Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Sarah Daniel - Uned Busnes y Cyngor 07385086169
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cadarnhaucofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: |
|
POLISI FFÏOEDD A THALIADAU'R CYNGOR 2022/23 PDF 315 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet y diwygiadau arfaethedig i lefelau ffïoedd a thaliadau’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 (pob un i'w gweithredu o 1 Ebrill 2022 neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny) a manylion penderfyniadau o ran ffïoedd a thaliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ac sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Gyllideb arfaethedig 2022/23.
Dogfennau ychwanegol: |
|
CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR AR GYFER 2022/23 PDF 237 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet y cynigion a'r canlyniadau sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad yn rhan o ail gam yr ymgynghoriad ar y gyllideb, er mwyn i'r Cabinet drafod strategaeth gyllideb ddrafft y bydden nhw'n dymuno ei chyflwyno i'r Cyngor, a'i diwygio yn ôl yr angen.
Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN GYFALAF Y CYNGOR 2022/23 - 2024/25 PDF 413 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet raglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2022/23 hyd at 2024/25, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNLLUN LLEIHAU ARDRETHI BUSNES LLEOL 2022/23 PDF 288 KB Derbynadroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet fanylion Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol arfaethedig ar gyfer Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â diweddariad ar barhad Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
CYNLLUN CREU LLEOEDD PONTYPRIDD PDF 358 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, mewn perthynas â'r Cynllun Creu Lleoedd drafft ar gyfer Canol Tref Pontypridd sy'n darparu gweledigaeth drawiadol ar gyfer adfywio'r dref. Dogfennau ychwanegol: |
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) (RIPA) a defnydd y Cyngor o Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA).
Dogfennau ychwanegol: |
|
TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Dogfennau ychwanegol: |
|
CAFFAEL 103-110 STRYD TAF, PONTYPRIDD, CF37 4SL A 13-17 HEOL SARDIS, PONTYPRIDD, CF37 1DX Derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i brynu buddiant Rhydd-ddaliadol 103-110 Stryd Taf, Pontypridd a 13-17 Heol Sardis, Pontypridd. |
|
MATERION BRYS Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD ER GWYBODAETH Derbyn Cynllun Dirprwyo diweddaraf yr Arweinydd yn dilyn newid i Aelodau’r Cabinet.
Dogfennau ychwanegol: |