Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Apology for Absence Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol C. Leyshon. |
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Ymrwymiad y Cyngor i Ddarparu Gwasanaethau Cynghori Addysg ar y Cyd yn y Dyfodol PDF 151 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod penderfyniad Cydbwyllgor Consortiwm Canolbarth y De i barhau i ddarparu gwasanaethau cynghori addysg ar y cyd, mewn partneriaeth â'r pedwar cyngor arall yn y rhanbarth, am y tair blynedd nesaf o leiaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant gyflwyniad i'r Cabinet yngl?n â phenderfyniad Cydbwyllgor Consortiwm Canolbarth y De i ystyried gwasanaethau cynghori addysg mewn partneriaeth â'r pedwar cyngor arall yn y rhanbarth am y dair blynedd nesaf o leiaf.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at yr adolygiad annibynnol o'r Consortiwm, a gomisiynwyd gan Bartneriaeth ISOS, gan dynnu sylw'r Aelodau at atodiadau'r adroddiad, lle mae'r adolygiad a'r cynllun gweithredu, sydd bellach wedi'i gytuno gan y Cydbwyllgor, wedi'i amlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod yr adroddiad yn dangos bod cyflawniad addysgol Rhanbarth Canolbarth y De wedi rhagori ar gyflawniad y tri Rhanbarth arall.
Yn ogystal â hynny, clywodd y Cabinet fod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i Bwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc y Cyngor ar 12 Chwefror 2020, ac fod yr Aelodau wedi croesawu'r adolygiad gan ISOS ond hefyd wedi pwysleisio fod angen gwella'r cyfleoedd i swyddogaethau craffu'r awdurdod lleol herio cyflawniad y Consortiwm.
Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau nad oes modd i'r Cyngor dynnu allan o'r gytundeb tan 31 Mawrth 2022.
Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sylwadau cadarnhaol am ganlyniad yr adolygiad, gan gyfeirio at ba mor bwysig yw nodi meysydd i'w gwella. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r adroddiad yn cynnig sefydlogrwydd ar adeg lle mae'r sector addysg yng Nghymru yn wynebu newidiadau sylweddol.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad; a 2. Cefnogi penderfyniad Cydbwyllgor Consortiwm Canolbarth y De i barhau i ddarparu gwasanaethau cynghori addysg ar y cyd, mewn partneriaeth â'r pedwar cyngor arall yn y rhanbarth, am o leiaf tair blynedd.
|
|
Polisi Ffïoedd a Thaliadau'r Cyngor 2020-2021 PDF 662 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet adolygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol, 2020/21, (pob un i'w gweithredu o 1 Ebrill 2020 neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny/oni nodir yn wahanol).
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol adroddiad i'r Aelodau sy'n amlinellu'r diwygiadau arfaethedig i lefelau ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer 2020/21, yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y ffioedd a'r taliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo y mae modd eu cynnwys yn y Strategaeth Gyllideb arfaethedig ar gyfer 2020/21.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod adolygiad y Cabinet o'r ffioedd a'r taliadau yn rhan o drafeniadau cynllunio ariannol Tymor Canolig y Cyngor, a bod cynnig i roi cynnydd safonol o 1.5% ar waith o 1 Ebrill 2020.
Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle roedd crynodeb o'r ffioedd a thaliadau arfaethedig sydd ddim yn ymwneud â'r cynnydd safonol: · Hamdden am Oes - Dim cynnydd · Taliadau Meysydd Parcio - Dim cynnydd; · Ffïoedd chwarae yr haf a'r gaeaf (Clybiau Chwaraeon) - Dim cynnydd; · Prydau Ysgol (Cynradd ac Uwchradd) - Cynnydd o 5c fesul pryd (wedyn dim cynnydd am y ddwy flynedd nesaf, h.y. 2021/22 a 2022/23); · Pryd-ar-glud a Phrydau mewn Canolfannau Oriau Dydd - Cynnydd o 10c fesul pryd; · Lido Pontypridd (ffi defnyddwyr sy'n oedolion) - Cynnydd o 50c fesul cyfnod nodio i oedolyn; · Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - Cynnydd o £1 fesul tocyn mynediad i oedolion a thocyn teulu ar gyfer Taith Pyllau Glo Cymru (y daith danddaearol), ac i safoni'r ffi 'dim mynediad' i oedolion a phlant ar gyfer Ogof Siôn Corn hyd at £10
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth at gynnydd y pris i oedolion sy'n defnyddio'r Lido, gan nodi fod trigolion wedi ymateb yn gadarnhaol i hyn yn yr ymgynghoriad.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cymeradwyo'r lefelau diwygiedig arfaethedig ar gyfer holl ffioedd a thaliadau'r Cyngor fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 5 o'r adroddiad ac sydd wedi'u nodi yn Atodiad 1 o'r adroddiad; 2. Ymgorffori'r effaith gyllidebol net (£2 fil ar gyfer 2020/21) i gynigion y strategaeth gyllideb i'w hystyried gan y Cabinet a'r Cyngor fel y bo'n briodol. 3. Nodi'r ffioedd a'r taliadau sydd wedi'u cymeradwyo eisoes ac wedi'u cynnwys yn strategaeth gyllideb arfaethedig 2020/21.
|
|
Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2020/21 PDF 115 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi'r cyfle i'r Cabinet drafod strategaeth gyllideb ddrafft y bydden nhw'n dymuno ei chyflwyno i'r Cyngor, a'i diwygio yn ôl yr angen.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ganlyniadau ail gam yr ymgynghoriad ar y Gyllideb i'r Cabinet er mwyn i'r Aelodau ystyried a diwygio'r strategaeth gyllideb ddrafft yr hoffent ei hargymell i'r Cyngor yn y cyfarfod ar 4 Mawrth 2020.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, er bod yr hinsawdd ariannol yn parhau i fod yn her, hyd yma, mae'r Cyngor wedi cyflawni cyllidebau cytbwys o flwyddyn i flwyddyn, a hynny ochr yn ochr â rhaglen fuddsoddi gadarn, sy'n cefnogi blaenoriaethau allweddol.
Gan ystyried effaith Storm Dennis a'r dinistr a achoswyd yn RhCT o ganlyniad i'r llifogydd, gofynnwyd i'r Aelodau awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol i ddiwygio adroddiad strategaeth y gyllideb er mwyn adlewyrchu effaith y dyraniad o £1 miliwn o Gronfeydd Cyffredinol y Cyngor mewn ymateb i Storm Dennis.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r garfan ariannol drylwyr, yr oedd hi'n ei ystyried yn ased i RhCT, a'r staff a oedd wedi parhau i weithio’n galed. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o 2.85% ar gyfer 2020/21, yn sefydlog o ystyried y pwysau ariannol parhaus, a'i fod yn isel o'i gymharu â'r rhai sydd wedi’u cynnig mewn awdurdodau lleol cyfagos.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i siarad am yr erchyllterau a achoswyd gan Storm Dennis yn y cymunedau lleol a chanmolodd y trigolion am y gefnogaeth y maent wedi'i rhoi i'w gilydd. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn hapus i gefnogi’r argymhelliad ychwanegol, gan nodi y byddai’r taliad yn helpu trigolion a busnesau ar adeg mor anodd.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol hefyd yn hapus i gefnogi’r argymhelliad ychwanegol a nododd, er bod Swyddfa Archwilio Cymru yn argymell bod y Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol yn parhau i fod yn uwch na’r isafswm o £10 miliwn, y dylai'r arian gael ei ddefnyddio mewn argyfwng - fel yw'r achos ar hyn o bryd.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Argymell y Strategaeth Gyllideb i'r Cyngor ar 4 Mawrth 2020; 2. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol i newid lefel y cyfraniad o'r Gronfa Cynllunio Ariannol Tymor Canolig a Thrawsnewid Gwasanaeth, o ganlyniad i unrhyw newid i lefelau adnoddau'r Cyngor a gyhoeddwyd yn y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol; a Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol i ddiwygio adroddiad strategaeth y gyllideb i adlewyrchu effaith y dyraniad o £1 miliwn o'r Cronfeydd Wrth Gefn C |
|
Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2020/21-2022/23 PDF 290 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet raglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2020/21 hyd at 2022/23, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol y Rhaglen Gyfalaf tair blynedd arfaethedig ar gyfer 2020/21 i 2022/23 i'r Cabinet.
Dywedodd y Cyfarwyddwr bod y rhaglen tair blynedd arfaethedig yn cynrychioli buddsoddiad o £131.772 miliwn ar y cyfan ac mae'n cynnwys: · Rhaglen graidd o £42.300 miliwn dros y tair blynedd nesaf; · Benthyca darbodus ar gyfer swm o £20.249 miliwn i gefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Datblygiad Llys Cadwyn a gwelliannau i'r priffyrdd; · £16.819 miliwn o grantiau penodol; · £29.223 miliwn o gronfeydd wrth gefn a chyfraniadau cyllid wedi'u clustnodi a oedd wedi'u dyrannu i gynlluniau a blaenoriaethau buddsoddi; · Derbyniadau cyfalaf, yn ychwanegol at y dyraniad craidd tair blynedd, o £10.283 miliwn; a · Cronfeydd wrth gefn ychwanegol wedi'u clustnodi gwerth £1.658 miliwn a benthyca darbodus ychwanegol gwerth £7.500 miliwn i ariannu blaenoriaethau buddsoddi, ynghyd â cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru gwerth £2.692 miliwn.
O ran y cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi gwerth £1.658 miliwn, sy'n creu cyfanswm o £11.850 miliwn ynghyd â'r benthyca darbodus, soniodd y Cyfarwyddwr am y cyfleoedd buddsoddi amrywiol ar gyfer isadeiledd, a fyddai'n cefnogi blaenoriaethau newydd y Cynllun Corfforaethol.
Siaradodd yr aelodau'n gadarnhaol am yr adroddiad, gan wneud sylwadau ar fuddsoddiadau blaenorol RhCT a'r uchelgais ar gyfer buddsoddi pellach.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cynnig y rhaglen gyfalaf tair blynedd sy'n cael ei chynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad i'r Cyngor ar 4 Mawrth 2020 sy'n cynnwys: · Adolygiad a rhyddhau arfaethedig o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi fel sy'n cael eu manylu ym mharagraff 5.3 o'r adroddiad sydd ynghlwm; · Blaenoriaethau buddsoddi arfaethedig fel ym mharagraff 6.2 yr adroddiad atodedig; · Rhaglen gyfalaf graidd y Cyngor ; · Cyfanswm rhaglen gyfalaf y Cyngor, gan gynnwys cyllid ychwanegol sydd ddim yn gyllid craidd.
2. Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol i ddiwygio lefel adnoddau'r Cyngor sydd ei hangen i ariannu'r Rhaglen Gyfalaf Graidd Tair Blynedd yn Atodiad 2, o ganlyniad i unrhyw newid yn lefelau adnoddau cyfalaf y Cyngor a gaiff ei ddatgan yn y Setliad Llywodraeth Leol terfynol
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
|
|
Caffael yr hen Neuadd Bingo, Pontypridd Derbynadroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd rhydd-ddaliad yr eiddo presennol yn 79-85 Stryd Fawr a 75-77 Stryd Fawr, Pontypridd, sef yr hen Neuadd Bingo.
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD: 1. Caffael budd rhydd-ddaliadol adeilad yr hen Neuadd Bingo a Chlwb Nos Angharad's ar Stryd Fawr, Pontypridd, ar bris cytunedig ynghyd â TAW, ffïoedd a Threth Trafodiadau Tir; 2. Nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £1.540 miliwn o gyllid Buddsoddi Adfywio wedi'i Dargedu (TRI) tuag at gyfanswm y costau. Mae telerau ac amodau manwl y cyllid hwn yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru; 3. Derbyn y cynnig o £1.540 miliwn o gyllid Buddsoddi Adfywio wedi'i Dargedu gan Llywodraeth Cymru tuag at gaffael, ffioedd cysylltiedig a chostau dymchwel adeilad yr hen Neuadd Bingo a Chlwb Nos Angharad's ar Stryd Fawr, Pontypridd. 4. Derbyn adroddiad ar y cyd pellach gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a'r Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu ar ddymchwel ac ailddatblygu'r safle.
|