Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Council Business Unit  07385401935

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a  

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Dirprwy Arweinydd y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag Eitem 5 ar yr agenda – Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Cynnig i Uno Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig Yr Hesg i greu Ysgol Gynradd Gymunedol Newydd: 'Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn'.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 561 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2022, yn rhai cywir.

 

 

3.

Rhaglen Waith y Cabinet pdf icon PDF 229 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cabinet ar gyfer 2022-23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am Raglen Waith y Cabinet, gan gynnwys y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu trafod yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn 2022-23 y Cyngor (gyda newidiadau addas lle bo angen); a

2.    Derbyn diweddariad pellach bob 3 mis.

 

4.

Strategaeth Ddrafft y Cyngor – Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd (2022-2025) pdf icon PDF 477 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Weithredwr sy'n galluogi'r Cabinet i drafod, adolygu a chymeradwyo ymateb y Cyngor i Newid yn yr Hinsawdd a Strategaeth y Cyngor ar gyfer Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd, "RhCT Hinsawdd Ystyriol", yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â thrigolion, partneriaid a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys staff.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd – 'RhCT Hinsawdd Ystyriol' derfynol i'r Cabinet, yn dilyn ymgysylltu'n ehangach â thrigolion, partneriaid a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys staff.

 

Nododd y Strategaeth fframwaith o'r camau gweithredu y bydd y Cyngor yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf er mwyn gwneud cynnydd sylweddol a gosod y sylfeini cryf i alluogi'r Cyngor i wneud cynnydd tuag at gyflawni'r targed uchelgeisiol o ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030, ac o fod yn Fwrdeistref Sirol mor Garbon Niwtral â phosibl erbyn yr un dyddiad. 

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn cefnogi'r Strategaeth, gan nodi ei bod yn edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs am newid yn yr hinsawdd gyda Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd y Cyngor, grwpiau cymunedol, trigolion, busnesau ac ysgolion er mwyn rhannu arfer gorau.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd ei chefnogaeth gan nodi'r gwaith mawr sydd wedi'i gynnal gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.              Nodi cynnwys yr adroddiad yma a Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd Ddrafft y Cyngor;

2.              Trafod y Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd ddrafft fel ffordd o ddarparu'r fframwaith ar gyfer gwaith y Cyngor o ran:

a)     Bodloni'r targedau lleihau carbon a nodwyd o safbwynt y Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol.

b)    Cyfrannu at yr ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur sydd wedi'u cyhoeddi'n genedlaethol;

3.              Cynnwys gwaith monitro'r strategaeth yn adroddiadau cyflawniad chwarterol y Cyngor i'r Cabinet ac yna i'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant; a

4.              Parhau â'r sgwrs am Newid yn yr Hinsawdd gyda staff, trigolion o bob oed a chefndir, partneriaid, cymunedau a busnesau, gan ddefnyddio modelau ymgysylltu perthnasol a gwahanol fel bod gan bawb gyfle i gyfrannu.

 

 

5.

Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Cynnig i Uno Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg i Greu Ysgol Gynradd Gymunedol Newydd pdf icon PDF 611 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhannu deilliant yr hysbysiad statudol a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar mewn perthynas â'r cynnig i uno Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg â'r Aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Ysgolion yr 21ain Ganrif wybod i Aelodau'r Cabinet am ganlyniad hysbysiad statudol a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar mewn perthynas â'r cynnig i uno Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg yr adroddiad ac roedd yn falch o nodi y byddai llawer o'r cyllid yn cael ei ariannu gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM). Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod angen atgyweiriadau drud ar y ddwy ysgol dan sylw felly byddai uno'r ddwy yn darparu cyfleusterau modern er mwyn darparu'r cwricwlwm newydd.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D. Williams ac A. Ellis ar yr eitem yma.

 

Roedd y Cabinet o blaid yr adroddiad a PHENDERFYNWYD:

1.    Nodi'r un gwrthwynebiad a ddaeth i law mewn ymateb i gyhoeddiad yr hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig yma;

2.    Rhoi'r cynnig ar waith heb unrhyw newidiadau; a

3.    Nodi'r goblygiadau ariannol yn adran 8 o'r adroddiad, fydd yn destun adroddiadau pellach maes o law.

 

6.

Adolygu Darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn RhCT pdf icon PDF 419 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y gwaith diweddar o gyhoeddi'r Hysbysiad Statudol yngl?n â'r cynnig i aildrefnu Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad, a roddodd wybod i'r Aelodau am ganlyniad cyhoeddiad yr Hysbysiad Statudol yngl?n â'r cynnig i wella darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf.

 

Nododd y swyddog y cafodd Hysbysiad Statudol ei gyhoeddi ar 4 Ebrill tan 11 Mai 2022 mewn perthynas â'r cynnig i agor Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3/4 i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sylweddol yn Ysgol Garth Olwg o 1 Medi 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn perthynas â'r hysbysiad.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg yr adroddiad gan nodi bod yr Awdurdod Lleol yn cymryd camau i greu system ddwyieithog o gymorth arbenigol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan ar yr eitem yma.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Rhoi'r cynnig ar waith fel y cyhoeddwyd yn yr Hysbysiad Statudol fydd yn agor Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3/4 ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sylweddol yn Ysgol Garth Olwg o 1 Medi 2022; a

3.    Cyhoeddi'r Hysbysiadau Penderfyniad perthnasol mewn perthynas ag unrhyw gynigion a ddatblygir fel sy'n ofynnol gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

 

 

7.

CYFRADD AD-DALU COSTAU FESUL MILLTIR AR GYFER STAFF Y CYNGOR pdf icon PDF 295 KB

Derbyn Adroddiad ar y Cyd gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol mewn perthynas â phennu cyfradd yr ad-daliad sy'n daladwy i weithwyr y Cyngor sy'n defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion gwaith.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol yr adroddiad er mwyn i'r Cabinet bennu cyfradd yr ad-daliad sy'n daladwy i weithwyr y Cyngor sy'n defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion gwaith.

 

Roedd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi cydnabod y cynnydd sylweddol ym mhrisoedd tanwydd gan siarad o blaid parhau â'r cynnydd yng nghyfradd yr ad-daliad sy'n daladwy i staff sy'n defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion gwaith, a hynny yn ôl cyfradd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sef 45c y filltir fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Parhau â'r cynnydd yng nghyfradd yr ad-daliad sy'n daladwy i weithwyr y Cyngor sy'n defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion gwaith, a hynny yn ôl cyfradd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sef 45c y filltir fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

 

8.

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid: Trosolwg o Gyllid Ychwanegol 2020-2022 pdf icon PDF 547 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi trosolwg i Aelodau’r Cabinet o’r cymorth ychwanegol y mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi’i gynnig i bobl ifanc o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol y Cyngor ers 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned drosolwg i Aelodau’r Cabinet o’r cymorth ychwanegol y mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi’i gynnig i bobl ifanc o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol y Cyngor ers 2020.

 

Fe wnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg sylwadau cadarnhaol am waith y gwasanaeth gan nodi bod y cyllid wedi helpu llawer o bobl ifainc ledled RhCT. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod yr effaith negyddol y mae Covid-19 a'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar iechyd meddwl, lles ac addysg pobl ifainc; ac roedd yn falch o nodi bod nifer o wasanaethau cymorth ar gael yn rhan o garfan YEPS.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y cynnydd yn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn y pandemig gan ganmol y Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid am gefnogi pobl ifainc i newid eu hagwedd ac ymddygiad.

 

Cefnogodd yr Arweinydd yr argymhelliad i ddyblu nifer y cerbydau hwb ieuenctid, gan nodi bod hyn yn golygu bod modd i'r garfan ymgysylltu â phobl ifainc na fydden nhw wedi ymgysylltu fel arall.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Adolygu'r wybodaeth yn yr adroddiad a gwneud sylwadau amdani; ac

2.    Ymrwymo i ddyblu nifer y cerbydau hwb ieuenctid cymunedol o ddau i bedwar cerbyd.

 

 

9.

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae pdf icon PDF 381 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn dilyn gwaith cyn y cam craffu a gafodd ei gynnal gan y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn ystod ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2022 a cheisio caniatâd yr Aelodau i gyflwyno'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (PSA) a’r cynllun gweithredu i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2022, yn unol â rhwymedigaeth statudol y Cyngor yn rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rheoliadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad i Aelodau'r Cabinet ar yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, a hynny'n dilyn gwaith cyn y cam craffu gan y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2022. Ceisiodd Cyfarwyddwr y Gyfadran gefnogaeth gan Aelodau i gyflwyno'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r cynllun gweithredu i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2022, yn unol â'r rhwymedigaeth statudol sydd ar y Cyngor yn rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol bwysigrwydd chwarae yn ystod blynyddoedd ffurfiannol plentyn, gan nodi ei fod wedi cael ei hyrwyddo ers sawl blwyddyn yn Rhondda Cynon Taf gyda buddsoddiadau parhaus.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r argymhellion a siaradodd am fuddsoddiad sylweddol y Cyngor a'r gwaith a gynhaliwyd gan grwpaiu gwirfoddol i sicrhau bod gan blant yn ardaloedd mwyaf difreintiedig RhCT gyfleoedd chwarae gwell. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.       Trafod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar gyfer 2022-25 a'r cynllun gweithredu ategol;

2.       Trafod sylwadau'r Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc fel y nodir yn adran 7.6 o'r adroddiad; a

3.       Cefnogi'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r cynllun gweithredu, gan gytuno i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

 

10.

Gwydnwch Bwyd pdf icon PDF 619 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi cyfle i’r Aelodau adolygu’r cymorth a gynigir i drigolion sy’n wynebu tlodi bwyd, ac sy'n rhannu manylion y gwaith sydd wedi'i gynnal gyda phartneriaid i ddatblygu ymagwedd strategol mewn perthynas â diogeledd bwyd a’r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ynghyd â chynlluniau datblygu pellach.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant gyfle i Aelodau'r Cabinet adolygu’r cymorth a gynigir i drigolion oedd yn wynebu tlodi bwyd, manylion y gwaith a gynhelir gyda phartneriaid i ddatblygu dull strategol mewn perthynas â diogeledd bwyd a’r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ynghyd â chynlluniau datblygu pellach.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd Cyhoeddus a Chymunedau am yr ystadegau sy'n peri pryder yn yr adroddiad, megis mae gan dros 50% o aelwydydd mewn tlodi yng Nghymru oedolyn sy'n gweithio'n llawn amser. Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet y gwaith sydd wedi'i gynnal i gefnogi'r unigolion sy'n agored i niwed yn y cymunedau gan gefnogi'r argymhellion.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am amseroedd agor banc bwyd mewn ward leol gan nodi ei bod hi'n anodd i deuluoedd fanteisio arno yn ystod yr amseroedd yma. Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd gyfathrebu gwell rhwng y Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy a banciau bwyd yn y dyfodol er mwyn sicrhau argaeledd gwell ar gyfer cymunedau, lle bo hynny'n bosibl.

 

Siaradodd yr Arweinydd am gyllid ychwanegol gan y Cyngor sy'n rhoi cyfle i grwpiau wneud cais am hyd at £500 dair gwaith y flwyddyn, er mwyn cefnogi mentrau mynd i'r afael â thlodi bwyd. Nododd yr Arweinydd fod un gr?p wedi defnyddio'r arian i gludo bwyd i gymunedau. Roedd hyn wedi helpu teuluoedd nad oedd gyda nhw ddigon o arian i deithio i'r banciau bwyd ac yn ôl.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Parhau â'i gymorth i ddatblygu Rhondda Cynon Taf yn 'Lle Bwyd Cynaliadwy'; a

3.    Cymeradwyo cyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

 

 

11.

Warden Cymunedol pdf icon PDF 350 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n ceisio caniatâd y Cabinet i gyflwyno gwasanaeth Warden Cymunedol newydd a fydd yn gweithredu ledled RhCT ac yn cefnogi'r Heddlu wrth sicrhau presenoldeb gweladwy, sy'n tawelu meddwl trigolion, yng nghanol ein trefi, parciau a chymunedau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog y Gwasanaethau Rheng Flaen yr adroddiad a oedd wedi ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno gwasanaeth Warden Cymunedol newydd a fydd yn gweithredu ledled RhCT ac yn cefnogi'r Heddlu wrth sicrhau presenoldeb gweladwy, sy'n tawelu meddwl trigolion, yng nghanol ein trefi, parciau a chymunedau.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad ac esboniodd ei fod yn ymrwymiad i'r cyhoedd y byddai Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol yn cael eu hariannu yn y Fwrdeistref. Nododd yr Arweinydd y byddai'n dymuno i'r Llywodraeth ariannu swyddogion yr heddlu ychwanegol ar y stryd yn y pen draw ond croesawodd yr argymhelliad i sefydlu Gwasanaeth Warden Cymunedol newydd i gefnogi'r gwaith sydd eisoes wedi'i gynnal gan Heddlu De Cymru, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu presennol a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid. Siaradodd yr Arweinydd am y gwaith mawr sydd wedi'i gynnal yng nghanol trefi ac er gwaethaf hyn, esboniodd fod arolygon wedi awgrymu bod rhai trigolion yn teimlo'n anniogel o hyd o ganlyniad i ddigwyddiadau megis ymddygiad gwrthgymdeithasol neu achosion o bobl yn camddefnyddio sylweddau, ac ati. Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y byddai'r gymuned yn croesawu presenoldeb ychwanegol partneriaid.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y buddsoddiad gan nodi y byddai'r presenoldeb ychwanegol mor bwysig.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant y sylwadau blaenorol am bresenoldeb patrolio mewn cymunedau. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr angen am gyfathrebu clir gyda thrigolion er mwyn sicrhau eu bod nhw'n teimlo'n fwy diogel o ganlyniad i'r gwelliannau. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn gobeithio y byddai'r buddsoddiad yn cefnogi agenda'r Cyngor o ran mynd i'r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1)    Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen er mwyn parhau â'r mesurau sydd eu hangen i roi'r cynigion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad ar waith, sef:-

 

a.    Sefydlu Gwasanaeth Warden Cymunedol gan gynnwys carfan newydd o Wardeiniaid Cymunedol gyda staff goruchwylio a darpariaeth cerbydau ac offer addas ar eu cyfer nhw.

 

b.    Adolygu swyddi a chyfrifoldebau presennol Carfan Gorfodi Gofal y Strydoedd.

 

c.     Sefydlu gweithdrefnau gweithio effeithiol rhwng y garfan newydd, Carfan Cymunedau Diogel y Cyngor a'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel ehangach er mwyn cydlynu ymatebion partner priodol i ardaloedd lle mae achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu niwsans i'r gymuned.

 

2)    Darparu cyllid i Heddlu De Cymru er mwyn cyflogi 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) ychwanegol sy'n gweithio'n benodol yn RhCT o dan gyfarwyddyd yr Heddlu.

 

 

12.

Ymrwymiad y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a Chofebion Rhyfel pdf icon PDF 407 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth barhaus y mae'r Cyngor yn ei darparu i gymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr ac sy'n amlinellu sut mae modd i'r Cyngor gynyddu’r ymrwymiad i’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, drwy ddarparu buddsoddiad ychwanegol ar gyfer y Lluoedd Arfog, gan gynnwys Cofebion Rhyfel

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth barhaus y mae'r Cyngor yn ei darparu i gymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr ac amlinellodd sut mae modd i'r Cyngor gynyddu'r ymrwymiad i'r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, drwy ddarparu buddsoddiad ychwanegol ar gyfer y Lluoedd Arfog, gan gynnwys Cofebion Rhyfel

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Dirprwy Arweinydd am ei gwaith ac ymrwymiad parhaus i ddarparu cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad gan nodi'r angen am swyddog a chyllideb benodol er mwyn cyflawni'r rhaglen fuddsoddi dros y pum mlynedd nesaf. 

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd mai RhCT yw'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd â chyllideb ar gyfer y Lluoedd Arfog. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am fentrau cadarnhaol yn RhCT megis clybiau brecwast i gyn-filwyr a chanmolodd Swyddog y Lluoedd Arfog am y cymorth a gwaith parhaus.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r cymorth eang y mae'r Cyngor yn ei ddarparu i gefnogi ein Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr ar hyn o bryd;

2.    Bod y Cyngor yn parhau â'i ymrwymiad i'r Lluoedd Arfog drwy raglen fuddsoddi bellach, gwerth £100k, dros y 5 mlynedd nesaf; a

3.    Bydd y Swyddog Treftadaeth a Henebion newydd ei benodi yn datblygu rhaglen buddsoddi a gwella Cofebion Rhyfel, yn ogystal â bod yn brif gyswllt allweddol ar gyfer y gymuned.

 

 

13.

Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd - Adborth yn dilyn Ymgynghoriad Cyhoeddus a'r Newyddion Diweddaraf am y Prosiect pdf icon PDF 596 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu sy'n nodi prif ganlyniadau'r gwaith ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas â Chynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd (drafft) a'r syniadau cynnar ar gyfer ailddatblygu hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burtons;

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu ganlyniadau'r gwaith ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas â Chynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd (drafft) a'r syniadau cynnar ar gyfer ailddatblygu hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burtons. Yn ogystal â hyn, ceisiodd y Cyfarwyddwr gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd a'r newidiadau arfaethedig a gwaith datblygu a chyflawni pellach o ran y cynlluniau wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant yn falch o nodi bod adborth trigolion yn gadarnhaol ar y cyfan, a bod dros 80% yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r cynigion. Roedd wedi pwysleisio mai'r maes gyda'r lefel isaf o gefnogaeth yn y cynnig oedd datblygu presenoldeb digidol cryfach. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn mai dyma gyfnod cyffrous i Bontypridd gan nodi y byddai llwyddiant i'w weld ledled RhCT yn y dyfodol gyda buddsoddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer ardaloedd eraill.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant y buddsoddi blaenorol ym Mhontypridd megis y Lido, Llys Cadwyn a'r bont newydd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn y byddai'r cynigion yn adnewyddu rhan ddeheuol Pontypridd a'i chysylltu â rhan lwyddiannus gogledd Pontypridd.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd un siaradwr cyhoeddus a Chynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Brencher a S. Wood ar yr eitem yma.

 

Cafwyd trafodaeth ac aeth yr Arweinydd i'r afael â'r sylwadau mewn perthynas â'r cynnig i ddatblygu safle'r hen Neuadd Bingo ar y Stryd Fawr / Heol Sardis yn westy. O ran y galw am westy, pwysleisiodd yr Arweinydd y byddai'n ddatblygiad dan arweiniad y sector preifat. Esboniodd yr Arweinydd fod dadansoddiad prawf o'r farchnad wedi cael ei gynnal gan sefydliadau. Roedd hyn wedi nodi bod galw am westy, yn enwedig wrth i Bontypridd ddod yn ardal fywiog yn rhan o Fetro De Cymru.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a gynhaliwyd mewn perthynas â Chynllun Creu Lleoedd Pontypridd (drafft) a'r syniadau cynnar ar gyfer ailddatblygu hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burtons a phenderfynu a fydd unrhyw newidiadau i'r cynigion;

2.    Cymeradwyo Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd (yn amodol ar unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r broses ymgynghori) a gwaith datblygu a chyflawni pellach o ran y cynlluniau wedi'u nodi yn y ddogfen;

3.    Nodi'r cynnydd wedi'i wneud tuag at gyflawni ymarfer caffael er mwyn sicrhau partner datblygu i ddarparu gwesty ar safle'r hen Neuadd Bingo ar y Stryd Fawr / Heol Sardis; a

4.    Nodi cynnydd wedi'i wneud tuag at cynlluniau i ddymchwel hen adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burtons.

 

 

14.

Strategaeth (Ddrafft) Cyngor RhCT - Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd pdf icon PDF 384 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod cynnwys y Strategaeth (Ddrafft) newydd sy'n ymwneud â Choed, Coetiroedd a Gwrychoedd yn RhCT a chytuno i ddefnyddio’r strategaeth ddrafft fel sylfaen er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn rhan o ymgynghoriad wyth wythnos i geisio barn rhagor o bobl.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu yr adroddiad a oedd wedi rhoi cyfle i'r Cabinet drafod cynnwys y Strategaeth (Ddrafft) newydd sy'n ymwneud â Choed, Coetiroedd a Gwrychoedd yn RhCT a chytuno i ddefnyddio’r strategaeth ddrafft fel sylfaen er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn rhan o ymgynghoriad wyth wythnos i geisio barn rhagor o bobl.

 

Cefnogodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yr argymhelliad gan nodi y byddai'r strategaeth goed yn sylfaen uchelgais y Cyngor i gyflawni rhaglen plannu coed fwyaf RhCT ers cenhedlaeth a bydd yn hyrwyddo egwyddorion 'coeden gywir – lle cywir'.

 

Roedd yr Arweinydd yn cefnogi'r strategaeth uchelgeisiol a siaradodd am y gwaith y mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi'i gynnal.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Strategaeth (Ddrafft) sy'n ymwneud â Choed, Coetiroedd a Gwrychoedd yn RhCT gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

 

 

15.

Cynnig i Gyflwyno Cais i'r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Cwm Cynon pdf icon PDF 402 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu sy'n cynnig crynodeb o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan (Cam 2) a'r bwriad i gyflwyno cais ar gyfer safle'r hen ffatri ieir, Trecynon, sydd yn Etholaeth Seneddol Cwm Cynon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu grynodeb i'r Cabinet o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth San Steffan (Cam 2) a'r bwriad i gyflwyno cais ar gyfer safle'r hen ffatri ieir, Trecynon, sydd yn Etholaeth Seneddol Cwm Cynon.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant y cafodd pedwar cais eu cyflwyno gan Rondda Cynon Taf ym mis Gorffennaf 2021 ond roedd cais hen ffatri ieir Mayhew ar gyfer Etholaeth Seneddol Cwm Cynon yn aflwyddiannus. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y cynllun wedi'i gryfhau ymhellach, a hynny gydag adborth y Llywodraeth, er mwyn ei gyflwyno ar gyfer ail gylch y gronfa. Roedd yn gobeithio y byddai'n llwyddiannus.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod cynnwys yr adroddiad; a

2.    Cytuno i symud gwaith datblygu cais prosiect yn ei flaen i'w gyflwyno i Gylch 2 Cronfa Ffyniant Bro'r DU, fel sydd wedi'i nodi yn adran 5 o'r adroddiad.

 

16.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd pdf icon PDF 1007 KB

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd er gwybodaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd Aelodau'r Cabinet Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gyfer Blwyddyn 2022-2023 y Cyngor.

 

17.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff *** o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

18.

Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) - Cwblhau'r Agwedd Ariannol ar gyfer Prosiect Braenaru Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol mewn perthynas â Rhaglen Ariannu Model Buddsoddi Cydfuddiannol - Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Band B yn flaenorol).

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Nodi'r sefyllfa, fel y nodir yn yr adroddiad yma ar gyflwyno Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosiect ysgolion cynradd Pont-y-clun, Llanilltud Faerdref a Phen-y-gawsi, a'r cam nesaf sef cwblhau'r agwedd ariannol;

2.    Yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o'r Achos Busnes Llawn:

2.2.1   Adolygu a chytuno ar y costau a'r pecyn ariannu sydd wedi'u diweddaru ar gyfer yr ysgolion fel yr amlinellir yn adran 8 o'r adroddiad;

2.2.2   Cymeradwyo gwaith cyflawni Cytundeb y Prosiect gyda Project Co (i'w sefydlu gan Bartneriaeth Addysg Cymru Gyf) ar y cyd â Chytundeb Uniongyrchol y Cyllidwyr, y Cytundebau Cyfochrog, y Contract Profi Annibynnol a'r Cytundeb Cyfrif Arian Yswiriant, (ynghyd â “Chytundebau”) (ac unrhyw ddogfennau sydd i'w llunio yn unol â'r Cytundebau hynny) er mwyn cyflawni ysgolion cynradd Pont-y-clun, Llanilltud Faerdref a Phen-y-gawsi;

2.2.3   Cymeradwyo Cytundeb y Prosiect fydd yn cynnwys Mecanwaith Talu Atodlen 14 fel y nodir yn gryno yn Atodiad 1 a 2 o'r adroddiad fel bod modd rhoi argymhelliad (2.2.2) ar waith, yn amodol ar argymhelliad (2.2.5) isod;

2.2.4   Cymeradwyo Cytundeb Uniongyrchol y Cyllidwyr, y Cytundebau Cyfochrog, y Contract Profi Annibynnol a'r Cytundeb Cyfrif Arian Yswiriant (Atodlenni i Gytundeb y Prosiect) (Atodiadau C, D, E a F) fel bod modd rhoi argymhelliad (2.2.2) ar waith, yn amodol ar argymhelliad (2.2.5) isod;

2.2.5   Nodi y bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Swyddog Monitro yn cwblhau'r Cytundebau ar gyfer eu cyflawni a'u bod nhw wedi cael cymeradwyaeth i wneud y canlynol:

i. cwblhau pob bwlch yn yr wybodaeth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gadarnhau rhwymedigaethau ariannol (gan gynnwys y Tâl Gwasanaeth Blynyddol a'r Tâl Gwasanaeth Misol mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol) ac ymrwymiadau'r Cyngor a dyddiadau rhaglenni; a

ii. gwneud unrhyw newidiadau drafft dilys sy'n benodol i'r prosiect i'r Cytundebau yn ôl yr angen, a hynny ar ôl cymeradwyo unrhyw newidiadau terfynol;

2.2.6   Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Swyddog Monitro gymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau sydd i'w rhoi ar waith gan y Cyngor sy'n ategol i'r Cytundebau sydd wedi'u cymeradwyo trwy hyn;

2.2.7   Nodi y bydd y Prif Weithredwr, y Swyddog S151, neu'r Swyddog Monitro yn cwblhau tystysgrifau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997 a chytuno i indemnio'r swyddog yma wrth wneud hynny.