Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

90.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

·       Cyhoeddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth Fuddiant Personol yn Eitem 3 - Amlosgiadau Uniongyrchol: 'Rwy'n Aelod o Bwyllgor Amlosgfa Llwydcoed';

·       Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd Fuddiant Personol yn Eitem 6 -  Cynnig Grant Tai Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf 2021/2022: 'Mae un o'r cynlluniau arfaethedig a restrir yn adran 5.4, a fydd yn derbyn y dyraniad Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2021/2022, o fewn fy ward';

·       Cyhoeddodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol Fuddiant Personol yn Eitem 6 - Cynnig Grant Tai Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf 2021/2022: 'Mae un o'r cynlluniau arfaethedig a restrir yn adran 5.4, a fydd yn derbyn y dyraniad Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2021/2022, o fewn fy ward';

·       Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick Fuddiant Personol yn Eitem 7 - Blaenoriaethau Buddsoddi Cynllun Corfforaethol y Cyngor: 'Mae dwy o'r strydoedd y cyfeiriwyd atyn nhw yn fy ward'

 

 

91.

Cofnodion pdf icon PDF 168 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

92.

Amlosgiadau Uniongyrchol pdf icon PDF 150 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet ystyried canlyniad y prosiect peilot i gynnig amlosgiadau uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf a chymeradwyo cyflwyno’r gwasanaeth hwn yn barhaol. 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned gyfle i'r Cabinet ystyried canlyniad y prosiect peilot i gynnig amlosgiadau uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf, a chymeradwyo cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn barhaol. 

 

Clywodd yr Aelodau fod y cynllun peilot o ran cynnig amlosgiadau uniongyrchol i deuluoedd mewn profedigaeth, a gafodd ei gynnal rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Tachwedd 2020, wedi cael ymateb da, a bod 65 o amlosgiadau uniongyrchol wedi digwydd, 28 yng Nglyn-taf a 37 yn Llwydcoed.  Yn ystod y tri mis dilynol, roedd 31 o amlosgiadau uniongyrchol eraill ar draws y ddwy amlosgfa.

 

Nododd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol fod y peilot wedi dangos bod galw am amlosgiadau uniongyrchol, a chymeradwyodd yr argymhellion sydd yn yr adroddiad, o ran bod y Cyngor yn parhau i gynnig y gwasanaeth i'w drigolion.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r cynllun i barhau â'r gwasanaeth amlosgi Uniongyrchol/Syml yn Amlosgfa Glyn-taf, am y ffi ragnodedig is o £568 ar gyfer 2021/22 ac yn unol â'r gyfradd a roddwyd ar waith ar gyfer y cynllun peilot;

2.    Bod lefel y ffioedd Amlosgi Uniongyrchol ar gyfer 2022/23 ymlaen yn cael ei phennu'n rhan o ystyriaeth y Cabinet o ffioedd a thaliadau'r Cyngor bob blwyddyn; a

3.    Bod diweddariad yn cael ei adrodd i Gydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed yn gofyn am drefnu trefniadau amlosgi uniongyrchol yn Amlosgfa Llwydcoed yn unol â'r rhai a gymeradwywyd ar gyfer Amlosgfa Glyn-taf.

 

 

93.

Theatrau RhCT: Cynnig Nadolig 2021 pdf icon PDF 141 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, sy'n cyflwyno i'r Cabinet gynnig arfaethedig Nadolig 2021 Theatrau RhCT, gan ystyried ansicrwydd parhaus i'r sector ac ailagor theatrau yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant amlinelliad i'r Cabinet ynghylch cynnig i ddatblygu cynhyrchiad digidol o 'Aladdin' ar gyfer Theatrau RhCT, i'w rannu â'r gymuned ym mis Rhagfyr 2021. Nododd y swyddog yr ansicrwydd parhaus ynghylch ailagor theatrau a nododd y byddai'r cynnig yn galluogi Theatrau RhCT i gynllunio'n effeithiol i sicrhau a chynhyrchu rhaglen Nadolig llawn hwyl, sy'n rhad ac am ddim i drigolion RhCT.

 

Dywedodd y swyddog mai cost y cynnig fydd tua £75,000 ac fel cleient Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n derbyn cyllid refeniw, byddai £45,000 yn cael ei ddyrannu o'r gyllideb. Pe bai'r cynhyrchiad yn gyfan gwbl ar-lein ac felly ar gael i'w wylio'n rhad ac am ddim, esboniwyd na fyddai unrhyw incwm yn cael ei gynhyrchu. Serch hynny, pe bai'r sefyllfa'n gwella a bod modd i theatrau agor yn ystod yr ?yl, byddai modd arddangos y cynhyrchiad ar ffurf sinema o fewn Theatrau RCT, a byddai modd cynhyrchu incwm, o bosibl trwy werthu tocynnau.

 

Nododd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, fel llawer o sectorau eraill, fod sector y Celfyddydau a Diwylliant wedi dioddef dros y flwyddyn ddiwethaf, o ganlyniad i bandemig Covid-19 a chanmolodd y swyddogion am addasu eu gwaith i ddiwallu anghenion y preswylwyr. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod cynhyrchiad digidol 2020 o 'Once Upon a Time' wedi cael ei wylio 10,101 o weithiau, ac wedi denu 205 o danysgrifwyr newydd i sianel YouTube Theatrau RCT, a oedd newydd ei sefydlu. Mae hyn yn dangos y galw am ddarpariaeth o'r fath.

 

Adleisiodd Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth y sylwadau blaenorol a phwysleisiodd yr angen am bositifrwydd adeg y Nadolig yn ystod cyfnod mor heriol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Pwyso a mesur cynnwys yr adroddiad;

2.    Cymeradwyo'r cynnig i gynhyrchu sioe Nadolig Aladdin i'w rhannu ar-lein yn ystod mis Rhagfyr 2021, a chymeradwyo'r gyllideb ychwanegol o £30,000 i gyflawni'r cynhyrchiad a sicrhau bod modd ei wylio'n rhad ac am ddim trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor; a

3.    Gohirio cynhyrchiad pantomeim byw 'Dick Whittington' tan fis Rhagfyr 2022.

 

 

94.

Hwb Trafnidiaeth y Porth: Gorchymyn Prynu Gorfodol pdf icon PDF 253 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i arfer pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol mewn perthynas â thir ger safle Hwb Trafnidiaeth y Porth at y diben o greu llwybr mynediad diogel i'r cyfleuster newydd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen, yr adroddiad, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i arfer pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol mewn perthynas â thir ger safle Hwb Trafnidiaeth y Porth at y diben o greu llwybr mynediad diogel i'r cyfleuster newydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai caffael y tir angenrheidiol yn golygu bod modd adeiladu Hwb Trafnidiaeth y Porth, a fyddai'n dod â gwell cysylltedd yn yr ardal ehangach, ac a fyddai â'r potensial i ddenu rhagor o bobl i weithio a byw yn y dref, yn ogystal ag ymweld â hi a buddsoddi ynddi.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth er gwaethaf ymdrechion gorau'r Cyngor dros gyfnod helaeth o amser, ni ddaethpwyd i gytundeb addas gyda'r partïon yr effeithiwyd arnynt hyd yma ac felly, gofynnwyd am gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod Gorchymyn Prynu Gorfodol yn cael ei wneud, ei gadarnhau a'i weithredu, os oes angen.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adroddiad ac roedd yn falch o gefnogi'r argymhellion. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y byddai'r trafodaethau blaenorol parhaus yn golygu na fyddai’n rhaid i’r Cyngor fwrw ymlaen â’r Gorchymyn Prynu Gorfodol ond roedd yn teimlo bod angen hyn wrth gefn er mwyn caffael tir sy’n rhan annatod o lwyddiant y prosiect.

 

Soniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai am fuddion tymor hir y cynllun a’r effaith gadarnhaol ar fasnachu yn Stryd Hannah, y Porth, yn benodol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Ystyried y gwaith rhagarweiniol o ran buddsoddi a galluogi a wnaed er mwyn paratoi'r safle datblygu ar gyfer Hwb Trafnidiaeth y Porth a safle'r cyfleuster fel prosiect angor o fewn Strategaeth ehangach Canol Tref y Porth;

2.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygiad a Gwasanaethau Rheng Flaen i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod Gorchymyn Prynu Gorfodol (os oes angen) yn cael ei wneud, ei gadarnhau a'i weithredu mewn perthynas â'r tir a nodwyd yn y cynllun yn Atodiad [1] i'r adroddiad, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r canlynol:

 

·       Pob cam hyd at geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Gorchmynion Prynu Gorfodol gan Weinidogion Cymru (neu, os yw hynny'n cael ei ganiatáu, gan y Cyngor yn unol ag Adran 14A o Ddeddf Caffael Tir 1981), gan gynnwys paratoi a chyflwyno achos y Cyngor ar gyfer unrhyw Sylwadau Ysgrifenedig, Gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus a all fod ei angen;

 

·       Cyhoeddi a chyflwyno hysbysiadau o gadarnhad o'r Gorchmynion Prynu Gorfodol, ac ar ôl hynny, gweithredu a chyflwyno unrhyw Ddatganiadau Breinio Cyffredinol a/neu Hysbysiadau i Drafod Telerau a Hysbysiadau Mynediad;

 

·       Cael y buddiannau angenrheidiol yn y tir;

 

·       Atgyfeirio anghydfodau sy'n ymwneud ag iawndal prynu gorfodol i'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau);

 

 

95.

Rhondda Cynon Taf: Cynnig Grant Tai Cymdeithasol 2021/2022 pdf icon PDF 149 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi gwybod i aelodau'r Cabinet am y cynnig Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2021/2022 a'r effaith gadarnhaol bosibl y bydd y grant hwn yn ei chael o ran diwallu anghenion tai a chefnogi twf economaidd ar draws Rhondda Cynon Taf ( RhCT).

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, wybod i aelodau'r Cabinet am y cynnig Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer 2021/2022 a'r effaith gadarnhaol bosibl y bydd y grant hwn yn ei chael o ran diwallu anghenion tai a chefnogi twf economaidd ledled Rhondda Cynon Taf.

 

Hysbyswyd yr aelodau am ddyraniad Llywodraeth Cymru o £100 miliwn ychwanegol i'r rhaglen Tai Cymdeithasol, gan gynyddu cyfanswm y buddsoddiad i bron £250 miliwn yn 2021-22. Nod hyn yw cefnogi swyddi a chyfleoedd hyfforddi i adeiladwyr sy'n fusnesau bach a chanolig, yn ogystal â chadwyni cyflenwi lleol. Yn dilyn y cyhoeddiad, roedd RhCT wedi derbyn cadarnhad gan LlC mai dyraniad Grant Tai Cymdeithasol 2021/2022 fyddai £15.3 miliwn. O'r herwydd, tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5.4 yr adroddiad, lle roedd yr 14 cynnig arfaethedig ar gyfer derbyn y dyraniad Grant Tai Cymdeithasol yn 2021/2022 wedi'u hamlinellu i'w hystyried.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y buddsoddiad sylweddol mewn tai cymdeithasol, a fyddai’n helpu’r Cyngor i gyflawni blaenoriaethau’r CDLl. Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar y cyfle i ganmol ansawdd uchel y cynlluniau, sy'n ateb galw'r gymuned.

 

Croesawodd yr Arweinydd y buddsoddiad ychwanegol hefyd a nododd fod adeiladu tai yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth wrth symud allan o'r pandemig.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gymraeg y galw mawr am lety fforddiadwy o safon uchel a manteisiodd ar y cyfle i ganmol ansawdd y cynlluniau yn ei ward ei hun.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r cynnig Grant Tai Cymdeithasol newydd ar gyfer 2021/2022; a

2.     Nodi'r cynlluniau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad i dderbyn y dyraniad y Grant ar gyfer 2021/2022, a'r buddion a ddaw yn sgil y grant yma o ran diwallu angen tai a chefnogi twf economaidd ledled RhCT.

 

 

96.

Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2020-2024 Blaenoriaethau Buddsoddi pdf icon PDF 113 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n nodi'r sefyllfa o ran adnoddau unwaith-ac-am-byth sydd ar gael o ganlyniad i ddyfarnu cyllid allanol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn ystod mis Mawrth 2021, ar ôl i'r Cyngor llawn gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar 10 Mawrth 2021.  Cynigir dyrannu cyllid pellach o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi (wedi'u neilltuo ar gyfer gwaith seilwaith) i ategu'r cyllid ychwanegol gan LlC. Dyma gyfle i'r Cyngor fuddsoddi'n bellach yn ei flaenoriaethau, a hynny yn unol â'i Gynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020–2024.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol adroddiad sy'n nodi'r sefyllfa o ran adnoddau unwaith-ac-am-byth sydd ar gael o ganlyniad i ddyfarnu cyllid allanol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn ystod mis Mawrth 2021, ar ôl i'r Cyngor llawn gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar 10 Mawrth 2021.  Roedd cynnig i ddyrannu cyllid pellach o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi (wedi'u neilltuo ar gyfer gwaith seilwaith) i ategu'r cyllid ychwanegol gan LlC.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad ac roedd yn falch o nodi'r pedwar maes o fuddsoddiad ychwanegol, gwerth cyfanswm o £6.540 miliwn, a oedd yn cyd-fynd â'r Cynllun Corfforaethol, “Gwneud Gwahaniaeth” 2020 - 2024.

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Bradwick am yr eitem yma.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r adnoddau ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru; a

2.    Cytuno â'r trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel y nodir yn Adran 4 yr adroddiad.

 

 

97.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

98.

Dileu dyledion nad oes modd eu casglu

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n nodi datganiad sefyllfa ar ddyledion nad oes modd eu casglu, ac sy'n pennu'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau ddatganiad sefyllfa i'r Cabinet ar ddyledion nad oes modd eu casglu, ac sy'n pennu'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym. 

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.       Dileu'r cyfrifon sydd wedi'u nodi yn yr atodlen sydd wedi'i hatodi i'r Ddarpariaeth o Ddyledion sydd wedi'i chynnwys yng nghyfrifon y Cyngor (gan geisio taliad os daw rhagor o wybodaeth am unrhyw ddyled i'r amlwg). 

 

 

99.

Caffael Tir i'r Gogledd Orllewin o Harriet Street, Trecynon, sef hen Ffatri Mayhew Chicken, Trecynon, Aberdâr, RhCT

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd rhydd-ddaliol tir i'r gogledd orllewin o Stryd Harriet, Trecynon, sef hen safle ffatri Mayhew Chicken. Mae'r safle mewn lleoliad allweddol ger ffordd osgoi Aberdâr, ac felly bydd yn hwyluso datblygu gorsaf drenau newydd gyda chyfleuster parcio a theithio. Bydd caffael perchnogaeth rydd-ddaliol y safle strategol hwn ger llinell fwynau Aberdâr - Hirwaun yn hwyluso ailddatblygu'r tir i'w ddefnyddio yn y dyfodol i gefnogi Metro De Cymru. Bydd hyn yn sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i'r ardal. Mae'r tir yn cynnig y potensial i ddarparu mynediad strategol oddi ar ffordd osgoi'r A4059 gan alluogi datblygu safle parcio a theithio strategol i wasanaethu ardal eang y dyffryn uchaf a choridor yr A465, a chodi gorsaf newydd i wasanaethu trigolion a busnesau lleol yn ardal Llwydcoed/Trecynon.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor yr adroddiad, sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd rhydd-ddaliol tir i'r gogledd orllewin o Stryd Harriet, Trecynon, sef hen safle ffatri Mayhew Chicken. Mae'r safle mewn lleoliad allweddol ger ffordd osgoi Aberdâr, ac felly bydd yn hwyluso datblygu gorsaf drenau newydd gyda chyfleuster parcio a theithio.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     I brynu'r budd rhydd-ddaliol o oddeutu 2.89 Ha/7.15 erw o dir ar hen safle ffatri Mayhew Chicken, Trecynon, Aberdâr, am bris prynu o £850K ynghyd â TAW a Threth Trafodiadau Tir o £38.9K.

 

 

100.

Caffael Tir ac Adeiladau yn Willowford House, Heol Rhyd-yr-Helyg, Gwaelod-y-Garth, Ffynnon Taf

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd rhydd-ddaliol tir ac adeiladau yn Willowford House, Heol Rhyd-yr-Helyg, Gwaelod-y-Garth, Ffynnon Taf, sy'n cynnwys eiddo preswyl a'r tir gerllaw, sy'n goetir yn bennaf. Mae'r safle mewn lleoliad allweddol ger Heol Rhyd-yr-Helyg er mwyn hwyluso datblygu gorsaf drenau newydd. Bydd caffael perchnogaeth rydd-ddaliol y safle strategol hwn ger Heol Rhyd-yr-Helyg yn cadw'r tir i'w ddefnyddio yn y dyfodol i gefnogi Metro De Cymru.Mae'r tir yn cynnig y potensial i godi gorsaf drenau newydd wedi'i hadleoli, i gymryd lle'r orsaf bresennol yn Nhrefforest sydd wedi'i lleoli 0.71km (0.4 milltir) i'r gogledd. Bydd y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu ag Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn cael ei wella gan gyflwyno buddion mesuradwy i Bontypridd, Ystad Ddiwydiannol Trefforest a'r ardal gyfagos.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor adroddiad sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd rhydd-ddaliol tir ac adeiladau yn Willowford House, Heol Rhyd-yr-Helyg, Gwaelod-y-Garth, Ffynnon Taf, sy'n cynnwys eiddo preswyl a'r tir gerllaw, sy'n goetir yn bennaf. Mae'r safle mewn lleoliad allweddol ger Heol Rhyd-yr-Helyg er mwyn hwyluso datblygu gorsaf drenau newydd.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Prynu budd rhydd-ddaliol o oddeutu 1.56 Ha/3.87 erw o dir yn Willowford House, Heol Rhyd-yr-Helyg, Gwaelod-y-Garth, Ffynnon Taf am bris prynu o £550K ynghyd â Threth Trafodiadau Tir o £21.2K. Yn ogystal â hynny, bydd costau iawndal o £88K hefyd yn daladwy yn unol â'r Cod Iawndal, gan arwain at gyfanswm cost caffael o £659K.