Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Sarah Daniel Uned Busnes y Cyngor 07385 086 169
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
|
|
Cadarnhau bod cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021 yn rhai cywir.
|
|
Rhaglen Waith y Cabinet PDF 157 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu trafod yn ystod Blwyddyn 2021-22 y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynigion ar gyfer Cynllun Adfywio Pen-rhys PDF 817 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud i archwilio opsiynau ar gyfer cynllun adfywio Ystâd Pen-rhys a'r ardal gyfagos ac i gytuno ar fframwaith ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn mewn partneriaeth â chwmni Trivallis a Sefydliad y Tywysog.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Diweddariad Cynnydd - Ardal Cyfleoedd Strategol 'Llanilid' PDF 301 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi diweddariad cynnydd a manylion datblygiadau pellach mewn perthynas â'r cynlluniau a phrosiectau o fewn Ardal Cyfleoedd Strategol 'Llanilid' i Aelodau.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynllunio lleoedd ysgol yn ne'r Fwrdeistref Sirol PDF 455 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau ar y pwysau ar leoedd ysgol yn ne'r Fwrdeistref Sirol a thrafod goblygiadau cynllunio ac ariannol yn y dyfodol.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n ceisio cymeradwyaeth Aelodau i ddechrau'r ymgynghoriad statudol perthnasol a gofynnol mewn perthynas â'r cynnig i gyfuno Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, a gofyn am ganiatâd i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Strategol ar gyfer tri Model Buddsoddi Cydfuddiannol (Prosiectau MIM) i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Ymgynghori Statudol - Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Arfaethedig PDF 292 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhannu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) arfaethedig ag Aelodau yn dilyn yr adborth a dderbyniwyd yn rhan o'r ymgynghoriad statudol a'r gwaith cyn y cam craffu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Craffu ar faterion Plant a Phobl Ifanc a Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg.
Dogfennau ychwanegol:
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n darparu manylion deilliannau'r ymgynghoriad, gan gynnwys manylion y gwaith cyn y cam craffu a gynhaliwyd i gynorthwyo'r Cabinet mewn perthynas â thrafod Cynllun Strategol Drafft diwygiedig yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi cyfle i Aelodau drafod y cynnig i greu darpariaeth Dosbarth Cynnal Dysgu (LSC) cyfrwng Cymraeg prif ffrwd ychwanegol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Ysgol Garth Olwg.
|
|
Y Newyddion Diweddaraf - Eisteddfod Genedlaethol RhCT 2024 - Ymgysylltu â'r Gymuned PDF 263 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd ar y cyd â swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol wrth baratoi ar gyfer Eisteddfod 2024 sy'n cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf, yn enwedig mewn perthynas ag ymgysylltu â'r gymuned.
|
|
Fframwaith Cyflogadwyedd Rhanbarthol PDF 391 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r egwyddor o ddull cyflogadwyedd lleol wedi'i gydlynu ar lefel rhanbarthol, ar ôl i gyllid Ewropeaidd ddod i ben.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Deilliannau'r Ymgynghoriad Teithio Llesol: Y Camau Nesaf PDF 240 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhannu deilliannau'r ymgynghoriad teithio llesol statudol a gynhaliwyd a manylion cam nesaf y broses ymgynghori mewn perthynas â theithio llesol, sef cyflwyno Map Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.
|