Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

13.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol, R.Lewis.

 

14.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

15.

Cofnodion pdf icon PDF 321 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Medi 2020 yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2020 yn rhai cywir.

 

 

16.

Ymateb i'r Rhybudd o Gynnig - Tân Gwyllt pdf icon PDF 152 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n amlinellu'r rheoliadau cyfreithiol cyfredol o ran gwerthu a defnyddio tân gwyllt, a thrafod sut y mae modd i'r Awdurdod Lleol gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 27 Tachwedd 2019 (Atodiad 1), yn ogystal ag ymgyrch yr RSPCA sy'n galw am ragor o fesurau rheoli.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n amlinellu'r rheoliadau cyfreithiol cyfredol o ran gwerthu a defnyddio tân gwyllt, a thrafod sut y mae modd i'r Awdurdod Lleol gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 27 Tachwedd 2019, yn ogystal ag ymgyrch yr RSPCA sy'n galw am ragor o fesurau rheoli.

 

Mae adran 5 o'r adroddiad yn nodi gwybodaeth fanwl am y rheoliadau sy'n ymwneud â gwerthu a storio tân gwyllt; y safonau sydd ar waith mewn perthynas â s?n a diogelwch tân gwyllt; a mesurau rheoli mewn perthynas â gwerthu tân gwyllt i bobl dan oed. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod unrhyw achlysuron wedi'u trefnu yn y Fwrdeistref yn cael eu trafod gan Gr?p Cynghori ar Ddiogelwch Achlysuron y Cyngor, sy'n sicrhau bod pob achlysur yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol ac yn cael eu cynnal mewn modd diogel.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad, gan nodi bod yr argymhellion yn synhwyrol ac yn ceisio ehangu'r ddarpariaeth sydd eisoes ar waith. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am effaith tân gwyllt ar anifeiliaid anwes, yn ogystal ag anifeiliaid yn y caeau. Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd wedi cydnabod bod nifer o bobl yn cael eu heffeithio gan y tân gwyllt a siaradodd am effaith 5 Tachwedd ar y cyn-filwyr hynny sy'n dioddef ag Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Esboniwyd bod yr Awdurdod Lleol wedi cynnal achlysur llwyddiannus yn Theatr y Parc a'r Dâr ar gyfer cyn-filwyr y llynedd.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet y byddai'r adroddiad yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod y Cyngor ar 21 Hydref 2020.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.   Nodi'r mesurau rheoli cyfredol sydd ar gael yn rhan o Gyfraith y DU o ran rheoli gwerthu tân gwyllt a sut maen nhw'n cael eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus;

2.   Bod y Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol yn adolygu ac yn gosod rhagor o gyfyngiadau ar ddefnyddio tir y Cyngor at ddibenion arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus lle bo angen; a

3.    Chefnogi ymgyrch hyrwyddo ar gyfer 2021 (os yw cyfyngiadau coronafeirws yn caniatáu hynny) sy'n annog defnydd cyfrifol o dân gwyllt a rhoi gwybod i'r cyhoedd yn gynnar am achlysuron a gynlluniwyd yn y gymuned.

 

17.

Cynllun Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf pdf icon PDF 123 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020/21 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020/21 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg. Mae'r adroddiad yma wedi'i atodi yn Atodiad 1.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gr?p wybod i'r Cabinet fod y Bwrdd yn gweithio fwy neu lai i ystyried y Blaenoriaethau Strategol a nodwyd a'r materion allweddol sy'n codi o ganlyniad i bandemig Covid-19. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gr?p y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Iechyd a Lles i'w drafod a'i herio ymhellach.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant y byddai'r Cynllun Blynyddol yn cynorthwyo Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i gyflawni ei flaenoriaethau ac y byddai'n cael ei fonitro'n barhaus. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet mai cyfrifoldeb pawb yw diogelu a bod angen bod yn ddiwyd yng nghanol y pandemig.

 

Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg ei gefnogaeth a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r Bwrdd Diogelu am ei waith.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi a chymeradwyo cynnwys Cynllun Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2020/21.

 

18.

Gweithdrefnau Rhoi Sylwadau, Canmol a Chwyno - Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 136 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill  2019 a 31 Mawrth 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant adroddiad â'r Cabinet sy'n rhoi crynodeb i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill  2019 a 31 Mawrth 2020. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi sy wedi'u dysgu yn dilyn cwynion a data cyflawniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2019/20 a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr a'r garfan am yr adroddiad manwl.

 

Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ei chefnogaeth a rhoddodd wybod bod swyddog newydd wedi'i benodi, a'i rôl yw monitro'r gwaith ac atgoffa swyddogion o amserlenni, er mwyn darparu gwasanaeth o safon yn barhaus. Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar y cyfle hefyd i ddiolch i aelodau'r garfan am eu gwaith a'r modd proffesiynol y maen nhw'n gweithredu, wrth gynnal sgyrsiau a all fod yn rhai cymhleth gyda thrigolion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg bod y duedd yn weddol sefydlog ar hyn o bryd o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn arbennig o galonogol gan ystyried y galw presennol. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet fod cwynion a chanmoliaeth yn cael eu gwerthfawrogi er mwyn helpu i wella'r gwasanaeth, lle bo hynny'n bosibl.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo cynnwys Adroddiad Cwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol; a

2.    Nodi'r gwaith sy wedi'i wneud gan Garfan Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

19.

Teithio Llesol - Map Adolygu'r Rhwydwaith Integredig pdf icon PDF 96 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran - Materion Ffyniant, Datblygiad a Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynnal adolygiad o Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol y Cyngor, gan gynnwys ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae'r adroddiad yma hefyd yn amlinellu'r rhesymau dros gynnal yr ymarfer yma.  

 

 

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gynnal adolygiad o Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol y Cyngor, gan gynnwys gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at Adran 5 yr adroddiad, a oedd yn rhannu manylion am y tasgau arfaethedig y byddai'r Cyngor yn eu cyflawni yn rhan o'r adolygiad a'r diweddariad o'i Fap Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol. Roedd hyn yn dangos y byddai llunio Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol wedi'i ddiweddaru yn cynnwys gwaith ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol ac y byddai'n cael ei gyflawni'n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am nod y ddeddfwriaeth Teithio Llesol, o ran ei bod yn ceisio hyrwyddo dulliau teithio mwy cynaliadwy ymhlith y boblogaeth, megis cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr ac at ddibenion hamdden. Y nodau a'r amcanion yw gwella iechyd a lles trigolion lleol yn ogystal â gwella mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau allweddol, ynghyd â lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer lleol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai uchelgais y gofynion Teithio Llesol oedd canolbwyntio ar newid dulliau i wella tagfeydd ac ansawdd aer yn y cymunedau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod y gofyniad i gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru wedi'i ymestyn i Ragfyr 2021 ac felly, gofynnodd bod argymhelliad 2.3 yn cael ei newid yn unol â hynny.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth yn cefnogi'r cynigion ac yn cydnabod yr angen am ddull gwahanol o ymgysylltu â'r cyhoedd. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet mai ffocws yr Awdurdod Lleol oedd hyrwyddo teithio llesol a'r ffaith ei bod hi'n bwysig ar gyfer iechyd a lles preswylwyr ynghyd â sicrhau amgylchedd glanach gyda llai o lygredd ceir.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adroddiad cynhwysfawr a nododd fod cyfle i hyn gael ei gynnwys yn rhan o waith Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a oedd yn bwriadu cwrdd ar ddiwedd y mis. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr angen i gerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r llwybrau ddangos parch at ei gilydd, gan nodi bod hyn eisoes yn cael ei wneud o'i phrofiad hi.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r rhesymau dros gynnal adolygiad o'r Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol (ATINM) y Cyngor, gan gynnwys gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd;

2.    Bod y Cyngor yn cynnal gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd yn ystod 2020 a 2021 yn rhan o'r adolygiad yma; a

3.    Derbyn adroddiad pellach maes o law mewn perthynas â deilliannau'r gwaith yma, cyn cyflwyno fersiwn o'r Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth Cymru.

 

 

20.

Adroddiad ar Gyflawniad Corfforaethol y Cyngor (Drafft) pdf icon PDF 120 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n nodi'r cynnydd yn 2019/20 a'r cynlluniau ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â blaenoriaethau strategol y Cyngor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar faterion Cyflawni a Gwella Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol drafft Rhondda Cynon Taf. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion cynnydd ar gyfer 2019/20 a chynlluniau ar gyfer 2020/21 o ran tair blaenoriaeth strategol y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi sut mae'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol yma'n galluogi'r Cyngor i fodloni ei ofynion adrodd statudol. 

 

Cafodd yr aelodau wybod bod yr adroddiad yn ceisio cynnig crynodeb o safon uchel, sy'n hawdd ei ddarllen yngl?n â’r:

·         Cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â blaenoriaethau blaenorol y Cyngor, sef Economi, Pobl a Lleoedd, ers 2016 ac, yn benodol, yn 2019/20.  Mae gwerthusiadau mwy manwl o ran cyflawniad a chynnydd, a dogfennau cymorth perthnasol eraill, wedi'u cynnwys ar ffurf dolenni o fewn yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol i alluogi'r darllenydd i gael mynediad at wybodaeth fanylach, yn ôl yr angen; a

·         chynlluniau i gyflawni'r blaenoriaethau newydd, sef Pobl, Lleoedd a Ffyniant yn 2020/21.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adroddiad a gwnaeth sylwadau ar bwysigrwydd y tair blaenoriaeth, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd sydd ohoni.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad yn dangos y cynnydd cadarnhaol sydd wedi'i wneud ers 2016 gan nodi y byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2020 ac y byddai'n destun her gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad yn rhan o adroddiadau cyflawniad y chwarter.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo drafft yr 'Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol' ac argymell i'r Cyngor llawn ei gymeradwyo ar 21 Hydref 2020.

 

21.

Cynllun Ariannol y Tymor Canolig 2020/21 tan 2023/24 pdf icon PDF 113 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 tan 2023/24, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2021/22 yn ystod misoedd yr hydref. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 tan 2023/24, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2021/22 yn ystod misoedd yr hydref. 

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr am y cyfnod ansicr y mae'r Cyngor yn ei wynebu, o safbwynt ariannol a gweithredol ac atgoffodd yr Aelodau o'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Ganolog y DU, sef y byddai Cyllideb 2020 a drefnwyd ar gyfer Tachwedd 2020 yn cael ei gohirio. Nodwyd hefyd y byddai'r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr, sy'n gosod terfynau gwariant / cyllido'r sector cyhoeddus, a drefnwyd hefyd ar gyfer mis Tachwedd 2020, yn dal i fynd yn ei flaen. Fodd bynnag, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch a fyddai'r Adolygiad yn cwmpasu'r tair blynedd a gynlluniwyd yn wreiddiol. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi goblygiadau cost ychwanegol sy'n deillio o bandemig Covid-19, gan gynnwys incwm a gollwyd.

 

Cafodd y Cabinet ei gyfeirio at Adran 5 yr adroddiad, sy'n cynnig amlinelliad o'r rhagdybiaethau allweddol a gafodd eu cynnwys yn y Cynllun Ariannol.

·      Ar hyn o bryd mae cynnydd Treth Gyngor yn cael ei fodelu ar 2.85% y flwyddyn;

·      Tybiwyd bod cyllid untro gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â grantiau penodol Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yn cael ei brif ffrydio;

·      Mae ffioedd a thaliadau wedi cynyddu o ganlyniad i chwyddiant yn unig;

·      Mae hyn yn cynnwys cynnydd ar gyfer chwyddiant sy'n ymwneud â chyflog ac sydd ddim yn ymwneud â chyflog; a

·      Mae cyllideb ysgolion wedi'i modelu i gwmpasu chwyddiant cyflog a chwyddiant sydd ddim yn ymwneud â chyflog.

 

(Nodwch: Ar yr adeg yma, ymunodd Arweinydd y Cyngor â'r cyfarfod.)

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai opsiynau'n cael eu datblygu a allai helpu i fynd i'r afael â'r bwlch posibl yn y gyllideb yr oedd y Cyngor yn ei wynebu, ond pwysleisiodd bwysigrwydd cynnal gwasanaethau hanfodol, wrth wneud hynny.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r swyddogion am y gwaith modelu er gwaethaf yr heriau a'r ansicrwydd, gan nodi bod ôl-effeithiau 'Storm Dennis' yn dal i gael eu hwynebu gan yr Awdurdod Lleol a'r cymunedau. Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd y dylid cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2020 a bod y manylion yn cael eu cynnwys yn rhan o ymgynghoriad y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad yn rhan o ddull strategaeth y gyllideb ar gyfer 2021/22.

 

Mynegodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd eu diolch i swyddogion am eu gwaith sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol. Soniodd yr Arweinydd am bwysau mewn perthynas â Threth y Cyngor ond roedd yn falch bod y gwaith modelu yn dangos cynnydd sy'n is na 3% ac mae hynny ymhlith y cynnydd isaf o'i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod Lleol yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid ar gyfer yr athrawon a'r dyfarniad cyflog staff ehangach.

 

Talodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol deyrnged i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Ymgysylltu Mewn Perthynas â Chyllideb Y Cyngor - 2020/21 pdf icon PDF 122 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y dull 'digidol' o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â chyllideb 2021/22.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Cabinet am y dull 'digidol' o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â chyllideb 2021/22.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y cynigiwyd y byddai'r ymgynghoriad blynyddol mewn perthynas â chyllideb 2021/22 yn mabwysiadu 'dull digidol', o ganlyniad i sefyllfa pandemig Covid-19 a'i heriau. Bydd hyn wrth barhau i ystyried y grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd, y rheiny sydd heb fynediad i'r Rhyngrwyd neu sydd heb gysylltiad digonol, a'r rheiny y mae'n well ganddynt ymgysylltu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y dull yma wedi'i ddefnyddio yn yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn perthynas â Baw C?n. Profwyd ei fod yn ffordd effeithiol o ymgysylltu ag ystod eang o drigolion a rhanddeiliaid.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai'n gweld eisiau'r rhyngweithio wyneb yn wyneb â'r cyhoedd ond roedd yn ddiolchgar bod y Cyngor wedi addasu i'r hinsawdd bresennol a'r dull rhithwir newydd. Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd yr angen i estyn llaw i'r rheiny sydd heb ddarpariaeth TG ac roedd yn falch o nodi bod dulliau wedi'u nodi yn y cynigion.

Pan ofynnwyd iddo am lefel yr ymgysylltu â cholegau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai fforwm rhithwir penodol yn cael ei sefydlu i ymgysylltu â'r oedolion ifanc hynny.

Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ei chefnogaeth ar gyfer y cynigion gan siarad am bwysigrwydd ymgysylltu â'r Fforwm Ieuenctid, a oedd wedi cyflwyno rhai awgrymiadau diddorol ac arloesol yn ystod trafodaethau blaenorol.

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y Cylch Trafod Materion Anabledd a’i gyfraniad gwerthfawr yn ystod ymgynghoriadau blaenorol a phwysigrwydd sicrhau nad yw’r gwaith pwysig yma'n cael ei golli.

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg yn falch o roi gwybod bod y Gr?p Cynghori Pobl H?n wedi cyfarfod gan ddefnyddio 'Zoom' ers dechrau'r cyfyngiadau symud ac yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r rhaglen.

Siaradodd yr Arweinydd am ba mor bwysig yw hi bod Aelodau Etholedig yn defnyddio'u cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth â phreswylwyr a phwysigrwydd addasu dulliau ymgynghori gyda grwpiau cymunedol i wella gwaith ymgysylltu.

(Nodwch: Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem yma)

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cefnogi'r dull 'digidol' a awgrymir ar gyfer ymgynghori ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan ddarparu dulliau amgen o ymgysylltu â'r rheiny sydd â llai neu sydd heb fynediad i'r Rhyngrwyd a'r rhai y mae'n well ganddynt ymgysylltu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol;

2.    Cefnogi gofynion statudol y Cyngor parthed ymgynghori ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, a chaiff lefelau Treth y Cyngor eu bodloni trwy'r dull arfaethedig;

3.    Cefnogi'r broses ymgynghori ar y gyllideb sy'n digwydd yn ystod hydref 2020, gyda'r dyddiadau i'w cadarnhau yn dilyn eglurhad o amserlenni setliad cyllideb tebygol Llywodraeth Cymru;

4.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gynllunio'r llinell amser ymgysylltu angenrheidiol unwaith y bydd manylion y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn hysbys, a  ...  view the full Cofnodion text for item 22.