Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

80.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:-

·      Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Fychan fuddiant personol mewn perthynas ag eitemau 3 ac 11 yr agenda: 'Rwy'n gyn-Ymddiriedolwr y Miwni ac yn Aelod o Fwrdd Artis Community.'

·      Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher fuddiant personol mewn perthynas ag eitemau 3 ac 11 yr agenda: 'Rwy'n Ymddiriedolwr yr YMCA'

 

 

81.

Cofnodion pdf icon PDF 149 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019 yn rhai cywir.

 

82.

Trosglwyddo Ased Cymunedol - Canolfan Gelf y Miwni pdf icon PDF 152 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, yn rhoi diweddariad i Aelodau yngl?n â'r cynnydd o ran trosglwyddo ased cymunedol Canolfan Gelf y Miwni trwy drosglwyddo'r brydles. Bydd y Cabinet hefyd yn derbyn cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ynghylch y gwaith adnewyddu arfaethedig ac adfer yr adeilad.

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar y 18 Mehefin 2019 i fwrw ymlaen â thenantiaeth gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i’r Aelodau, a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd mewn perthynas â throsglwyddo ased cymunedol Canolfan Gelf y Miwni trwy drosglwyddiad prydles. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Aelodau fod Awen wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor i bennu'r anghenion cyfalaf tymor byr sydd eu hangen i ailagor y Miwni ym mis Mehefin 2020, ac unwaith iddyn nhw gael eu nodi, byddai'r anghenion yn cael eu cynnwys yng nghynllun buddsoddi cyfalaf y Cyngor yn y dyfodol.

 

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyflwynodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen y cynigion tymor hir i'r Cabinet ar gyfer adnewyddu ac adfer yr adeilad. Pwysleisiodd Awen werth y diwydiannau creadigol wrth gefnogi'r economi a'r effeithiau cadarnhaol y gallan nhw eu cael ar iechyd a lles.

 

Soniodd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am dreftadaeth yr adeilad a chyfyngiadau'r addurniad mewnol, sydd ddim yn cyd-fynd ag ef. Roedd y cynlluniau tymor hir yn cynnwys adfer y nodweddion mewnol, ynghyd â gwella'r materion capasiti a hygyrchedd ar gyfer actorion ac aelodau o'r gynulleidfa sy'n anabl.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am y cynlluniau uchelgeisiol a thrawiadol, gan nodi bod llawer o waith wedi'i wneud i gynhyrchu'r weledigaeth gyffrous sydd gerbron yr Aelodau. Parhaodd yr Aelod o'r Cabinet trwy ganmol y swyddogion am eu hymrwymiad i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio eto er budd trigolion RhCT. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y buddion o ran lles sy'n deillio o'r Celfyddydau a nododd y byddai'r Eisteddfod yn cael ystyriaeth wrth drafod unrhyw gynigion.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle hefyd i ddiolch i Awen a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y cynlluniau trawiadol a nododd mai'r targed ar gyfer ailagor fyddai mis Mehefin 2020. Siaradodd yr Arweinydd am YMCA Pontypridd a nododd y byddai'r ddau leoliad yn ategu ei gilydd, ac yn cryfhau ei gilydd. Aeth yr Arweinydd ymlaen i siarad am benderfyniad anodd y Cabinet i gau'r adeilad, er mwyn defnyddio'r setliad Llywodraeth Leol llai ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau allweddol eraill i drigolion RhCT, ond roedd yn falch o nodi bod Rhaglen RhCT Gyda'n Gilydd y Cyngor wedi esblygu ers hynny ac wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru fel enghraifft o arfer gorau.

 

Lleisiodd y Dirprwy Arweinydd ei chefnogaeth gan ganmol y weledigaeth, a rhoi sylwadau ar natur agored a thryloyw'r cyflwyniad. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am gyfleusterau eraill y Cyngor yn ardal Pontypridd, megis y bont droed newydd a'r Lido, a theimlai y byddai'r cyfan o fudd i drigolion yr ardal ehangach ac yn dod â thwristiaeth o'r dinasoedd.

 

Gwnaeth Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc sylwadau ar y cysylltiadau trafnidiaeth gwych ym Mhontypridd ac roedd hi'n gobeithio gweld darpariaeth Clwb Ieuenctid Pontypridd yn cael ei chynnwys yn rhaglen y dyfodol.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, ac yntau'n Gadeirydd y  ...  view the full Cofnodion text for item 82.

83.

Rhaglen Waith y Cabinet pdf icon PDF 107 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2019–20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-20 i'r aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried.  Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod defnyddio'r rhaglen yn helpu i gadw'r broses benderfynu yn agored ac yn dryloyw o fewn y Cyngor, yn ogystal â rhoi rhagor o gyfleoedd o ran camau cyn craffu.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad  a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bydd modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai canlyniadau'r ymgynghoriad mewn perthynas â gofal preswyl, fel y cytunwyd yn gynharach gan yr Aelodau yn y cyfarfod, yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith yn y dyfodol.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y rhaglen. PENDERFYNWYD:

1.       Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-20 a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

 

84.

Y Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth – Argymhellion Grŵp Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd pdf icon PDF 116 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno i'r Cabinet argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion Hinsawdd, a oedd wedi trafod adroddiad ar y cynnydd wrth gyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion Hinsawdd, a oedd yn trafod y cynnydd o ran cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd wedi cyfarfod ar 18 Tachwedd 2019, lle derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad, ynghyd ag adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, a oedd yn rhoi diweddariad i'r Aelodau yngl?n â'r cynnydd wrth gyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor. Yn ogystal ag Aelodau a swyddogion allweddol, roedd dau gynrychiolydd allanol yn bresennol o sefydliadau sydd wedi ymgysylltu â'r Cyngor o'r blaen i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

 

Roedd y Gr?p Llywio yn fodlon bod y cynllun gweithredu wedi ceisio mynd i'r afael â'r themâu allweddol a'u monitro a phenderfynwyd argymell i'r Cabinet gyflwyno'r adroddiad i Lywodraeth Cymru.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth i’r swyddog am yr adroddiad a nododd, er bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi cynllun gweithredu ynghylch y Ddyletswydd Bioamrywiaeth, mae ei bwysigrwydd yn amlwg ar draws sawl rhan o’r Cyngor, er enghraifft maes Cynllunio.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am waith Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a dywedodd fod disgwyl i gyfarfodydd gael eu cynnal yn fisol i gadw'r momentwm cadarnhaol.

 

Siaradodd yr Arweinydd am yr angen i fynd ar drywydd cyllid mewn perthynas â phlannu coed a'r gwaith parhaus gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 18 Tachwedd 2019 (Atodiad 1 yr adroddiad) a;

2.    Nodi argymhelliad Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd, sef cytuno i gyflwyno'r adroddiad i Lywodraeth Cymru yngl?n â'r camau a gymerwyd i hyrwyddo'r 'Ddyletswydd Bioamrywiaeth' gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

 

85.

Strategaeth Gyflogaeth pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned sy'n rhoi cyfle i Aelodau'r Cabinet drafod Strategaeth Gyflogaeth Rhondda Cynon Taf a Chynllun Gweithredu 2019-2021.           

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymuned Strategaeth Gyflogaeth Rhondda Cynon Taf a Chynllun Gweithredu arfaethedig ar gyfer 2019-2021 i'r Cabinet.      

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw'r Aelodau at Adran 6 yr adroddiad, lle amlinellwyd y Strategaeth Gyflogaeth a Sgiliau, y cytunwyd arni gan y Gr?p Cyflogaeth Strategol. Nododd yr adroddiad fod 6500 o bobl a oedd yn economaidd anweithgar wedi nodi eu bod eisiau swydd yn 2018/19.

 

Esboniwyd bod cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i wella ffyniant a lleihau anghydraddoldeb. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod pobl yn llai tebygol o fyw mewn tlodi os ydyn nhw mewn cyflogaeth ac os oes modd iddyn nhw gynnal cyflogaeth a dangos cynnydd, a bod modd i ddiweithdra tymor byr gael effaith hir dymor sylweddol ar lesiant a sicrwydd ariannol yr unigolyn.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at y Cynllun Gweithredu, a oedd yn manylu ar y camau y bydd y Cyngor yn eu rhoi ar waith i gyfrannu at gyflawni'r strategaeth.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu wedi cael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad ym mis Tachwedd 2019 a bod yr Aelodau'n cefnogi'r argymhelliad i gymeradwyo eu gweithredu.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr. Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau ar werth y Strategaeth Gyflogaeth, ochr yn ochr â'r Strategaeth Mynd i'r Afael â Thlodi, sy'n allweddol i drigolion RhCT.

 

PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo'r Strategaeth Gyflogaeth a'r Cynllun Gweithredu 2019/21.

 

 

86.

Treialu Cynllun – Gwneud y mwyaf o Fuddion Cymunedol pdf icon PDF 163 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned a Chyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am y gwaith ynghylch gwneud y mwyaf o Fuddion Cymunedol a chyflwyno canfyddiadau treial 6 mis.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i'r Cabinet, yn amlinellu'r gwaith sydd wedi'i wneud i sicrhau bod modd gwneud y mwyaf o Fuddion Cymunedol.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am ddarn cadarn o waith a wnaed gan un o Swyddogion Graddedig y Cyngor i archwilio opsiynau ar gyfer sicrhau'r Buddion Cymunedol mwyaf posibl sy'n deillio o gontractau caffael. Yn dilyn, y darn o waith, cytunwyd i dreialu'r argymhelliad arfaethedig, er mwyn profi parodrwydd tendrwyr i ymrwymo i wneud cyfraniad ariannol i Gronfa Buddsoddi mewn Gwaddol a / neu ymrwymo i fath arall o gyfraniad yn rhan o'u hymateb i Fuddion Cymunedol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle manylwyd ar ganlyniadau cynllun peilot Buddion Cymunedol. Roedd y swyddog yn falch o ddweud wrth yr Aelodau, er bod y dogfennau yn ei gwneud yn glir bod yr ymrwymiad i gyfrannu at y cynllun Buddion Cymunedol yn wirfoddol, roedd y cynigwyr yn barod i gyfrannu.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol i'r Swyddog Graddedig am y darn o waith gwerthfawr ac arloesol. Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar y cyfle hefyd i ddiolch i'r contractwyr am eu cyfraniadau gwerthfawr, a fyddai'n cael eu defnyddio ar gyfer buddion cymunedol ehangach.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo cynnwys Cymalau Buddion Cymunedol ym mhob contract corfforaethol perthnasol. Gallai hyn fod naill ai ar ffurf gwaith uniongyrchol i'w gyflawni yn y gymuned a / neu gyfraniad ariannol at 'gronfa gwaddol';

2.    Cymeradwyo sefydlu 'Cronfa Buddsoddi mewn Gwaddol' a fydd yn derbyn y cyfraniadau ariannol sydd wedi'u cynhyrchu trwy Fuddion Cymunedol i gefnogi gweithgareddau Datblygu Cymunedol ehangach ledled y Fwrdeistref Sirol, yn unol â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor hwn; a         

3.    Ymrwymo i gyflwyno'r adnoddau sy'n angenrheidiol i barhau â'r datblygiadau, a chydlynu a phrif ffrydio'r dull.

 

 

87.

Adolygiad o Ddarpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu i ddisgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) ac Anghenion Dysgu Ychwanegol sylweddol pdf icon PDF 408 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi cyfle i Aelodau ystyried cynigion i sefydlu dosbarthiadau cynnal dysgu ychwanegol yn ysgolion y brif ffrwd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) a sefydlu dosbarthiadau cynnal dysgu cyfrwng Cymraeg i gefnogi disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol sylweddol yn RhCT.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant gynigion  i'r Cabinet ar gyfer sefydlu dosbarthiadau cynnal dysgu ychwanegol yn ysgolion y brif ffrwd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol, a sefydlu dosbarthiadau cynnal dysgu cyfrwng Cymraeg i gefnogi disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol sylweddol yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod Adran 315 o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Lleol gynnal adolygiadau rheolaidd o'r trefniadau sy'n cefnogi pobl sydd ag AAA, yn ogystal â sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol ac yn diwallu anghenion y gymuned.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod y bydd y cynnig yma i gael Dosbarthiadau Cynnal Dysgu ychwanegol yn sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd cynhwysiant mwy effeithiol mewn ysgolion prif ffrwd ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol a disgyblion cyfrwng Cymraeg sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sylweddol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cynhwysfawr a siaradodd am bwysigrwydd gwella canlyniadau a darparu cyfleoedd mwy effeithiol i bob plentyn a pherson ifanc, yn ogystal â chadw Agenda Trawsnewid ADY Llywodraeth Cymru mewn cof.

 

(Nodwch: Nid oedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber yn bresennol ar gyfer y bleidlais)

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Drafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.      Nodi'r cynigion ar gyfer sefydlu tri dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol ac un dosbarth cynnal dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sylweddol yng nghyd-destun y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018) a Rhaglen Foderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif; a

3.      Cymeradwyo'n ffurfiol ddechrau'r broses ymgynghori o ran y cynigion canlynol:

·         Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog;

·         Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog;

·         Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gyfun Aberpennar;

·         Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) sylweddol yn Ysgol Garth Olwg.

 

 

88.

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pdf icon PDF 145 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n gosod cynigion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf weithredu'n Gorff Arweiniol o ran gweinyddu a monitro'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gorfodol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad, sy'n gosod cynigion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf weithredu'n Gorff Arweiniol o ran gweinyddu a monitro'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gorfodol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

Cafodd Aelodau eu cyfeirio gan y Cyfarwyddwr at adran 5 yn yr adroddiad lle roedd yr wybodaeth am y cynnig. Esboniwyd bod Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr RhCT i archwilio a oes unrhyw fodd posibl i wneud trefniant cydweithredol i RCT ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFGs) ar draws Cwm Taf. Yn dilyn adolygiad, roedd y Cyfarwyddwr yn teimlo na fyddai'r trefniant cydweithredol yn cael fawr o effaith ar RCT, gydag unrhyw incwm ffioedd posibl yn gwrthbwyso unrhyw gostau ychwanegol y gallai'r Cyngor eu hwynebu wrth weinyddu a monitro cynllun CBSMT. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y byddai'r cynigion hefyd yn sicrhau bod CBSMT yn cyflawni ei ddyletswydd orfodol i ystyried Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, gan alluogi preswylwyr anabl i gael cyfle i dderbyn grant er mwyn gwneud addasiadau i'w cartrefi sy'n caniatáu iddynt fyw'n annibynnol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai fod y cynnig yn syml a'i fod yn hapus i gefnogi'r argymhelliad.

 

(Nodyn: Dewisodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber beidio â phleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth)

 

PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo'r cynigion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf weithredu'n Gorff Arweiniol o ran gweinyddu a monitro'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gorfodol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fel sydd wedi'i nodi yn adran 5 yr adroddiad.

 

89.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

90.

Buddsoddiad y Cyngor yn ailddatblygiad YMCA Pontypridd

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n gofyn i'r Cabinet benderfynu a ddylai'r Cyngor fuddsoddi a chymryd perchnogaeth o adeilad yr YMCA.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig, sy'n gofyn i'r Cabinet benderfynu a ddylai'r Cyngor fuddsoddi a chymryd perchnogaeth o adeilad yr YMCA.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Buddsoddi £383,000 i ailddatblygu YMCA Pontypridd er mwyn sicrhau £4 miliwn o gyllid allanol, a sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni yn unol â'r dyluniad, y rhaglen a'r cynllun cost y cytunwyd arnynt. Gellir ariannu'r buddsoddiad hwn o'r cyllid blaenoriaeth buddsoddi presennol a ddyrannwyd eisoes ar gyfer Buddsoddi mewn Adfywio yn y rhaglen gyfalaf gyfredol.

2.    Awdurdodi Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor i gymryd perchnogaeth o'r adeilad am £1, yn amodol ar broses diwydrwydd dyladwy cadarn. Byddai hyn wedyn yn cynnwys prydlesu'r adeilad yn ôl i'r YMCA dros gyfnod o 99 mlynedd gydag adolygiad o'r trefniadau ymhen 25 mlynedd trwy Gytundeb Prydles a gefnogir gan Gytundeb Grant a Chytundeb Rheoli.