Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424110

Eitemau
Rhif eitem

149.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.         Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.         Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

150.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mawrth a 9 Ebrill 2019 yn rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019 a 9 Ebrill 2019 yn rhai cywir.

151.

Dyfodol Canolfannau Oriau Dydd – Adroddiad yr Ymgynghoriad pdf icon PDF 150 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori chwe wythnos o hyd ar ddyfodol y canolfannau oriau dydd mynediad agored sy'n weddill.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori chwe wythnos o hyd ar ddyfodol y canolfannau oriau dydd mynediad agored sy'n weddill. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 21 Tachwedd 2018 i gynnal ymgynghoriad.

 

Atgoffwyd yr aelodau o'r rhesymeg dros yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r canolfannau canlynol: Canolfan Oriau Dydd y Gilfach-goch; Canolfan Oriau Dydd Brynnar Jones, y Gelli; Canolfan Oriau Dydd T? Teifi, Maerdy; a Chanolfan Oriau Dydd Nazareth, Trewiliam.  Roedd y rhain yn cynnwys: pryderon ynghylch defnydd isel (mae pobl yn dewis peidio â mynychu); cost gynyddol cynnal canolfannau oriau dydd i'r Cyngor; y buddsoddiad cyfalaf sylweddol posibl sydd ei angen i gadw'r canolfannau, a'r pwysau ehangach ar gyllideb y Cyngor yn sgil anghenion cynyddol preswylwyr sydd angen gofal a chefnogaeth wedi'u hasesu.  Cyfeiriwyd yr aelodau at dabl 1 yn yr adroddiad a oedd yn darparu ffigyrau mewn perthynas â defnydd a chost net fesul pryd yn y canolfannau dydd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r aelodau am y broses ymgynghori chwe wythnos a gynhaliwyd a dywedodd fod yr adborth yn dangos y byddai'n well gan y mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaethau fod y canolfannau'n aros ar agor, a bod prydau poeth a gweithgareddau ar gael o hyd. Mae hyn yn ddealladwy. Ychwanegodd fod defnyddwyr y gwasanaeth yn nodi bod posibilrwydd y bydd ynysu cymdeithasol yn cynyddu, a byddai colli prydau poeth yn un o effeithiau sylweddol cau'r canolfannau oriau dydd.

 

Fodd bynnag, parhaodd y Cyfarwyddwr drwy egluro ei bod yn bosibl dadlau'n rhesymol nad yw'r model presennol yn bodloni anghenion mwyafrif y bobl h?n yn ein cymunedau bellach, ar sail y dystiolaeth yngl?n â'r nifer fach iawn o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Nid yw'r defnydd isel a'r gost barhaus i'r Cyngor yn gynaliadwy yn y tymor hir. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i egluro'r cyfleoedd sydd ar gael drwy'r rhaglen Canolfannau Cymuned i ddatblygu gwasanaethau i'r gymuned gyfan, ar gyfer pob cenhedlaeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg at y strategaethau eraill yr oedd angen eu hystyried wrth drafod yr adroddiad, gan gyfeirio at y rhaglen Canolfannau Cymuned, Strategaeth Pobl H?n Cwm Taf a'r strategaeth Gofal Ychwanegol, gan ychwanegu bod y rhain i gyd yn cyfrannu at foderneiddio gwasanaethau i'r genhedlaeth h?n yn Rhondda Cynon Taf.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y defnydd isel o'r canolfannau oriau dydd presennol yn yr adroddiad, ond cyfeiriodd at waith caled ac ymroddiad y staff sydd yn y canolfannau oriau dydd ar hyn o bryd sy wedi'u hadlewyrchu yn sylwadau defnyddwyr y gwasanaethau yn ystod yr ymgynghoriad, a gwerth eu gwasanaeth.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at dabl 1 yn yr adroddiad, gan fynegi ei bryder ynghylch y defnydd isel a lefel y gwariant.  Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am y posibilrwydd o ddefnyddio'r rhaglen Canolfannau Cymuned i ddatblygu gwasanaethau yn y Gymuned ymhellach pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud i gau'r canolfannau oriau dydd.

 

Siaradodd  ...  view the full Cofnodion text for item 151.

152.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2019-2022 pdf icon PDF 105 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n cyflwyno i Aelodau yr wybodaeth yngl?n â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ar gyfer 2019-2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr ymgynghorydd Cydraddoldeb a Strategaeth Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor i'r Aelodau. Cafodd ei ddatblygu i ddangos sut y mae modd i'r Cyngor gyflawni ei nodau a'i ymrwymiad i gydraddoldeb a sut y bydd yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Cafodd proses ymgysylltu gynhwysfawr ei chynnal er mwyn cynnwys/ymgynghori â chymaint o bobl â phosib ynghylch yr Amcanion Cydraddoldeb Drafft. Roedd hyn yn gyfle i gynnig argymhellion ar gyfer amcanion ychwanegol neu wahanol.  Roedd yr adborth yn gadarnhaol. Yn sgil yr adborth, cafodd yr amcanion cydraddoldeb canlynol eu gosod yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol:

·         Deall anghenion ein cymunedau yn well a deall yr hyn sy'n eu rhwystro rhag ffynnu.

·         Lleihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn ein cymunedau.

·         Hyrwyddo cymunedau diogel.

·         Lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

·         Creu gweithlu cynhwysol.

 

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y cynllun gweithredu a ddatblygwyd a fydd yn cael ei ymgorffori yn nhrefniadau Rheoli Cyflawniad y Cyngor.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan gyfeirio at rai o'r sylwadau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, gan gynnwys pryderon ynghylch Cyfleusterau Cyhoeddus, Prydau Ysgol am Ddim a Throseddau Casineb.  Cytunodd y Dirprwy Arweinydd ar yr amcanion a amlinellwyd yn y cynllun, gan ychwanegu bod hwn yn ddarn parhaus o waith i'r garfan barhau i'w ddatblygu.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo a chyhoeddi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

 

153.

Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Cynllun Grant Cyfalaf Canolfannau Cymuned pdf icon PDF 127 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi manylion i Aelodau am geisiadau'r Cyngor am gyllid o dan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru – Cynllun Grant Cyfalaf Canolfannau Cymuned.

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog Ysgolion yr 21ain Ganrif fanylion i'r Aelodau am gais y Cyngor am gyllid yn rhan o gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru – Cynllun Grant Cyfalaf Canolfannau Cymuned.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am Gynllun Grant Cyfalaf Canolfannau Cymuned Llywodraeth Cymru a'r pum prosiect mae'r cyngor wedi cyflwyno cais mewn perthynas â nhw, sef: Canolfan Cymuned Ffynnon Taf, Canolfan i'r Teulu Seren Fach, Trac Athletau Brenin Siôr V, Cwm Clydach, Cae 3G Treorci, Parc Ystradfechan a Chanolfan Cymuned Plaza'r Porth.  Dywedodd y Swyddog fod y 5 prosiect wedi llwyddo i ennill cyllid ac aeth yn ei flaen i roi manylion pellach am y prosiectau.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod y £1,060,000 oedd wedi'i ddyrannu wedi'i gyllido 100% gan grant, a doedd dim angen i'r Cyngor gyfrannu arian ychwanegol neu gyfatebol.

 

Daeth y Swyddog a'i sylwadau i ben trwy nodi fod y cyllid sydd wedi'i ddyrannu er mwyn datblygu'r canolfannau cymuned yn ddatblygiad cadarnhaol a bydd yn sicrhau bod gan breswylwyr o bob oed yn Rhondda Cynon Taf fynediad i leoliad a chyfleusterau o'r safon uchaf, lle mae ystod o wasanaethau ar gael i fodloni eu hanghenion.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes yr adroddiad a'r gwaith oedd wedi'i wneud gan ystod o swyddogion o wahanol wasanaethau i sicrhau'r cyllid.  Cymerodd yr Aelod o'r Cabinet y cyfle i fynegi un pryder yngl?n â symud carfan Cymunedau am Waith i drydydd llawr Plaza'r Porth a mynegodd bryderon mewn perthynas â natur sensitif derbyn talebau banc bwyd. Gofynnodd fod y sefyllfa'n cael ei monitro i sicrhau nad oedd unrhyw effeithiau andwyol oherwydd y symudiad yma.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn yn gadarnhaol am y cyllid hefyd a'r datblygiadau gyda'r canolfannau cymunedol ac unwaith eto, diolchodd eto i bawb a fu'n gweithio i sicrhau'r cyllid.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

2.    Derbyn £1.06 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

 

3.    Cynnwys y prosiectau wedi'u hariannu sydd wedi'u nodi yn adrannau 5 a 6 yr adroddiad yn y rhaglen gyfalaf.

 

154.

Grant Cyfalaf Cynnal a Chadw Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif pdf icon PDF 126 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi manylion i Aelodau am yr arian grant cyfalaf cynnal a chadw ychwanegol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fanylion i'r Aelodau am yr arian grant cyfalaf cynnal a chadw ychwanegol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am gefndir y cyllid, a bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £40 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol wrth fynd i'r afael â heriau ym maes cynnal a chadw cyfalaf. Roedd yr arian wedi cael ei ddyfarnu i liniaru'r pwysau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu profi a chefnogi Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, un o'i phrif flaenoriaethau wrth fynd i'r afael â chyflwr gwael ysgolion.

 

Aeth y Cyfarwyddwr yn ei blaen trwy roi gwybod bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn dyraniad o £3.185 miliwn - roedd hyn wedi'i ariannu 100% gan gyllid grant, a doedd dim angen i'r Cyngor gyfrannu arian ychwanegol neu gyfatebol.  Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu ar gyfer 2019/2020 a bydd modd cyflawni'r gwaith adeiladu erbyn diwedd mis Mawrth 2020.  Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5.1 yr adroddiad a oedd yn nodi manylion y prosiectau arfaethedig i'w hariannu gan y rhaglen cadw a chynnal cyfalaf ychwanegol sydd wedi'i gynllunio.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes y cyllid ychwanegol, gan ddweud y byddai hefyd yn helpu ysgolion i leihau eu cyllidebau cynnal a chadw. Croesawodd y gwaith a fyddai'n cael ei gwblhau trwy'r prosiectau arfaethedig sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi derbyn £3.185 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

 

2.    Cymeradwyo'r prosiectau a amlinellwyd yn yr adroddiad a'u dynodi'n flaenoriaeth ar gyfer 2019/20 a chymeradwyo cychwyn y cynllun.

 

155.

Cais am Gyllid Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant pdf icon PDF 119 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi gwybod i Aelodau am y grantiau cyfalaf sy wedi'u derbyn i gefnogi gweithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn RhCT. 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Aelodau am y grantiau cyfalaf sy wedi'u derbyn i gefnogi gweithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn RhCT. 

 

Cafodd yr Aelodau wybod am wahoddiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cais am grant ac achos busnes ar gyfer prosiectau cyfalaf a fyddai'n cefnogi gweithredu elfen gofal plant Cynnig Gofal Plant RhCT.

 

Cafodd yr Aelodau wybod, yn ystod y broses gyflwyno, roedd swyddogion wedi cytuno y byddai'r cais am gyllid yn canolbwyntio ar gefnogi darpariaeth gofal plant cyn ac ar ôl ysgol sydd eisoes yn bodoli mewn ysgolion, neu ddatblygu lleoliadau newydd mewn ysgolion lle mae galw am y math yma o ofal wedi'i ariannu gan y Cynnig Gofal Plant.  Mae'r prosiectau yma yn cefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor trwy gynnig dull ar gyfer rhannu lleoliadau ar safleoedd ysgol.  Cyflwynwyd 11 o brosiectau i'w hystyried.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 4.8 yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r 11 prosiect a gyflwynwyd, a gofynnwyd hefyd am gais pellach am swydd Swyddog Prosiect benodol.  Ym mis Chwefror 2019, cafodd y Cyngor wybod ei fod wedi llwyddo i ennill cyllid ar gyfer 4 o'r 11 prosiect cyfalaf, yn ogystal â chyllid ar gyfer y cynllun grant cyfalaf bach a'r Swyddog Prosiect, sef:

 

·         Ysgol Gymuned Tonyrefail

·         Ysgol Gynradd Gwauncelyn

·         Ysgol Gynradd Cwmlai

·         Ysgol Gynradd Dolau

·         Cynllun grant cyfalaf bach

·         Swydd Swyddog Prosiect

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes y cyllid grant o £2,598,014, a soniodd am y pwyslais ar ofal cyn ac ar ôl ysgol er mwyn hwyluso a chefnogi trosglwyddo'n ddi-dor rhwng elfen HCB y Cynnig Gofal Plant a'r gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu.  Siaradodd yr Aelod yn gadarnhaol am y prosiectau oedd wedi'u dewis a phwysigrwydd y Swyddog Prosiect wrth hwyluso'r prosiectau yn y dyfodol. 

 

Ailadroddodd yr Arweinydd ei ddiolch i'r swyddogion a oedd wedi cyfrannu at gyflwyno'r ceisiadau ar gyfer y prosiectau a chroesawodd y cyllid.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

2.    Nodi derbyn £2,598,014 o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

3.    Cynnwys y prosiectau cyfalaf a ariennir gan grantiau yn y rhaglen gyfalaf.

 

4.    Cymeradwyo sefydlu swydd Swyddog Prosiect benodol wedi'i hariannu gan grant am gyfnod y rhaglen, sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

156.

CREU CANOL TREFI BYWIOG YN RHONDDA CYNON TAF – MEITHRIN BUSNESAU GYDA PHECYN CYMORTH WEDI'I DARGEDU YNG NGHANOL EIN TREFI pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygiad, sy'n rhoi manylion fframwaith arfaethedig ar gyfer pecyn cymorth wedi'i dargedu, wedi'i ffocysu a'i gydlynu ar gyfer busnesau yng nghanol trefi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Ffyniant ei adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cyflwyno fframwaith ar gyfer pecyn cymorth wedi'i dargedu a'i gydlynu i fusnesau yng nghanol ein trefi. Byddai'n caniatáu i fusnesau dyfu a ffynnu, gan gynyddu cyfleoedd cyflogaeth a ffyniant, ac arwain at fywiogi canol ein trefi a sicrhau eu bod nhw wrth galon ein cymunedau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y pecyn cymorth yn ystyried dyfodol hir dymor canol trefi a thrigolion y Cyngor, ymwelwyr a busnesau sy'n dibynnu arnyn nhw.  Mae meithrin ffyniant hir dymor cynaliadwy ar draws canol ein trefi yn holl bwysig i atal dirywio cymunedau a hwyluso buddsoddiad a fydd yn creu swyddi a ffyniant gyda busnesau lleol llewyrchus.

                       

Parhaodd drwy roi gwybod y byddai cymorth ar gael i fusnesau yng nghanol trefi er mwyn iddyn nhw fanteisio ar gyfleoedd masnachu a marchnad ar yr adegau addas a gwneud cynigion o ran buddsoddiad cynaliadwy. Byddai'r pecyn yn cael ei dargedu mewn ffordd gydlynol ar draws canol trefi allweddol.

 

Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at adran 6 yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion pellach am y fframwaith arfaethedig gan gynnwys Strategaethau Canol Trefi a Phrif Gynlluniau; Trethi Annomestig (NDR) - Cynllun Gostwng Trethi Busnes Newydd; • Rhaglen Cymorth Menter, • Grant Cynnal Canol Trefi, •            Rhaglen Buddsoddi Eiddo Pontypridd; • WiFi Canol y Dref; •Prosiect Adeiladu Cydnerthedd, Ffyniant a Lles; • Rhaglen Gwella Adeiladau Blaenllaw yng Nghanol Trefi a • Chefnogaeth i Fusnesau Gyflawni eu Rhwymedigaethau Statudol.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter am bwysigrwydd cefnogi busnesau yng nghymunedau RhCT gan ychwanegu bod yr amryw fesurau sydd wedi'u cynnig yn darparu pecyn cymorth cydlynol.   Soniodd am y mesurau arloesol sy'n cael eu cyflwyno a soniodd am y llwyddiant a welwyd eisoes yng nghanol rhai trefi gan gyfeirio at y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr sydd wedi'i weld yn Nhonypandy ers cael gwared ar y parth i gerddwyr.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cyflawni'r pecyn Cymorth i Fusnesau wedi'i dargedu sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, a'i fonitro, er budd busnesau canol y dref.

 

2.    Datblygu cynigion manwl ar gyfer Cynllun Gostwng Trethi Busnes yn lleol, fel sy wedi'i nodi yn yr adroddiad, a'u dwyn ger bron y Cabinet i'w hystyried; ac

 

3.    Y dylid datblygu elfennau eraill y pecyn ymhellach, a pharatoi adroddiad fel sy'n briodol, er mwyn datblygu strategaethau canol y dref a phrif gynlluniau, a rhaglen i wella adeiladau blaenllaw.