Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

134.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

135.

Cofnodion pdf icon PDF 136 KB

Cadarnhau’r cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2020 yn rhai cywir.

 

 

136.

Cynigion i gymeradwyo cytundeb cyflenwi diwygiedig ar gyfer llunio Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 176 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Cytundeb Darparu diwygiedig ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor o'r Cytundeb Cyflenwi ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig Rhondda Cynon Taf ym mis Tachwedd 2019, gofynnodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu i'r Cabinet gymeradwyo Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, sy'n cynnig gohirio'r dyddiad dechrau swyddogol am dri mis, gyda'r bwriad o ddechrau ym mis Medi 2020.

 

Clywodd yr Aelodau fod argyfwng y Coronafeirws yn golygu nad oedd modd dechrau'r gwaith paratoi ffurfiol a nodwyd yn y Cytundeb Cyflenwi, na phenodi ymgynghorwyr allanol er mwyn cyflawni gwaith hanfodol ar sail tystiolaeth. O ganlyniad i hynny, doedd dim modd ymrwymo i waith ymgysylltu cynnar â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn rhan o'r broses. 

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai ei fod e'n gefnogol o'r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig, gan gydnabod effaith amlwg Covid-19 ar holl wasanaethau'r Cyngor.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn amlinellu'r amserlen ddiwygiedig a'r dull gweithredu o ran cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â nhw er mwyn paratoi ar gyfer yr adolygiad;

2.    Yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor Llawn, caiff y Cytundeb Cyflenwi wedyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn iddo'i gymeradwyo.

 

137.

Y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE) pdf icon PDF 283 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n cyflwyno gwybodaeth i'r Cabinet yngl?n â'r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE), gan gynnwys Adroddiad Blynyddol SACRE RhCT ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth. Ysgolion yr 21ain  Ganrif a Materion Trawsnewid, wybodaeth i'r Cabinet am ddyletswyddau statudol y Cyngor o ran sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE), gan gynnwys Adroddiad Blynyddol Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol RhCT ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ati i atgoffa'r Cabinet bod dyletswydd statudol ar bob Awdurdod Lleol i sefydlu corff parhaol o'r enw Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol, sydd â'r bwriad o roi cyngor ar faterion o ran darparu Addysg Grefyddol a chyd-addoli (Deddf Diwygio Addysg 1988). Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, fod angen i bob Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol lunio Adroddiad Blynyddol, sydd i'w weld yn Atodiad 1.

 

(Nodwch: Ar yr adeg yma, ymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Leyshon y cyfarfod.)

 

Clywodd yr Aelodau mai canran gyffredinol y graddau A*-C yn RhCT ar gyfer 2018 oedd 70.4%. Roedd hyn yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ac yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. O ran y graddau A*-A ar gyfer RhCT, clywodd yr Aelodau mai'r ganran gyffredinol oedd 26.8%, a oedd yn rhagori ar y flwyddyn ganlynol ond yn is na chyfartaledd Cymru gyfan.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at yr amgylchiadau sy'n newid yn barhaus, yn ogystal â'r newid o ran y maes llafur yng Nghymru, gan awgrymu y byddai'n ddefnyddiol pe byddai Consortiwm Canolbarth y De yn ystyried rôl y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol yn y dyfodol fel bod modd nodi unrhyw welliannau posibl.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol 2018-2019.

 

138.

Newid rheolau - Cymdeithas Dai Trivallis pdf icon PDF 152 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n gofyn am gymeradwyo diwygiad i reolau cymdeithas Trivallis ynghylch cynrychioli tenantiaid ar y Bwrdd.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned fod Trivallis yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygio rheolau'r gymdeithas mewn perthynas â chynrychioli tenantiaid ar y Bwrdd, a hynny'n dilyn mabwysiadu rheolau model Cartrefi Cymunedol Cymru yn 2017. 

 

Clywodd yr Aelodau fod Trivallis wedi lleihau nifer aelodau'r Bwrdd, ac mai rhwng 6 a 10 o aelodau sydd bellach (ac eithrio aelodau cyfetholedig). Mae'r gymdeithas hefyd wedi cael gwared ar y gofynion blaenorol o ran y tri gr?p atodol - tenantiaid, yr awdurdod lleol ac aelodau annibynnol. Yn lle hynny, eglurodd y Cyfarwyddwr y byddai aelodau'n cael eu penodi i'r Bwrdd ar sail eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad. Byddai modd i'r Cyngor ddal ati i benodi dau aelod o'r Bwrdd fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond byddai'n rhaid i'r unigolion dan sylw fodloni gofynion y Bwrdd o ran sgiliau.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i egluro bod y cynnig hwn yn golygu cael gwared ar y gofyniad cyfredol am bedwar cynrychiolwr sy'n denant. Byddai'r rheolau newydd yn golygu bod un lle ar y Bwrdd bob amser wedi'i gadw ar gyfer aelod sy'n denant, ond byddai'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fodloni gofynion y Bwrdd o ran sgiliau. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y byddai modd i fwy nag un tenant fod yn aelod o'r Bwrdd, fodd bynnag, ni fyddai gofyn i'r Bwrdd benodi pedwar aelod sy'n denant mwyach.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y trafodaethau sydd wedi bod rhwng yr Awdurdod Lleol a Trivallis, gan nodi ei fod e'n falch bod y Cyngor wedi sicrhau bod dau gynrychiolydd ar y Bwrdd yn rhan o'i gyfansoddiad.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd ynghylch lleihau cyfranogiad y tenantiaid a nododd pa mor bwysig yw llais y tenant. Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd y dylai Trivallis gyflwyno gr?p craffu i denantiaid er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dal ati chwarae rhan flaenllaw yn y sefydliad.

 

Ategodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai a'r Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol sylwadau'r Dirprwy Arweinydd, a chawson nhw sicrwydd y byddai'r ddau gynrychiolydd ar y Bwrdd yn dwyn Trivallis i gyfrif.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Gadarnhau ei fod e'n caniatáu'r newidiadau arfaethedig i reolau cymdeithas Trivallis ynghylch cynrychioli tenantiaid ar y Bwrdd.

 

139.

Trefniadau Diogelu Corfforaethol y Cyngor pdf icon PDF 168 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Cynllun Gwella mewn perthynas â Chynllun Diogelu Corfforaethol y Cyngor, yn ogystal â Pholisi Diogelu Corfforaethol ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant adroddiad i'r Cabinet sy'n gofyn iddo gymeradwyo Cynllun Gwella mewn perthynas â Chynllun Diogelu Corfforaethol y Cyngor, yn ogystal â Pholisi Diogelu Corfforaethol ddiwygiedig. Lluniwyd y polisi er mwyn adlewyrchu'r gofynion cyfreithiol cyfredol yn ogystal â'r canfyddiadau diweddaraf gan Archwilio Cymru. 

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am y darn sylweddol o waith a oedd gerbron yr Aelodau. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i nodi y byddai'r gwaith yn ategu gwaith parhaus y Cyngor o ran atgyfnerthu ei drefniadau Diogelu Corfforaethol a rhoi sicrwydd bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau ym maes diogelu, yn enwedig o gofio'r sefyllfa sydd ohoni.

 

Mynegodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg ei gefnogaeth hefyd, gan nodi bod y Cyngor eisoes wedi rhoi trefniadau cadarn ar waith ym maes diogelu, a hynny o fewn yr Awdurdod Lleol a gyda'i Bartneriaid Rhanbarthol. Dywedodd y byddai'r gwaith yma'n atgyfnerthu hyn ymhellach.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Cynllun Gwella mewn perthynas â threfniadau Diogelu Corfforaethol y Cyngor;

2.    Cymeradwyo a mabwysiadu'r Polisi newydd yn un o bolisïau'r Cyngor;

3.    Y dylai'r polisi gael ei chyfieithu, ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor a'i hymgorffori ym mholisïau a strategaethau ehangach y Cyngor fel sy'n briodol;

4.    Llunio cynllun Cyfathrebu a Chodi Ymwybyddiaeth er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff a Rheolwyr yn effro i'w cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Polisi newydd;

5.    Y caiff y Polisi newydd ei adlewyrchu mewn hyfforddiant Diogelu yn y dyfodol;

6.    Cyfeirio'r penderfyniad ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu at ddibenion craffu a monitro.

 

140.

Adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor – 31 Mawrth 2020 (diwedd blwyddyn) pdf icon PDF 531 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella, drosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod sefyllfa'r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yn adlewyrchu'r pwysau sylweddol sydd ar y Cyngor o ganlyniad i Storm Dennis a Covid-19. Clywodd yr Aelodau fod cyflawniad cyllideb y refeniw yn orwariant o £289,000 yn erbyn cyllideb net o £483 miliwn, sy'n well na'r chwarter blaenorol.

 

O ran y Gyllideb Gyfalaf, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod buddsoddiadau cyfalaf sylweddol o £121 miliwn wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud yn erbyn Blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor a Blaenoriaethau'r Cyngor o ran Buddsoddiadau; a bod 78% o'r mesurau a nodwyd yng nghanlyniadau Dangosydd y Cynllun Corfforaethol wedi bwrw'r targed.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r swyddog am yr adroddiad, gan nodi bod y gorwariant ar gyfer y flwyddyn yn ymylol o'i gymharu â nifer o Awdurdodau Lleol eraill, yn enwedig o gofio'r pwysau a wynebwyd. Gan gyfeirio at y costau sydd ynghlwm â Storm Dennis a amlinellir ar dudalen 199 yr adroddiad, dywedodd yr Arweinydd fod y gost ynghlwm â'r cymorth brys, a bod disgwyl i'r effaith hirdymor ar y Cyngor fod oddeutu £70 miliwn.

 

Aeth y Dirprwy Arweinydd ati i gydnabod y byddai pwysau sylweddol wrth edrych i'r dyfodol, a hynny o ganlyniad i Covid-19, Storm Dennis a'r llifogydd dilynol. Nododd y dylid ystyried cyflawniad ar sbectrwm ehangach o gofio'r digwyddiadau yma, nas gwelwyd eu math o'r blaen.

 

Ategodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y sylwadau blaenorol mewn perthynas â'r pwysau parhaus y mae'r Cyngor yn ei wynebu, a nododd fod y gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn yn fach o ystyried y sefyllfa sydd ohoni. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i gyfeirio at y prosiectau llwyddiannus sydd wedi'u hamlinellu yn y Rhaglen Gyfalaf, er enghraifft Llys Cadwyn a'r datblygiadau yng nghanol y trefi ac ar y priffyrddd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cyd-destun digynsail adroddiad diwedd blwyddyn 2019/20 mewn perthynas â Storm Dennis a dyfodiad pandemig COVID-19. 

 

Refeniw

2.    Nodi a chytuno ar sefyllfa refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2020 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi y caiff dyraniad cyllid unwaith ac am byth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ei ymgorffori er mwyn cefnogi mesurau gofal ar gyfer y gaeaf a gofal brys newydd ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.

3.    Nodi effaith ariannol Storm Dennis, sydd wedi'i ymgorffori yn y sefyllfa diwedd blwyddyn 2019/20.

 

Cyfalaf

4.    Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31 Mawrth 2020 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

5.    Nodi manylion y Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 31 Mawrth 2020 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

6.    Nodi'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ynghylch y cynnydd mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol cytûn (Adrannau 5a–d o'r Crynodeb Gweithredol), Mesurau Cenedlaethol Eraill (Adran 5e o'r  ...  view the full Cofnodion text for item 140.

141.

Y diweddaraf ynglŷn â Covid-19 yn Rhondda Cynon Taf - Cynlluniau Adfer pdf icon PDF 341 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am y camau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd o ganlyniad i argyfwng cenedlaethol COVID-19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad i'r Cabinet yngl?n â'r camau a gymerwyd gan y Cyngor o ganlyniad i argyfwng cenedlaethol COVID 19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y byddai'r Cyngor yn parhau i asesu risgiau er mwyn gwneud cynnydd araf a ddiogel, yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at Adran 5 yr adroddiad, lle mae rhestr o'r meysydd gwasanaeth arfaethedig y mae disgwyl iddyn nhw agor yn ystod y 6-8 wythnos nesaf.

 

Yna cyfeiriwyd yr Aelodau at Atodiad A yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cynlluniau adfer gwasanaeth manwl ar gyfer pob un o Wasanaethau'r Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr wybodaeth yn cael ei datblygu ymhellach er mwyn helpu i lunio cynlluniau gweithredu blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020/21 yn ogystal â sicrhau bod y Cyngor yn bodloni'r gofynion adrodd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran ar y cyfle i ddiolch i'r Cabinet am y gefnogaeth a roddwyd i'r sector Gofal Cymdeithasol yn ystod y pandemig.

 

Yn gyntaf, manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i holl staff y Cyngor, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen, am eu gwaith trwy gydol y pandemig.

 

Nododd yr Arweinydd fod y mwyafrif helaeth o wasanaethau'r Cyngor wedi parhau i weithio trwy gydol y pandemig, ond eu bod wedi gwneud hynny mewn ffordd wahanol, megis hybiau gofal plant brys a grantiau busnes. Gan edrych i'r dyfodol, nododd yr Arweinydd y gallai llawer o wasanaethau'r Cyngor edrych yn wahanol, p'un a yw hynny dros dro oherwydd y firws, neu oherwydd bod y cyfnod wedi dangos bod modd i wasanaethau weithio'n wahanol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau’r Arweinydd a diolchodd i staff y Cyngor am eu cyfraniad ar adeg mor ofnadwy. Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau yngl?n â'r angen i barhau i ddarparu cyngor i'r gymuned, yn enwedig ar faterion fel ymgasglu yn grwpiau bach. Soniodd y Dirprwy Arweinydd am y cynnig i gynyddu nifer y galarwyr mewn angladdau ac amlosgiadau, gan nodi y byddai'n hanfodol i deuluoedd. Wrth sôn am y gefnogaeth gymunedol sylweddol a ddangoswyd ar yr adegau anodd yma, ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai angen adeiladu arno wrth edrych i'r dyfodol.

 

Estynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ei chanmoliaeth i bob adran yn ystod y pandemig a diolchodd i'r garfan addysg am y gwaith enfawr a wnaed i ddarparu arweiniad i ysgolion.

 

Estynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ei diolch i'r swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd yn falch o nodi y byddai'r gwasanaeth seibiant yn ailddechrau, gan nodi ei fod yn hanfodol o ran cadw teuluoedd gyda'i gilydd a chadw plant allan o wasanaethau statudol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod y Cynlluniau Adfer Gwasanaethau cryno a chymeradwyo'r ffordd arfaethedig ymlaen;

2.    Trafod y rhestr o wasanaethau mae'r Cyngor yn bwriadu eu hailagor, yn llawn neu'n rhannol, dros y 6 -  ...  view the full Cofnodion text for item 141.

142.

Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

143.

Y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol – Diweddariad Interim 2018-2023

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet am y cynnydd yn erbyn themâu allweddol y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23. 

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n cynnwys Gwybodaeth Eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth yngl?n â materion ariannol unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Derbyn adroddiad pellach gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn dilyn adolygiad llawn o asedau adeiledig y Cyngor i sicrhau'r defnydd gorau posibl ohonyn nhw ar sail ein hanghenion gwasanaeth diwygiedig ar gyfer y dyfodol.