Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

37.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

38.

Moderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd ar gyfer Pobl Hŷn pdf icon PDF 191 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi'r cyfle i'r Cabinet drafod deilliannau'r ymgynghoriad ynghylch yr opsiynau sy'n cael eu ffafrio ar gyfer dyfodol un ar ddeg cartref gofal preswyl y Cyngor ar gyfer pobl h?n a llunio argymhellion pellach a fydd yn cynyddu nifer y cartrefi gofal preswyl wedi’u cadw gan y Cyngor i naw, gan gynnwys cartrefi Garth Olwg ac Ystrad Fechan ac ailddatblygu cartrefi Dan y Mynydd a Bronllwyn er mwyn diwallu'r galw am lety â gofal a chymorth, gan gynnwys llety gofal ychwanegol, os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant adroddiad â'r Cabinet. Roedd yr adroddiad yn rhannu manylion ynghylch canlyniadau'r ymgynghoriad ar yr opsiynau sy'n cael eu ffafrio mewn perthynas ag un ar ddeg cartref gofal preswyl ar gyfer pobl h?n y mae’r Cyngor yn eu rheoli ac yn gwneud argymhellion pellach a fyddai'n cynyddu nifer y cartrefi gofal preswyl sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor i naw, gan gynnwys Garth Olwg ac Ystrad Fechan ac yn ailddatblygu Dan y Mynydd a Bronllwyn er mwyn bodloni'r galw am lety â gofal a chymorth ychwanegol sydd wedi'i nodi, gan gynnwys llety gofal ychwanegol. 

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr Cyfadran amlinelliad o fwriad y Cyngor i wella a moderneiddio'r model darparu gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer cartrefi gofal preswyl y Cyngor (a gwasanaethau gofal oriau dydd). Cafodd y model yma ei sefydlu ym mis Medi 2017 pan gymeradwyodd y Cabinet fuddsoddiad gwerth £50miliwn i ddatblygu cyfanswm o 300 gwely gofal ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf ac i ddarparu llety modern i fodloni anghenion a disgwyliadau newidiol y boblogaeth h?n sy'n tyfu.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod i'r Cabinet bod y dull wedi'i seilio ar ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n gosod dyletswyddau llywio'r farchnad ar y Cyngor. Mae canllawiau hefyd yn nodi bod gofyn i awdurdodau lleol sicrhau bod digon o wasanaethau o ansawdd ar gael yn yr ardal a bod y gwasanaethau yma'n gynaliadwy. Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran o'r farn bod y disgwyliadau a'r anghenion yn newid a bod preswylwyr RhCT yn haeddu gwell.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Cyfadran am ganlyniadau adolygiad annibynnol wedi'i gomisiynu gan Practice Solutions Ltd a gafodd ei drafod gan y Cabinet yn 2018. Roedd yr adolygiad yma'n herio'r Awdurdod Lleol i drawsnewid ei gyfleusterau i fod yn gyfleuster gofal ychwanegol, ar y dybiaeth fod dim angen gofal preswyl. Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y Cabinet wedi trafod canlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynnig i gadw rhywfaint o ddarpariaeth gofal preswyl ym mis Medi 2019. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad pellach ar yr opsiwn a ffafrir mewn perthynas â chynnal darpariaeth  cartref gofal preswyl sy'n canolbwyntio ar anghenion cymhleth (gan gynnwys dementia), ailalluogi gofal preswyl a gofal seibiant. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y Cabinet at atodiad B a C, sy'n nodi manylion llawn yr ymgynghoriad er mwyn eu trafod.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran o'r farn bod lefel yr ymgynghori a gafodd eu cyflawni ac ymgysylltiad y cyhoedd, ynghyd â nifer o newidiadau i'r cynigion, yn dangos bod yr Awdurdod Lleol yn canolbwyntio ar uchelgais yn hytrach na chyni a buddsoddi yn hytrach nag arbedion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran mai'r flaenoriaeth bennaf oedd sicrhau bod pobl h?n yn derbyn y gwasanaethau gorau posibl er mwyn bodloni'u hanghenion, gan gynnal darpariaeth fewnol.

 

Cafodd yr Aelodau o'r Cabinet wybod bod yr adroddiad wedi cael ei drafod yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 1 Rhagfyr 2020. Nododd y Swyddog fod Aelodau'r Pwyllgor Craffu o'r farn y byddai'r argymhellion yn arwain at ddeilliannau  ...  view the full Cofnodion text for item 38.