Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
|
|
Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 a 20 Chwefror 2020.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhaglen Waith y Cabinet PDF 118 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2019–20 y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2018/19 PDF 397 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n cyflwyno manylion Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2018/19 y Cyngor |
|
Polisi Caffael – Cyfrifoldeb Cymdeithasol PDF 157 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y 'Polisi Caffael – Cyfrifoldebau Cymdeithasol'.
|
|
Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft Rhondda Cynon Taf PDF 157 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r Strategaeth Dwristiaeth ddrafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf, ac yn argymell bod y Strategaeth yn cael ei chymeradwyo ar gyfer ymarfer ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiad o Fwriad Rhanbarthol Cwm Taf ar gyfer Cefnogi Plant, Pobl Ifainc a Theuluoedd PDF 132 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi bod ers datblygu Datganiad o Fwriad Cwm Taf ar gyfer Plant a Phobl Ifainc: 'Strategaeth Ranbarthol ar y cyd Cwm Taf ar gyfer Cefnogi Plant, Pobl Ifainc a Theuluoedd'.
|
|
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant – Diweddariad 2020 PDF 152 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi bod ers datblygu Datganiad o Fwriad Cwm Taf ar gyfer Plant a Phobl Ifainc: 'Strategaeth Ranbarthol ar y cyd Cwm Taf ar gyfer Cefnogi Plant, Pobl Ifainc a Theuluoedd'.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n amlinellu'r cynigion i newid a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn Rhondda Cynon Taf.
|
|
ADRODDIAD CYFLAWNIAD Y CYNGOR AM Y TRYDYDD CHWARTER PDF 379 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor, yn ariannol ac yn weithredol, yn seiliedig ar naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Rhagfyr 2019).
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
|
|
Cais Theatrau RhCT i Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru 2020 a blaenoriaethau'r dyfodol – Argymhellion Grŵp Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol i'r Cabinet. Roedd y Gr?p wedi trafod adroddiad ar gais arfaethedig Theatrau RhCT i Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru a'r hyn y mae'n bwriadu canolbwyntio arno yn y dyfodol.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.
|