Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424110

Eitemau
Rhif eitem

49.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda “Rwyf wedi elwa o'r cynllun yn y gorffennol ac felly, byddaf yn gadael y cyfarfod pan fydd yr eitem yn cael ei thrafod ac yn destun pleidlais”

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Bevan mewn perthynas ag eitem 12 ar yr agenda “Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ysgol Gynradd Tylorstown, ond nid yw fy niddordeb yn un rhagfarnllyd gan fod yr adroddiad er gwybodaeth yn unig”

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Hopkins mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda “Rwy'n eistedd ar Gyngor Cymuned Llanharan”

 

 

50.

Cofnodion pdf icon PDF 166 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 a 24 Medi yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2019 yn rhai cywir.

 

 

51.

GWNEUD GWAHANIAETH: CYNLLUN CORFFORAETHOL 2020-2024 Y CYNGOR (DRAFFT) AR GYFER YMGYNGHORI pdf icon PDF 148 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr yn nodi'r Cynllun Corfforaethol drafft newydd rhwng 2020/21 - 2024/25, gan gynnwys blaenoriaethau ac amcanion gweledigaeth y Cyngor, yn dilyn gwaith cyn craffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 23 Medi 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad i'r Cabinet am Gynllun Corfforaethol drafft 2020-2024 y Cyngor ar gyfer ymgynghori, yn dilyn gwaith cyn craffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei gyfarfod ar 23 Medi 2019.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at y Cynllun Corfforaethol drafft, a oedd ynghlwm ag Atodiad A i'r adroddiad, a chlywon nhw fod sylwadau'r Pwyllgor Craffu wedi'u cynnwys i'w hystyried.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am yr arsylwadau a'r adborth a ddarparwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac roedd yn falch o nodi bod camau gweithredu wedi'u cynnwys, a fydd yn cyfrannu at ymrwymiad y Cyngor i gyflawni'r targedau Carbon 'Net Zero'.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem, ac ymatebodd yr Arweinydd i hyn.

 

Siaradodd yr Arweinydd am ymrwymiad y Cyngor ym mis Mawrth 2018 i gymryd camau priodol er mwyn gweithio tuag at fod yn Awdurdod cwbl gyfrifol o safbwynt amgylcheddol erbyn 2050. Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai'n darparu datganiad yng nghyfarfod nesaf y Cyngor. Esboniwyd bod y flwyddyn 2050 yn wedi'i nodi mewn deddfwriaeth, ac mai ei uchelgais oedd i'r Cyngor ddod yn 'Net Zero' erbyn y flwyddyn 2030.

 

Gorffennodd yr Arweinydd drwy roi gwybod i'r Aelodau am Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a oedd yn ychwanegiad at ei Gynllun Dirprwyo (nodwyd yn Eitem 17 yr agenda). Eglurodd y byddai'r Gr?p yn rhan annatod o gefnogi cyflawni blaenoriaethau'r Cyngor.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;

2.     Cymeradwyo'r argymhellion a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol drafft y Cyngor 2020 - 2024 fel a ganlyn:

 

                           i.          Nodi y bydd y camau sydd wedi'u nodi yn y cynllun yn cyfrannu at ymrwymiad ehangach y Cyngor i gyflawni'r targedau Carbon 'Net Zero', fel mae'r Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd wedi nodi.

                          ii.          Defnyddio'r Cynllun Corfforaethol fel agwedd allweddol ar broses Ymgynghori Cyllideb 2020/21 gyda chyhoedd Rhondda Cynon Taf; a

                        iii.          Bod yr adborth o'r prosesau ymgynghori yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Mawrth 2020, gyda'r Cynllun Corfforaethol diwygiedig yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwnnw.

 

 

 

52.

ADRODDIAD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 160 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n cyflwyno Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i'r Cabinet, gan amlinellu ystyriaethau a chasgliadau allweddol yr adolygiad o'r Cynllun.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad gan atgoffa'r Aelodau ar y 18 ym mis Mehefin 2019, cytunodd y Cabinet i gynnal adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf (CDLl) a chytunwyd y byddai'r swyddogion yn dechrau ar y gwaith o baratoi Adroddiad Adolygu CDLl ffurfiol a Chytundeb Cyflenwi Drafft ar gyfer adolygu'r CDLl.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adroddiad Adolygu'r CDLl, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Roedd Adroddiad Adolygiad y CDLl yn cynnwys ystyriaethau a chasgliadau allweddol yr adolygiad o'r Cynllun. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y dystiolaeth wedi'i chasglu dros yr 8 mlynedd diwethaf mewn perthynas â monitro'r CDLl, llwyddiant y gwaith cyflawni a pha mor briodol yw'r polisïau a'r dyraniadau.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai fod polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol wedi'u cyflawni'n llwyddiannus, hyd yn oed ar adegau o lymder.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem, ac ymatebodd yr Arweinydd i hyn.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch safleoedd penodol yn RhCT a'r diffyg cyllid ar gyfer prosiectau adfer tir. Dywedodd yr Arweinydd fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gobeithio sicrhau cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i wneud cynnydd gyda safleoedd yn y Cymoedd lle mae gohirio wedi bod.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Cymeradwyo cynnwys a chasgliad Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf, sy'n amlinellu'r rhesymau dros adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Rhondda Cynon Taf;

2.     Bod yr Adroddiad Adolygu yn cael ei gylchredeg i gyrff rhanddeiliaid allweddol wedi'u targedu (megis CNC, cwmnïau cyfleustodau ac Arolygiaeth Gynllunio Cymru) er mwyn cael eu sylwadau ffurfiol ar gynnwys a chasgliadau'r adroddiad. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn rhan o'r camau cynnar mewn perthynas â pharatoi'r adroddiad a phenderfynu ar ei gynnwys, a bydd y gwaith yma'n parhau;

3.     Awdurdodi'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai, trwy benderfyniad dirprwyedig, i benderfynu bod newidiadau priodol yn cael eu gwneud i'r Adroddiad Adolygu, cyn cyflwyno'r Adroddiad Adolygu i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

 

 

 

53.

CYNIGION AM GYTUNDEB CYFLENWI DRAFFT AR GYFER CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 160 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cynnwys a chasgliadau'r Cytundeb Cyflenwi Drafft, a'r ymgynghoriad wedi'i dargedu dilynol yn seiliedig ar y ddogfen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad, a dywedodd, yn dilyn cymeradwyo Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf, y gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer cynnwys a chasgliadau'r Cytundeb Cyflenwi Drafft, yn ogystal â chymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad yn seiliedig ar y ddogfen.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, lle amlinellwyd yr amserlen ar gyfer cyflwyno.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yn gadarnhaol am y cynllun cyflawni. Gwnaeth Aelod y Cabinet sylwadau am yr angen i ymgyngoreion statudol gynnal eu cyfrifoldebau er mwyn cyfrannu at ymgynghoriadau angenrheidiol ar geisiadau Cynllunio.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem.

 

Nodyn: Pan ddaeth yr eitem yma i ben, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y cyfarfod:

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Cymeradwyo cynnwys a chasgliad Cytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf, sy'n amlinellu'r amserlen a'r dull o gynnwys y gymuned ac ymgysylltu â Chynllun Datblygu Lleol Diwygiedig ar gyfer Rhondda Cynon Taf;

2.     Caniatáu i'r Cytundeb Cyflenwi gael ei gylchredeg i gyrff rhanddeiliaid wedi'u targedu er mwyn derbyn eu sylwadau ffurfiol ar gynnwys a chasgliadau'r cytundeb. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn rhan o'r camau cynnar mewn perthynas â pharatoi'r ddogfen a phenderfynu ar ei chynnwys, a bydd y gwaith yma'n parhau;

3.     Awdurdodi'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai i gytuno, trwy benderfyniad dirprwyedig, bod unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'r Cytundeb Cyflawni yma o ganlyniad i ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyn cyflwyno'r Cytundeb Cyflenwi i'r Cyngor llawn i'w gymeradwyo.

 

 

54.

ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL pdf icon PDF 137 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, yn dilyn gwaith cyn craffu gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr  Ardoll Seilwaith Cymunedol gan gynnwys estyniad amser i'r gwariant strategol cymeradwy ar Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, a diwygio'r Rhestr Rheoliad 123.

 

Hefyd, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau am y gwaith cyn-graffu a wnaed gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Pwyllgor Craffu am ei waith, gan nodi pa mor bwysig yw hi fod Cynghorau Cymunedol yn llunio Rhestr 123.

 

Adleisiodd Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y sylwadau a wnaed gan y Dirprwy Arweinydd, gan nodi bod y Rhestr 123 yn gyfnewidiol ac yn destun newid cyson.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad mewn perthynas â balans incwm strategol  Ardoll Seilwaith Cymunedol, a ph'un a oedd y £395,000 y cytunwyd arno ar gyfer Ysgol Gynradd Ffynnon Taf wedi'i gynnwys yn y £637,568.77, y cadarnhaodd y swyddog iddo.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ynghylch yr  Ardoll Seilwaith Cymunedol

2.     Cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 wedi'i diwygio ar gyfer ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer ymgynghori, fel y nodwyd ym mharagraff 5.9 yr adroddiad;

3.     Cymeradwyo mabwysiadu'r Rhestr Rheoliad 123 ddiwygiedig wedi hynny os na dderbynnir sylwadau niweidiol.

 

 

 

55.

CARTREFI CYNNES: STRATEGAETH TLODI TANWYDD AR GYFER RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 145 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n nodi Strategaeth Tlodi Tanwydd y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2019-2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodyn: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach (Cofnod rhif 49), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis y cyfarfod.)

 

Darparodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Cabinet, sy'n nodi Strategaeth Tlodi Tanwydd arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2019-2023. Dywedodd y Cyfarwyddwr mai pwrpas y strategaeth oedd darparu fframwaith ar gyfer yr holl weithgaredd tlodi tanwydd er mwyn darparu dull cydweithredol wedi'i seilio ar dystiolaeth i leihau nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o wynebu tlodi tanwydd yn y fwrdeistref, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at dri amcan allweddol y Strategaeth, a amlinellwyd yn Adran 5 yr adroddiad. Roedden nhw'n falch o glywed y byddai'r strategaeth yn ceisio lliniaru'r effeithiau ar breswylwyr, wrth gyfrannu at flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai am yr angen am ymyrraeth genedlaethol a'r amddifadedd y mae rhai cymunedau lleol yn eu hwynebu gyda'r cynnydd mewn tariffau, sy'n achosi i breswylwyr orfod dewis rhwng 'bwyta neu wresogi'. Aeth yr Aelod Cabinet ymlaen i siarad am yr hybiau cymunedol a sut y gellid eu defnyddio i helpu i gyfathrebu â'r cymunedau lleol.

 

Soniodd yr Arweinydd am Gr?p Tasglu'r Cymoedd a'r nod o gyflwyno grantiau eiddo gwag o fewn un ar ddeg o awdurdodau lleol. Gofynnodd yr Arweinydd i swyddogion edrych i mewn i ddatblygu cynllun, nodi'r cymunedau difreintiedig iawn yn RhCT a darparu cyllid iddynt, a allai helpu i leihau tlodi ymhlith plant. Wrth ymateb i'r Arweinydd, soniodd y Cyfarwyddwr am gronfa ddata, sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd i dargedu cartrefi mewn angen, ond cytunodd y byddai dull strategol o sefydlu'r ardaloedd mwy sydd mewn angen yn cael effaith gadarnhaol.

 

Soniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai am gynllun blaenorol gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn targedu cartrefi oedd angen cladin, ond a arweiniodd at nifer o broblemau. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi mentergarwch yr Arweinydd ond gofynnodd i swyddogion gofio am y camgymeriadau blaenorol hynny.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Cymeradwyo Strategaeth Tlodi Tanwydd y Cyngor 2019-2023.

 

Nodyn: Yn dilyn y penderfyniad uchod, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis i'r cyfarfod.

 

56.

ARIANNU RHAGLEN DRAWSNEWID HWB pdf icon PDF 129 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am y cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o raglen drawsnewid Hwb ar gyfer gwella'r defnydd o dechnoleg ddigidol ar gyfer addysgu a dysgu mewn ysgolion.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybod i'r Aelodau am gyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o raglen drawsnewid Hwb ar gyfer gwella'r defnydd o dechnoleg ddigidol er mwyn addysgu a dysgu mewn ysgolion.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ledled Cymru i gefnogi pob ysgol i gyflawni lefel ofynnol o safonau TGCh a chysondeb fel rhan o raglen 3 i 4 blynedd arfaethedig. Dysgodd yr Aelodau fod y cyllid o £50 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer 2019/20, i'w wario ledled Cymru, ac roedd y Cyfarwyddwr yn falch o nodi bod y cyllid ar gyfer RhCT wedi'i gadarnhau fel £3.99 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2019/20.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a chroesawodd y cyllid ychwanegol ar gyfer RhCT.

 

PENDERFYNWYD:

1.     Cydnabod derbyn £3.99 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 gan Lywodraeth Cymru; a

2.     Cymeradwyo'r dull a amlinellir yn Adran 6 yr adroddiad.

 

 

57.

Y RHAGLEN WAITH DDIGIDOL - DIWEDDARIAD pdf icon PDF 163 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy'n rhoi diweddariad ar y Rhaglen Waith Ddigidol sy'n sail i'r amcanion a nodwyd yn Strategaeth Ddigidol 2020 y Cyngor.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ddiweddariad ar y Rhaglen Waith Ddigidol sy'n sail i'r amcanion a nodwyd yn Strategaeth Ddigidol 2020 y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau am y cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth roi'r camau gweithredu ar waith yn unol â Strategaeth Ddigidol y Cyngor. Hefyd, siaradodd am y defnydd cynyddol o wasanaethau ar-lein ar wefan y Cyngor a system Rheoli Perthynas Cwsmeriaid (CRM) y Cyngor ,sydd newydd ei gwella. Siaradodd y Cyfarwyddwr hefyd am y cyllid diweddar a gafwyd gan y Gronfa Gofal Integredig er mwyn gwneud rhagor o ddefnydd o Dechnoleg Gynorthwyol ddigidol i helpu cleientiaid bregus a'r maes byw'n annibynnol.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am y gwaith enfawr a wnaed i ddatblygu'r gwasanaeth a dywedodd y byddai'r Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad yn cael cyfle i roi adborth mewn perthynas â'r Rhaglen Waith ac i wneud gwaith cyn craffu ar Strategaeth Ddigidol y Cyngor.

 

Canmolodd yr Arweinydd yr adroddiad hefyd, a siaradodd am y cynnydd enfawr a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain wedi bod o fudd i breswylwyr ac wedi cyfrannu at arbedion o ran effeithlonrwydd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Cydnabod cynnydd y camau yn y Rhaglen Waith Ddigidol mewn perthynas â chyflawni Strategaeth Ddigidol y Cyngor 2020;

2.     Derbyn adroddiad yn y dyfodol sy'n cyflwyno Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2020 a thu hwnt, ynghyd ag argymhellion ar gyfer camau cyflawni pellach fel rhan o gam nesaf y Rhaglen Waith Ddigidol.

 

 

58.

GWASANAETHAU'R RHENG FLAEN - CYNLLUNIAU GWELLA PRIFFYRDD pdf icon PDF 86 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Gwella Priffyrdd a'r camau sydd i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen ddiweddariadau pellach i'r Cabinet yngl?n â'r cynnydd a wnaed hyd yma yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd y Cyngor 2019/20-2021/22, cymeradwyaeth ddilynol y Rhaglen Gyfalaf Atodol a Chynlluniau Gwella Priffyrdd ar 18 Mehefin 2019.

 

Siaradodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am y cynnydd rhagorol a wnaed o fewn chwe mis cyntaf 2019/20 a PHENDERFYNWYD:

1.     Nodi'r cynnydd rhagorol parhaus a wnaed hyd yma; a

2.     Nodi'r cynlluniau ychwanegol a gyflwynwyd i'w gweithredu.

 

 

59.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU 2020-2025 pdf icon PDF 126 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Drafft o'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 Newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu diwygiedig y Cyngor i'r Aelodau, yn ogystal â drafft o'r Datganiad o Bolisi (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 newydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'n rhaid i Bolisi newydd fod ar waith erbyn 7 Ionawr 2020 ond gellid ei ddiwygio ymhellach yn ystod y 5 mlynedd nesaf yn ôl yr amgylchiadau.

 

Adroddwyd manylion y newidiadau allweddol i'r Polisi Trwyddedu i'r Pwyllgor a thynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at y Datganiad Polisi Drafft ar gyfer 2020-2025, a atgynhyrchwyd yn Atodiad 1. Esboniwyd bod proses ymgynghori gyhoeddus wedi'i chynnal, gyda thri achlysur ymgysylltu wedi'u trefnu ym mhob un o'r bwrdeistrefi, Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu wedi'i gynnal ar 29 Gorffennaf 2019, lle cafodd y Pwyllgor gyfle i graffu ar y Polisi drafft, a bod eu barn wedi'i ymgorffori yn yr adroddiad gerbron yr Aelodau.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol bwysigrwydd diogelu plant ac roedd yn falch o weld bod y bwriad o leihau'r risg y bydd plant yn dod i niwed trwy gyswllt ag alcohol wedi'i gynnwys yn amcanion allweddol y Polisi. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd am y Polisi gwella lleoedd cyhoeddus a chanol trefi.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi argymhelliad y Pwyllgor Trwyddedu ar 10 Medi 2019 a chymeradwyo'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 drafft;

2.     Cymeradwyo'r Datganiad diwygiedig i'r Polisi Trwyddedu (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 i'r Cyngor i'w gymeradwyo, gyda'r bwriad o roi'r Datganiad newydd ar waith o 7 Ionawr 2020.

 

 

60.

BUDDSODDIADAU'R CYNGOR A CHYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU YN Y CELFYDDYDAU pdf icon PDF 174 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am fuddsoddiadau cyfalaf a refeniw Cyngor a Chyngor Celfyddydau Cymru i'r celfyddydau yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2018/19 a 2019/20 hyd yn hyn.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant drosolwg cynhwysfawr i'r Cabinet o fuddsoddiadau cyfalaf a refeniw Cyngor a Chyngor Celfyddydau Cymru i'r celfyddydau yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2018/19 a 2019/20 hyd yma.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol yn dymuno cofnodi ei ddiolch i'r tîm am eu gwaith caled parhaus. Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau am y rhaglenni allgymorth sydd ar gael, sy'n sicrhau bod y gymuned gyfan yn cael cyfle i ymgysylltu â'r gwasanaethau celfyddydau a diwylliannol.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet yn gadarnhaol am ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu’r celfyddydau yn ardal ehangach Pontypridd, ac ailddatblygiad gwerth tua £4 miliwn yn YMCA Pontypridd. Y gobaith oedd y byddai Pontypridd yn cael ei ystyried yn 'chwarter y celfyddydau' drwy'r buddsoddiad sylweddol a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r swyddog am yr adroddiad a siaradodd yn gadarnhaol am y rhaglenni ymgysylltu a'r buddsoddiad, a alluogodd breswylwyr i fod yn weithgar mewn modd creadigol wrth gefnogi eu hiechyd a'u lles.

 

Adleisiodd Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y sylwadau blaenorol, gan nodi bod adolygiad buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru yn broses hir. Holodd yr Aelod o'r Cabinet a fyddai cyfnod pontio'n digwydd, a dywedwyd wrtho mai 2021-2022 fyddai'r flwyddyn bontio yn ôl pob tebyg.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad ynghylch y buddsoddiad yn y celfyddydau yn Rhondda Cynon Taf.

 

61.

YMGYSYLLTU MEWN PERTHYNAS Â CHYLLIDEB Y CYNGOR - 2020/21 pdf icon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi manylion i'r Aelodau am ymgysylltiad arfaethedig y Cyngor mewn perthynas â Chyllideb 2020/21.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybodaeth i'r Cabinet yngl?n â'r dull arfaethedig o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion mewn perthynas â chyllideb 2020/21. Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi ymgysylltu â'r broses ers 2016/17, lle nodwyd 144 o bobl o'i gymharu â 1,560 yn 2018/19. Cynyddodd hyn i fwy na 4,000 o bobl ar gyfer y broses ymgynghori ar 2019/20. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai bwriad yr ymgynghoriad cyllideb oedd rhedeg ochr yn ochr ag ymgynghoriad ar y Cynllun Corfforaethol drafft newydd a'i ategu, gan gysylltu lle bo hynny'n briodol er mwyn osgoi dyblygu.

 

Cafodd Aelodau eu cyfeirio at adran 5 yn yr adroddiad, lle roedd yr wybodaeth am y cynnig.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y dull manwl, a nododd y byddai gwaith cyn-graffu gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad yn hanfodol ar gyfer proses mor allweddol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai'n mynychu cyfarfod o'r OPAG yn y dyfodol, lle byddai'r gr?p yn cael cyfle i roi adborth.

 

Canmolodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg lwyddiant dull y flwyddyn flaenorol a’r dull arfaethedig, gan nodi bod gan Rhondda Cynon Taf broses ymgynghori eang i ymfalchïo ynddo.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi'r llwyddiant a gyflawnwyd trwy ddull y llynedd o ymgynghori ar y gyllideb, gyda'r ymrwymiad parhaus i ymgysylltu wyneb yn wyneb a mwy o ddefnydd o offer ar-lein;

2.     Bod yr ymgynghoriad ar y gyllideb i redeg ochr yn ochr ag ymgynghoriad ar y Cynllun Corfforaethol drafft newydd a'i ategu, gan gysylltu lle bo hynny'n briodol er mwyn osgoi dyblygu. Er enghraifft, bydd yr achlysuron a'r fforymau yn ceisio barn ar y gyllideb yn ogystal â blaenoriaethau'r cynllun corfforaethol;

3.     Cefnogi gofynion statudol y Cyngor parthed ymgynghori ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, a chaiff lefelau Treth y Cyngor eu bodloni trwy'r dull arfaethedig;

4.     Cefnogi'r broses ymgynghori ar y gyllideb sy'n digwydd yn ystod hydref 2019, gyda'r dyddiadau i'w cadarnhau yn dilyn eglurhad o amserlenni setliad cyllideb tebygol Llywodraeth Cymru;

5.     Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gynllunio'r llinell amser ymgysylltu angenrheidiol unwaith y bydd manylion y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn hysbys, a hynny drwy ymgynghori â'r Aelod Cabinet priodol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

 

62.

Argymhellion y Gweithgor Craffu ar y Gofrestr Fwyd pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion y Gweithgor Craffu ar y Gofrestr Fwyd i'r Aelodau.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ganfyddiadau ac argymhellion y Gweithgor Craffu ar y Gofrestr Bwyd, a sefydlwyd i ddelio â 'Chofrestr Bwyd yn RhCT' yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig a ystyriwyd gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 24 Hydref 2018.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad am y darn cynhwysfawr o waith a PHENDERFYNWYD:

1.     Nodi gwaith y Gweithgor Craffu;

2.     Cytuno ar 5 egwyddor y Gweithgor yn amodol ar ystyriaeth bellach gan ddeiliaid Portffolio'r Cabinet ar gyfer y maes. Rhoddir ymateb manwl i'r Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad ar ôl hynny:

                             i.         Bod cyfeirlyfr pwrpasol o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd ar gael ar-lein i'w ddefnyddio gan fusnesau a defnyddwyr i nodi cynhyrchwyr bwyd lleol a dod o hyd i gynhyrchion bwyd o fewn RhCT;

                           ii.         Bod adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu o fewn y Gwasanaeth Adfywio mewn perthynas ag ymgysylltu â busnesau i sicrhau y byddai'r cyfeirlyfr yn diwallu ac yn gwella anghenion busnes, yn ogystal â chynnal y cyfeiriadur yn barhaus;

                          iii.         Bod Carfan Ddatblygu'r Wefan yn nodi tudalen lanio addas ar gyfer y cyfeiriadur a gwybodaeth gysylltiedig ac yn datblygu model priodol;

                         iv.         Bod ymgyrch farchnata a chyhoeddusrwydd benodol yn cael ei chyflwyno i gefnogi'r cyfeirlyfr er mwyn annog cyfranogiad; ac,

                           v.         Bod rheolaethau penodol yn cael eu hymgorffori yn y cyfeirlyfr er mwyn caniatáu cyfranogiad gan fusnesau sy'n cydymffurfio yn unig, megis busnesau sydd wedi cyrraedd o leiaf tri mewn perthynas â sgôr hylendid bwyd, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3.13 o'r adroddiad;

3.     Bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor.

 

 

63.

Argymhellion y Gweithgor Craffu - Ailgylchu Cymunedol pdf icon PDF 4 MB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion y Gweithgor Craffu - Ailgylchu Cymunedol i'r Gweithgor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ganfyddiadau ac argymhellion y Gweithgor Craffu, a sefydlwyd i ddelio ag 'Ailgylchu mewn Ardaloedd Cymunedol' yn dilyn a cyflwyniad gan Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen yn y cyfarfod ar 27 Medi 2018.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adolygiad 9 mis a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant a'r ymgysylltiad helaeth â nifer o randdeiliaid. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i siarad am yr ymchwil a arweiniodd at gyflwyno'r Diwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned a gynhaliwyd yn Rhydfelen, mewn partneriaeth â'r Landlordiaid Tai Cymdeithasol a charfan Gwasanaethau Gofal Stryd y Cyngor ar ôl i'r ardal gael ei nodi'n ardal sydd â chyfradd ailgylchu gwael a lefelau uchel o wastraff bagiau du.

 

Manteisiodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth ar y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Craffu, y swyddogion a’r Landlordiaid Cymdeithasol am y darn cadarn a chynhwysfawr o waith, a ddylai wella’r sefyllfa ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Anogwyd yr Aelod o'r Cabinet gan lwyddiant y Diwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned yn Rhydfelen a'r ymgysylltiad â'r Landlordiaid Tai Cymdeithasol.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi mai'r cofnod ailgylchu ar gyfer y chwarter cyfredol yw 67.18, sy'n torri tir newydd.

 

Roedd yr Aelodau'n falch o argymhellion y Pwyllgor Craffu ond roedden nhw'n yn teimlo y byddai angen bwrw ymlaen â thrafodaethau pellach mewn perthynas ag argymhelliad xvi.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi gwaith y Gweithgor Craffu;

2.     Cytuno ar argymhellion i - xv a nodwyd yn yr adroddiad (ac a restrir isod) yn amodol ar ystyriaeth bellach gan ddeiliad Portffolio’r Cabinet, gydag ymateb manwl i’w ddarparu i’r Pwyllgor Craffu - Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant;

3.     Bod trafodaethau pellach yn cael eu dwyn ymlaen gyda'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant mewn perthynas ag argymhelliad xvi fel y mae wedi'i nodi yn yr adroddiad, gydag ymateb i'w ddarparu i'r Pwyllgor yn dilyn trafodaethau o'r fath.

                             i.    Parhau i symud ymlaen gyda'r thema 'Achub Ailgylchu Rhyd' yn ardal Rhydfelen, lle mae preswylwyr yn cael eu hannog i fod eisiau cymryd perchnogaeth a newid eu harferion ailgylchu;

                           ii.    Cyfarwyddo adran gyfreithiol y Cyngor i nodi addasrwydd rhannu data a/neu lunio Gytundebau Lefel Gwasanaeth ac i weithredu ar hynny fel sy'n briodol; ystyried llunio cytundeb ffurfiol rhwng swyddogion RhCT a Landlordiaid Tai Cymdeithasol i gwrdd yn ffurfiol yn rheolaidd;

                          iii.    Bod y Gwasanaethau Gwastraff yn parhau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio mawr, fel y bo'n briodol, a chaiff ymgynghoriadau â'r gwasanaeth eu cynnal cyn i unrhyw breswylwyr newydd symud i mewn i'r eiddo dan sylw;

                         iv.    Ymchwilio ac adolygu unrhyw ddewisiadau amgen i gasglu eitemau swmpus er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon am dipio anghyfreithlon yn Rhydfelen;

                           v.    Gwneud gwaith ymchwilio ac adolygu i weld a yw cyfranogiad ailgylchu yn gwella trwy ddosbarthu bagiau ailgylchu i bob preswylydd yn ardal y prawf, er enghraifft, dyraniad cytunedig  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf icon PDF 109 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i Aelodau o'r Cabinet cyn ei gyhoeddi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant fersiwn derfynol Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Aelodau, a ddiwygiwyd yn dilyn ymgynghori â phartneriaid a'r Pwyllgorau Craffu perthnasol.

 

Diolcodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD:

1.     Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf ar gyfer ei gyhoeddi.

 

 

65.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinwyr yn dilyn y diwygiadau diweddar sy'n cynnwys:

·         Aelodaeth o Gr?p Llywio Gefeillio'r Cyngor

·         Creu Gr?p Llywio'r Cabinet - Newid Hinsawdd

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y newid i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, a PHENDERFYNWYD:

1.     Nodi cynnwys Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

2.     Nodi bod hawl gan Arweinydd y Cyngor i newid y Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau gweithredol unrhyw bryd yn y flwyddyn; a bod diweddariad o adran 3A yn cael ei gyflwyno i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.