Datgan cysylltiad
Datgan buddiannau ar gyfer cyfarfod Strwythur Uwch Reolwyr y Cyngor
- Y Cynghorydd Pauline Jarman - Personol - 'Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman at ei gollyngiad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 27 Tachwedd 2020 sy'n rhoi “gollyngiad i'r Aelod siarad a phleidleisio ar bob mater trwy gydol proses Cyllideb 2021-22, a'i mabwysiadu, yn rhinwedd ei swydd yn Arweinydd yr Wrthblaid”'
- Y Cynghorydd Robert Bevan - Personol a Niweidiol - 'Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu gan roi gwybod ei fod am adael y cyfarfod pan fydd yr eitemau'n cael eu trafod. Cyfeiriodd at y gollyngiad a roddwyd iddo gan y Pwyllgor Safonau ar 27 Tachwedd 2020, sy'n rhoi caniatâd iddo siarad a phleidleisio ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, ac eithrio unrhyw faterion sy'n effeithio ar ei ferch, sy'n cael ei chyflogi gan Gyfadran Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y Cyngor'