Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Nododd yr adroddiad fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TENs), sy'n ddisgwyliedig ar gyfer adeg yma'r flwyddyn yn dilyn prysurdeb y Nadolig. Serch hynny, roedd nifer o Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro wedi'u cyflwyno dros y Gwyliau Banc amrywiol, a chan fod yr haf yn agosáu, roedd cynnydd yn nifer yr achlysuron yn yr awyr agored, fel marchnadoedd awyr agored. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am ganlyniad cais a wrthwynebwyd a gafodd ei ystyried yn ystod y cyfnod, sef cais Chippy Plus. Penderfynodd yr Is-Bwyllgor wrthod y cais i amrywio'r drwydded safle. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei fod yn dal i ddisgwyl canlyniad un adolygiad, a oedd i'w gyflwyno ar 20 Mehefin 2019. Bydd canlyniad yr adolygiad yma yn cael ei adrodd i gyfarfod priodol nesaf y Pwyllgor Trwyddedu (yn rhinwedd ei swyddogaeth o dan Ddeddf Trwyddedu 2003).

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod 89% o safleoedd a oedd wedi cael eu harolygu yn cydymffurfio'n gyffredinol, a bod swyddogion wrthi'n datblygu cynlluniau gweithredu penodol er mwyn helpu deiliaid trwyddedau i gydymffurfio. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn gobeithio y byddai'r gwaith yn cynyddu'r gyfradd cydymffurfio ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf.

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Cafodd yr Aelodau wybod bod swyddogion wedi gweithio'n agos gyda thrwyddedai mewn perthynas ag achlysuron sydd ar y gweill, gan gynnwys G?yl Cwrw a Jin yn Nhreorci a 'Ponty's Big Weekend' ym Mhontypridd i sicrhau eu bod yn achlysuron diogel a llwyddiannus. Roedd yn dda gwybod bod nifer y bobl sy'n mynychu cyfarfodydd Pub Watch, a chyfrannu atyn nhw yn gadarnhaol, a bod nifer y cwynion a dderbyniwyd wedi gostwng. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd yn fodlon bod noson siopa cudd wedi'i chynnal ac nad oedd unrhyw alcohol wedi'i werthu i bobl dan 18 oed.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau fod yr Awdurdod Trwyddedu wedi cyfrannu at sefydlu gweithgor yn ddiweddar i drafod cyflwyno Canolfan Triniaeth am Alcohol ym Mhontypridd. Er bod y rhain yn drafodaethau cychwynnol, byddai'r ganolfan yn cael ei rheoli gan y GIG ar y cyfan, er mwyn lleihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn dysgu rhagor am ddyddiadau posibl, a sicrhaodd y swyddog y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu yn y dyfodol agos.

 

Wrth drafod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd, cynghorodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod mwyafrif yr achosion wedi digwydd ym Mhontypridd. Dysgodd yr Aelodau fod 44 rhybudd wedi'u cyhoeddi hyd yma, ac roedd 5 o'r rheiny wedi'u cyfeirio at Heddlu De Cymru am fod yr achosion o dorcyfraith wedi parhau. Cwestiynodd un Aelod y gwahaniaeth rhwng Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol a Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus penodol parciau Aberdâr a Phontypridd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y Fwrdeistref Sirol yn nodi ei bod hi'n drosedd yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus os yw'n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus penodol ar gyfer y parciau yn gwahardd yfed alcohol yn y ddau fan cyhoeddus yma. Os nad yw unigolyn yn ildio'i alcohol i Swyddogion Gorfodaeth, yna caiff ei weithredoedd eu hystyried yn drosedd. Wrth siarad am bryderon penodol ym mharc lleol yr Aelod, cynghorodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai'r cam cyntaf i'r Awdurdod Trwyddedu fyddai adolygu'r mater ac ymgymryd â gwaith gyda'r Garfan Nos Wener a'r Garfan Ymgysylltiad Ieuenctid, cyn ystyried gweithredu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus penodol. Eglurwyd y byddai angen i swyddogion gasglu tystiolaeth berthnasol a fyddai'n dangos bod yr ardal yn profi problemau gwahanol i ardaloedd eraill wrth ystyried gweithredu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus penodol. Enghraifft o hyn yw arolwg a gynhaliwyd yng Nghanol Trefi Aberdâr a Phontypridd, lle nododd trigolion nad oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn y parciau.

 

Cyn dod a'i sylwadau i ben, cynghorodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Pwyllgor bod yr Awdurdod Trwyddedu wrthi'n drafftio Datganiad Polisi Deddf Trwyddedu, sydd angen ei adnewyddu ym mis Ionawr 2020. Dywedodd y swyddog y byddai cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf 2019 er mwyn rhoi digon o gyfle i ymgynghori ag Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

Dogfennau ategol: