Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd yr Arweinydd y rheiny oedd yn bresennol i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ran pob Prif Swyddog oedd yn bresennol yn y cyfarfod, datganodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fuddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda o ganlyniad i'r adroddiad yn cyfeirio at swyddi swyddogion yn y cynnig i ailstrwythuro carfan yr Uwch Arweinwyr.
Gadawodd y Prif Swyddogion canlynol y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar yr eitem: * Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol * Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant * Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol * Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned * Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu * Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu
Arhosodd y Prif Weithredwr, a ysgrifennodd yr adroddiad a'i gyflwyno (yn rhan o'u cyfrifoldebau statudol) yn y cyfarfod.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.
|
|
Rhaglen Waith y Cabinet PDF 105 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â'r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Waith y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am Raglen Waith y Cabinet, gan gynnwys y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu trafod yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor.
Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y Rhaglen Waith yn ddogfen hyblyg a byddai modd ei diwygio gan ddibynnu ar sefyllfa'r gyllideb.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ddiweddaraf ar gyfer Blwyddyn 2022-23 y Cyngor (gan addasu'n briodol yn ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.
|
|
Premiymau Treth y Cyngor – Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi PDF 157 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ffyniant ac Adfywio a Chyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus y cytunwyd i’w roi ar waith mewn perthynas â chyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y fwrdeistref sirol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus i'r Cabinet a gytunodd i’w roi ar waith mewn perthynas â chyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn y Fwrdeistref Sirol.
Siaradodd y Cyfarwyddwr am gyfarfod y Cabinet a gafodd ei gynnal ar 17 Hydref 2022, lle trafododd y Cabinet Strategaeth Cartrefi Gwag newydd ar gyfer 2022-2025, a chytuno arni. Cytunodd y Cabinet hefyd gynnal ymgynghoriad ar y cynnig i gyflwyno Premiwm Treth y Cyngor ar Eiddo Gwag Tymor Hir. Cynigiwyd y byddai'r premiwm ar gyfer eiddo gwag tymor hir yn cael ei gyflwyno a'i roi ar waith o 1 Ebrill 2023, ac y byddai'r premiwm ar gyfer ail gartrefi yn cael ei roi ar waith o 1 Ebrill 2024 (yn unol â gofynion y Ddeddf). Byddai'r Cyngor yn ysgrifennu at bob perchennog cartref, ar ôl dod i benderfyniad, er mwyn rhoi gwybod am y newidiadau sydd ar y gweill, gan roi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl.
Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Cabinet at Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys manylion yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng 24 Hydref a 21 Tachwedd 2022.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod gan y Cyngor bwerau dewisol i godi symiau uwch o ran Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi, gan anelu at ddefnyddio eiddo gwag eto, cynyddu nifer y tai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod eiddo gwag yn cael effaith niweidiol ar gymunedau ac roedd o blaid cynnig y cynnig gwreiddiol a oedd yn destun ymgynghoriad.
Siaradodd yr Arweinydd o blaid y cynnig gwreiddiol ac er bod y rhan fwyaf o berchnogion yn erbyn y cynigion, nododd fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd o'u blaid nhw gan yr ystyrir bod yr eiddo gwag yn difetha cymunedau. Nododd yr Arweinydd y byddai gan berchnogion ddwy flynedd i adnewyddu neu werthu'r eiddo cyn y cynnydd sylweddol.
Siaradodd yr Arweinydd am y Grant Eiddo Gwag a oedd wedi bod yn llwyddiannus a nododd y byddai rhaglen Cymru gyfan ar gyfer eiddo gwag wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gael yn y Flwyddyn Newydd.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi adborth yr ymgynghoriad fel sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad; 2. Ar ôl trafod adborth yr ymgynghoriad, bwrw ymlaen â chyflwyno premiwm fel sydd wedi'i nodi yn y cynnig gwreiddiol; 3. Yn unol â'r uchod, argymell y ffordd arfaethedig ymlaen i'r Cyngor Llawn; ac 4. Yn amodol ar yr uchod, awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol i roi'r trefniadau gweithredu angenrheidiol ar waith.
|
|
Cymorth i Ffoaduriaid, Dinasyddion Wcráin a Cheiswyr Lloches yn Rhondda Cynon Taf PDF 237 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd Gwasanaethau Cymuned sy’n amlinellu’r cymorth y mae'r Cyngor yn ei ddarparu i ffoaduriaid, dinasyddion Wcráin a cheiswyr lloches yn Rhondda Cynon Taf, a’r gwaith sylweddol y mae'r Cyngor yn wneud ar y cyd â'n sefydliadau partner i ymateb yn gadarnhaol ac mor effeithiol â phosibl wrth ymdrin â'r holl gynlluniau ailsefydlu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned y newyddion diweddaraf i'r Cabinet am y cymorth y mae'r Cyngor yn ei ddarparu i ffoaduriaid, dinasyddion Wcráin a cheiswyr lloches yn Rhondda Cynon Taf, ac amlinellodd y gwaith sylweddol y mae'r Cyngor yn ei wneud ar y cyd â sefydliadau partner i ymateb yn gadarnhaol ac mor effeithiol â phosibl wrth ymdrin â'r holl gynlluniau ailsefydlu.
Cafodd Aelodau wybod bod dros 320 o ffoaduriaid, dinasyddion Wcráin a cheiswyr lloches wedi cael cymorth i ddod o hyd i lety yn RhCT hyd yn hyn, ac mae unigolion newydd yn cyrraedd bob wythnos o dan y cynlluniau amrywiol sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad. O ganlyniad i Gynllun Gwasgaru Ceiswyr Lloches y DU, roedd disgwyl i'r niferoedd gynyddu'n sylweddol dros y 12 mis nesaf.
Nododd y Cyfarwyddwr fod nifer o'r unigolion sy'n cyrraedd wedi cael cymorth i ddod o hyd i swydd, addysg, gwasanaethau iechyd a thai cynaliadwy trwy waith amlddisgyblaethol ystod eang o adrannau'r Cyngor a thrwy gymorth partneriaid allanol, gan gynnwys y bwrdd iechyd lleol.
Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i staff am fynd yr ail filltir er gwaethaf yr amserlenni heriol.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Arweinydd gan ddiolch yn fawr i'r carfanau am eu gwaith sylweddol. Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn galonogol gweld y croeso a'r cymorth y mae staff RhCT a phartneriaid yn eu rhoi. Siaradodd am unigolyn a oedd yn rhan o gynllun ym Mharc Coffa Ynysangharad. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o gael gwybod bod yr unigolyn wedi cael croeso cynnes gan y garfan a bod yr unigolyn wedi ennill gwobr. Roedd hefyd yn falch o nodi bod Cyngor RhCT yn cyfrannu at sicrhau bod Cymru yn Genedl Noddfa.
Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol y sylwadau blaenorol ac roedd yn falch o nodi ymrwymiad hirsefydlog y Cyngor i helpu'r rheiny nad oedd modd iddyn nhw aros yn ddiogel yn eu mamwlad.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi'r nifer cynyddol o ffoaduriaid, dinasyddion Wcráin a cheiswyr lloches sy'n cael eu hailsefydlu yn RhCT a'r galw am dai, cymorth ac arian yn sgil hyn; a 2. Nodi'r camau gweithredu sylweddol y mae'r Cyngor, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid yn eu cymryd i gefnogi a chroesawu pobl sy'n cael eu hailsefydlu yn RhCT.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
|
|
Adolygiad o Strwythur Uwch Arweinwyr y Cyngor Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer diwygiadau i strwythur swyddi Uwch Arweinwyr y Cyngor.
Cofnodion: Yn dilyn trafod adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth yngl?n â materion ariannol unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a PHENDERFYNWYD: 1. Bod y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) yr adroddiad yn cael eu gweithredu o 19 Ionawr 2023 ac yn Atodiad 3(i) o 1 Medi 2023, yn ddarostyngedig i'r broses ymgynghori angenrheidiol â staff; 2. Nodi y byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £78,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr (sy'n cynnwys argostau); 3. Nodi, yn rhan o'r rhaglen arbedion effeithlonrwydd barhaus, ac wedyn yn ddarostyngedig i unrhyw gymeradwyaeth ofynnol gan Bwyllgor Penodiadau'r Cyngor, y byddai'n arwain at ddileu'r swyddi canlynol o strwythur y Cyngor, yn unol â'r dyddiadau diwygio strwythurol uchod ym mharagraff 2.1 yr adroddiad i) Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran); ii) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol (Cyfarwyddwr Lefel 1). iii) Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Lefel 1). iv) Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Rheng Flaen (Lefel 2). 4. Nodi y byddai'r Cabinet, yn sgil y cynnig yn 2.1, yn awdurdodi: a) diwygio swydd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 1); b) diwygio swydd Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 1); c) diwygio swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (Cyfarwyddwr Lefel 1); ch) creu swydd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran); d) creu swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Lefel 1); dd) creu swydd Cyfarwyddwr – Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Gwasanaethau Trafnidiaeth (Cyfarwyddwr Lefel 2); e) newid teitl swydd yn unig o Bennaeth Diogelu a Safonau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Bennaeth Gwasanaeth – Partneriaethau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1). 5. Awdurdodi'r Prif Weithredwr, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, i gychwyn y broses ymgynghori â staff yn unol â Pholisi Rheoli Newid cytunedig y Cyngor ac yna rhoi'r cynigion ar waith; 6. Yn amodol ar gwblhau'r broses ymgynghori y soniwyd amdani ym mhwynt 2.5 yr adroddiad, yna lle bo angen, cyfeirio'r mater o'r telerau a'r amodau a chydnabyddiaeth o'r swyddi sydd wedi'u cynnwys yn strwythur arfaethedig diwygiedig y gyfarwyddiaeth, sydd wedi'i nodi yn Atodiadau 2(i) i 2(iii) ac Atodiad 3(i) yr adroddiad at y Pwyllgor Penodiadau a/neu'r Cyngor llawn fel y bo'n briodol; 7. Nodi y byddai angen newidiadau ôl-ddilynol i Gyfansoddiad y Cyngor o ran dileu a chreu swyddi Prif Swyddogion a strwythur y gyfarwyddiaeth, sydd wedi’i nodi yn Atodiadau 2(i) i 2(iii) ac Atodiad 3(i) yr adroddiad at y Pwyllgor Penodiadau a/neu’r Cyngor llawn ... view the full Cofnodion text for item 97. |