Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau'r Gymuned, sy'n darparu trosolwg i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg o gyflawniad y Cyngor yng nghyd-destun Strategaeth Hybu'r Gymraeg, a gafodd ei chymeradwyo ar 25 Ionawr 2017.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau'r Gymuned drosolwg i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg o gyflawniad y Cyngor yng nghyd-destun Cynllun Gweithredu Strategaeth Hybu'r Gymraeg, a gafodd ei chymeradwyo ar 25 Ionawr 2017.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth gefndir y Strategaeth i'r Gr?p Llywio. Dywedodd fod y Cynllun wedi'i ddatblygu o dan Adran 145 o'r Hysbysiad Cydymffurfio a gafodd ei gyhoeddi o dan adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'i ddatblygu yn ystod 2016 mewn partneriaeth â Sbectrwm, Menter Iaith, Gwasanaethau'r Cyngor ac Aelodau Etholedig.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Cynllun Gweithredu wedi'i rannu'n ddwy ran a bod yr holl weithgareddau a thargedau yn cael eu dyrannu ar draws nifer o wahanol themâu. Mae Rhan 1 o'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu'r gweithgareddau a'r targedau y mae'r Cyngor yn gyfrifol am eu cyflawni naill ai trwy ddarparu'n uniongyrchol neu drwy gomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau partner. Mae Rhan 2 yn amlinellu'r gweithgareddau a'r targedau y mae aelodau'r Fforwm Iaith yn gyfrifol am eu cyflawni o dan eu cytundebau cyllido cyfredol gyda Llywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y camau cadarnhaol a gafodd eu cymryd o fewn RhCT i fwrw'r targedau yn yr adroddiad, gan gyfeirio at Atodiad 1, lle mae'r cynnydd yn erbyn targedau ar gyfer pob maes gwasanaeth unigol wedi'u nodi'n fanwl. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed am y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud gyda rhai themâu, gyda rhai targedau wedi'u cyflawni eisoes o fewn eu hamserlenni. Roedd y Cadeirydd yn arbennig o falch o'r cynnydd a nodwyd mewn perthynas â'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg, a dywedodd ei fod wedi bod yn dyst i wers nofio a gafodd ei chynnal trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddiweddar.

 

Nodwyd bod gwella'r cynnig i staff a'u helpu i fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael yn elfen allweddol o'r strategaeth. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn falch o gadarnhau bod llawer o staff yn manteisio ar yr hyfforddiant, p'un ai fel dysgwr newydd neu fel siaradwr â diffyg hyder.  Esboniodd fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno hyfforddiant wedi'i ariannu ar gyfer Cymraeg Gwaith/Work Welsh. 

 

Aeth yr aelodau ymlaen i drafod yr heriau y mae'r Cyngor yn dal i'w hwynebu, a chodwyd pryder yngl?n â'r cam gweithredu sy'n caniatáu i'r Cyngor gyflwyno'r Gymraeg fel prif gyfrwng addysgu yn y Cyfnod Sylfaen mewn rhai ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod llawer o'r targedau wedi'u cydnabod yn rhai uchelgeisiol yn ystod y cam datblygu, a bod rhai yn profi i fod felly yn ymarferol am amryw resymau. Cytunwyd bod angen aralleirio rhai nodau yn y Cynllun.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch datblygiadau cynllunio yn y dyfodol a'r angen am ysgolion newydd yn sgîl hynny. Siaradodd un Aelod am ei ward ei hun, gan nodi er ei bod hi'n gadarnhaol bod y cynlluniau'n cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, roedd pryder bod galw uwch am ysgolion cyfrwng Saesneg neu ddwyieithog. Nodwyd bod yn rhaid i Gynllun Datblygu Lleol cyfredol yr Awdurdod roi sylw dyledus i nodyn cyngor technegol er mwyn ystyried effaith cynllunio ar y Gymraeg, ond gwnaeth nifer o Aelodau sylwadau am yr angen am sicrhau bod cydbwysedd a'r ddarpariaeth gywir ar gael i ateb y gofynion pob ardal unigol. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg ei bod hi'n anodd ystyried ffactorau annisgwyl, er bod rhagamcanion yn cael eu hystyried yn rhan o ddatblygiadau cynllunio. 

 

Manteisiodd Rheolwr Gwasanaeth Uned Gwasanaethau'r Gymraeg ar y cyfle i roi gwybod i'r Gr?p Llywio am newidiadau diweddar i reoliadau'r Gymraeg, gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod darged ar gyfer Awdurdodau Lleol mewn perthynas ag addysg cyfrwng Gymraeg. Dywedodd y swyddog y byddai'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd yn cwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd, a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'n cyd-fynd â'r Strategaeth Hybu er cysondeb.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr, gan ychwanegu ei bod yn bleser gweld faint o waith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod y Cyngor yn bwrw'i darged. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

a)    Cydnabod cynnwys yr adroddiad;

b)    Cymeradwyo'r gwaith o fwrw ymlaen â'r Cynllun Gweithredu yn amodol ar ychwanegu camau pellach i fynd i'r afael â meysydd o flaenoriaeth sydd angen eu gwella. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr adroddiad;

c)    Bod adroddiad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: