Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424110

Eitemau
Rhif eitem

36.

cadeiryddiaeth

Cofnodion:

Agorodd y Dirprwy Arweinydd gyfarfod y Cabinet gan roi gwybod i'r Aelodau fod yr Arweinydd yn sownd mewn traffig oherwydd llifogydd trwm ar y ffyrdd a dywedodd y byddai'n cadeirio'r cyfarfod yn ei absenoldeb.

 

37.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Crimmings oherwydd dyletswyddau eraill y Cyngor, ond roedd y Cynghorydd Crimmings yn bresennol ar gyfer yr eitem olaf ar yr agenda.

 

38.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

39.

CYNLLUN CORFFORAETHOL Y CYNGOR - BLAENORIAETHAU BUDDSODDI pdf icon PDF 247 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n egluro'r sefyllfa o ran adnoddau untro mae modd manteisio arnyn nhw yn sgil adolygu cronfeydd wrth gefn y Cyngor sydd wedi'u clustnodi ar ôl cwblhau'r broses archwilio o ran Datganiad o Gyfrifon y Cyngor 2018/19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ei adroddiad a oedd yn egluro'r sefyllfa o ran adnoddau untro mae modd manteisio arnyn nhw yn sgil adolygu cronfeydd wrth gefn y Cyngor sydd wedi'u clustnodi ar ôl cwblhau'r broses archwilio o ran Datganiad o Gyfrifon y Cyngor 2018/19. 

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod asesiad risg wedi'i gynnal ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd gan y Cyngor a bod cyfle bellach i ryddhau adnoddau, gan ychwanegu y gallen nhw gael eu hystyried, yng ngoleuni natur 'untro' yr adnoddau hyn, ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am y blaenoriaethau buddsoddi sydd ar gael a gwnaeth sylwadau ar y sefyllfa ffodus yr oedd y Cyngor ynddi i ystyried buddsoddiad o'r fath mewn cyfnod o gyni, gan groesawu'r cyfle i gyflwyno'r adroddiad i gyfarfod y Cyngor ar y 23 Hydref 2019.

 

PENDERFYNODD  yr Aelodau:

 

 

1.     Cynnig rhyddhau cronfeydd wedi'u clustnodi a'r blaenoriaethau buddsoddi sy'n deillio o hynny, yn dilyn yr adolygiad, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 23 Hydref 2019.

 

2.    Derbyn adroddiad gyda'r wybodaeth ddiweddaraf tua dechrau 2020 yngl?n â chronfeydd wedi'u clustnodi sydd ar gael yn rhan o'r gwaith arferol ar strategaeth y gyllideb sy'n cael ei wneud ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.

 

 

40.

ADRODDIAD AR GYFLAWNIAD Y CYNGOR - 30 Mehefin 2019 (Chwarter 1) pdf icon PDF 245 KB

Derbyn adroddiad  y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r Cynghorwyr am gyflawniad y Cyngor dros dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2019), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cyflawni a Gwella – grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2019), o ran materion ariannol a gweithredol.  Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau am yr wybodaeth yn y Crynodeb Gweithredol a oedd yn cynnwys data ariannol a chynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, gan dynnu sylw at drefnau adrodd eithriadau i gynorthwyo Aelodau.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod sefyllfa'r gyllideb refeniw yn y chwarter cyntaf yn amrywiant cyfnod, fel yr oedd hi ar 30 Mehefin 2019, o £0.589M gyda'r gorwariant yn bennaf o ganlyniad i bwysau allweddol ar draws Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Roedd hyn yn cynrychioli parhad y sefyllfa a nodwyd yn ystod 2018/19, gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn cynghori bod y Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid cynyddol a pharhaol i’r sector hwn i ateb y galw parhaus presennol, ac hynny sy'n cael ei ragweld yn y dyfodol. Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd am y cadarnhad gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru yngl?n â chyllid Llywodraeth Ganolog i dalu am y cynnydd  mewn costau pensiwn yn 2019/20.

 

Roedd buddsoddiad cyfalaf ar 30 Mehefin 2019 yn £16.7M, gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu newidiadau mewn costau yn ogystal â cheisiadau am grant allanol newydd sydd wedi'u cymeradwyo.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei gyflwyniad gan gyfeirio at gyflawniad ar draws blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, gan hysbysu'r Aelodau bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn, gyda gwaith monitro agos parhaus o bob blaenoriaeth yn parhau i baratoi at y sefyllfa hanner blwyddyn ar 30 Medi 2019.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau ar y pwysau ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion a lobïo Llywodraeth Cymru am yr angen am arian ychwanegol i leddfu pwysau cyllidebol o'r fath.  Croesawodd Aelod o'r Cabinet y newyddion mewn perthynas â'r goblygiadau pensiwn a fyddai'n cael eu hariannu gan lywodraeth ganolog.  Gorffennodd yr Aelod o'r Cabinet trwy gyfeirio at y buddsoddiad sy'n cael ei wneud ledled y Fwrdeistref Sirol er budd ei thrigolion.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gymraeg at y pwysau mewn perthynas â gwasanaethau i blant ac i oedolion, gan ddweud bod y galw yn cynyddu gyda materion cymhleth eraill yn codi, ner gwaethaf y gwaith da y mae'r Cyngor yn ei wneud yn y maes hwn.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar y sefyllfa gadarnhaol mewn perthynas â chyflawniad y Dangosyddion cyflawniad a'r gwaith a wnaed gan yr adran Adnoddau Dynol i leihau salwch ar draws pob adran.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

 

 

Refeniw

 

1.    Nodi a chymeradwyo sefyllfa refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 30 Mehefin 2019 (Adran 2 o Grynodeb Gweithredol yr adroddiad) gan gynnwys lefel ddiwygiedig y Cyllid Pontio yn dilyn cadarnhad o gyllid o du Llywodraeth Ganolog i dalu costau pensiwn ychwanegol y Diffoddwyr Tân.

 

Cyfalaf  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

41.

CYLLID GRANT CYFALAF YCHWANEGOL - CYNNIG GOFAL PLANT pdf icon PDF 103 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi gwybod i Gynghorwyr am y grantiau cyfalaf ychwanegol sydd wedi'u derbyn i gefnogi'r gwaith o ddarparu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Aelodau am y grantiau cyfalaf ychwanegol sy wedi'u derbyn i gefnogi gweithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn RhCT. 

 

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod cais am gyllid wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2018 ar gyfer 11 prosiect i gefnogi datblygu neu greu cyfleusterau gofal plant ar safleoedd ysgolion, neu ger eu llaw. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cais am gyllid hefyd wedi'i gyflwyno ar gyfer swydd Swyddog Prosiect, sy'n cael ei hariannu tan 31 Mawrth 2021 ac ar gyfer cynllun grant 'Gwaith Cyfalaf Bach' i alluogi darparwyr gofal plant sy'n cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant i wneud cais am gyllid i gefnogi prosiectau cyfalaf bach.  Ym mis Chwefror 2019, cafodd y Cyngor wybod ei fod wedi llwyddo i ennill cyllid ar gyfer 4 o'r 11 prosiect cyfalaf, yn ogystal â chyllid ar gyfer y cynllun grant cyfalaf bach / Swyddog Prosiect.  Aeth y Cyfarwyddwr yn ei blaen trwy sôn i Lywodraeth Cymru, ym mis Mehefin 2019, ryddhau cyllid pellach ar gyfer cyflawni rhai o'r prosiectau aflwyddiannus, a chlywodd yr Aelodau i RCT gael £1,000,000 arall i adnewyddu ac ehangu'r ddarpariaeth gofal plant gyfredol yn Ysgol Gynradd Treorci.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y cyllid ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn ychwanegol at y £2.5 miliwn a gafodd ei ddyfarnu yn barod.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y cyfleoedd i fuddsoddi ymhellach yn yr ysgolion er budd pobl ifainc y Fwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.

 

2.    Nodi derbyn £1 miliwn yn ychwanegol o arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at y £2.5 miliwn a ddyfarnwyd eisoes ym mis Chwefror 2019.

 

3.    Ychwanegu'r prosiect sy'n cael ei ariannu at y rhaglen gyfalaf.

 

 

42.

CYFLAWNIAD YSGOLION 2018/19 pdf icon PDF 138 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi adborth i Gynghorwyr am gyflawniad ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf yn ystod 2018/19.

 

Cofnodion:

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wrth y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu trefniadau gwerthuso a gwella newydd i sicrhau bod mesurau cyflawniad ac atebolrwydd yn cyd-fynd â Chwricwlwm newydd i Gymru 2022. Clywodd yr aelodau y byddai'r trefniadau newydd yn cynorthwyo i godi safonau, yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, ac yn darparu system addysg well wrth baratoi ar gyfer 2022. Roedd y trefniadau newydd hyn yn esblygu mewn ffordd gynlluniedig i gynorthwyo ysgolion i bennu system a chynllun hunan-wella ar gyfer gwelliannau parhaus.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y mesurau cyflawniad interim newydd, yn seiliedig ar sgoriau pwyntiau, wedi dileu'r pwyslais ar fesurau trothwy a'r canlyniadau anfwriadol negyddol cysylltiedig a oedd yn gysylltiedig â'r rhain o'r blaen, sef culhau dewis cwricwlwm, y ffocws gormodol ar gr?p penodol o ddisgyblion ar draul eu cymheriaid a'r gystadleuaeth a grëwyd ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol sydd wedi lliniaru yn erbyn diwylliant o ysgolion hunan-wella.

 

Wrth symud ymlaen byddai ystod ehangach o fesurau cyflawniad a gwybodaeth gyd-destunol yn cael eu defnyddio yn ystod 2019/20 i lywio hunanarfarnu a chynllunio gwella ysgolion ac i lunio barnau am effeithiolrwydd ysgolion. 

 

Roedd canlyniadau cyflawniad dros dro ar y mesurau cyfnod allweddol 4 interim newydd yn awgrymu y bu gostyngiad bach mewn safonau yn 2019 ar y mwyafrif o fesurau. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr ei bod yn anodd gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws setiau data 2018 a 2019 oherwydd bod canlyniadau 2019 yn cynnwys y data 'dyfarniad cyntaf' yn unig. Doedd hynny ddim yn wir am setiau data 2018 a ail-gyfrifwyd. Ychwanegodd hi fod data dros dro yn awgrymu bod lle i wella safonau ymhellach yn 2019.

 

Gwnaeth Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sylwadau ar y newidiadau sylweddol a'r adroddiadau gwybodaeth mewn perthynas â chyflawniad ysgolion, gan dynnu sylw mai dim ond mesur dros dro oedd y newidiadau hyn, gyda newidiadau pellach posibl yn cael eu cyflwyno.  Gwnaeth aelod y Cabinet sylwadau ar bwysigrwydd lledaenu'r wybodaeth gywir mewn perthynas â threfnau adrodd ar gyflawniad ysgolion i'r Pwyllgor a chyrff llywodraethu i'w cynorthwyo i ddeall y dulliau adrodd newydd. 

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y cynnydd a'r gostyngiad mewn cyflawniad gan ychwanegu y byddai'r data a ddilyswyd yn cael ei gyflwyno yn ystod y misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

2.    Ystyried goblygiadau'r newid ym mesurau cyflawniad Llywodraeth Cymru ar adrodd ar gyflawniad ysgolion yn y dyfodol.

 

3.    Bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno ar ôl derbyn y data terfynol, wedi'i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.

 

43.

PARTNERIAETH Â CHOLEG YR IWERYDD (COLEGAU UNEDIG Y BYD) pdf icon PDF 136 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi diweddariad i'r Cynghorwyr yngl?n â phartneriaeth sy'n gweithio gyda Choleg yr Iwerydd (Colegau Unedig y Byd) mewn perthynas â lleoliad preswyl posibl ar ôl 16 oed i blant sy’n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ddiweddariad i'r Cynghorwyr yngl?n â phartneriaeth sy'n gweithio gyda Choleg yr Iwerydd (Colegau Unedig y Byd) mewn perthynas â lleoliad preswyl posibl ar ôl 16 oed i blant sy’n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cafodd aelodau'u hatgoffa o'r broses ar gyfer dewis darpar ddysgwyr i'w lleoli, gan ychwanegu nad oedd yn cael ei ystyried yn lleoliad priodol ar gyfer y bobl ifanc a ddewiswyd fel darpar ddysgwyr, er gwaethaf ymweliad â Choleg yr Iwerydd a thrafodaeth bellach gyda'r holl asiantaethau a thîm arweinyddiaeth y coleg. Cytunwyd, fodd bynnag, ei bod eisiau rhaglen sefydlu gadarnach ar gyfer disgyblion CA3 a CA4 er mwyn cyflwyno ystod ehangach o ddarpar ymgeiswyr i Goleg yr Iwerydd.

 

Gwnaeth Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sylwadau ar y cyfleoedd sydd ar gael trwy'r bartneriaeth er iddi nodi nad oedd cyrsiau o'r fath sydd ar gael trwy'r coleg yn addas i bawb.  Gwnaeth sylwadau ar y broses ymgeisio lem a soniodd am y cyfle i edrych yn ôl ar y broses ddethol er mwyn caniatáu sylfaen gynharach ac ehangach, er mwyn caniatáu i bobl ifanc ddod yn fwy cyfarwydd ac ymgyfarwyddo ag amgylchedd y coleg.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Choleg yr Iwerydd ac ysgolion fel bod modd archwilio'r cyfleoedd posibl.

 

2.    Bod swyddogion o'r Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau i Blant yn gweithio gyda'r Coleg i nodi ymgeiswyr addas ar gyfer lleoliad posib yn y Coleg.

 

3.    Y dylid ymestyn y ffiniau i gynnwys gr?p ehangach o ddisgyblion agored i niwed, fel plant mabwysiedig neu blant sydd angen gofal a chefnogaeth.

 

4.    Ystyried a ddylid gweithredu cyfleoedd sefydlu cynharach yn ystod CA3.

 

44.

GWEITHDREFNAU RHOI SYLWADAU, CANMOL A CHWYNO - ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf icon PDF 104 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant drosolwg i'r Cabinet o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfadran fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi sy wedi'u dysgu o gwynion a data cyflawniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2018/19 a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc i Gyfarwyddwr y Gyfadran am yr adroddiad a siaradodd am waith cadarnhaol y gwasanaeth fel sy wedi'i adlewyrchu yng nghynnwys yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys adroddiad Cwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol (wedi'i atodi fel Atodiad 1 yr adroddiad)

 

2.    Nodi'r gwaith sy wedi'i wneud gan Uned Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

45.

CYNLLUN ADBORTH CWSMERIAID - RHOI SYLWADAU, CANMOL A CHWYNO - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19 pdf icon PDF 111 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cyflwyno'r Adroddiad Blynyddol cyntaf sy'n ymwneud â gweithrediad ac effeithiolrwydd Cynllun Adborth Cwsmeriaid corfforaethol ('CFS') y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yr Adroddiad Blynyddol cyntaf i'r Aelodau yn ymwneud â gweithrediad ac effeithiolrwydd Cynllun Adborth Cwsmeriaid corfforaethol y Cyngor ('CFS') rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, a roddodd werthusiad o natur yr adborth a dderbyniwyd gan gwsmeriaid y Cyngor, yn manylu ar sut y defnyddiwyd yr adborth hwnnw a, lle bo hynny'n briodol, ei ddefnyddio i sicrhau gwelliant yn y gwasanaeth ar draws y Cyngor. 

 

Cafodd yr aelodau wybod am y broses gwynion dau gam a oedd yn unol â Pholisi Cwynion Model Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru a fabwysiadwyd gan yr holl Awdurdodau Lleol yn 2011. Siaradodd y Cyfarwyddwr hefyd am y gwelliannau a gyflwynwyd gan y Cyngor mewn perthynas â Gwasanaeth Adborth y Cyngor a gwelliannau pellach a fyddai’n cael eu darparu trwy gaffael system TG newydd ar gyfer dal Cysylltiadau Cwsmeriaid ac Adborth Cwsmeriaid.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Aelodau o'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu hefyd wedi ystyried yr adroddiad, y lefelau priodol o adrodd yn y dyfodol, a bod argymhellion y pwyllgor wedi'u nodi yn adran 6 o'i adroddiad.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am bwysigrwydd y cynllun adborth cwsmeriaid ac argymhellodd y dylid cynnwys adroddiadau ar y cynllun adborth cwsmeriaid yn yr adroddiadau cyflawniad ac adnoddau chwarterol ac ar ben hynny bod adroddiadau cynnydd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu ddwywaith y flwyddyn (i gynnwys adroddiad Blynyddol Cynllun Adborth Cwsmeriaid).

 

PENDERFYNWYD:

 

Yr Adroddiad Blynyddol cyntaf yn ymwneud â gweithrediad ac effeithiolrwydd Cynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor (Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion) ('CFS') rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, wedi'i atodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad;

 

1.       NNodi'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Uned Adborth ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid a'r gwelliannau diweddar a wnaed i reoli a gweithredu'r cynllun CFS; a

 

2.       YYn dilyn ystyried yr adborth o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Craffu a gynhaliwyd ar y 3 Medi 2019, bod y meysydd canlynol ar gyfer gwelliannau mewn perthynas â chynnwys a chyhoeddi Adroddiadau Blynyddol CFS yn y dyfodol, ynghyd â mecanweithiau adrodd CFS yn fwy cyffredinol yn cael eu gweithredu:

                                 i.            YYmgorffori adroddiadau o'r cynllun adborth cwsmeriaid yn yr adroddiadau cyflawniad ac adnoddau chwarterol.

                               ii.            BBod adroddiadau cynnydd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu ddwywaith y flwyddyn (i gynnwys adroddiad Blynyddol CFS)

 

46.

FFORDD OSGOI LLANHARAN pdf icon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am ddatblygu a chynnal y cynllun trafnidiaeth sylweddol: Ffordd Osgoi Llanharan, gan gynnwys manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Priffyrdd a Thrafnidiaeth ddiweddariad i'r Aelodau am y cynllun a fyddai'n darparu ffordd osgoi i'r A473 i'r dwyrain o Llanharan o gam cyntaf presennol y ffordd osgoi a adeiladwyd yn rhan o ddatblygiad Stiwdios Llanilid i bwynt i'r gorllewin o'r orsaf betrol bresennol sydd ar bwys yr A473 gyferbyn â Th? Llanharan (mwy neu lai). Atgoffwyd yr aelodau mai'r cynnig oedd creu ffordd gerbydau 7.3m o led gyda darpariaeth Teithio Llesol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod adeiladu Ffordd Osgoi Llanharan yn rhan annatod o rwydwaith priffyrdd strategol rhanbarthol y Fwrdeistref. Roedd hefyd yn gysylltiedig â'r Ardal Cyfleoedd Strategol (SOA), Llanilid, ar yr M4: Gyrru'r Economi Ranbarthol ac mae'n bwysig i'r cyfleoedd economaidd ehangach ar gyfer ardal orllewinol y Fwrdeistref Sirol a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â'r cynllun gyda'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn nodi bod cyfanswm o 449 o ymatebion o blaid cynigion Ffordd Osgoi Llanharan gyda 453 yn cefnogi Opsiwn 2 fel cymal olaf Ffordd Osgoi Llanharan (doedd pedwar ymateb ddim yn ffafrio'r opsiynau fel y'u cyflwynir). Codwyd nifer o faterion / pryderon yn ystod y broses hon ac ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r dyluniad rhagarweiniol / manwl felly'n ystyried yr ymateb a, lle bo hynny'n briodol ac yn rhesymol, byddai mesurau lliniaru yn cael eu hymgorffori

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg, ac yntau'r Aelod lleol ar gyfer y cylch, y cynllun gan roi sylwadau ar y buddion lleol a gwella cysylltedd yn y rhanbarth y nsgil y cynllun, gan ddarparu mwy o gyfleoedd economaidd.

 

Croesawodd yr Arweinydd y gwaith a wnaed hyd yma a siaradodd am ganlyniadau'r ymgynghoriad, gan dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd y llwybr teithio llesol a fyddai'n rhan o'r cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

 

1.    Nodi'r cynnydd a wnaed a chynnwys yr adroddiad;

 

2.    Bod Opsiwn 2 - Llwybr y Dwyrain (fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gymeradwyo fel yr opsiwn ffafredig ar gyfer datblygiad pellach;

 

3.    Dileu diogelu llwybr SSA18.1 (gorllewinol, Opsiwn 1, gweler Atodiad A yr adroddiad) h.y. trwy'r Maes Lles yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

47.

CANLLAWIAU POLISI NEWYDD AR BERTHNASEDD EUOGFARNAU WRTH BENDERFYNU AR ADDASRWYDD YMGEISWYR A DEILIAID TRWYDDEDAU AR GYFER CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU LLOGI PREIFAT pdf icon PDF 130 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n ceisio cymeradwyaeth er mwyn rhoi'r polisi newydd, canllawiau ar berthnasedd euogfarnau wrth benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Llogi Preifat, ar waith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn ystyriaeth gan Bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor, cyflwynodd Pennaeth Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd ei hadroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth er mwyn rhoi polisi newydd, canllawiau ar berthnasedd euogfarnau wrth benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ar gyfer Cerbydau Hacni a Cherbydau Llogi Preifat, ar waith.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod y Sefydliad Trwyddedu (IOL) wedi cyflwyno Canllawiau (Ebrill 2018) mewn ymateb i bryderon ynghylch y gwahaniaeth yn y meini prawf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ledled y wlad i bennu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer trwyddedau cludo hacni a llogi preifat. Dywedodd hi fod yr IOL yn credu y byddai mabwysiadu'r Canllawiau yn eang yn sicrhau lefel o gysondeb wrth ystyried ceisiadau o'r fath. Cynhyrchwyd y Canllawiau mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol (ac ar ran WLGA) a'u cymeradwyo ganddo. 

 

Siaradodd yr Aelod o'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol am bwysigrwydd y canllawiau ychwanegol, gyda pholisi cyson ledled y DU.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am bwysigrwydd diogelwch y cyhoedd a'r sicrwydd ychwanegol y byddai gweithredu'r polisi yn ei ddarparu.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am bwysigrwydd y polisi a gwnaeth sylwadau ar ei rôl flaenorol yn Gadeirydd Pwyllgor Trwyddedu'r Cyngor a'r penderfyniadau pwysig a wnaed gan y Pwyllgor, gan roi sylwadau ar bwysigrwydd hyfforddiant rheolaidd i aelodau o'r Pwyllgor i'w cynorthwyo yn eu rôl wrth symud ymlaen. 

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo'r polisi canllaw newydd ar berthnasedd collfarnau ar gyfer penderfynu ac addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y fasnach Cerbydau Hacni a Llogi Preifat, ymhellach i'r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2019, fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

2.    Cymeradwyo gweithredu'r polisi canllaw newydd yn effeithiol ar gyfer pob cais newydd a dderbynnir a thrwyddedau presennol sydd ar waith ar 1 Tachwedd 2019 ac ar ôl hynny.

 

 

DS Wrth drafod yr eitem hon, daeth y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Crimmings i'r cyfarfod.

 

48.

Argymhellion Gweithgorau Craffu: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Datblygu Seilwaith i Gefnogi Perchnogaeth Cerbydau Carbon Isel pdf icon PDF 105 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'r Cabinet mewn perthynas â Datblygu Seilwaith i Gefnogi Perchnogaeth Cerbydau Carbon Isel.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth y Cabinet am ganfyddiadau a deg argymhelliad y Gweithgor Craffu a sefydlwyd i ystyried datblygu Seilwaith i gefnogi Perchnogaeth Cerbydau Carbon Isel yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2018.

 

Clyweodd yr aelodau i bob un o'r deg argymhelliad, gael eu cymeradwyo yn y Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar 3 Medi 2019 (yn amodol ar fân ddiwygiadau i argymhelliad 9) ac fe'u hysbyswyd i'r Cyngor ar 18 Medi 2019.

 

Diolchodd yr aelodau i'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu am y gwaith a wnaed a PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi gwaith Gweithgor y Pwyllgor Trosolwg a Craffu fel y manylir yn Atodiad yr adroddiad.

 

2.    Cytuno â phob un o'r argymhellion a amlinellir isod mewn egwyddor, yn amodol ar ystyriaeth bellach gan ddeiliaid Portffolio'r Cabinet ar gyfer y maes. Rhoddir ymateb manwl i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ôl hynny: -

 

                      i.        'Dylai'r Cyngor geisio gwella argaeledd a hygyrchedd ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus yn y tymor byr mewn mannau allweddol y Cyngor megis canolfannau hamdden a chyrchfannau twristiaeth'.

 

                    ii.         'Dylai'r Cyngor ystyried camau i hwyluso seilwaith i gefnogi'r cynnydd a ragwelir yn y defnydd o gerbydau trydan ac ystyried sut y gallai'r camau hyn annog preswylwyr ar draws pob rhan o RCT i ddewis prynu cerbyd trydan. Fel rhan o hyn dylai'r Cyngor gynnwys preswylwyr a chydweithio â busnesau a'r sector cyhoeddus ehangach wrth ddatblygu'r cynigion hyn. Dylai'r Cyngor hefyd ystyried y cyfleoedd masnachol sydd ar gael iddo.'

 

                   iii.         'Dylai'r Cyngor ystyried datblygu canllawiau cynllunio atodol i sicrhau bod modd cynnal seilwaith gwefru cyflym mewn datblygiadau preswyl ac sydd heb fod yn rhai preswyl. Gan edrych at y dyfodol, dylai'r Cyngor ystyried nawr, sut y gallai dyluniad trefol ehangach ategu'r esblygiad i drafnidiaeth drydan a newidiadau ehangach mewn ymddygiad symudedd a thrafnidiaeth yn y tymor hwy. Dylai'r Cyngor osgoi ystyried seilwaith Cerbydau Trydan fel un mater, ond yn hytrach dylai gymryd dull integredig trwy ystyried sut mae cynhyrchu a chyflenwi ynni i gefnogi'r gostyngiad ehangach yn yr ôl troed carbon. Mae'r Gweithgor Craffu yn credu y gallai dull rhagweithiol atal unrhyw heriau yn y dyfodol o'r cychwyn ac atal y Cyngor rhag cael ei gosbi'n ariannol pe bai cosbau ariannol llym am gerbydau allyriadau uwch yn cael eu cyflwyno'.

 

                   iv.         'Fel rhan o adnewyddu fflyd yn y dyfodol, dylai'r Cyngor geisio troi at Gerbydau Trydan yn lle cerbydau petrol neu ddiesel cyfredol. Lle gall ystod o gerbydau o'r fath achosi problemau gweithredol ar hyn o bryd, dylai'r Cyngor ystyried opsiynau hybrid / hybrid ysgafn neu'r opsiynau petrol / diesel sydd â'r technoleg diweddaraf sy'n cwrdd â Safon Ewro 6, neu'n rhagori arni. Mae'r Gweithgor o'r farn y gellid gwneud hyn trwy dreialu cerbydau trydan / cerbydau hybrid o fewn Gwasanaeth Cyngor priodol fel Pryd ar Glud i weld sut y gall fod yn hyfyw ac yn gost-effeithiol i'r Cyngor. O ganlyniad i gyflymder y gwelliant yn  ...  view the full Cofnodion text for item 48.