Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

121.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda: "Mae fy mhartner yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru".

 

 

122.

Cofnodion pdf icon PDF 125 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 a 20 Chwefror 2020 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Chwefror a 20 Chwefror, 2020 yn rhai cywir.

 

 

123.

Ymateb y Cyngor i argyfwng COVID-19 pdf icon PDF 192 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhannu manylion am ymateb y Cyngor i argyfwng COVID-19 â'r Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, oedd yn rhannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r camau gweithredu y mae'r Cyngor wedi'u cymryd yn rhan o'r ymateb i argyfwng cenedlaethol COVID 19; ynghyd â rhoi cyfle i drafod ailagor gwasanaethau yn y dyfodol, pan fydd cadw pellter cymdeithasol a hunan-ynysu yn rhan o fywyd bob dydd. Yn eu tro, aeth pob swyddog o'r Uwch Garfan Rheoli ati i rannu diweddariad cynhwysfawr mewn perthynas â'r gwaith sydd wedi'i gyflawni yn ei faes gwasanaeth wrth ymateb i'r pandemig.

 

Manteisiodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ar y cyfle i ddiolch i staff, sydd wedi bod yn arbennig wrth gefnogi'r bobl hynny yn RhCT sy'n agored i niwed ac sy'n parhau i weithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod sefyllfa'r Cyngor wedi dod yn fwy sefydlog, ond mae wedi tynnu sylw at y pwysau sydd ar y Gwasanaethau i Blant yn sgil cynnydd yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal a'r pwysau posibl sy'n gysylltiedig â llacio'r Cyfyngiadau Symud, pan fydd nifer o staff yn hunan-ynysu neu'n cael eu gwarchod. O ran Cyfarpar Diogelu Personol a phrofion, esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran bod y Cyngor yn parhau i ddarparu cymorth i'w holl ddarparwyr ac roedd y trefniadau'n gweithio'n dda ar hyn o bryd. Wrth gloi, roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran yn falch o allu cyhoeddi bod y Cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd ym Maesyffynnon wedi agor yn ddiweddar er yr amgylchiadau presennol.

 

Manteisiodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ar y cyfle i estyn diolch i holl Benaethiaid a staff ysgolion am weithio gyda'i gilydd yn ystod y cyfnod anodd yma. Rhoddwyd gwybod bod cynnydd wedi bod yn nifer y dysgwyr sy'n agored i niwed sy'n mynd i'r Hybiau/Canolfannau. Cafodd Aelodau wybod bod 420 o blant wedi defnyddio'r Ddarpariaeth Gofal Plant Brys yn ystod yr wythnos flaenorol, ac roedd 120 ohonyn nhw'n ddysgwyr sy'n agored i niwed. Esboniodd y Cyfarwyddwr bod yr Hybiau/Canolfannau ar agor 7 niwrnod yr wythnos, a byddan nhw'n parhau i fod ar agor yn ystod gwyliau banc a gwyliau hanner tymor, er mwyn cwrdd â'r galw gan weithwyr hanfodol. Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr y bydd 12 hwb ychwanegol yn agor ar 1 Mehefin 2020, o ganlyniad i'r cynnydd yn y galw. Bydd cyfanswm o 25 hwb. O ran darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod pob un o'r 9300 o blant cymwys yn derbyn taliadau uniongyrchol. Yn ogystal â hynny, siaradodd y Cyfarwyddwr am wasanaethau Prydau yn y Gymuned ar gyfer yr henoed. Roedd hyn wedi arwain at 635 o bobl yn mwynhau prydau yn eu cartrefi bob dydd gyda 413 o brydau wedi'u rhewi yn cael eu dosbarthu bob wythnos i unigolion sy'n agored i niwed ac sy'n cael eu gwarchod ac sydd ddim yn gallu coginio ar gyfer nhw'u hunain.

 

Siaradodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu am y trefniadau newydd mewn perthynas â'r priffyrdd wedi'u hailstrwythuro a'r rhaglen glanhau/cynnal a chadw, sydd wedi galluogi'r Cyngor i gynyddu'r lefel o wastraff ac  ...  view the full Cofnodion text for item 123.

124.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn dilyn y diwygiad diweddar sef:

·         Penodi Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y newid i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, a PHENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd; a 

2.    Nodi bod hawl gan Arweinydd y Cyngor i newid y Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau gweithredol unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn; a bod diweddariad o adran 3A yn cael ei gyflwyno i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.