Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:- · Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 3: "Rwy'n Aelod o Bwyllgor Amlosgfa Llwydcoed". · Datganodd Mr N. Wheeler, Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen fuddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag Eitem 13 a gadawodd y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei thrafod: "Rwyf ar Fwrdd Amgen". · Datganodd Mr B. Davies, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol fuddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag Eitem 13 a gadawodd y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei thrafod: "Rwyf ar Fwrdd Amgen".
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2019 yn rhai cywir.
|
|
Amlosgiadau Uniongyrchol PDF 126 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n cynnig bod y Cyngor yn cynnal cynllun peilot ar gyfer ffi amlosgi is i drefnwyr angladdau sy'n cynnig amlosgiadau uniongyrchol neu syml yn Rhondda Cynon Taf.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, adroddiad i'r Cabinet sy'n cynnig bod y Cyngor yn cynnal cynllun peilot ar gyfer ffi amlosgi is i drefnwyr angladdau sy'n cynnig amlosgiadau uniongyrchol neu syml yn Rhondda Cynon Taf.
Soniodd y Cyfarwyddwr am y cynnydd mewn costau angladd, sy'n gallu bod yn anfforddiadwy i'r rheiny ar y cyflogau isaf, a rhoddodd wybod am y cynnydd yn y galw am amlosgiadau mwy fforddiadwy – sef amlosgiadau 'uniongyrchol', 'syml' neu 'amlosgi heb seremoni'. Yn yr achosion yma, mae cyfarwyddwr angladdau'n trefnu gwasanaeth heb alarwyr ac yn hebrwng y meirw i'r amlosgfa heb i wasanaeth crefyddol gael ei gynnal a heb unrhyw fynychwyr. Cynigiodd y Cyfarwyddwr y dylai'r Cyngor gynnig cynllun peilot 12 mis o hyd lle y bydd ffi ostyngedig o £560 ar gyfer amlosgiad uniongyrchol. Mae hyn yn debyg i amlosgfeydd eraill yng Nghymru sy'n cynnig y gwasanaeth yma a byddai'n darparu cymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu costau angladd.
Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol y cynnig ac roedd yn falch o weld y byddai'n rhoi mwy o ddewis i drigolion ac yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, wrth ateb y galw am angladd anhraddodiadol.
Siaradodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am y cynnig a gofynasant iddo gael ei hysbysebu'n glir ar wefan y Cyngor a bod teuluoedd yn cael gwybod am yr opsiwn wrth gofrestru marwolaeth, a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai hynny'n digwydd.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cymeradwyo cynllun peilot 12 mis o hyd, lle bydd ffi amlosgi ostyngedig i gyfarwyddwyr angladdau sy'n cynnig gwasanaeth amlosgi uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf; 2. Mai £560 fydd y ffi, a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2019.
|
|
Datblygiadau o ran cyllido a darparu ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned PDF 131 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi gwybodaeth i aelodau o ran dyfodol dysgu oedolion yn y gymuned.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymuned wybodaeth i'r aelodau o ran dyfodol dysgu oedolion yn y gymuned.
Oherwydd nifer o newidiadau mawr i'r modd y caiff dysgu oedolion yn y gymuned ei gyllido a'i gyflwyno dros y blynyddoedd nesaf, rhoddodd y swyddog wybod bod cyfle i adolygu'r model partneriaeth sir-benodol bresennol yn Rhondda Cynon Taf ac archwilio'r potensial ar gyfer datblygu partneriaeth ehangach ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn ardal Cwm Taf Morgannwg gyda chydweithwyr mewn siroedd cyfagos.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy'n croesi ffiniau sirol bellach yn drefniant arferol yng Nghymru, gan eu bod yn cynnig manteision mawr i ddysgwyr ac arbedion maint i'r sefydliadau sydd ynghlwm â chynnal y dysgu. Rhoddodd enghraifft o'r ffordd y mae 5 Sir yr hen Went wedi dod â'u hadnoddau ynghyd i un cynllun canolog. Mae'r bartneriaeth yn cael ei gweinyddu gan y sefydliad addysg bellach lleol, sef Coleg Gwent.
Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at Adran 5 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu manteision a risgiau posibl dull partneriaeth, er mwyn i'r aelodau eu hystyried.
Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a oedd gan RhCT y capasiti i fwrw ymlaen â'r bartneriaeth arfaethedig. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod mai'r cam cyntaf fyddai trafod â Chynghorau Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod modd dod ag adnoddau ynghyd a bod pawb yn deall yr heriau.
Cytunodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ei bod yn fenter wych ond rhoesant bwyslais ar yr angen i'r holl Awdurdodau Lleol ddangos ymrwymiad a bod yn ystyriol o'u capasiti, cyn adrodd yn ôl i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cymeradwyo cychwyn trafodaethau gyda CBS Merthyr Tudful a CBS Pen-y-bont ar Ogwr o ran sefydlu Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cwm Taf Morgannwg erbyn Medi 2020.
|
|
Llinell Waelod (Sylfaen) Treth y Cyngor 2020/21 PDF 108 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n gosod yn ffurfiol Linell Waelod (Sylfaen) Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau yr adroddiad i'r Cabinet, yn nodi Sylfaen Treth y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.
Dywedodd y swyddog mai £79,317.31 oedd y Sylfaen Treth y Cyngor gros a gyfrifwyd ar gyfer 2020/21 a chynigiodd y dylid amcangyfrif mai 97.5% yw'r gyfradd gasglu. Mae hyn yn cynhyrchu Sylfaen Treth y Cyngor net o £77,334.38. Mae hyn yn golygu y byddai swm o £77,334 yn cael ei godi i fodloni gofynion cyllideb y Cyngor am bob £1 a gaiff ei godi mewn Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.
Diolchodd yr Arweinydd i'r swyddog am yr adroddiad a nododd ei fod yn gobeithio y byddai Cynghorau Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ymdrin â'u cyfraddau mewn ffordd gyfrifol. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai hyn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 fel y'i diwygiwyd, y swm sydd wedi'i gyfrifo gan y Cyngor fel ei sylfaen dreth net ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21, fydd £77,334.38;
2. Bydd sylfaen dreth 2020/21 at ddibenion gosod Treth y Cyngor yn cael ei gosod yn unol ag Atodiad 1 yr adroddiad, ar gyfer pob cymuned diffiniedig yn y Fwrdeistref Sirol.
|
|
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor am yr Ail Chwarter PDF 507 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r aelodau am gyflawniad y Cyngor dros chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2019), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol fel ei gilydd.
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2019) o ran materion ariannol a gweithredol.
Aeth y Cyfarwyddwr ati i drafod Crynodeb Gweithredol yr adroddiad yn fanwl, gan gynnwys cynnydd a data ariannol mewn perthynas â'r blaenoriaethau yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Soniodd y Cyfarwyddwr am y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y byddai cyllid unwaith ac am byth ychwanegol ar gael ar gyfer y paratoadau ar gyfer y gaeaf a mesurau gofal brys newydd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Cafwyd esboniad y byddai'r effaith benodol ar Rondda Cynon Taf yn cael ei ymgorffori i Adroddiadau Cyflawniad yn y dyfodol, ar ôl ei chadarnhau.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol yn gadarnhaol am yr adroddiad ac yn benodol, y buddsoddiad Cyfalaf o £152.226 miliwn, a oedd yn cynnwys Ysgolion yr 21ain Ganrif, priffyrdd, Canolfannau Cymuned, gweithio hyblyg, cynllun adfywio canol trefi, gofal ychwanegol, hamdden a pharciau. Roedd yr Aelod hefyd yn falch o nodi bod y gyfradd absenoldeb salwch yn is na'r un amser y llynedd.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a nododd fod rheolaeth ariannol gadarn yn gyfrifol am lefel y buddsoddiad. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd ar ran y gymuned am y buddsoddiad yn yr ardaloedd chwarae lleol, a nododd yr Arweinydd fod buddsoddiad i 112 o ardaloedd chwarae wedi bod o fewn RhCT.
Soniodd yr Arweinydd am y gorwariant o £1.67 miliwn sy'n cael ei ragweld yn y chwarter a'r pwysau ym maes Gofal Cymdeithasol ledled Cymru. Dywedodd yr Arweinydd fod Awdurdodau Lleol yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am gyllid i leddfu'r pwysau cynyddol.
PENDERFYNODD y Cabinet:
Refeniw
1. Nodi a chytuno ar sefyllfa refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 30 Medi 2019 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi bydd dyraniad cyllid unwaith ac am byth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi paratoadau ar gyfer y gaeaf a mesurau gofal brys newydd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hymgorffori mewn Adroddiadau Cyflawniad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 2. Cymeradwyo'r trosglwyddiadau sydd wedi eu rhestru yn Adrannau 2a–e o'r Crynodeb Gweithredol, sy'n uwch na'r trothwy o £0.100 miliwn yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.
Cyfalaf
3. Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2019 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol). 4. Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli'r Trysorlys fel y mae ar 30 Medi 2019 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).
Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol
5. Nodi sefyllfa chwarter 2 ynghylch y cynnydd mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol cytûn (Adrannau 5a–d o'r Crynodeb Gweithredol), Mesurau Cenedlaethol Eraill (Adran 5e o'r Crynodeb Gweithredol) a chymharu targedau 2019/20 â'r flwyddyn flaenorol a gwybodaeth am gyfartaledd cyflawniad Cymru gyfan (Adran 5f o'r Crynodeb Gweithredol).
|
|
Premiymau Treth y Cyngor – Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi PDF 121 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n gofyn i'r Cabinet ystyried cyfnod ymgynghori ffurfiol yn rhan o ymarfer ymgynghori'r Cyngor sydd ar ddod mewn perthynas â chyllideb 2020/21.
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Cabinet ynghylch y pwerau dewisol sydd gan y Cyngor i godi symiau uwch o ran Treth y Cyngor (premiwm) ar rai eiddo y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gofynnodd iddynt ystyried cynnal cyfnod ymgynghori ffurfiol ar gynnig i gyflwyno premiwm.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Cabinet, er gwaethaf cael gwared ar ostyngiad o 50% yn nhreth y cyngor ym mis Ebrill 2018, bod dros 2,000 o eiddo gwag tymor hir ar draws Rhondda Cynon Taf, gyda 40% yn eiddo i bobl sy'n byw y tu allan i'r Fwrdeistref. Cynigiwyd y dylid cyflwyno Premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag tymor hir o 50% ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn wag am hyd at 5 mlynedd. Yna byddai lefel y premiwm yn cynyddu i 100% ar gyfer yr eiddo hynny sydd wedi bod yn wag am hwy na 5 mlynedd.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol yn gadarnhaol am y cynnig, gan nodi'r gobaith y byddai premiwm ar fil treth y cyngor yn annog rhagor o berchnogion eiddo i ddefnyddio'u cartrefi gwag.
Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi'i chalonogi gan y cynnig a gofynnodd am sicrwydd y byddai'r swyddogion yn cynnal proses ymgysylltu eang a chadarn.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi manylion y pwerau dewisol sy'n ymwneud â Phremiymau Treth y Cyngor fel sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad hwn; 2. Cychwyn ymarfer ymgynghori ar y defnydd arfaethedig o'r pwerau hyn mewn perthynas ag eiddo gwag fel sydd wedi'i nodi yn Adran 9 yr adroddiad; a 3. Bod adroddiad, gan gynnwys canlyniadau'r ymarfer ymgynghori, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn i'w ystyried a phenderfynu ar y ffordd arfaethedig ymlaen.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi manylion i'r aelodau am Gynllun Lleihau Trethi Busnes newydd arfaethedig, a fydd yn cynorthwyo busnesau canol y dref a busnesau manwerthu wrth dalu trethi busnes yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21.
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol fanylion i'r aelodau am Gynllun Lleihau Trethi Busnes newydd arfaethedig, a fyddai'n cynorthwyo busnesau canol y dref a busnesau manwerthu wrth dalu trethi busnes yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21.
Siaradodd y Cyfarwyddwr am Gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu a'r Stryd Fawr Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer 2019/20, a gynyddodd lefel y rhyddhad sydd ar gael i fusnesau cymwys i £2,500 (yn ddarostyngedig i derfynau cymorth gwladwriaethol) ar gyfer yr holl eiddo manwerthu wedi'u meddiannu gyda gwerth ardrethol o £50,000 neu'n is. Er mwyn cefnogi canol y dref a busnesau manwerthu ymhellach yn 2020/21, cynigiodd y swyddog y dylid darparu rhyddhad dewisol lleol pellach yn ychwanegol at gynllun Llywodraeth Cymru hyd at uchafswm o £300 i bob busnes cymwys.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y cynnig, gan nodi y byddai'r gefnogaeth ychwanegol yn helpu busnesau bach i ffynnu a chynnal canol trefi bywiog.
Canmolodd yr Arweinydd y cynnig a nododd mai Rhondda Cynon Taf fyddai'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru i ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol i fusnesau bach. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau â lefel y rhyddhad sydd ar gael yn eu cyllideb yn y dyfodol.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Gynnal ymarfer ymgynghori ar y cynllun arfaethedig; a 2. Derbyn adroddiad pellach yn amlinellu canlyniadau'r ymarfer ymgynghori er mwyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun ai peidio.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n rhoi cyfle i'r Aelodau adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) (RIPA) yn ystod 2018/19.
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yr wybodaeth flynyddol ddiweddaraf i'r Aelodau am ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2019, a chadarnhau ei defnyddio mewn modd cyson a phriodol yn unol â'r ddau bolisi corfforaethol. Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau bod y polisïau'n cael eu hadolygu'n gyson ac y byddai unrhyw newidiadau sy'n ofynnol yn cael eu hadrodd i'r Cabinet ar yr adeg briodol.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad a phwysleisiodd bwysigrwydd ac effeithiolrwydd RIPA.
1. Nodi cynnwys yr adroddiad; a 2. Cydnabod bod Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 wedi ei defnyddio mewn modd priodol sy'n gyson â pholisïau'r Cyngor, yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2019;
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Ffyniant a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet ar effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR). O 1 Ionawr 2020, bydd y rhain yn cael effaith ar yr arfer o werthu seddi sbâr yn ôl disgresiwn i ddisgyblion/myfyrwyr addysg y brif ffrwd sydd ddim yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol/coleg.
Cofnodion: Yn dilyn cyhoeddiad gan yr Arweinydd bod gwybodaeth bellach wedi'i derbyn gan Lywodraeth Cymru am botensial ymestyn y cyfnod ar gyfer gweithredu'r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR), PENDERFYNWYD: 1. Gohirio ystyried yr eitem tan y Flwyddyn Newydd.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, a ystyriodd adroddiad o argymhellion diwygiedig Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, a oedd yn ystyried adroddiad o argymhellion diwygiedig Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, wrth ystyried yr adroddiad yng nghyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, fod yr Aelodau yn unfrydol yn eu teimladau tuag at fabwysiadu'r newidiadau a argymhellir i'r enwau lleoedd yn RhCT a'u bod o'r farn y dylid ymgynghori â'r Aelod Lleol a'r gymuned yngl?n ag unrhyw newidiadau cyn eu gweithredu. Felly, cytunodd y Gr?p Llywio i argymell bod y Cabinet yn gwrthod mabwysiadu'r Rhestr o Enwau Lleoedd Cymru fel y mae'n berthnasol i Rondda Cynon Taf.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw'r Aelodau at adran 7 yr adroddiad ac eglurodd er bod y Gr?p Llywio wedi rhoi sylw dyledus i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg wrth lunio'r argymhellion a wnaed i'r Cabinet, fel gydag unrhyw benderfyniad a gymerwyd gan y Cyngor, caiff y Comisiynydd benderfynu adolygu cydymffurfiad â'r safonau hynny yn unol â'i bwerau rheoleiddio.
Siaradodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd am Restr y Comisiynydd gan gyfleu eu siom nad oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn ei gyhoeddi. Gan roi sylw dyledus i'r cyngor cyfreithiol a ddarparwyd, cytunodd yr Aelodau i gymeradwyo gweithredu'r Rhestr o Enwau Lleoedd Cymru fel sy'n berthnasol i Rondda Cynon Taf yn rhannol ac eithrio'r pedwar newid sylweddol yn ymwneud â Threorci, Rhydfelen, Llanwynno a Threfforest, fel yr argymhellwyd gan swyddogion yn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Gr?p Llywio.
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg a Chadeirydd Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg y byddai'n ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg a Gweinidog Llywodraeth Cymru ar ran y Cyngor i fynegi'r pryderon sydd wedi'u nodi gan aelodau uchod.
PENDERFYNWYD: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad a ystyriwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg ar y 9 Hydref, 2019 a; 2. Cymeradwyo gweithredu'r Rhestr o Enwau Lleoedd Cymru fel sy'n berthnasol i Rondda Cynon Taf yn rhannol, ac eithrio'r pedwar newid sylweddol sy'n ymwneud â Threorci, Rhydfelen, Llanwynno a Threfforest. 3. Bod Cadeirydd Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn ysgrifennu at Gomisiynydd Cymru a Gweinidog Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb dros y Gymraeg i fynegi siom yr Awdurdod Lleol nad oedd y Rhestr yn destun ymgynghoriad cyn ei chyhoeddi.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
|
|
Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n rhoi manylion am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol sydd i ddod.
Cofnodion: (Nodwch: Ar ôl datgan buddiant o'r blaen (Cofnod Rhif 66), gadawodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol a Chyfarwyddwr y Gyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen y cyfarfod cyn yr eitem hon.)
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig. Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr atodiadau i'r adroddiad oedd yn rhoi datganiadau ariannol y Cwmnïau sydd i'w cyflwyno i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y cwmni ‘Cynon Valley Waste Disposal Company Limited’ a chwmni ‘Amgen Rhondda Limited’ (“y Cwmnïau”), sydd i'w cynnal am 10.00am ddydd Mawrth 3 Rhagfyr 2019 yng Nghanolfan Addysg Amgen, Bryn Pica, Llwydcoed, Aberdâr.
PENDERFYNWYD: 1. Bod y bwriad cyfredol i barhau i weithredu Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y 'Cwmnïau') yn gwmnïau dan reolaeth yr Awdurdod Lleol yn y dyfodol wedi'i gadarnhau; 2. Yn amodol ar fodloni'r Pennaeth Cyllid – Addysg ac Adroddiadau Ariannol nad oes unrhyw afreoleidd-dra yng nghyfrifon y Cwmnïau y dylid derbyn y cyfrifon ar ran y Cyngor; 3. Ailbenodi Baldwins Audit Services Limited yn archwilwyr i'r Cwmnïau am y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2020. 4. Bod Cyfarwyddiaethau Cyfarwyddwr y Gyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella ar y ddau Gwmni yn parhau; 5. Nodi penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd y Cwmnïau, yn effeithiol o 1 Tachwedd 2019; 6. Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ac/neu ei enwebai i arfer pleidlais y Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau yn unol ag argymhellion 2(ii) i 2(iv) uchod. 7. Bydd Aelod o'r Cabinet yn cynrychioli'r Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau.
|
|
Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinwyr yn dilyn y diwygiadau diweddar sy'n cynnwys: · Aelodaeth Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd · Aelodaeth Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y newid i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, a PHENDERFYNWYD: 1. Nodi cynnwys Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd; a 2. Nodi bod hawl gan Arweinydd y Cyngor i newid y Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau gweithredol unrhyw bryd yn y flwyddyn; a bod diweddariad o adran 3A yn cael ei gyflwyno i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.
|