Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

103.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

104.

Cofnodion pdf icon PDF 135 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 yn rhai cywir.

 

105.

Newid i Drefn yr Agenda

Cofnodion:

Cytunodd y Cabinet y byddai'r agenda yn cael ei thrafod mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

 

106.

Trafod swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd pdf icon PDF 228 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod y cyllid a'r broses ddilynol mewn perthynas â chyflogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd mewn chwe ysgol uwchradd/ysgol pob oed er mwyn mynd i'r afael â phresenoldeb mewn ysgolion.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad i'r Cabinet, a oedd yn gofyn am drafod cyllid ar gyfer cyflogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd mewn chwe ysgol uwchradd/ysgol bob oed er mwyn mynd i'r afael â phresenoldeb mewn ysgolion.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Aelodau y bu dirywiad ym mhresenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn RhCT yn ystod y flwyddyn academaidd 2018/19, a bu RhCT yn yr 22ain safle yn nhabl presenoldeb Cymru Gyfan.  Yn hynny o beth, er mwyn sicrhau bod y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed yn cael cymorth, cafodd model arfer gorau ei nodi o fewn yr ysgolion cynradd. Y gred oedd bod hwn o fudd wrth gynnal presenoldeb yn ogystal â ffurfio a gwella perthynas â rhieni yn y lleoliadau a oedd yn cyflawni waethaf.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle'r oedd y cynnig o ran cyflogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd wedi'i amlinellu. Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried peilota gosod Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn yr ysgolion canlynol sy'n tangyflawni:

·         Ysgol Gymuned y Porth (Coch)

·         Ysgol Gymunedol Aberdâr (Coch)

·         Ysgol Gyfun Aberpennar (Oren)

·         Ysgol Gymuned Glynrhedynog (Oren)

·         Ysgol Gymuned Tonyrefail (Melyn)

·         Ysgol Nantgwyn (Melyn)

 

Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei chefnogaeth i'r cynnig a soniodd am Ysgol Gynradd Gymunedol Glen-boi, lle'r oedd rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi gweithio'n dda iawn i ennyn diddordeb teuluoedd a gwella presenoldeb.

 

Gwnaeth yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd sylwadau cadarnhaol am y cynnig a chytunon nhw fod angen rhannu arfer da gan fod cefnogi teuluoedd yn hanfodol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Ariannu a chyflogi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd mewn chwe ysgol uwchradd / ysgol bob oed i helpu i wella presenoldeb.

 

 

107.

Canlyniadau Arholiadau Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 a Chategorïau Ysgolion Cynradd ac Uwchradd ar gyfer 2019/20 pdf icon PDF 173 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sy'n cadarnhau canlyniadau arholiadau Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 yn 2018/19, a chategorïau Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn ôl system gategoreiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant gadarnhad terfynol i'r Cabinet o ran canlyniadau arholiadau Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 yn 2018/19, a chategorïau Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn ôl system gategoreiddio Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20. Cyn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod am gamgymeriad yn ei hadroddiad, gan gadarnhau fod y data yn derfynol, a ddim yn ddata dros dro.

 

Aeth y Cyfarwyddwr yn ei blaen i roi trosolwg o'r canlyniadau, gan ddod i'r casgliad bod y deilliannau o ran categorïau'r ysgolion ar y cyfan yn awgrymu gwelliant yn nifer yr ysgolion cynradd sydd angen cymorth 'gwyrdd' a 'choch', a bod y categoreiddio o ran ysgolion uwchradd yn parhau'n gyson. Serch hynny, cafodd yr Aelodau wybod ei bod yn anodd gwneud cymariaethau ystyriol rhwng 2018 a 2019 oherwydd bod deilliannau 2019 yn cynnwys data 'dyfarniad cyntaf' yn unig.

 

Nododd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru ddim yn darparu data yngl?n â chyflawniadau dysgwyr yn y meysydd canlynol bellach, er mwyn symud oddi wrth fesuriadau trothwy: pynciau unigol, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen neu Genedlaethol, mesuriadau cyflawniad trothwy, sef Dangosydd Pynciau Craidd neu Drothwy Lefel 2.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cadarn. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod y Cyngor yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn rhoi mesurau yn eu lle i wella cyflawniad lle y bo'n bosibl, er bod amddifadedd yn effeithio ar gyflawniad addysgol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Nodi'r camau a gymerwyd hyd yma a'r ymyrraeth a gynlluniwyd yn y dyfodol gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant mewn partneriaeth â Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De i gefnogi ysgolion sydd wedi'u categoreiddio ar hyn o bryd yn ambr a choch.

 

 

108.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn dilyn y diwygiad diweddar:

·         Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Hughes wedi'i benodi i Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y newid i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, a PHENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd; a 

2.    Nodi bod hawl gan Arweinydd y Cyngor i newid y Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau gweithredol unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn; a bod diweddariad o adran 3A yn cael ei gyflwyno i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser y cyfarfod.)

 

109.

Argymhellion Grŵp Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd pdf icon PDF 128 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, ar ôl iddo gwrdd ar 28 Ionawr 2020 i drafod adroddiad yngl?n â'r Polisi Rheoli Glaswellt Blodau Gwyllt Drafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac adroddiad yngl?n â'r camau y mae modd eu cymryd yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd i'r Cabinet, yn dilyn ei gyfarfod ar 28 Ionawr 2020. Yno, trafodwyd adroddiad yngl?n â'r Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog Drafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac adroddiad yngl?n â'r camau y mae modd eu cymryd yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

O ran yr adroddiad ar y Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y Gr?p Llywio o blaid y cynigion i gynyddu nifer y safleoedd lle mae blodau gwyllt yn cael eu rheoli a sefydlu gwefan Bioamrywiaeth.

 

O ran yr adroddiad yngl?n ag Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y Gr?p Llywio wedi trafod 'Diwrnod Aer Glân' ar 20 Mehefin 2020. Teimlai'r Gr?p Llywio y byddai cyfranogiad y Cyngor yn y fenter yn hyrwyddo neges gadarnhaol i'w drigolion ond cytunwyd y byddai angen cyfleu'r neges gywir, boed hynny o ran rhannu ceir, beicio i'r gwaith neu blannu coed. Yn ogystal â hynny, roedd y Gr?p Llywio'n argymell bod angen nodi camau gweithredu hyfyw, hirdymor i'w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd y Cyngor i'r Cabinet eu hystyried, yn ogystal â bwrw ymlaen â chamau gweithredu ymarferol, byrdymor.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a'r Gymraeg deimladau'r Gr?p Llywio mewn perthynas â'r adroddiad ar Bolisi Rheoli Glaswellt Blodeuog. Nododd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd annog bioamrywiaeth ond ailadroddodd yr angen i gyfleu i'r cyhoedd nad yw'n ymarfer torri costau.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i siarad am yr adroddiad Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, gan nodi, yn gyffredinol, bod ansawdd aer ar draws RhCT wedi'i reoli'n dda, gyda dim ond un ar bymtheg o ardaloedd bach wedi'u nodi.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ganmol y Gr?p Llywio ar faterion yr Hinsawdd am y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud mewn cyfnod mor fyr.

 

Wrth siarad am y Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog, roedd yr Aelodau'n cydnabod pwysigrwydd arwyddion a chyfathrebu i sicrhau bod trigolion yn deall yr angen am fioamrywiaeth ar draws y Fwrdeistref.

 

PENDERFYNWYD:

1.            Nodi cynnwys y ddau adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 28 Ionawr 2020 ac

2.            Argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd:

               I.        Cymeradwyo Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog Rhondda Cynon Taf

              II.        Parhau i symud ymlaen gyda'r camau gweithredu ymarferol, byrdymor sydd wedi'u nodi yn Nhabl B yr adroddiad Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer;

            III.         O ystyried amgylchiadau lleol cyfredol, bod y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i nodi'r gweithredoedd hyfyw, hirdymor o Dabl B yr adroddiad Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, i'w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor, i'w ystyried gan y Cabinet;

           IV.         Bod y Cyngor yn ceisio ymgysylltu â thrigolion yngl?n â'r Diwrnod Aer Glân, sy'n cael ei gynnal  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Gwneud Gwahaniaeth: Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2020-2024 (Drafft) pdf icon PDF 395 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu drafft o'r Cynllun Corfforaethol newydd 2020-2024 ar gyfer y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddrafft newydd o Gynllun Corfforaethol 2020 - 2024, gan egluro bod y Cynllun drafft yn gosod gweledigaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt dros y pedair blynedd ddilynol.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd dros gyfnod o 12 wythnos, a chyfeiriodd yr Aelodau at atodiad yr adroddiad, lle amlinellwyd yr adborth. Nododd yr Aelodau fod yr adborth yn arbennig o gadarnhaol gyda mandad clir yn cefnogi Gweledigaeth y Cyngor a'r tair blaenoriaeth.

 

Siaradodd yr Arweinydd am ba mor hanfodol yw'r Cynllun Corfforaethol i RCT, gan nodi ei fod yn paentio darlun ledled y sir, gyda'r holl adroddiadau cyllideb yn cyd-fynd ag ef. Roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud bod holl flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol blaenorol y Cyngor wedi'u cyflawni a gofynnodd am ddiolch i'r holl staff am eu cyfranogiad amhrisiadwy.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod a herio'r Cynllun Corfforaethol drafft;

2.    Nodi'r adborth o'r broses ymgynghori;

3.    Cyflwyno'r Cynllun Corfforaethol drafft i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2020.

 

111.

Cydweithio ar yr Uned Trafnidiaeth Integredig pdf icon PDF 165 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Uned Trafnidiaeth Integredig Cynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhondda Cynon Taf, sef prosiect cydweithredol i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau trafnidiaeth ar draws y ddau awdurdod lleol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Rheng-flaen yr adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Uned Trafnidiaeth Integredig Cynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhondda Cynon Taf, sef prosiect cydweithredol i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau trafnidiaeth ar draws y ddau awdurdod lleol.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle'r oedd y cynnig i'w ystyried wedi'i amlinellu, sef dod ag adnoddau ynghyd trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a fyddai'n cael ei oruchwylio gan fwrdd/gr?p llywio ar y cyd.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth na fydd darlun clir ar gael yngl?n â chyflawniad y fenter cydweithredol o'i chymharu a'r cynllun busnes a chyflawni gwreiddiol nes y bydd 12 mis llawn o ddata ar gael.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth y cynnig a nododd y byddai trigolion yn parhau i dderbyn y gwasanaethau gorau, er gwaetha'r gostyngiad o ran cyllid gan y Llywodraeth. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ei bod yn edrych ymlaen at yr adolygiad ymhen 12 mis.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o'r cynnig a nododd fod yr adroddiad yn tystio i barodrwydd y Cyngor i ymgysylltu â'i Awdurdodau Lleol cyfagos i wella'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i drigolion.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Y bydd swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer cyflenwi gwasanaeth trafnidiaeth ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf;

2.    Y bydd adroddiad pellach yn dod gerbron y Cabinet yngl?n â deilliannau'r adolygiad hwnnw yn y dyfodol iddyn nhw ei ystyried yn ffurfiol.

 

 

112.

Cefnogi Busnesau Tref a Manwerthu yn Rhondda Cynon Taf – Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol pdf icon PDF 130 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n darparu canlyniadau'r broses ymgynghori ar Gynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â diweddariad am barhâd Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ac Ardrethi Manwerthu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol i'r Cabinet ganlyniadau'r broses ymgynghori ar Gynllun Lleihau Ardrethi Busnes lleol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â diweddariad am barhad Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ac Ardrethi Manwerthu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y cynnig yn cyflwyno rhyddhad dewisol lleol i'w ddarparu yn ychwanegol at Ryddhad Ardrethi'r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru hyd at uchafswm o £300 i bob busnes cymwys. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Atodiad 3 yr adroddiad, lle'r oedd canlyniadau'r ymgynghoriad wyth wythnos wedi'u hamlinellu.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yn gadarnhaol am yr adroddiad a chroesawodd Cynllun Ryddhad Ardrethi Manwerthu Llywodraeth Cymru, ynghyd â chynnig y Cyngor i gyflwyno rhyddhad dewisol lleol ychwanegol. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn siomedig mai dim ond 26 o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar-lein o'r 485 o fusnesau a fyddai'n elwa o'r gefnogaeth.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 7 yr adroddiad;

2.    Nodi parhad Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ac Ardrethi Manwerthu Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn 2020/21;

3.    Parhau â'r Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes lleol arfaethedig ar gyfer 2020/21.