghylch aildrefnu ysgolion a bydd angen gwneud rhagor o waith i ddatblygu'r cynnig. Os rhoddir caniatâd i ddatblygu'r cynnig hwn, yna bydd dogfen ymgynghori'n cael ei llunio a'i chyflwyno i'r Cabinet i geisio caniatâd i ddechrau'r broses ymgynghori statudol maes o law, a hynny'n unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.

 

Ceisio caniatâd i gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu'r cyllid y mae'r Cyngor yn ei dderbyn yn rhan o raglen fuddsoddi Band B.

 

Rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau bod y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei hadolygu'n gyson ac os yw pwysau ar y gwasanaeth bydd raid i ni gymryd camau rhesymol i fynd i'r afael â'r broblem. Mae'n amlwg bod pwysau sylweddol ar leoliadau mewn ysgolion arbennig ar hyn o bryd a bydd peidio â gweithredu ar hyn o bryd yn golygu na fydd modd i ni gyflawni ein dyletswyddau statudol yn y dyfodol. Mae dyletswydd glir ar Awdurdodau Lleol i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar waith i ddiwallu anghenion.

 

Yn rhan o’r cynnig hwn, bydd angen ystyried costau a gwasanaethau trafnidiaeth, gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth ag unrhyw safle posibl ac effaith traffig ar gymunedau. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn rhan o’r adroddiad ymgynghori manwl a'r asesiadau risg.

 

Daeth y Cyfarwyddwr i ben drwy nodi bod y Cabinet eisoes yn gwybod bod y Cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru i gynnwys darpariaeth ysgol arbennig newydd yn rhan o raglen gyllid gyffredinol Rhaglen Amlinellol Strategol Band B (RhS) y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, gan nodi'r cyfraddau ffafriol a roddir i brosiectau ysgolion arbennig.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cynhwysfawr a'r wybodaeth fanwl.  Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi cydnabod y cynnydd yn y galw a'r pwysau a'r cyfyngiadau ar safleoedd ysgol presennol i ddarparu gwasanaethau i blant ag anghenion cymhleth.  Daeth y Dirprwy Arweinydd i ben drwy nodi ei bod hi'n hynod falch o glywed y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% at y costau uwch. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

 

1.  Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

2.  Adolygu'r data diweddaraf sy'n amlygu'r pwysau cynyddol ar ein hysgolion arbennig.

 

3.  Cytuno i gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru i amrywio'r Rhaglen Amlinellol Strategol sydd wedi'i chymeradwyo, yn unol â phrosesau cymeradwyo cyllid Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, i geisio rhagor o gyllid er mwyn darparu’r cyfleuster y mae wir ei angen.

 

4.  Cytuno i dderbyn adroddiad pellach sy'n nodi adborth LlC, casgliadau'r gwerthusiad o’r safle a dogfen ymgynghori arfaethedig i'w hystyried  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Diweddariad ar roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg ar waith yn RhCT pdf icon PDF 458 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet am roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys defnyddio adnoddau ychwanegol wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor i alluogi'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant i gyflawni'i nifer uwch o ddyletswyddau statudol yn unol â gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn ystod blynyddoedd 1 a 2 o'r amserlen gweithredu ADY genedlaethol 3 blynedd. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi risgiau posibl a'r adnoddau ychwanegol posibl sydd eu hangen i sicrhau bod modd i'r Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau ADY statudol ar ddiwedd y cyfnod pontio 3 blynedd pan fydd y system ADY newydd ar waith yn llawn, a hynny ar ôl iddi gymryd lle'r hen system Anghenion Addysgol Arbennig. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet am roi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys defnyddio adnoddau ychwanegol wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor i alluogi'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant i gyflawni'i nifer uwch o ddyletswyddau statudol yn unol â gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn ystod blynyddoedd 1 a 2 o'r amserlen gweithredu ADY genedlaethol 3 blynedd.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi risgiau posibl a'r adnoddau ychwanegol posibl sydd eu hangen i sicrhau bod modd i'r Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau ADY statudol ar ddiwedd y cyfnod pontio 3 blynedd pan fydd y system ADY newydd ar waith yn llawn, a hynny ar ôl iddi gymryd lle'r hen system Anghenion Addysgol Arbennig. 

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 4 o'r adroddiad, sy'n rhoi'r cyd-destun deddfwriaethol ehangach mewn perthynas â'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod ADY a defnyddio cyllid grant i gefnogi Awdurdodau Lleol ac ysgolion wrth symud i system newydd y Cod ADY.  Aeth y Pennaeth materion Cynhwysiant ymlaen i ddweud bod y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wedi gwneud penderfyniad gweithredol dirprwyedig ar y cyd â'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ym mis Rhagfyr 2021, o ganlyniad i’r gwaith cwmpasu, a hynny er mwyn cymeradwyo darparu cyllid ychwanegol gwerth £500,000 i’r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Bydd yr arian yma'n deillio o adnoddau ariannol presennol yr oedd y Cyngor wedi’u neilltuo ar ôl rhagweld y byddai angen adnoddau ychwanegol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod ystod o flaenoriaethau a chamau gweithredu wedi'u nodi er mwyn rhoi'r cynllun ar gyfer ail flwyddyn ar waith ac i sicrhau bod gwaith cynllunio perthnasol yn cael ei wneud ar gyfer trydedd flwyddyn yr amserlen genedlaethol 3 blynedd ar gyfer Gweithredu’r Cod ADY sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.  Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r risgiau pellach o ran capasiti ac adnoddau ychwanegol y mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant eu hangen yn ogystal â'r costau cysylltiedig posibl sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol i sicrhau y bydd modd i RCT gyflawni ei gyfrifoldebau ADY statudol cynyddol.

 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn amlinellu nifer o gyfrifoldebau cymhleth yr Awdurdod ond roedd yn falch o weld parodrwydd yr Awdurdod i’w weithredu.  Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi wedi nodi’r cynnydd mewn atgyfeiriadau i'r gwasanaeth blynyddoedd cynnar a’i bod hi’n falch bod modd i ni ddarparu seicolegydd addysg llawn amser i gefnogi’r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant.

 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

2.    Nodi'r camau y mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant wedi'u rhoi ar waith hyd yn hyn.

 

3.    Nodi risgiau i’r Cyngor sy’n cael eu hamlygu yn yr adroddiad a chymeradwyo unrhyw gamau a argymhellir yn adran 8 i fynd i’r afael â’r risgiau hyn yn ystod Cam Dau a Cham Tri o’r amserlen genedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cod ADY o 2022 i  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf pdf icon PDF 186 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2021/22 i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro – Cynhalwyr, Taliadau Uniongyrchol ac Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth yr adroddiad i'r Cabinet i geisio caniatâd i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg 2021/22 i Lywodraeth Cymru. 

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod RhCT wedi cefnogi'r gwaith sydd wedi'i gynnal ledled y rhanbarth ac wedi cynnal nifer o'r gwasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu i gynhalwyr drwy gydol y pandemig, gan fynd ati i ddatblygu model hybrid a darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb ble y bo'n addas.  Tynnodd y Swyddog sylw at y datblygiadau sydd wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn yn RhCT, mae'r rhain wedi'u nodi yn adran 4 o'r adroddiad. Maen nhw'n cynnwys y gwaith cynllunio wrth gefn a chynllunio mewn argyfwng, Cynhalwyr Ifainc a Brodyr/Chwiorydd sy'n Gynhalwyr, Cynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc, Cynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT a Chynhalwyr sy'n Gweithio.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr.  Cafodd y ddarpariaeth ei datblygu drwy gydol y pandemig i sicrhau bod cynhalwyr yn derbyn cymorth yn ystod y cyfnod heriol yma.   Ychwanegodd ei bod hi'n galonogol bod yr Awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd wrth fynd i'r afael â materion megis darparu cymorth i'n cynhalwyr a sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael iddyn nhw. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg 2021/22

(Atodiad 1).

 

49.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg pdf icon PDF 173 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhannu Adroddiad Blynyddol 2021/22 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg â'r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol 2021/22 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i'r Cabinet.  Eglurodd y Cyfarwyddwr fod gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg gyfrifoldeb statudol i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar 31 Gorffennaf bob blwyddyn, i ddangos ei effeithiolrwydd wrth arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Cyfadran ymlaen i ddweud bod y Bwrdd wedi parhau i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio llwyfannau rhithwir er mwyn cynnal cyfarfodydd a darparu hyfforddiant. Cynhaliwyd tri achlysur Dysgu rhithwir i gefnogi Adolygiadau Ymarfer.  Roedd y Bwrdd hefyd am sicrhau bod modd i'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf ailgysylltu â gwasanaethau. Roedd yr asiantaethau wedi manteisio i'r eithaf ar lwyfannau rhithwir ac amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu i hwyluso hyn.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y Bwrdd wedi sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu o'r flwyddyn flaenorol sy'n weddill wedi'u cwblhau. Roedd y rhain heb eu cwblhau oherwydd y pandemig. 

 

Aeth y Cyfarwyddwr Cyfadran ymlaen i ddweud bod cysylltiadau cryf wedi'u cynnal â'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel, ar lefel strategol a gweithredol.  Yna, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran yr Aelodau at adran 4.18 o'r adroddiad, sy'n tynnu sylw at adroddiad o fis Hydref 2021. Roedd y Bwrdd Diogelu wedi comisiynu'r Garfan Diogelu Genedlaethol (Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru) i gynnal adolygiad annibynnol cyflym o drefniadau diogelu amlasiantaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyn yn dilyn pum marwolaeth annisgwyl (plant), nid yw'r un achos yn gysylltiedig ag achos arall.  Aeth ymlaen i ddweud bod yr adolygiad annibynnol wedi cael ei gynnal ar wahân i unrhyw Adolygiadau Ymarfer Plant, archwiliad, neu adolygiadau annibynnol sydd ar y gweill mewn perthynas â'r pum achos.   Y deilliant cyffredinol oedd rhoi sicrwydd i'r Bwrdd bod trefniadau diogelu amlasiantaeth effeithiol ar waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd fod cynllun gweithredu hefyd wedi'i ddatblygu wrth ymateb i'r argymhellion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yr adroddiad yn sicrhau bod pobl o bob oed yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod ac unrhyw fath arall o niwed.  Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb statudol i gyhoeddi'r adroddiad sy'n amlinellu eu blaenoriaethau.  Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod angen gwella dulliau o fynd i'r afael â phryderon diogelu'r cyhoedd mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.  Aeth ymlaen i ddweud bod marwolaeth drasig Logan Mwangi yn wers i ni i gyd. 

 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Nodi a chymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2021-2022.