Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

23.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:-

·         Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan "Mae gen i oddefeb, wedi'i roi gan y Pwyllgor Safonau ar 29 Tachwedd 2019, i siarad a phleidleisio ar bob mater yn ymwneud â'r Gr?p Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, heblaw am unrhyw faterion penodol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fy merch, sy'n gweithio i'r Cyngor yn y Gr?p Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.”

·         Nododd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 3 - Brexit - "Mae cyfeiriad at fanciau bwyd yn yr adroddiad ac rwy'n wirfoddolwr gyda Banc Bwyd Cynon Taf o dan Ymddiriedolaeth Trussell";

·         Nododd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 7 - Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol "Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ardoll Seilwaith Cymunedol a'i effaith ar Gynghorau Cymuned ac rwy'n Aelod o Gyngor Cymuned Llanharan";

·         Nododd Mr N. Wheeler, Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen fuddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag Eitem 13 - Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gadawodd y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei thrafod: "Rwyf ar Fwrdd Amgen".

·         Nododd Mr P Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyflawni a Gwella, fuddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag Eitem 13 - Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gadawodd y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei thrafod: "Rwyf ar Fwrdd Amgen".

 

 

24.

Cofnodion pdf icon PDF 321 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020 yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020 yn rhai cywir.

 

 

25.

Brexit pdf icon PDF 592 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n rhannu'r manylion diweddaraf yngl?n â'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y Cyngor er mwyn paratoi ar gyfer Brexit. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r meysydd sydd wedi'u nodi fel y meysydd hynny sydd â'r risg/effaith uchaf posibl.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cyflawni – Materion Caffael ddiweddariad i'r Cabinet am y gwaith sydd ar y gweill ym mhob rhan o'r Cyngor er mwyn  paratoi ar gyfer Brexit, a nododd y meysydd a nodwyd lle bydd y risg/effaith uchaf, o bosibl.

 

Esboniodd y swyddog fod y Cyngor ar hyn o bryd yn wynebu ansicrwydd ynghylch y fargen rhwng y DU a'r UE, a phwysleisiodd bod angen i gynlluniau wrth gefn fod ar waith ar gyfer gwasanaethau rheng flaen hanfodol, gyda'r bwriad o darfu cyn lleied ag sy'n ymarferol bosibl arnyn nhw, yn enwedig ym maes cyflenwi bwyd a nwyddau hanfodol fel cynnyrch glanhau a gofal personol.

 

Diolchodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol am y diweddariad a dywedodd ei fod yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i fusnesau, preswylwyr a'r rhai sy'n agored i niwed yn y gymuned yn ystod y cyfnod anodd yma, nododd ei fod e'n gwneud hyn drwy nodi risgiau i gadwyni cyflenwi a chaffael ac yn eu lliniaru.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant at Adran 4.1 yr adroddiad a holodd sut mae'r Cyngor yn cyfleu'r wybodaeth yma i'r preswylwyr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn cychwyn ar ddiwedd yr wythnos ac y byddai'n dilyn dull tebyg i'r llynedd.

 

Holodd y Dirprwy Arweinydd pa mor barod oedd yr Awdurdod Lleol ar gyfer unrhyw effaith ar argaeledd banciau bwyd i breswylwyr pe bai prinder cyflenwadau bwyd a galw cynyddol. Dywedodd y swyddog fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda banciau bwyd i nodi eu hanghenion ac i roi cymaint o gymorth â phosibl iddyn nhw.

 

Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai am ddiweddariad am y Gronfa Ffyniant a Rennir. Dywedodd yr Arweinydd wrth yr Aelod o'r Cabinet am ei drafodaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, lle credwyd mai'r bwriad oedd i'r Canghellor amlinellu'r Gronfa Ffyniant a Rennir yn ystod yr wythnos i ddod.  Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi nodi mai’r bwriad oedd anrhydeddu’r ymrwymiad 'nid ceiniog yn llai' a’i bod yn ymddangos y byddai'r cyllid yn mynd yn uniongyrchol drwy'r Awdurdodau Lleol, gyda model rhanbarthol a ffefrir.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Derbyn sicrwydd bod y Cyngor yn cynllunio ar gyfer Brexit yn y ffordd orau bosibl;

2.      Nodi unrhyw feysydd eraill sydd angen cymorth pellach yn eu barn nhw; ac

3.      Adolygu'r meysydd risg uchaf (adran 1.2 uchod), a thrafod p'un a ddylid tynnu sylw at unrhyw rai eraill.

 

 

26.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor (Chwarter 2) pdf icon PDF 331 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r aelodau am gyflawniad y Cyngor yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2020), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – y Gwasanaeth Cyflawni a Gwella – grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2020), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ati i drafod Crynodeb Gweithredol yr adroddiad yn fanwl, gan gynnwys cynnydd a data ariannol mewn perthynas â'r blaenoriaethau yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y sefyllfa o ran cyllideb refeniw yr ail chwarter, a oedd yn rhagweld gorwariant o £1.853 miliwn. Nododd yr Aelodau bod sefyllfa'r gyllideb wedi'i gosod yng nghyd-destun digynsail Covid-19, a'i fod yn ystyried y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd am chwe mis cyntaf y flwyddyn, yn ogystal â'r swm y mae disgwyl i'r Cyngor ei dderbyn am weddill y flwyddyn, mewn perthynas â gwariant ychwanegol yr aethpwyd iddo ac incwm a gollwyd o ganlyniad i'r pandemig.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet, Gwasanaethau Corfforaethol at yr adroddiad mewn modd cadarnhaol, yn benodol wrth drafod y buddsoddiad Cyfalaf o £32.5 miliwn. Roedd yr Aelod hefyd yn falch o nodi bod gostyngiad yn y gyfradd absenoldeb salwch, a chynnydd yn nifer y staff, a oedd yn rhannol oherwydd bod y Cyngor wedi penodi nifer o brentisiaid a graddedigion.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ganmol y swyddogion am eu rheolaeth ariannol a nododd fod y sefyllfa'n weddol gadarnhaol o ystyried yr amgylchiadau presennol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r amgylchiadau digynsail parhaus y mae Gwasanaethau'r Cyngor yn eu hwynebu o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Refeniw

 

2.    Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 30 Medi 2020 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) gan gynnwys y cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19.

 

Cyfalaf

 

3.    Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2020 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4.    Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli'r Trysorlys fel y mae ar 30 Medi 2020 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

 

5.    Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 2 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y mae'r Cyngor wedi cytuno arnyn nhw (Adrannau 5 a - c o'r Crynodeb Gweithredol).

 

27.

Sylfaen Treth y Cyngor 2021-22 pdf icon PDF 117 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n gosod yn ffurfiol Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau yr adroddiad i'r Cabinet, yn nodi Sylfaen Treth y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22.

 

Dywedodd y swyddog mai £79,380.78 oedd y Sylfaen Treth y Cyngor gros a gyfrifwyd ar gyfer 2020/21 a chynigiodd y dylid amcangyfrif mai 97.25% yw'r gyfradd gasglu.  Mae hyn yn cynhyrchu Sylfaen Treth y Cyngor net o £77,197.81.  Mae hyn yn golygu y byddai swm o £77,198 yn cael ei godi i fodloni gofynion cyllideb y Cyngor am bob £1 a gaiff ei godi mewn Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yn fodlon cefnogi'r argymhellion, gan nodi bod yr adroddiad yn cael ei ystyried bob blwyddyn yn rhan o'r broses pennu Cyllideb.

 

Diolchodd yr Arweinydd  i'r swyddog am yr adroddiad. PENDERFYNWYD:

 

1.    Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 fel y'i diwygiwyd, y swm sydd wedi'i gyfrifo gan y Cyngor fel ei sylfaen dreth net ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22, fydd £77,197.81;

2.    Bydd sylfaen dreth 2021/22 at ddibenion gosod Treth y Cyngor yn cael ei gosod yn unol ag Atodiad 1 yr adroddiad, ar gyfer pob cymuned diffiniedig yn y Fwrdeistref Sirol.

 

 

28.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr ac Adroddiad Blynyddol 2019–20 pdf icon PDF 153 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2019-2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2019-2020.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod nifer y cwynion am awdurdodau lleol ledled Cymru wedi gostwng i 890 o 912, ac o blith y 2,242 o gwynion a dderbyniwyd am gyrff cyhoeddus, roedd y 5 categori uchaf yn ymwneud ag iechyd (41%), tai (15%), ymdrin â chwynion (9 %), gwasanaethau cymdeithasol (8%) a materion cynllunio a rheoli adeiladu (7%). Dywedodd y Cyfarwyddwr mai'r prif bynciau o ran awdurdodau lleol yn benodol oedd: Gwasanaethau Cymdeithasol (18%) Tai (16.9%) Materion Cynllunio a Rheoli Adeiladu (15.4%) yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd (10.6%) ac Ymdrin â Chwynion (9%).

 

Clywodd yr Aelodau fod yr Ombwdsmon wedi derbyn 39 o gwynion yn ystod 2019-2020 (2018/2019 - 36 a 2017/2018 - 36)  yn ymwneud â'r Awdurdod sy'n cyfateb i 0.16 o gwynion fesul 1000 o drigolion ac sy'n rhoi RhCT yn y safle isaf ond un yng Nghymru, o blith y 22 awdurdod. 

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad ac roedd yn falch o nodi mai RhCT oedd yr Awdurdod isaf ond un yng Nghymru o ran derbyn cwynion. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn bryderus am y 22 cwyn i'r Ombwdsmon mewn perthynas â Chyngor Cymunedol bach o fewn RhCT, ond clywodd fod Cyfarwyddwr a Chadeirydd Pwyllgor Safonau'r Cyngor wedi annerch y Cyngor Cymuned dan sylw. Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd pa mor bwysig yw hi i'r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddarparu hyfforddiant safonau priodol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Cyngor ar gyfer 2019-2020.

 

 

29.

Adroddiad monitro blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol pdf icon PDF 140 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â chynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a'r newidiadau arfaethedig i Restr Rheoliad 123. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Cabinet am y camau cyn y cam craffu sydd wedi'u cyflawni gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a diwygio Rheoliad 123.

 

Hefyd, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau am y gwaith cyn-graffu a wnaed gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y gallai derbynebau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ymddangos yn is na'r disgwyl ac eglurodd fod llawer o safleoedd wedi cael caniatâd cyn i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ddod i rym. Amlygodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd Rhestr 123 y Cyngor, ac roedd yn falch o nodi'r ychwanegiadau, yn enwedig Gorsaf Drenau Trefforest a'r estyniad arfaethedig i'r rheilffordd rhwng Aberdâr a Hirwaun.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned wedi derbyn cyflwyniad yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2020, er mwyn atgoffa'r Cynghorau Cymuned o'u rhwymedigaethau.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol;

2.      Cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 wedi'i diwygio ar gyfer ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer ymgynghori, fel y nodwyd ym mharagraff 5.9 yr adroddiad;

3.      Cymeradwyo mabwysiadu'r Rhestr Rheoliad 123 diwygiedig wedi hynny os na ddaw sylwadau i'r gwrthwyneb.

 

 

30.

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol - Strategaeth Buddsoddi mewn Asedau'r Priffyrdd pdf icon PDF 116 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol. Cafodd y rhaglen yma'i chymeradwyo ar 6 Mai 2020 ac o ganlyniad i'r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar 24 Medi 2020, mae'r adroddiad yma'n cynnig ychwanegu cynlluniau cynnal a chadw ar gyfer ffyrdd cerbydau a'r llwybrau troed at y cynlluniau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo.

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, adroddiad sy'n cynnig ychwanegu cynlluniau cynnal a chadw ar gyfer ffyrdd cerbydau a'r llwybrau troed at y cynlluniau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo, yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol. Cafodd y rhaglen yma'i chymeradwyo ar 6 Mai 2020, ac o ganlyniad i'r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar 24 Medi 2020.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw'r Aelodau at Atodiad 1, a oedd yn cynnwys gwerth £2.210 miliwn arall o gynlluniau ar gyfer cefnffyrdd a gwerth £0.496 miliwn arall o gynlluniau troedffyrdd i'w hychwanegu at y gronfa a gymeradwywyd eisoes. 

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o gefnogi'r argymhellion a soniodd am y cynnydd cadarnhaol a wnaed o ran cyflwyno cynlluniau, er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19 megis cyfnodau clo a'r effaith ar gyflenwi a staffio. Wedyn, cyfeiriodd yr Arweinydd at y cynlluniau a gafodd eu cyflawni'n effeithlon yn ystod cyfnod atal byr Llywodraeth Cymru, pan oedd traffig yn ysgafnach.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi a chymeradwyo'r gwaith o ychwanegu'r cynlluniau a restrir yn Atodiad A yr adroddiad at gronfeydd cynlluniau a gymeradwywyd eisoes.

 

 

31.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-20 pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cyflwyno'r drafft cyntaf o Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn rhoi cyfle i drafod yr adroddiad cyn i'r cynnwys gael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol, i'r Aelodau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y bu anawsterau wrth ymgysylltu â'r cyhoedd i'r fath raddau eleni oherwydd y pandemig, ond dywedodd wrth y Cabinet bod y gwasanaeth wedi ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth wrth lunio'r adroddiad. O ganlyniad i hyn, gofynnodd y Cyfarwyddwr Cyfadran i'r adroddiad fynd drwy'r broses Craffu er mwyn osgoi unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wrth y Cabinet fod yr adroddiad yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-21, ond roedd yn cydnabod y gallai effaith sylweddol Covid-19 effeithio ar gyflawni'r blaenoriaethau hynny.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad cynhwysfawr er gwaethaf yr heriau presennol..

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi adroddiad blynyddol (drafft) Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf a chraffu ar y cynnwys.

 

 

32.

Bwrdd Diogelu Cwm Taf – Adroddiad Blynyddol 2019-20 pdf icon PDF 123 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhannu cynnwys Adroddiad Blynyddol 2019/20 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg â'r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol 2019/20 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i'r Cabinet.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi a chymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2019/20.

 

33.

Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg 2019-20 pdf icon PDF 117 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2019/20 i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2019/20 i'r Cabinet, gan geisio cymeradwyaeth er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg ei gefnogaeth a dywedodd fod y pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd rôl cynhalwyr.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad a dywedodd ei bod yn siomedig na fyddai Seremoni Gwobr Cynhalwyr Ifanc yn cael ei chynnal eleni o ganlyniad i Covid-19 a chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, ond roedd yn falch o nodi y byddai'r seremoni'n digwydd ar-lein.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Cwm Taf Morgannwg 2019-20;

2.    Nodi, fel yn y gorffennol, bod yr Adroddiad Blynyddol wedi'i gyflwyno ar ffurf drafft i Lywodraeth Cymru, hyd nes iddo gael ei gymeradwyo gan y Cabinet, bod trefniadau tebyg ar waith gan Gynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Anfonir y fersiwn derfynol at Lywodraeth Cymru yn dilyn cymeradwyaeth y pedwar partner rhanbarthol; a

3.    Nodi'r gwaith cadarnhaol a wnaed mewn perthynas â chynhalwyr ym mhob rhan o Gwm Taf Morgannwg yn unol â'r Datganiad o Fwriad rhanbarthol y cytunwyd arno ar gyfer Cynhalwyr (wedi'i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol yn Atodiad 1)

 

 

34.

Rhaglen Gyfalaf Ysgolion Yr 21ain Ganrif - Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr pdf icon PDF 292 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy’n rhoi’r diweddaraf yngl?n ag ariannu’r cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (YGG Aberdâr) i ateb y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ddiweddariad i'r Cabinet ynghylch ariannu'r cynigion i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (YGG Aberdâr) i ateb y galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, yn y cyfarfod ar 20 Medi 2018, eglurodd y Cyfarwyddwr fod cyllid wedi'i dderbyn ar 4 Tachwedd 2020 er mwyn llunio a chyflwyno achos busnes ariannol o ran Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr i ateb y galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Clywodd yr Aelodau mai  £4.5 miliwn yw cyfanswm y gost bellach, yn hytrach na £3.3 miliwn, a hynny gan fod y prosiect bellach yn ymgorffori cyfleuster gofal plant newydd. Serch hynny roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu i 65% o 50% ers hynny, sy'n golygu bod cyfraniad gofynnol y Cyngor wedi gostwng i 35%. 

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn falch o nodi bod y cynllun busnes ariannol a gafodd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus a nododd y byddai'n ffordd gadarnhaol o sicrhau bod y Cyngor yn bwrw'i darged o ran  cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn RhCT.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi'r cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a chanran gyffredinol y cyllid cyfatebol ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Nodi'r sefyllfa wedi'i diweddaru ar ganlyniad cyflwyno achos busnes ariannol i Lywodraeth Cymru;

2.      Adolygu a chytuno ar gyfanswm newydd y costau a'r pecyn cyllido;

3.      Cynnig bod yr adroddiad Benthyca Darbodus sydd ynghlwm yn Atodiad A yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 25 Tachwedd 2020.

 

 

35.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“That the press and public be excluded from the meeting under Section 100A(4) of the Local Government Act (as amended) for the following items of business on the grounds that it involves the likely disclosure of the exempt information as defined in paragraph 14 of Part 4 of the Schedule 12A of the Act”.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

36.

Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n rhoi manylion am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol sydd i ddod.

 

Adroddiad i ddilyn.

Cofnodion:

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant (Cofnod Rhif 23), gadawodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, y Gwasanaethau Cyflawni a Gwella a'r Cyfarwyddwr Cyfadran, Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, y cyfarfod cyn yr eitem yma)

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig. Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr atodiadau i'r adroddiad oedd yn rhoi datganiadau ariannol y Cwmnïau sydd i'w cyflwyno i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y cwmni ‘Cynon Valley Waste Disposal Company Limited’ a chwmni ‘Amgen Rhondda Limited’ (“y Cwmnïau”), sydd i'w cynnal am 9.30am ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020, ar-lein.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod y bwriad cyfredol i barhau i weithredu Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y 'Cwmnïau') yn gwmnïau dan reolaeth yr Awdurdod Lleol yn y dyfodol wedi'i gadarnhau;

2.    Yn amodol ar fodloni'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol nad oes unrhyw afreoleidd-dra yng nghyfrifon y Cwmnïau y dylid derbyn y cyfrifon ar ran y Cyngor;

3.    Penodi Azets Audit Services yn  archwilwyr i'r Cwmnïau am y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

4.    Bod Cyfarwyddiaethau'r Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyllid a Gwella ar y ddau Gwmni yn parhau;

5.    Nodi parhad swydd cyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd y Cwmnïau hyd at 31 Rhagfyr 2021;

6.    Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ac/neu ei enwebai i arfer pleidlais y Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau yn unol ag argymhellion 2(ii) i 2(iv) uchod.

7.    Bydd Aelod o'r Cabinet yn cynrychioli'r Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau.