Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

19.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan.

 

20.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

·       Eitem 10 ar yr Agenda – Adolygiad o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, datganodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg 'Rydw i'n Aelod o Gorff Llywodraethu YGG Abercynon, y cyfeirir ato yn yr adroddiad'; a

·       Eitem 9 ar yr Agenda – Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG), datganodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden 'Rydw i wedi cael fy mhenodi i fod yn rhan o Bwyllgor CYSAG gan Arweinydd y Cyngor'.

 

 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 176 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 yn rhai cywir.

 

 

22.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor pdf icon PDF 612 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyllid a Gwasanaethau Gwella, drosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol bod dull rhagweithiol y Cyngor yn cael ei roi ar waith i sicrhau gwydnwch ariannol parhaus y Cyngor, mae cyllid ychwanegol sydd wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y chwarter yma wedi helpu gyda hyn. Nododd yr Aelod o'r Cabinet dri datganiad sefyllfa mewn perthynas â blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae sawl maes gwasanaeth y Cyngor wedi’i wneud i’n cymunedau.

 

Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden fod yr adroddiad yn atgyfnerthu'r gwaith rhagorol y mae pob adran o fewn yr Awdurdod Lleol yn ei wneud.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi cydnabod y digwyddiadau heriol a brofwyd gan yr Awdurdod Lleol, megis effaith barhaus y pandemig.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.     Nodi effaith barhaus pandemig Covid-19 ar ddarparu gwasanaethau ochr yn ochr  ag ailgyflwyno gwasanaethau wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.

 

Refeniw

 

2.     Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 31 Mehefin 2022 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi'r cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19.

 

Cyfalaf

 

3.    Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31 Mawrth 2022 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4.     Nodi manylion y Dangosyddion Materion Darbodus Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 31 Mawrth 2022 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

 

5.    Nodi'r cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol cytûn (Adrannau 5a - c o'r Crynodeb Gweithredol).

 

6.     Nodi'r adroddiad cynnydd i wella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol (adran 6 o'r Crynodeb Gweithredol)

 

 

 

 

23.

Strategaeth Rheoli Risg pdf icon PDF 409 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n amlinellu'r diweddariadau i Strategaeth Rheoli Risg ddrafft y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Gwella yr adroddiad, a oedd yn nodi Strategaeth Rheoli Risg (drafft) y Cyngor wedi'i diweddaru.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod trefniadau rheoli risg effeithiol yn allweddol er mwyn galluogi'r Cyngor i ddarparu ei wasanaethau a chyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor wedi trafod yr adroddiad ac yn falch o allu nodi'r cynnwys.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn dangos cadernid mesurau rheoli mewnol y Cyngor a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r archwilwyr mewnol a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am eu cyfraniad.

 

PENDERFYNODDyCabinet:

1.    Cymeradwyo Strategaeth (Ddrafft) Rheoli Risg y Cyngor wedi’i diweddaru, fel y’i cymeradwywyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ystod ei gyfarfod ar 23 Mawrth 2022.

 

 

24.

Strategaeth Ddrafft Rhaglen Cymorth Tai 2022-26 pdf icon PDF 210 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr - Iechyd, Diogelu a Gwasanaethau Cymuned mewn perthynas â Strategaeth Ddrafft y Rhaglen Cymorth Tai 2022-26. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymunedau Diogel a Thai Cymunedol Strategaeth Ddrafft Rhaglen Cymorth Tai 2022 – 2026 y Cyngor i'r Cabinet er mwyn ei thrafod a'i chymeradwyo.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau i'r Swyddog am y cyflwyniad a dywedodd fod yr ystadegau sy'n peri pryder yn yr adroddiad yn dangos y galw am gynlluniau tai â chymorth. Rhannodd yr Aelod o'r Cabinet yr enghraifft ganlynol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad: 'Rhoddwyd 524 o unigolion, teuluoedd a grwpiau mewn llety dros dro yn 2020/2021. Cafodd 40% o’r 524 eu rhoi mewn llety dros dro sawl gwaith, gan arwain at gyfanswm o 852 o leoliadau yn 2020/2021.'

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant longyfarch y Swyddogion ar y cynllun peilot arloesol a gafodd ei sefydlu i weithio gyda landlordiaid a lliniaru'r rhestrau tai. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod angen cynnydd yn y lwfans tai lleol i gyd-fynd â'r cynnydd yn y sector rhentu preifat ac aeth ymlaen i gydnabod bod hwn yn fater i'w drafod gyda Llywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am ei hymweliadau â'r ddarpariaeth tai a rennir a phwysleisiodd pa mor bwysig yw hi i gydweithio gydag Aelodau Lleol.

 

PENDERFYNODDyCabinet:

1.    Cymeradwyo Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Rhondda Cynon Taf

2022 -2026 fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad;

2.    Cefnogi gwaith datblygu Cynllun Cyflawni cynhwysfawr a Strategaeth Fuddsoddi i sicrhau bod blaenoriaethau’r Strategaeth yn cael eu cyflawni yn ystod y 4 blynedd nesaf ac yn benodol i nodi’r gofynion ariannol a’r cyfleoedd cyllido i gyflawni gwaith datblygu cynlluniau tai â chymorth ychwanegol, gan gynnwys cynllun newydd i ddisodli Hostel Stryd y Felin, ac i gynnig rhagor o ddarpariaeth tai a rennir.

 

25.

Cynnig Ailddatblygu: Hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn pdf icon PDF 158 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant mewn perthynas â chynnig ailddatblygu i ddarparu llety gofal arbenigol i bobl ag anableddau dysgu yn hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion fanylion y cynnig ailddatblygu ar gyfer llety gofal arbenigol i bobl ag anableddau dysgu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn, yn rhan o gynllun moderneiddio cartrefi gofal preswyl y Cyngor, a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y cyllid sydd ei angen i gyflawni'r cynllun ailddatblygu arfaethedig.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn falch o nodi'r buddsoddiad sylweddol yn isadeiledd y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a rhaglen moderneiddio cartrefi gofal preswyl y Cyngor ar gyfer y genhedlaeth h?n. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod Bronllwyn wedi'i adeiladu yn yr 1970au ac erbyn hyn, dydy'r adeilad ddim yn addas at y diben ar gyfer y rhai sydd angen gofal arbenigol.

 

Cefnogodd yr Aelod o'r Cabinet yr argymhelliad i gyflwyno cais newydd am gyllid i Gronfa Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal Llywodraeth Cymru  ar gyfer y costau ailddatblygu llawn ym mis Gorffennaf 2022. Amcangyfrifir y bydd hyn oddeutu £4.879miliwn.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi y daethpwyd o hyd i ddarpariaeth arall i drigolion tra bod Bronllwyn yn cau.

 

PENDERFYNODDyCabinet:

1. Trafod yr wybodaeth yn yr adroddiad;

2.    Cymeradwyo'r cynnig i ailddatblygu Bronllwyn i ddarparu llety gofal arbenigol i bobl ag anableddau dysgu fel yr amlinellir yn Adran 5 o'r adroddiad;

3.    Parhau â'r trefniadau gofal a chymorth presennol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth Canolfan Oriau Dydd Bronllwyn hyd nes y bydd cyfleuster y ganolfan oriau dydd newydd i bobl h?n yn rhan o Gynllun Gofal Ychwanegol Dan-y-Mynydd, Porth, yn agor yn gynnar yn 2024, a chymeradwyo cau’r ganolfan oriau dydd ym Mronllwyn yn barhaol er mwyn ailddatblygu’r safle, fel y nodir ym mharagraff 5.13 o'r adroddiad;

4.    Cymeradwyo adleoli Swyddfa Carfan Byw â Chymorth y Cyngor i D? Elai;

5.    Cymeradwyo'r pecyn ariannu fel yr amlinellir yn Adran 9 isod, er mwyn ailddatblygu Bronllwyn i ddarparu llety gofal arbenigol i bobl ag anableddau dysgu;

6.   Cynnwys cynllun ailddatblygu Bronllwyn yn rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor (Rhaglen Foderneiddio (Oedolion); a

7.    Derbyn adroddiadau diweddaru sy'n trafod cynnydd sydd wedi’i wneud yn rhan o gynllun ailddatblygu Bronllwyn.

 

 

26.

Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl Hŷn pdf icon PDF 234 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnig newidiadau dros dro er mwyn ymateb i'r galw presennol a chapasiti cartrefi gofal preswyl y Cyngor i bobl h?n.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion wybodaeth i'r Cabinet ynghylch y galw presennol a'r capasiti yng nghartrefi gofal preswyl y Cyngor i bobl h?n. Cyflwynodd argymhellion i ailgynllunio'r ddarpariaeth bresennol dros dro, byddai hyn yn arwain at gau cartref gofal Ystrad Fechan (sydd â 24 ystafell wely) dros dro a throsglwyddo'r 8 unigolyn sy'n byw yno i D? Pentre neu gartref arall o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion; a darparu hyd at 10 ystafell wely cam-i-fyny cam-i-lawr dros dro newydd ym Mharc Newydd ar gyfer y rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod y galw am ofal preswyl traddodiadol yn lleihau a'r galw am ofal mwy cymhleth yn cynyddu.

 

Gan gyfeirio at y cynnig i ddarparu hyd at 10 ystafell wely cam-i-fyny cam-i-lawr newydd dros dro ym Mharc Newydd, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi mai hwn oedd y cyntaf o’i fath a dywedodd y byddai'n sicr o wella llif cleifion drwy'r system.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad a phwysleisiodd y byddai unrhyw gynigion yn y dyfodol yn dilyn y cyfnod dros dro yn cynnwys ymgynghoriad eang ac eglurodd y byddai Pwyllgorau Craffu’r Cyngor yn cael y cyfle i drafod unrhyw fuddsoddiad ar gyfer ailgynllunio'r gwasanaethau cyn i'r Cabinet wneud penderfyniad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1. Trafod yr wybodaeth yn yr adroddiad;

2.     Ailgynllunio gwasanaeth cartrefi gofal preswyl y Cyngor drwy gau Ystrad Fechan dros dro a symud preswylwyr i D? Pentre neu gartref arall o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion;

3.    Ailgynllunio gwasanaeth cartrefi gofal preswyl y Cyngor a darparu hyd at 10 gwely cam-i-fyny cam-i-lawr newydd dros dro ym Mharc Newydd i gefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty, a hynny mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; a

4.     Derbyn adroddiad pellach yn Hydref 2022, fydd yn nodi cynigion datblygu ac opsiynau ar gyfer moderneiddio a buddsoddi yng ngwasanaethau gofal preswyl y Cyngor.

 

 

 

27.

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 pdf icon PDF 179 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg mewn perthynas â'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg yr adroddiad, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus (cyfnod statudol o 28 diwrnod) mewn perthynas â chynnwys Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn iddo gael ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg fod yr asesiad yn rhoi darlun cyfoes o’r Fwrdeistref Sirol ond nododd fod yr ymatebion wedi dod i law yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y bu gostyngiad yn nifer y lleoliadau a lleoedd cofrestredig gyda gostyngiad penodol yn nifer y lleoedd gwarchod plant ledled RhCT oherwydd cyfyngiadau symud.

 

O ran y galw ac unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, tynnodd yr Aelod o'r Cabinet sylw at Ogledd-ddwyrain Taf Elái a De Cwm Rhondda, gan nodi ei fod e o'r farn bod angen monitro'r ardaloedd yma.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden am y ddarpariaeth chwarae a phwysigrwydd y ddarpariaeth yma.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Dechrau ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol ar gynnwys yr ADdGP 2022; ac,

3.   Ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd yr ADdGP yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

 

 

28.

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) pdf icon PDF 308 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg sy'n rhannu gwybodaeth am ddyletswyddau statudol y Cyngor i sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG).

 

Dogfennau ychwanegol:

29.

Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd - Adolygiad pdf icon PDF 297 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant mewn perthynas â rhoi cynllun peilot ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ar waith yn RhCT, ac amlinellu dau ddewis ar gyfer datblygu'r gwaith yma tra hefyd yn ystyried gwaith ehangach o ran Ymgysylltu â Theuluoedd yn ysgolion RhCT a'r gwaith sy'n mynd rhagddo tuag at Ysgolion sy'n canolbwyntio ar y Gymuned.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Presenoldeb a Lles wybodaeth i Aelodau'r Cabinet ynghylch gweithredu cynllun peilot Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd RhCT ac amlinellodd dri opsiwn ar gyfer datblygu'r gwaith er mwyn i'r Cabinet eu trafod.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg yn falch o drafod yr adroddiad a dywedodd fod cefnogi plant a'u teuluoedd yn cynrychioli un o’r ymrwymiadau a nodwyd ym maniffesto'r weinyddiaeth. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiannus mewn llawer o ysgolion a'i fod yn cefnogi ehangu'r cynllun er mwyn hybu'r gwaith. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn y byddai'r cyllid ychwanegol a'r Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn gwella presenoldeb mewn ysgolion ac yn archwilio unrhyw rwystrau posibl o ran presenoldeb gyda theuluoedd a phlant.

 

O ran yr opsiynau a gyflwynwyd gan swyddogion, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi Opsiwn 3 a dywedodd ei fod yn seiliedig ar angen ac yn gyfuniad o'r ddau opsiwn arall a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod rhai plant wedi’i chael hi’n anodd dychwelyd i leoliad ysgol ar ôl y pandemig a bod y swyddogion cymorth ychwanegol wedi helpu’n fawr. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi effaith gadarnhaol cynllun peilot y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad;

2.     Cymeradwyo Opsiwn 3, sef defnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr angen mwyaf a nodwyd ac er budd disgyblion ym mhob cyfnod - dysgwyr cynradd, uwchradd a dysgwyr yr Uned Cyfeirio Disgyblion.

 

 

 

 

30.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt): Model Buddsoddi Cydfuddiannol - Y Prosiectau Nesaf pdf icon PDF 209 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant mewn perthynas â Phrosiectau Nesaf a ariennir gan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Cynllunio Strategol a Model Buddsoddi Cydfuddiannol y newyddion diweddaraf ag Aelodau'r Cabinet mewn perthynas â’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar yr ail gyfres o ysgolion cynradd (x3) y bwriedir eu hariannu drwy elfen gyllido Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hynny, ceisiodd y Swyddog gymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno Cais Prosiect Newydd i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) yn gofyn am gais Cam 1 a fydd yn cynnwys gwaith dylunio cychwynnol ar gyfer adeiladau'r ysgol gynradd newydd arfaethedig ar gyfer Maes-y-bryn, Tonysguboriau a Glyn-coch gan fanteisio ar elfen gyllido Model Buddsoddi Cydfuddiannol, Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg yn falch o nodi cynnwys yr adroddiad a dywedodd ei fod yn parhau â'r agenda moderneiddio a'r weledigaeth i sicrhau'r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer disgyblion y Fwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cyflwyno Cais Newydd i WEPCo mewn perthynas â'r adeiladau newydd arfaethedig ar gyfer Maes-y-bryn, Tonysguboriau a Glyn-coch yn unol â'r Cytundeb Partneriaeth Strategol y mae'r Cyngor yn rhan ohono (yn ôl Adroddiad y Cabinet, dyddiedig 24 Medi 2020) ;

2.    Nodi’r gymeradwyaeth a roddwyd gan y Cabinet yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 mewn perthynas â’r ymgynghoriad statudol ar y bwriad i gau Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ac Ysgol Gynradd y Cefn a chreu ysgol gynradd newydd ar gyfer Glyn-coch; a

3.    Nodi nad yw cytuno i gyflwyno Ceisiadau Prosiect Newydd i WEPCo yn ymrwymo'r Cyngor i wneud trefniadau cytundebol mewn perthynas ag unrhyw brosiectau.  Bydd y Cabinet yn cynnal trafodaethau pellach cyn penderfynu i fwrw ymlaen ag unrhyw Gytundebau ar gyfer Prosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

 

 

 

31.

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Cyfleoedd Yn Ne Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 235 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu mewn perthynas â Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (UKSPF), i dynnu sylw at gyfleoedd buddsoddi ar gyfer Rhondda Cynon Taf a rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru, ac i gynnig trefniadau ar gyfer Cynllun Buddsoddi Rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu ddiweddariad i’r Cabinet mewn perthynas â Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (UKSPF), sy’n cefnogi ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i gynnal pob rhan o’r DU ac sy’n darparu cyllid ar gyfer buddsoddiad lleol rhwng 2022 a 2025. Ceisiodd y Cyfarwyddwr dynnu sylw at y cyfleoedd buddsoddi ar gyfer Rhondda Cynon Taf a rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru a darparodd fanylion y trefniadau arfaethedig ac amserlenni ar gyfer cyflwyno ac arfarnu Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant yn falch o nodi cynnwys yr adroddiad a dywedodd y byddai buddsoddiad newydd gwerth £585miliwn yn dod i Gymru. Bydd tua hanner yn cael ei ddyrannu i ranbarth y De Ddwyrain ac 16% i RCT.Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar y cyfle i longyfarch swyddogion ar arwain y Rhanbarth.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am yr adroddiad a PHENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Trafod manylion Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer 2022-2025 a’r cyfleoedd buddsoddi posibl ar gyfer Rhondda Cynon Taf a rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru;

2.    Trefniadau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn RhCT a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r gofyniad am Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol 3 blynedd i gael mynediad i’r Gronfa fel sydd wedi'i nodi yn Adran 7 yr adroddiad;

3.    Cymeradwyo rôl y Cyngor fel awdurdod arweiniol ar gyfer De-ddwyrain Cymru a datblygu Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol a'i gyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst 2022.