Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

91.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser.

 

92.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

93.

Cofnodion pdf icon PDF 138 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2018 yn rhai cywir.

 

94.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn dilyn y diwygiadau diweddar sy'n cynnwys:

·         Penodi'r Cynghorydd Tina Leyshon yn Aelod Cabinet newydd ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a Phlant;

·         Penodi'r Cynghorydd Rhys Lewis yn Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a'r Gymraeg;

·         Rhoi'r cyfrifoldeb am Addysg Blynyddoedd Cynnar i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant; a

·         Rhoi cyfrifoldeb am Wasanaethau ac Ymgysylltu Ieuenctid i Arweinydd y Cyngor.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y newid i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, a PHENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd 

2.    Nodi bod hawl gan Arweinydd y Cyngor i newid y Cynllun Dirprwyo mewn perthynas â swyddogaethau gweithredol unrhyw bryd yn y flwyddyn; a bod diweddariad o adran 3A yn cael ei gyflwyno i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

 

 

95.

Ailgylchu yn RhCT - Argymhellion y Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd pdf icon PDF 115 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a ystyriodd adroddiad ar gyflawniad ailgylchu ar gyfer 6 mis cyntaf 2019/20, y Cyfleuster Adennill Deunydd newydd, datblygiadau ym Mryn Pica ar gyfer y dyfodol a newidiadau deddfwriaethol posibl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a ystyriodd adroddiad ar gyflawniad ailgylchu ar gyfer 6 mis cyntaf 2019/20, y Cyfleuster Adennill Deunydd newydd, datblygiadau ym Mryn Pica ar gyfer y dyfodol a newidiadau deddfwriaethol posibl.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau, yn dilyn trafodaeth yn eu cyfarfod ar 18 Rhagfyr 2019, fod y Gr?p Llywio o'r farn bod Cyngor RhCT ar flaen y gad o ran gwelliant parhaus yn yr ardal. Teimlai'r Gr?p Llywio bod y Cyngor mewn sefyllfa gadarnhaol i newid y targed ailgylchu i 80% erbyn 2024/25, ar y cyd ag ymgyrch farchnata addas i roi gwybod ar y camau gorfodi sy'n wynebu preswylwyr os na fyddant yn ailgylchu.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 18 Rhagfyr 2019 a;

2.    Newid y targed ailgylchu i 80% erbyn 2024/25.

 

 

96.

Ffynnon Dwym Ffynnon Taf - Argymhellion y Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd pdf icon PDF 107 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a oedd wedi trafod adroddiad ar y sefyllfa gyfredol o ran Prosiect Ynni Adnewyddadwy Ffynnon Dwym Ffynnon Taf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a oedd wedi trafod adroddiad ar y sefyllfa gyfredol o ran Prosiect Ynni Adnewyddadwy Ffynnon Dwym Ffynnon Taf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y Cabinet fod y Gr?p Llywio wedi cael cyflwyniad Power Point manwl yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr 2019, a oedd yn ceisio egluro cefndir y prosiect, y ffordd arfaethedig ymlaen a'r goblygiadau o ran costau. Roedd y Gr?p Llywio yn arbennig o falch o glywed bod disgwyl i'r prosiect craidd cyfredol arbed 37.1 tunnell o CO2, a chytunwyd i argymell i'r Cabinet gymeradwyo'r prosiect.

 

Manteisiodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Gr?p Llywio am eu gwaith, ac i'r Aelod Lleol am wthio prosiect mor gadarnhaol yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 18 Rhagfyr 2019 a;

2.    Cymeradwyo camau nesaf y prosiect.

 

 

97.

Adroddiadau Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru 2018-2019 pdf icon PDF 115 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru 2019-2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru i'r Cabinet. Mae'n ofynnol ei ddwyn gerbron y Cabinet yn rhan o Reoliad 22 o Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdod Lleol (Cymru) 2007 ac Adran 15 (c) o Gyfarwyddiadau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Rheoliadau Mabwysiadu ar y Cyd) (Cymru) 2015.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad, lle manylwyd ar yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018-19. Dysgon nhw y bu cynnydd yn nifer y plant a leolwyd i'w mabwysiadu a bod recriwtio rhieni yn parhau i fod yn her. Aeth y swyddog ymlaen i siarad am y buddsoddiad o £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi'i ddarparu i gefnogi'r blaenoriaethau a gwella cyflawniad, o bosibl. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

98.

Dirprwyo awdurdod i orfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2019 (Ffioedd ac ati) pdf icon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned ac i'r Awdurdod Trwyddedu unigol yng Nghymru (Rhentu Doeth Cymru) i ddefnyddio pwerau gorfodi Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yr adroddiad, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned ac i'r Awdurdod Trwyddedu unigol yng Nghymru (Rhentu Doeth Cymru) o ran defnyddio pwerau gorfodi Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019, a ddaeth i rym ar 5 Mai 2019.  Esboniwyd bod asiantau gosod a landlordiaid sy'n rheoli eu heiddo eu hunain yn cael eu hatal rhag codi unrhyw ffioedd cyn, yn ystod neu ar ôl tenantiaeth oni bai eu bod wedi'u heithrio'n benodol yn y Ddeddf.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 4.4 yr adroddiad, lle amlinellwyd y taliadau y mae hawl gan asiantau gosod a landlordiaid hunanreoli eu codi. Esboniwyd y gallai'r Cyngor a Rhentu Doeth Cymru orfodi'r gofynion newydd ac y byddai'n cyfrannu at brofiad tecach a mwy tryloyw i denantiaid sy'n dibynnu ar y sector rhentu preifat.

 

Cyn y drafodaeth, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau am wall yn Adran 2.1 yr adroddiad gan ddweud, pe byddent yn bwriadu cymeradwyo'r argymhellion, y dylid dileu'r gair 'of'  o'r teitl ‘Renting of Homes (Fees etc.) (Wales) Act 2019’ yn y fersiwn Saesneg.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg yn gadarnhaol am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019, gan nodi ei bod yn gwella hawliau tenantiaid ac yn darparu diogelwch ariannol i breswylwyr.

 

Holodd y Dirprwy Arweinydd a fyddai'r Ddeddf yn cael effaith gadarnhaol ar Dai Amlfeddiannaeth (HMOs), a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen yn hynny o beth ac y byddai'n atal cytundebau benthyciad ac ati.

 

Roedd y Cabinet yn hapus i ddarparu cefnogaeth, yn amodol ar ddiwygio Adran 2.1, a PHENDERFYNWYD:

1.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned ar gyfer gorfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019 a nodi y byddai'r Swyddog Monitro yn gwneud unrhyw welliant dilynol sy'n ofynnol i'r Cyfansoddiad y Cyngor;

2.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Reolwr Gweithrediadau Rhentu Doeth Cymru ar gyfer gorfodi darpariaethau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019 a nodi y byddai'r Swyddog Monitro yn gwneud unrhyw welliant dilynol sy'n ofynnol i'r Cyfansoddiad y Cyngor;

 

 

99.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 113 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2020/2021 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2020/2021 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Caiff hon ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Atodiad A yr adroddiad, lle paratowyd papur trafod gan Uwch Arweinwyr y Cyngor mewn ymateb i Setliad Llywodraeth Leol 2020/21. Roedd y swyddogion wedi rhoi sylw dyledus i'r Cynllun Corfforaethol drafft newydd “Gwneud Gwahaniaeth” 2020-2024, wrth lunio'r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad. Roedd yr adroddiad yn manylu ar farn y swyddogion, sef codi'r Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 ar lefel sy'n cydbwyso'r awydd am ddarparu gwasanaeth teg a chyfiawn â'r angen i gydnabod yr effaith y gall beichiau treth gormodol ei chael ar aelwydydd lleol.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr am y Setliad Llywodraeth Leol 2020/2021 Arfaethedig, a ragwelodd y byddai cynnydd Cyngor RhCT yn cael ei bennu ar 4.5%. Eglurwyd bod sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn, ond dydy balansau'r Cronfeydd Cyffredinol ddim yn ormodol. Mae rhaid i'r Cyngor, felly, barhau i ganolbwyntio ar gynnal balansau'r Cronfeydd Cyffredinol ar isafswm o £10M, er mwyn lliniaru unrhyw risg o ansefydlogrwydd gyllideb yn y dyfodol. Yn ogystal â hynny, mae cyfle i ddefnyddio'r Gronfa Gweddnewid Gwasanaeth a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig yn bragmataidd ar gyfer arian pontio heb wneud niwed i i sefydlogrwydd ariannol y Cyngor, neu ostwng balansau ein Cronfeydd Cyffredinol yn is na £10 miliwn.

 

O ran gosod lefel Treth y Cyngor, soniodd y Cyfarwyddwr am ddefnyddio dull rhesymol, a fyddai'n cydbwyso'r effaith ar wasanaethau a gallu'r cyhoedd i dalu. Aeth ymlaen i roi gwybod i'r Cabinet am yr adborth o Gam 1 y broses ymgynghori, a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor Craffu Cyllid a Chyflawniad, preswylwyr a rhanddeiliaid mewn perthynas â'r blociau adeiladu strategol allweddol a ddefnyddir i lunio cyllideb y Cyngor. Nododd yr Aelodau mai'r cynnig gwreiddiol a gafodd ei fodelu oedd cynyddu Treth y Cyngor yn 2020/21 o 3.00%, ond cynigiwyd y dylid cynyddu Treth y Cyngor o 2.85% yn lle hynny. Byddai hyn yn cynyddu'r bwlch cyllidebol sy'n weddill o £0.132 miliwn.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 8 o adroddiad yr Uwch Arweinwyr, lle nodwyd cynigion Cyllideb 2020/21 i'w hystyried gan y Cabinet. Ceisiodd y cynigion barhau i amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen a blaenoriaethu meysydd allweddol, megis cynyddu Cyllideb yr Ysgol o £148.9 miliwn i £161.6 miliwn, cynnydd o £12.7 miliwn, neu 8.5%.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr fanylion y cynigion canlynol:

·         Cynllun rhyddhad lleol - Ardrethi Annomestig   

·         Ymgysylltu â Phobl Ifanc / Troseddu Ieuenctid

·         Pyllau Padlo

·         Benthyca Darbodus ar gyfer Buddsoddi yn ein Seilwaith

·         Cefnogi Canolfan Gelf y Miwni

·         Ffioedd a chostau

·         Arbedion Ail-dendro Cludiant Cartref i Ysgol

·         Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

·         Strategaeth Llety â Chymorth ac Arbedion

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr trwy roi gwybod i Aelodau'r Cabinet, pe bydden nhw'n bwriadu cymeradwyo'r cynigion ger eu bron, y byddai Cam 2 yr ymgynghoriad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 99.

100.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

101.

Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol - y diweddaraf

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y cynnydd yn erbyn themâu allweddol y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23. 

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n cynnwys Gwybodaeth Eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth yngl?n â materion ariannol unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad; a

2.    Cynyddu'r targed i 35% ar gyfer lleihau ôl troed llety swyddfa erbyn 2021/22.

 

102.

Dileu dyledion nad oes modd eu casglu

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid sy'n nodi datganiad sefyllfa ar ddyledion nad oes modd eu casglu, ac sy'n pennu'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym.

 

Cofnodion:

Yn dilyn ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno), PENDERFYNWYD:

1.    Dileu'r cyfrifon sydd wedi'u nodi yn Atodiad 2 i'r Ddarpariaeth o Ddyledion sydd wedi'i chynnwys yng nghyfrifon y Cyngor (gan geisio taliad os daw rhagor o wybodaeth am unrhyw ddyled i'r amlwg).