Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Nododd yr adroddiad fod cynnydd wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TENs), sy'n ddisgwyliedig ar gyfer adeg yma'r flwyddyn yn dilyn misoedd yr haf.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth na fu unrhyw geisiadau a wrthwynebwyd ers yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bu dau Adolygiad, ac roedd un ohonyn nhw ar gyfer Family Shopper, y Porth, lle penderfynodd yr Aelodau ddirymu'r drwydded; a'r ail ar gyfer Chicken and Kebab Land, Pontypridd, lle penderfynodd yr Aelodau atal y drwydded am ddau fis. Cafodd yr aelodau wybod bod y penderfyniad ar gyfer Chicken and Kebab Land wedi cael ei herio a'i restru ar gyfer Gwrandawiad Apêl yn Llys Ynadon Merthyr, ac y byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd i gyfarfod priodol nesaf y Pwyllgor Trwyddedu (yn eistedd yn ei rôl o dan Ddeddf Trwyddedu 2003).

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod 91% o'r adeiladau a arolygwyd yn cydymffurfio ar y cyfan. Roedd hyn yn gynnydd ers adroddiad blaenorol y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Dysgodd yr aelodau fod swyddogion wedi mynychu nifer o gyfarfodydd cyngor cyn ymgeisio, ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fach ac ar raddfa fwy fel Cegaid o Fwyd Cymru a Ponty's Big Weekend, a oedd yn llwyddiannus. Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw faterion o bwys.

 

Aeth y swyddog ymlaen i siarad am y sefydliadau lluniaeth hwyr y nos yn Ardal y Tymbl, Pontypridd, a chynghorodd yr Aelodau fod problemau yn dal i fodoli ynghylch diffyg cydymffurfio.

 

Gan gyfeirio at honiadau bod staff drws yn defnyddio cyffuriau mewn clwb nos lleol yn Aberdâr, dywedodd y swyddog, er na nodwyd unrhyw gamweddau, nad oedd polisi ar atafaelu cyffuriau. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod gwaith yn cael ei wneud gyda Heddlu De Cymru i lunio polisi cyffuriau sydd wedi'i eirio mewn ffordd newydd. Y gobaith yw y byddai'n cael ei weithredu yn y dyfodol agos.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r Aelodau, yn dilyn ymarferion prynu prawf a gynhaliwyd gan Safonau Trwyddedu a Masnachu ar gyfer gwerthu alcohol i bobl ifainc o dan 18 oed, cafodd alcohol ei werthu i ferch 15 oed yng Nghwm Cynon. Sicrhawyd yr aelodau bod y digwyddiad yn cael ei ymchwilio.

 

O ran gamblo, cafodd yr Aelodau wybod bod archwiliadau o adeiladau wedi'u cynnal am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd ac y canfuwyd bod yr holl adeiladau yng Nghwm Rhondda yn cydymffurfio'n llawn. Sicrhaodd y swyddog yr Aelodau fod arolygiadau mewn ardaloedd eraill yn parhau ac y byddai'r canlyniadau'n cael eu hadrodd i'r cyfarfod priodol nesaf.

 

PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

Dogfennau ategol: