Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385406118

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

74.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

75.

Cofnodion pdf icon PDF 291 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 ac 18 Hydref yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 18 Hydref fel cofnod gwir a chywir.

 

76.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor (Chwarter 2) pdf icon PDF 373 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r aelodau am gyflawniad y Cyngor yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2021), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella adroddiad a oedd yn nodi cyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor erbyn diwedd Chwarter 2 2021/22. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sefyllfa cyllideb refeniw Chwarter 2 yn rhagamcanu gorwariant o £0.726 miliwn ac yn adlewyrchu'r pwysau allweddol parhaus sydd ar y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant yn bennaf. Ychwanegodd fod gwaith ar y gweill ar draws yr holl wasanaethau yn rhan o drefniadau rheoli gwasanaeth a threfniadau rheoli ariannol cadarn y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at sefyllfa'r gyllideb refeniw a ragwelir yng nghyd-destun effaith sylweddol a pharhaus Covid-19 ar ddarpariaeth gwasanaethau a dywedwyd wrth yr Aelodau bod y gyllideb yn cyfrif cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i gefnogi costau ychwanegol a cholledion incwm, o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig.   Cafodd yr Aelodau sicrwydd y bydd gwaith yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol y Cyngor, adnewyddu rhagolygon ariannol wrth i wybodaeth wedi'i diweddaru ddod ar gael a pharhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol i gefnogi goblygiadau ariannol Covid-19 a phwysau parhaus costau parhaol.

 

Roedd buddsoddiad cyfalaf ar 30 Medi 2021 yn £31.718 miliwn gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu newidiadau mewn costau yn ogystal â cheisiadau am grant allanol newydd sydd wedi'u cymeradwyo. Mae'r cynnydd a wnaed yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn yn cynnal dull y Cyngor o fuddsoddi hir dymor a pharhaus yn y seilwaith. Mae effaith hynny yn cefnogi gwelliannau gweladwy mewn asedau ledled y Fwrdeistref Sirol, gan ystyried gofynion diogelwch Covid-19.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn braf gweld bod gwaith ar y gweill ar draws yr holl wasanaethau yn rhan o drefniadau cadarn y Cyngor ar gyfer rheoli ariannol i gyfrannu at leihau'r bwlch rhwng y sefyllfa ariannol a'r gyllideb. Ychwanegodd ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol i gefnogi goblygiadau ariannol COVID-19 yn ogystal â lleddfu'r pwysau parhaus.  Daeth i'r casgliad ei bod yn braf gweld cynnydd yn cael ei wneud gyda phrosiectau buddsoddi cyfalaf er gwaethaf y pandemig.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod hefyd yn falch o weld cynnydd gyda'r prosiectau, ac roedd wedi gallu ymweld â rhai o ysgolion yn y Fwrdeistref i weld y cynnydd hynny ei hun.   Cyfeiriodd at y pwysau parhaus ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, a oedd yn gysylltiedig â rhyddhau cleifion o'r ysbyty.  Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau eu bod yn dal i bwyso ar Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol ar gyfer y maes hwnnw.

 

PENDERFYNWYD: 

 

1. Nodi effaith barhaus pandemig Covid-19 ar ddarparu gwasanaethau ac, ochr yn ochr, ailgyflwyno gwasanaethau wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi'n raddol. Refeniw

 

2. Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 30 Medi 2021 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi'r cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19. Cyfalaf

 

3. Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y  ...  view the full Cofnodion text for item 76.

77.

Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2022-23 pdf icon PDF 322 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n gosod yn ffurfiol Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol adroddiad a oedd yn ceisio gosod Sylfaen Treth y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23. Mae'n ofyniad statudol i gytuno ar Sylfaen Treth y Cyngor a'i osod ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod cyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn.

 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyfrifo'r Sylfaen Trethi ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan, yn ogystal â gwneud cyfrifiadau ar wahân ar gyfer ardaloedd cymunedol diffiniedig a allai fod â'u Cyngor Cymuned eu hunain. Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer pob rhan o'r Fwrdeistref Sirol

 

Parhaodd mai Sylfaen Treth y Cyngor gros a gafodd ei gyfrifo ar gyfer 2022/23 yw £79,904.37.  Felly, cynigiwyd y dylid amcangyfrif mai 97.25% yw'r gyfradd gasglu. Byddai hyn yn cynhyrchu Sylfaen Treth y Cyngor net o £77,707.00. Mae hyn yn golygu y byddai swm o £77,707 yn cael ei godi i fodloni gofynion cyllideb y Cyngor am bob £1 a gaiff ei godi mewn Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd Aelod o'r Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol ei fod, fel adroddiad blynyddol sy'n rhan o'r broses gosod cyllideb, yn fodlon cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

1. Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 fel y'i diwygiwyd, y swm sydd wedi'i gyfrifo gan y Cyngor fel ei sylfaen dreth net ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23,, fydd £77,707.00.

 

2. Bydd sylfaen dreth 2022/23 at ddibenion gosod Treth y Cyngor yn cael ei gosod yn unol ag Atodiad 1 yr adroddiad, ar gyfer pob cymuned diffiniedig yn y Fwrdeistref Sirol.

 

 

78.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr ac Adroddiad Blynyddol 2020-2021 pdf icon PDF 277 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2020-2021.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Aelodau am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2020-2021.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cyfanswm y cwynion am gyrff cyhoeddus wedi gostwng 16% yn ystod y cyfnod adrodd, er bod cynnydd yn nifer y cwynion ynghylch sut mae cyrff cyhoeddus yn ymdrin â chwynion.  Ychwanegodd fod cwynion newydd am awdurdodau lleol wedi gostwng 11% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

 

Yn ystod 2020-2021 derbyniwyd 40 cwyn gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (am gyfnod 2019/20 - 39 ac am gyfnod 2018/2019 - 36) sy'n cyfateb i 0.17 o gwynion i bob 1000 o drigolion. Ychwanegodd mai dyma'r pedwerydd isaf o 22 awdurdod lleol Cymru, ac mae RhCT wedi bod yn gyson yn y chwartel isaf o ran cwynion am sawl blwyddyn. 0.25 o gwynion i bob 1000 o breswylwyr oedd y cyfartaledd ar draws y 22 Awdurdod Lleol.

 

Cyhoeddwyd Polisi Trin Cwynion Enghreifftiol i Awdurdodau Lleol ym mis Medi 2020. Adolygwyd y Polisi ac fe ddiweddarwyd polisi trin cwynion y Cyngor lle bo angen.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn cynnwys llawer o ddata ystadegol, gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn derbyn y nifer uchaf o gwynion.  Fodd bynnag, nododd ei bod yn gadarnhaol gweld bod nifer yr ymyriadau sy'n ofynnol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi gostwng yn sylweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2020-2021.

 

79.

Y Newyddion Diweddaraf - Adfywio Canol Tref Pontypridd pdf icon PDF 281 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau mewn perthynas ag adfywio Canol Tref Pontypridd.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu drosolwg o'r adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd sylweddol a wnaed o ran cyflawni prosiectau a mentrau adfywio mawr yng Nghanol Tref Pontypridd.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau mewn perthynas â chynlluniau cyfredol, gan gynnwys gwaith ar hen safleoedd y Neuadd Bingo a Marks & Spencer. Cynghorodd yr Aelodau y bydd adroddiadau pellach ar gyfer y ddau gynllun yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd. Nododd y Cyfarwyddwr y newyddion da diweddar mewn perthynas â'r cais llwyddiannus i Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer adnewyddu Canolfan Gelf y Miwni ac yn cynghori'r Aelodau y bydd y gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym ar y datblygiad hwn.

 

Yna, hysbysodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau am waith ar y cynllun creu lleoedd newydd ac mae'n rhagweld y bydd cynllun drafft yn cael ei adrodd i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd i Aelodau ei drafod cyn proses ymgysylltu â'r cyhoedd sylweddol.

 

Siaradodd Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yn gadarnhaol am ganlyniadau y Fframwaith Adfywio ar gyfer canol tref Pontypridd 2017 - 2022, gan gyfeirio at gyflawni nifer o brosiectau llwyddiannus. Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet yr awdurdod lleol am ei ymrwymiad i gyflawni'r Fframwaith ac mae'n croesawu datblygiad y cynllun creu lleoedd newydd, i adfywio a buddsoddi ymhellach i Ganol Trefi er budd trigolion y Fwrdeistref Sirol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Cyfarwyddwr a'r Aelod o'r Cabinet am lwyddiant cynlluniau adfywio Pontypridd a chais llwyddiannus i Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni. 

 

Myfyriodd yr Arweinydd ymhellach ar effaith gadarnhaol buddsoddiad ar gyfer adfywio canol tref Pontypridd gan gyfeirio at sawl cynllun Fframwaith.

 

(Noder: Roedd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Davies-Jones yn bresennol i drafod yr eitem yma fel AS lleol Pontypridd)

 

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r cynnydd a wnaed o ran y datblygiad a chyflwyno prosiectau a chyfleoedd buddsoddi yng nghanol tref Pontypridd ers mis Medi 2017

 

2.     Nodi'r cynnydd a wnaed yn natblygiad Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd sy'n adeiladu ar Fframwaith Adfywio 2017 - 2022. Mae'r cynllun creu lleoedd drafft wedi'i ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ac mae'n darparu gweledigaeth feiddgar ar gyfer Pontypridd sy'n seiliedig ar uchelgais gyffredin ar gyfer y dref a'i rôl yn rhanbarth y Brifddinas.

 

3.     Trafod adroddiad pellach yn y flwyddyn newydd i ofyn am gymeradwyaeth i'r cynllun creu lleoedd i gynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu â'r cyhoedd, ochr yn ochr â diweddariadau pellach ar gynnydd ailddatblygiad Canolfan Gelf y Miwni, hen safle Neuadd Bingo a hen siop M&S ac adeiladau cysylltiedig.

 

80.

ADRODDIAD DIWEDDARU MEWN PERTHYNAS Â STRATEGAETH GWEFRU CERBYDAU TRYDAN A'R CYNLLUN GWEITHREDU CYSYLLTIEDIG pdf icon PDF 278 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r gwaith sydd wedi'i wneud wrth ddatblygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan (EVC) yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd a sut mae'r strategaeth arfaethedig yn berthnasol i ymrwymiadau Lleihau Carbon a Sero Net Cyngor RhCT.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r gwaith a wnaed wrth ddatblygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydanol (EVC) a gofynnodd i'r Cabinet am fabwysiadu'r strategaeth a'i chyhoeddi'n ffurfiol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau o argymhelliad cychwynnol Strategaeth i'r Cabinet gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ym mis Mawrth eleni, a chymeradwyodd y Cyfarwyddwr waith trawsbynciol sawl gr?p gwasanaeth wrth roi'r Strategaeth ar waith.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau am ddau ymarfer ymgynghori cyhoeddus llwyddiannus a lywiodd y strategaeth ddrafft a'r strategaeth derfynol, a rhoi gwybod i'r Aelodau ymhellach am y canlyniad cadarnhaol a roddwyd gan y panel adolygu mewn perthynas â'r Asesiadau Effaith a baratowyd mewn ymgynghoriad â'r Gwasanaethau Cymraeg a'r Gwasanaethau Amrywiaeth a Chynhwysiant.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â'r gwaith presennol o ran gweithredu i fanylu ar dargedau tymor byr, canolig a hir y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydanol.   Er nad oes unrhyw oblygiadau ariannol pellach, dywedodd y dylai'r Aelodau nodi bod y cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd yn cael eu hariannu'n llawn gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cyllid ychwanegol i gyflawni ffrydiau gwaith newydd yn y dyfodol. 

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr y swyddogion dan sylw a'r panel adolygu am roi mewnbwn i ddatblygiad y strategaeth.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 10 Tachwedd a bod y Cabinet wedi derbyn y sylwadau. Roedd y rhan fwyaf o'r adborth am y broses ymgynghori yn gadarnhaol, yn ogystal â'r adborth am sut yr ystyriwyd sylwadau cyn i'r Strategaeth gael ei chyflwyno i'r Cabinet.  Ychwanegodd y bu trafodaeth ynghylch darparu cyngor i aelodau'r cyhoedd a thrigolion sy'n byw mewn eiddo teras yn rhan o gyflawni'r strategaeth wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif yn cytuno bod y strategaeth yn un gadarnhaol ac yn cefnogi'r trafodaethau ehangach ar ddefnyddio cerbydau trydanol.

 

Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y strategaeth adiolchodd i swyddogion am eu gwaith ar ei ddatblygiad i sicrhau ei lwyddiant ac y byddai ei nodau a'i amcanion yn cael eu cyflawni.  Diolchodd i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ac aelodau'r cyhoedd am eu trafodaeth a'u hadborth a fydd nawr yn cael eu hymgorffori yn y cynllun gweithredu.

 

 

Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am y cam cyntaf o gyflwyno adnoddau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf a dywedodd ei fod yn si?r y bydd mwy a mwy yn symud at ddefnyddio Cerbydau Trydanol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.  Roedd hefyd yn falch bod rhan o'r cam cyntaf yn cael ei ariannu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac y byddai trafodaethau'n parhau gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am fwy o gymorth i ehangu'r strategaeth yn ardal RhCT

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Yn dilyn adborth a gafwyd gan yr ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydanol, a'r adborth  ...  view the full Cofnodion text for item 80.

81.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.

 

Cofnodion:

Dim