Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch: 1. Mae gofyn i aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2020 yn rhai cywir.
|
|
Rhaglen Waith Y Cabinet PDF 120 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn rhan o'r rhaglen waith 3 mis.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ddrafft o'r rhaglen waith tri mis ar gyfer Blwyddyn Estynedig y Cyngor 2019-20, gan gymryd y caiff Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ei gynnal ym mis Medi 2020. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y rhaglen waith yn amlinellu'r diweddariadau parhaus o ran ymateb y Cyngor i Covid-19, ac eglurodd y byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Gorffennaf 2020.
Gofynnodd yr Arweinydd a fyddai modd ychwanegu dau adroddiad ynghylch y llifogydd yn RhCT at y rhaglen waith er mwyn eu trafod yn y dyfodol.
Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y rhaglen, gan nodi y byddai angen iddi hi fod yn hyblyg o gofio'r sefyllfa sydd ohoni.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cymeradwyo Rhaglen Waith y Cabinet ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-20 a derbyn diweddariad pellach fesul tri mis. Cymeradwyo'r Rhaglen Waith estynedig ar gyfer cyfnod Mehefin-Awst 2019-2020 (gyda diwygiadau addas lle bo hynny'n angenrheidiol) a derbyn diweddariad fesul tri mis; a 2. Derbyn adroddiad dros dro yngl?n â llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'r gofynion adrodd statudol o ran llifogydd, a gaiff eu trafod ar adeg arall.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar yngl?n â'r cynnig i aildrefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cymorth Dysgu (DCD) prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT).
Cofnodion: Darparodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybodaeth i'r Aelodau am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar yngl?n â'r cynnig i aildrefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cymorth Dysgu (DCD) prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). Eglurwyd fod argyfwng Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar allu'r Cyngor i gynnal ymgynghoriad ar y mater dan sylw, ac felly, cafodd dull gweithredu mwy hyblyg ei gynnig. Cynigiodd y Cyfarwyddwr y dylid arallgyfeirio'r cyllid er mwyn sefydlu darpariaeth amgen mewn pedair ysgol wahanol, a hynny er mwyn diwallu anghenion y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed o'r gymuned leol.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn falch o gefnogi'r cynnig o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, a nododd y byddai'n cefnogi dysgwyr agored i niwed mewn ysgolion prif ffrwd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet hefyd yn falch o nodi y byddai'r cynnig yn sicrhau bod darpariaeth ym mhob ardal yn RhCT tra hefyd yn rhoi cyfle i bob ysgol wneud cais. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i nodi yr hoffai hi weld ysgolion yn cyflwyno ceisiadau ar y cyd, a fyddai'n golygu bod modd ymestyn y cyllid yma, sydd er budd disgyblion agored i niwed, ymhellach.
Yn dilyn cwestiwn yngl?n â pha gymorth a gaiff ysgolion wrth wneud cais, eglurodd y Cyfarwyddwr fod proses drylwyr ar waith eisoes, a bydd hon yn destun gwaith pellach. Eglurwyd y byddai angen i ysgolion gyflwyno achos busnes manwl, gydag elfen o gyllid cyfatebol, ac y byddai hwn yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod e'n bodloni'r meini prawf.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi'r wybodaeth oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad; 2. Anwybyddu'r broses ymgynghori wreiddiol o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19 a'r effaith ar ddarpariaeth addysgol statudol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy; 3. Bwrw ymlaen â chynllun i ddarparu cyllid am ddwy flynedd i dair ysgol uwchradd Saesneg er mwyn sefydlu darpariaeth i ddysgwyr sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Bryncelynnog, Ysgol Gymuned Glynrhedynog ac Ysgol Aberpennar; 4. Bwrw ymlaen â chynnig diwygiedig i ddarparu cyllid am ddwy flynedd er mwyn sefydlu darpariaeth uwchradd Cymraeg ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gartholwg.
|
|
Derbyn adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n ceisio cymeradwyaeth mewn egwyddor gan y Cabinet i ymestyn ac amrywio dau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod i ben ar 30 Medi 2020.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol at y ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf, a nododd fod disgwyl iddyn nhw ddod i ben ar 30 Medi 2020. Ceisiodd y Cyfarwyddwr gefnogaeth y Cabinet er mwyn ymestyn y gorchmynion yma mewn egwyddor, yn ogystal â galluogi swyddogion i gyhoeddi'r gorchmynion arfaethedig a chynnal ymgynghoriadau yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn ôl yr angen.
Er gwaethaf cyflwyno'r Gorchmynion yma yn 2017, eglurodd y Cyfarwyddwr fod nifer fach o berchnogion yn dal i beidio â chodi baw eu c?n na'u cadw nhw dan reolaeth. Mae hyn yn dangos fod gwir angen ymestyn y Gorchmynion yma, a fyddai fel arall yn dod i ben ar 30 Medi 2020. Bwriad hyn yw dal ati i sicrhau'r effaith gadarnhaol y mae'r gorchmynion wedi'i chael o ran materion baw c?n.
Nododd y Cyfarwyddwr nad oedd y cynnig yn cynnwys unrhyw amrywiadau sylweddol, ac eithrio ymestyn y gorchymyn fel ei fod hefyd ar waith mewn nifer o leoliadau sydd dan ofal Cynghorau Cymuned - a hynny ar eu cais nhw.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth yn falch o gefnogi'r estyniad, gan nodi bod llawi o faw c?n ar y stryd ers penderfyniad y Cabinet yn 2017. Cafodd hyn ei nodi mewn Adroddiad Archwilio Allanol diweddar.
Nododd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol ei fod e hefyd yn cefnogi'r cynigion, gan ddweud bod baw c?n yn fater y mae trigolion yn ei godi'n aml, a bod nifer fach o bobl yn dal i anwybyddu'r rheolau.
Nododd y Dirprwy Arweinydd fod hwn yn gyfle i ymgynghori â'r Cynghorau Cymuned a mynd i'r afael ag unrhyw anghysondebau o ran y gorchmynion. Nododd hefyd fod angen i'r rheiny sy'n gyfrifol am brydlesi caeau chwaraeon i ddarparu arwyddion priodol ar gyfer y cyhoedd.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cymeradwyo, mewn egwyddor, y cynnig i ymestyn ac amrywio'r ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar fesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf am dair blynedd arall o 1 Hydref 2020, yn y ffurflen a nodir yn Atodiad B1 a B2 o'r adroddiad; 2. Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi'r gorchmynion arfaethedig a chynnal ymgynghoriad yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014; a 3. Derbyn adroddiad pellach yn manylu ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac unrhyw argymhellion ar gyfer diwygiadau i'r gorchmynion arfaethedig.
|
|
Prosiectau Isadeiledd y Cyngor - Cefnogi'r Economi Leol yn ystod y Coronafeirws PDF 227 KB Derbyn adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Ffyniant a Datblygu, Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor a Chyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Rheng Flaen. Mae'r adroddiad yma'n rhannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod prosiectau isadeiledd ac adeiladu allweddol yn parhau i gael eu cyflawni mewn modd diogel yn ystod pandemig COVID 19, a hynny er mwyn cefnogi busnesau a'r economi leol.
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod prosiectau isadeiledd ac adeiladu allweddol yn parhau i gael eu cyflawni mewn modd diogel yn ystod pandemig COVID 19, a hynny er mwyn cefnogi busnesau a'r economi leol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwasanaethau ym mhob rhan o'r Cyngor wedi dal ati i ganolbwyntio ar ddatblygu a chyflawni prosiectau buddsoddi allweddol yn ystod y pandemig. Tynnodd sylw'r Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad, lle'r oedd rhestr gynhwysfawr wedi'i hamlinellu. Roedd hyn yn cynnwys prosiectau ym meysydd priffyrdd, adfywio ac addysg, a gwaith hanfodol ar adeiladau, yn ogystal â'r rhaglen amrywiool o ran tai cymdeithasol, a ddatblygwyd ar y cyd â phartneriaid RSL. Eglurwyd bod y prosiectau werth mwy na £200 miliwn, a'u bod wedi cefnogi mwy na 200 o swyddi, yn ogystal â sicrhau llawer yn rhagor wrth i'r prosiectau fynd rhagddynt a thrwy gadwyni cyflenwi.
Yn ogystal â'r prosiectau cyfredol sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad dan sylw, dywedodd y Cadeirydd y byddai adroddiad pellach, sy'n manylu ar brosiectau allweddol, yn dod gerbron y Cabinet yn y dyfodol.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am gyflwyno'r adroddiad, a chyfeiriodd at Raglen Gyfalaf gynhwysfawr y Cyngor, a fydd yn helpu'r economi leol i symud ymlaen yn dilyn y pandemig. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y sgyrsiau yngl?n â chyhoeddiad Llywodraeth San Steffan y byddai'n darparu pecyn ysgogi dros y misoedd nesaf, a nododd y byddai ychwanegu at Raglen Cyfalaf RhCT yn hollbwysig.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai ar y cyfle i ddiolch i swyddogion a busnesau am gydweithio i gyflawni'r prosiectau yma. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet yr adroddiad, gan nodi bod y dull gweithredu ar draws awdurdodau'n hollbwysig er mwyn cynnal swyddi ar hyn o bryd.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Trafod yr wybodaeth a ddarparwyd a nodi'r camau a gymerwyd hyd yma er mwyn dal ati i gyflawni prosiectau isadeiledd ac adfywio gwerth £200 miliwn allweddol, gan gynnal mwy na 200 o swyddi, yn ystod pandemig COVID 19; a 2. Y caiff adroddiad pellach ei gyflwyno i'r Cabinet nesaf, sy'n amlinellu'r camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a phartneriaid yn y sector preifat, er mwyn lleihau effaith economaidd COVID-19 ar yr economi leol a rhanbarthol.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, gan rannu'r newyddion diweddaraf â'r Cabinet mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i helpu ein cymuned i gynnal pellter cymdeithasol diogel wrth ymweld â'n canol trefi a'n parciau yn ystod pandemig cyfredol COVID 19.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad i'r Cabinet mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i helpu ein cymuned i gynnal pellter cymdeithasol diogel wrth ymweld â'n canol trefi a'n parciau yn ystod pandemig cyfredol COVID 19.
Nododd y Cyfarwyddwr fod cwymp sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â chanol trefi pan roddwyd y cyfyngiadau symud ar waith. Serch hynny, mae'r nifer yma wedi cynyddu'n raddol dros yr wythnosau diwethaf.
Tynnodd sylw'r Aelodau at adran 5 yr adroddiad, sy'n amlinellu'r cynnydd hyd yma yn ogystal â'r dull 'arwyddion a llinellau' y mae'r Cyngor wedi'i roi ar waith er mwyn sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol diogel mewn mannau cyhoeddus.
(Nodwch: Ar y pwynt yma, ymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y cyfarfod ar-lein)
Cyfeiriodd yr Arweinydd at y newid diweddar i'r rheol 2 fetr yn Lloegr, a nododd y byddai angen i awdurdodau lleol gael gwybod am unrhyw newidiadau tebyg gan Lywodraeth Cymru mewn da bryd fel bod modd diwygio'r arwyddion yn ôl yr angen. O ran effaith ariannol creu arwyddion newydd ar y Cyngor, dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Cyngor yn hawlio arian gan gynllun cymorth Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai i'r swyddogion am eu gwaith o ran sicrhau bod canol y trefi'n ddiogel fel bod modd i'r cyhoedd ymweld â busnesau wrth iddyn nhw ddechrau ailagor. Roedd yr Aelod o'r farn fod y dull gweithredu'n ymarferol, a nododd y byddai angen monitro canol trefi wrth i'r sefyllfa ddal ati i newid. Holodd yr Aelod o'r Cabinet p'un a gafwyd unrhyw adborth gan fasnachwyr lleol ar ôl iddyn nhw ailagor yn ddiweddar. Dywedwyd wrtho fod y diwrnod cyntaf pan ailagorodd y busnesau wedi bod yn brysur, ond bod pethau wedi dechrau tawelu erbyn hyn. Dywedodd y cyfarwyddwr y byddai adroddiad adborth mwy manwl yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Trafod yr wybodaeth a ddarparwyd a nodi'r camau a gymerwyd hyd yma o ran ymateb i bandemig COVID-19; 2. Y byddai'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Materion Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen yn cadw golwg ar y sefyllfa'n gyson er mwyn sicrhau bod canol ein trefi a mannau cyhoeddus yn ddigon diogel, yn ogystal â chyflwyno mesurau ychwanegol a/neu fesurau gorfodi yn ôl yr angen, ar y cyd â'r Aelodau perthnasol o'r Cabinet, er mwyn atal ymlediad y Coronafeirws.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf â'r Cabinet mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod modd agor adeiladau'r Cyngor, gan gynnwys ysgolion, i Aelodau, staff, disgyblion a'r cyhoedd mewn modd diogel gan gynnal pellter cymdeithasol diogel a mesurau diogelwch addas eraill yn ystod pandemig cyfredol COVID 19.
Cofnodion: Darparodd Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor y newyddion diweddaraf â'r Cabinet mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod modd agor adeiladau'r Cyngor, gan gynnwys ysgolion i Aelodau, staff, disgyblion a'r cyhoedd mewn modd diogel gan gynnal pellter cymdeithasol diogel a mesurau diogelwch addas eraill yn ystod pandemig cyfredol COVID 19.
Clywodd Aelodau'r Cabinet fod canllawiau cynhwysfawr a phosteri wedi'u llunio er mwyn cefnogi'r gwaith o ailagor ysgolion ac adeiladau cyhoeddus yn unol â'r rheoliadau, a bod staff wedi derbyn copïau mewn e-bost. Mae'r canllawiau a'r posteri yma hefyd ar gael ar wefan RCT Source.
Nododd y Cyfarwyddwr fod holl adeiladau'r Cyngor wedi bod yn destun arolwg er mwyn nodi'r nifer uchaf o bobl y mae modd iddyn nhw eu dal, ac mae pecynnau Covid-19 priodol, sy'n cynnwys arwyddion, tâp diogelwch, biniau, diheintydd a sgriniau diogelwch. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i egluro bod offer gwirio tymheredd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn rhai o adeiladau'r Cyngor, ac ysgolion, ar gyfnod prawf. Os yw'r cyfnod praw yma'n llwyddiannus, yna bydd hyn yn fesur ychwanegol a gaiff ei ddefnyddio i atal ymlediad y feirws.
Daeth y Cyfarwyddwr â'r sgwrs i ben drwy nodi bod RhCT mewn sefyllfa dda i ailagor ei adeiladau wrth i'r cyfyngiadau lacio. Serch hynny, nododd ei bod hi'n anochel y byddai angen i ysgolion a gwasanaethau unigol addasu'u canllawiau er mwyn diwallu'u hanghenion penodol nhw, yn dibynnu ar yr adeilad dan sylw.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yn awyddus i ddiolch i'r garfan Eiddo Corfforaethol a'r athrawon am eu gwaith sylweddol wrth ymgyfarwyddo â'r drefn newydd yma. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai angen adolygu'r cynnydd o ran gweithio hyblyg a'i gynnwys yn rhan amlwg o gynlluniau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Trafod yr wybodaeth a ddarparwyd a nodi'r camau a gymerwyd hyd yma o ran ymateb i bandemig COVID-19; 2. Y byddai'r Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn monitro'r sefyllfa'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr ysgolion y gwasanaethau a'r swyddfeydd sy'n ailagor yn ddiogel ar gyfer staff, disgyblion a'r cyhoedd, a chyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol/mesurau gorfodi ar y cyd â'r Aelodau perthnasol o'r Cabinet er mwyn atal ymlediad y Coronafeirws.
|
|
Goblygiadau Ariannol Covid-19 PDF 112 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, gan gyflwyno asesiad cychwynnol o'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig ag argyfwng Covid-19 ar gyfer y Cyngor.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol adroddiad sy'n cyflwyno asesiad cychwynnol o'r goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig ag argyfwng Covid-19 ar gyfer y Cyngor.
Nododd y Cyfarwyddwr fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynnal arolwg gyda'r bwriad o amcangyfrif effaith ariannol y feirws ar y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru rhwng Ebrill a Mehefin 2020. Roedd yr arolwg yn amcangyfrif mai'r gost ar gyfer Cymru gyfan yw £185 miliwn, a'r gost ar gyfer RhCT yw £13.6 miliwn.
Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at adran 5.4 yr adroddiad, sy'n rhestru nifer o gostau newydd y mae'r Cyngor yn cadw golwg arnyn nhw. Eglurodd y Cyfarwyddwr y byddai'r gwaith o ragweld yr effaith ariannol y tu hwnt i'r tymor byr yn dibynnu ar nifer o ragdybiaethau sy'n newid yn gyson, ond dywedodd ei bod hi'n bwysig i'r Cyngor ddal ati i leihau'r effaith ariannol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o ffrydiau cyllido ar waith er mwyn lleihau'r baich ariannol ar Awdurdodau Lleol, a'i fod wedi dechrau ad-dalu rhywfaint o'r costau ychwanegol.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad, a nododd fod trafodaethau'n dal i gael eu cynnal yngl?n â chyllid gan Lywodraeth Cymru, a bod CLlL yn dal i lobïo Llywodraeth San Steffan am gyllid ariannol. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai hi'n ddoeth cynnal adolygiad canol blwyddyn o'r gyllideb er mwyn sicrhau bod rhywfaint o gyllid wrth gefn os nad yw'r Cyngor yn derbyn yr holl arian yn ôl, a phwysleisiodd ei bod hi'n bwysig i bob maes gwasanaeth nodi lle mae modd arbed arian dros y misoedd nesaf.
Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol â sylwadau'r Arweinydd, gan nodi y caiff Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau Chwarter 4 ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Gorffennaf.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Nodi effaith ariannol Covid-19 ar y Cyngor; 2. Derbyn Adolygiad Canol Blwyddyn o'r Gyllideb ym mis Medi, yn ogystal â Chynllun Ariannol Tymor Canolig diwygiedig a dros dro; 3. Nodi'r trefniadau ar gyfer paratoi ac archwilio'r Datganiad o Gyfrifon ar gyfer 2019/20.
|