Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424110

Eitemau
Rhif eitem

139.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:-

 

Eitem 6 ar yr agenda – Adolygu'r newidiadau i ddarpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf

 

·         Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Bevan y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r eitem – “Rwy'n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith ond nid yw fy muddiant yn un sy'n rhagfarnu oherwydd yr eithriad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff 12(2)(a)(iii) y Cod Ymddygiad i Aelodau.”

·         Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r eitem – "Rwy'n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Heol y Celyn ond nid yw fy muddiant yn un sy'n rhagfarnu oherwydd yr eithriad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff 12(2)(a)(iii) y Cod Ymddygiad i Aelodau.”

 

Eitem 7 ar yr agenda – Cynllunio ar gyfer lleoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

 

·         Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r eitem - "Rwy'n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon ond nid yw fy muddiant yn un sy'n rhagfarnu oherwydd yr eithriad ym mharagraff 12(2) (a)(iii) y Cod Ymddygiad i Aelodau."

140.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet ar 19 Mawrth 2019 yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2019 yn rhai cywir.

141.

Diweddariad ar y Gweithgor Craffu: Ailgylchu mewn ardaloedd Cymunedol pdf icon PDF 158 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llywodraethol a Materion Cyfathrebu, sy'n cyflwyno adroddiad dros dro'r Gweithgor Craffu - Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant, a gafodd ei sefydlu i ymdrin ag 'Ailgylchu mewn Ardaloedd Cymunedol'.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, adroddiad dros dro'r Gweithgor Craffu – Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant, a gafodd ei sefydlu i fynd i'r afael ag 'Ailgylchu mewn Ardaloedd Cymunedol'.  Cafodd Aelodau wybod am yr hyn a fu'n gefndir i'r adroddiad craffu, sef y ffigurau ailgylchu isel a diffyg perchnogaeth o ran ailgylchu gwastraff cymunedol, y ffaith nad oes modd adnabod y rheiny sy'n halogi gwastraff a'r potensial ar gyfer tipio anghyfreithlon.

 

Roedd yr aelodau'n ymwybodol o'r gwaith a wnaed hyd yma trwy ddefnyddio dau is-gr?p y gweithgor, un yn edrych ar Landlordiaid Cymdeithasol a'r llall yn edrych ar orfodi.

 

Ar y pwynt yma yn y cyfarfod croesawodd y Cadeirydd Is-gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd T. Williams i annerch y Cabinet.

 

Siaradodd Cyfarwyddwr y Gyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen yn gadarnhaol am y gwaith a wnaed gan y gweithgor hefyd ac awgrymodd y dylid treialu'r cynllun yn Rhydfelen gan fod yr ardal yn addas i amcanion y treial gan fod pob math o d? ar gael yn yr un ardal honno.  Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gyfadran at y treial a gynhaliwyd yn Ynys-y-b?l hefyd gyda chynllun llythyrau a'r effeithiau cadarnhaol a welwyd. Roedd yn gobeithio y byddan nhw'n cael eu hadlewyrchu yn Rhydfelen gyda'r cynigion craffu.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r gweithgor a Chyfarwyddwr y Gyfadran am eu gwaith a chroesawodd treialu'r cynllun yn ardal Rhydfelen a'r gwelliannau posibl ym maes ailgylchu.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth i'r gweithgor Craffu am ei waith hyd yma a siaradodd am y cyfarfodydd cadarnhaol yr oedd y pwyllgor craffu yn eu cynnal gyda Landlordiaid Cymdeithasol.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet yr argymhellion craffu a'r gwelliannau diweddar a welwyd yn Ynys-y-b?l a chefnogodd cynnal treial a'r gwaith craffu yn y dyfodol yn llawn.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

1.         Nodi adroddiad interim y Gweithgor Craffu;

 

2.         Derbyn argymhellion interim a gyflwynwyd gan y Gweithgor Craffu, fel sy wedi'u nodi isod:

 

a)         Bod achlysur ymgysylltu ailgylchu cymunedol, fel sy wedi'i nodi ym mharagraff 4.6 yr adroddiad, yn cael ei gynnal yn un o'r ardaloedd canlynol, sydd wedi'u hadnabod fel ardaloedd o ailgylchu gwael a lefelau uchel o wastraff bagiau du, mewn partneriaeth â'r Landlordiaid Tai Cymdeithasol a charfan Gwasanaethau Gofal y Strydoedd y Cyngor:

 

           Rhydfelen

 

b)         Ystyried datblygu cynllun peilot priodol yn un o'r ardaloedd uchod, fel y cynllun bagiau sbwriel lliw / neu'r cynllun llythyrau 'Coch / Ambr / Gwyrdd', fel sy wedi'i nodi ym mharagraff 4.6 yr adroddiad. 

 

c)         Cyfarwyddo adran gyfreithiol y Cyngor i gynnal cyfarfodydd gyda'r

Cymdeithasau Tai mewn perthynas â rhannu data a / neu Gytundebau Lefel Gwasanaeth, fel sy wedi'i nodi ym mharagraff 4.7 yr adroddiad; a, 

 

d)         Ymgynghori â'r Gwasanaethau Gwastraff ar geisiadau cynllunio mawr, lle y bo'n briodol ac fel sy wedi'i nodi ym mharagraff 6.2 yr adroddiad.  

142.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i wella darpariaeth addysg yng Nghwm Cynon pdf icon PDF 80 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y gwaith diweddar o gyhoeddi Hysbysiad Statudol mewn perthynas â gwella darpariaeth addysg yng Nghwm Cynon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i Aelodau am ganlyniad cyhoeddi Hysbysiad Statudol diweddar mewn perthynas â chynigion i wella ac ehangu darpariaeth addysg yn Hirwaun. Y cynnig yw buddsoddi mewn ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun, a gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a chynyddu nifer y lleoedd yng Nghwm Cynon Uchaf trwy droi Ysgol Gynradd Penderyn, sy'n ysgol y ddwy iaith ar hyn o bryd, yn ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod 9 gwrthwynebiad wedi eu derbyn yn cynnwys llythyrau, e-byst a 3 deiseb. Roedd manylion y gwrthwynebiadau a'r ymatebion iddyn nhw yn Atodiad 1 y ddogfen.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau o farn Estyn ynghylch y cynigion sef y byddan nhw'n cael effaith gadarnhaol o'u gweithredu.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, petai'r cynigion yn cael eu datblygu, y bwriad fyddai codi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun. Cost amcangyfrifedig y gwaith yw tua £10.4 miliwn.

 

Soniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes am y cynigion a'r gwelliannau i'r ddarpariaeth addysg a fyddai'n digwydd pe bai'r cynigion yn cael eu gweithredu.  Cadarnhaodd y byddai Ysgol Gynradd Gymuned Penderyn yn parhau i dderbyn disgyblion newydd i ffrwd Saesneg yr ysgol nes y bydd yr ysgol yn newid o ysgol ddwy iaith i ysgol Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.   Nodi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Gwrthwynebiad sydd ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad. Mae'n cynnwys crynodeb o'r 9 gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol, a'r sylwadau a roddwyd mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau.

 

2.   Gweithredu'r cynigion fel y maen nhw wedi'u cyhoeddi yn yr Hysbysiad Statudol, sef:

·         adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun erbyn mis Medi 2021;

·         newid categori Ysgol Gynradd Gymuned Penderyn o ysgol ddwy iaith i ysgol Gymraeg o fis Medi 2021;

·         parhau i dderbyn disgyblion newydd i ffrwd Saesneg Ysgol Gynradd Gymuned Penderyn nes y bydd yr ysgol yn newid o ysgol ddwy iaith i ysgol Gymraeg.

 

3.   Nodi y bydd adroddiad ar wahân ar drefniadau ariannu yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor maes o law.

143.

Cynigion i sefydlu Darpariaeth Addysg Gynradd ar gyfer Datblygiad Tai Llanilid pdf icon PDF 101 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y gwaith diweddar o gyhoeddi Hysbysiad Statudol ar gyfer y cynnig i sefydlu darpariaeth addysg gynradd newydd i wasanaethu'r datblygiad tai newydd yn Llanilid, Llanharan.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif wybod i Aelodau am ganlyniad cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn ddiweddar mewn perthynas â sefydlu darpariaeth addysg gynradd newydd i wasanaethu'r datblygiad tai newydd yn Llanilid, Llanharan. Rhoddodd wybod na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau. 

 

Dywedodd y bydd y cwmni datblygu tai (Persimmon Homes) yn talu cost gyfalaf adeiladu'r ysgol newydd, trwy ei gyfrifoldebau Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes y cynnig a chadarnhaodd y byddai'r Cyngor yn helpu i ddylunio'r ysgol er y byddai'r datblygwyr tai yn talu'r gost.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.         Nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, na sylwadau mewn ymateb i gyhoeddiad yr hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig yma;

 

2.         Gweithredu'r cynnig i gynyddu nifer y lleoedd ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd Dolau ac adeiladu estyniad newydd i'r adeilad ysgol presennol.

144.

Adolygu'r Newidiadau i Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 222 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad y gwaith diweddar o gyhoeddi Hysbysiad Statudol yngl?n â'r cynnig i aildrefnu Dosbarthiadau Cymorth Dysgu yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fanylion i Aelodau o ganlyniad cyhoeddi'r Hysbysiadau Statudol mewn perthynas â'r cynnig i alinio darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd y rhesymeg dros y cynigion ei darparu hefyd.

 

Cafodd Aelodau wybod bod cyfanswm o 16 o wrthwynebiadau wedi'u derbyn mewn perthynas â'r hysbysiadau statudol a bod manylion y gwrthwynebiadau wedi'u hamlinellu yn atodiad yr adroddiad. 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant na fyddai unrhyw ddisgyblion yn cael eu heffeithio gan y cynigion ym mharagraffau 5.1.6 – 5.1.9, a byddai dau ddisgybl yn cael eu heffeithio gan y cynigion ym mharagraff 5.1.10. Ychwanegodd hefyd y byddai ymgynghori â rhieni yngl?n â darpariaeth addysgol.  Byddai'r ddau ddisgybl hyn yn cael cynnig naill ai pecyn pwrpasol o gymorth er mwyn parhau â'u haddysg o fewn darpariaeth brif ffrwd Ysgol Gynradd Heol y Celyn neu le yn y Dosbarth Cynnal Dysgu yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn. Mewn perthynas â pharagraff 5.1.4 yr adroddiad, cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod y Cabinet wedi cytuno y bydd y disgybl sydd ar hyn o bryd yn aelod o Ddosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Pen-rhys yn cael cynnig pecyn cymorth er mwyn parhau â'i addysg o fewn darpariaeth brif ffrwd Ysgol Gynradd Pen-rhys.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fod awgrym y dylid diwygio un o'r cynigion gwreiddiol yn dilyn ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiadau Statudol.  Oherwydd nifer y disgyblion a fyddai o bosibl yn cael mynediad i ddarpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (CA2), cynigiwyd parhau ag adleoli Dosbarth Cynnal Dysgu y Cyfnod Sylfaen i Ysgol Gynradd Cwmbach o 1 Medi 2019, ond i beidio â dod â'r ddarpariaeth CA2 yn Ysgol Gynradd Caradog i ben ar hyn o bryd.  Byddai hyn yn darparu parhad mewn dysgu ar gyfer wyth o ddisgyblion CA2 yn yr ysgol yma sydd eisoes wedi profi nifer o newidiadau ysgol, wrth iddyn nhw gyrraedd camau olaf eu haddysg gynradd.

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd siaradodd yr aelodau canlynol o'r cyhoedd ar yr eitem yma: Ms G. Smith, Ms R. Clark a Ms M. Love.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r swyddogion ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y siaradwyr cyhoeddus o ran capasiti a nifer yr unedau sydd ar gael a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu yn cael ei hadolygu'n gyson i sicrhau bod y ddarpariaeth yn y lle iawn ar yr adegau cywir.  Soniodd y Cyfarwyddwr am amrywiaeth y ddarpariaeth arbenigol a oedd ar gael ac ychwanegodd fod dim ond modd i'r Cyngor edrych ar y galw cyfredol a'r niferoedd rhagamcanol, er bod lle i ehangu'r ddarpariaeth pe bai angen.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes i'r siaradwyr cyhoeddus am eu cyfraniad i'r cyfarfod.  Ychwanegodd fod gan yr ysgolion sydd wedi'u rhestru nifer fawr o leoedd gwag ac ychwanegodd na fyddai unrhyw ddisgyblion yn cael eu heffeithio gan y mwyafrif o'r cynigion,  ...  view the full Cofnodion text for item 144.

145.

CYNLLUNIO AR GYFER LLEOEDD MEWN ADDYSG CYFRWNG CYMRAEG pdf icon PDF 126 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr - Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yngl?n â'r galw a'r cyflenwad mewn perthynas â lleoedd mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg ledled y Fwrdeistref Sirol.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yr Aelodau at ei hadroddiad, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf yngl?n â'r galw a'r cyflenwad mewn perthynas â lleoedd mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at adran 4.4 yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y cyflenwad a'r galw presennol yn y Fwrdeistref Sirol ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gan fwyafrif yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ddigon o leoedd dros ben i ateb y galw am leoedd. Fodd bynnag, roedd nifer o ysgolion lle'r oedd y galw bron yn uwch na'r lleoedd oedd ar gael ac atgoffwyd yr Aelodau o'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn. 

 

Cyfeiriwyd yr aelodau hefyd at y cyflenwad a'r galw am ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg fel y nodwyd yn yr adroddiad ac fe'u hysbyswyd bod digon o leoedd dros ben yn yr ysgolion uwchradd fel yn yr ysgolion cynradd er mwyn bodloni'r galw yn y dyfodol, heblaw am achos Ysgol Gyfun Rhydywaun. Atgoffwyd yr aelodau, cyn y Nadolig 2018, cymeradwyodd y Cabinet fuddsoddiad o £10.2 miliwn i wella'r cyfleusterau a chynyddu capasiti Ysgol Gyfun Rhydywaun o 162 o leoedd eraill, sy'n golygu y bydd cyfanswm 1,200 o leoedd yn yr ysgol. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad ar y cynlluniau ar gyfer y dyfodol i ddatblygu a gwella Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol a'r buddsoddiad y byddai ei angen. Roedd hyn yn cynnwys manylion am addasrwydd safleoedd a gwaith adnewyddu adeiladau presennol y byddai angen ei ystyried yn y dyfodol agos.

 

Daeth y Cyfarwyddwr i'r casgliad bod gan y Cyngor hanes rhagorol o gynllunio ar gyfer lleoedd ysgol, gan sicrhau bod digon o leoedd ysgol i ddiwallu anghenion lleol a dewis rhieni ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Ychwanegodd fod ei hadroddiad yn ceisio rhoi cynlluniau pellach ar waith i sicrhau capasiti digonol i ddatblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg bresennol ac i wella ansawdd y profiad addysgol drwy ddarparu amgylcheddau dysgu Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Soniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes am y galw a'r cyflenwad a'r camau sy'n cael eu gweithredu gan y Cyngor i gynyddu cyflenwad a mynediad i ddiwallu anghenion ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yr adroddiad a'r adolygiad cyson o ddarpariaeth ar draws y Fwrdeistref Sirol, sy'n caniatáu i'r Cyngor ymateb i'r galw pan fo angen.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad hefyd a lefel y buddsoddiad yr oedd y Cyngor wedi'i wneud, ac roedd yn bwriadu ei wneud, ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.         Nodi'r sefyllfa bresennol o ran y cyflenwad a'r galw am leoedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol;

 

2.         Nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan y Cyngor i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg  ...  view the full Cofnodion text for item 145.

146.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr 2019/20 pdf icon PDF 130 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n yn darparu manylion am Gynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr 2019/20.

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Aelodau am y Cynllun Rhyddhad Stryd Fawr a Manwerthu (Cymru) diweddaraf (“y cynllun”), sydd wedi'i ymestyn. Cafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru (LlC) a bydd yn weithredol o 1 Ebrill 2019. Bydd y cynllun yn darparu rhyddhad ardrethi i fusnesau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynllun ar gyfer 2018/19 yn cynnwys uchafswm dyfarniad o naill ai £250 (ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol hyd at £12,000) neu £750 (ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,000 a £50,000), gyda'r cynllun yn rhoi cyfanswm o £137,350 o ryddhad i 504 o drethdalwyr busnes yn Rhondda Cynon Taf yn 2018/19.  

 

Aeth yn ei flaen gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu hyd at £2,500 o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer pob eiddo manwerthu sy'n cael ei ddefnyddio, lle bo'r gwerth ardrethol yn £50,000 neu'n is (yn amodol ar derfynau Cymorth Gwladwriaethol).

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol i'r swyddog am yr adroddiad, yn enwedig oherwydd yr amserlenni byr yn dilyn manylion am gyhoeddi'r cynllun gan Lywodraeth Cymru. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y cynnydd fel sy wedi'i amlinellu yn yr adroddiad.

 

Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol hefyd am y cynllun a siaradodd am yr angen i gyfuno'r cynlluniau niferus sydd ar gael er budd staff swyddfa a masnachwyr ac i symleiddio prosesau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.         Nodi manylion y cynllun sy'n cael ei drafod yn yr adroddiad hwn; ac

 

2.         Y bydd 'Y Cynllun' ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 yn berthnasol i'r mathau o eiddo a ddisgrifir yn yr adroddiad yma, ac y dylai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol gael awdurdod i gymhwyso'r rhyddhad i drethdalwyr cymwys.

147.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

148.

Cyfleoedd Partneriaeth Strategol

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n amlinellu opsiwn i'r Cyngor gychwyn proses gaffael ar gyfer partner strategol i sefydlu Canolfan Rhagoriaeth ar gyfer gwasanaethau penodol.

 

Cofnodion:

Rhoddod Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol fanylion i Aelodau ar y cynlluniau presennol i benodi partner strategol er mwyn creu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwasanaethau Refeniw a Budd-daliadau ar ôl cwblhau'r broses gaffael. Roedd yr adroddiad yma yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

1.         Ystyried canlyniad y broses gaffael;

 

2.         Bwrw ymlaen i benodi partner strategol, fel sy wedi'i nodi yn yr adroddiad;

 

3.         Awdurdodi swyddogion i wneud y canlynol:

 

i.          dyfarnu'r contract a rhoi'r trefniadau angenrheidiol ar waith ar gyfer trosglwyddo a lansio; a

 

ii.         ymgysylltu â'r grwpiau o staff sy'n cael eu heffeithio gan y cynnig yma ochr yn ochr â'r undebau llafur cydnabyddedig, i weithredu manylion y trefniant partneriaeth strategol yn unol â'r manylion yn adran 7 yr adroddiad.