Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n darparu gwybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n â'r cynllun arfaethedig i hyrwyddo achlysuron lleol a chenedlaethol Cymraeg/dwyieithog gwahanol ar y cyfryngau cymdeithasol bob chwarter. Byddai hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu 5 mlynedd y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.  

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymuned, wybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n â'r cynllun arfaethedig i hyrwyddo achlysuron lleol a chenedlaethol Cymraeg/dwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol bob chwarter. Byddai hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu 5 mlynedd y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

 

Soniodd y swyddog am b?er y cyfryngau cymdeithasol, gan nodi eu bod yn ddull cyflym a chost-effeithiol o ymgysylltu ag amrywiaeth eang o drigolion yn Rhondda Cynon Taf. Yn amodol ar gymeradwyaeth Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai pedwar achlysur yn cael eu cynnal yn seiliedig ar eu pwysigrwydd fel gwyliau cydnabyddedig yng Nghymru. Nodwyd y byddai'r ymgyrchoedd yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i wella cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, ac y byddai'r gwaith hyrwyddo yn cyd-fynd a pharatoadau'r Cyngor i gynnal Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus yn 2022. Yn ogystal â hynny, o ganlyniad i natur addysgiadol yr ymgyrchoedd, byddai'r Cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i ddisgwyliad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r adnoddau sydd eisoes wedi'u rhannu gyda ni i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at y pedwar prif achlysur sydd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Eglurodd y byddai'r rhain yn cael eu cynnal yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 (un fesul chwarter) yn dilyn eu cymeradwyaeth:

1.     Eisteddfod yr Urdd - Chwarter 1

2.     Diwrnod Owain Glynd?r - Chwarter 2

3.     Diwrnod Shw’mae – Chwarter 3

4.     Dydd G?yl Dewi – Chwarter 4

 

Gan ddefnyddio'r Eisteddfod fel enghraifft, eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai hyn yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor ac yn dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo gwaith partneriaid, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y strategaeth 5 mlynedd. Byddai defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r achlysuron yn gyfle i annog ein holl drigolion i gymrwyd rhan, yn hytrach na dim ond y rheiny sy'n hyderus yn y Gymraeg.

 

Canmolodd un Aelod yr ymgyrchoedd ar gyfer Chwarter 1, 3 a 4, ond roedd e'n amheus am Ddiwrnod Owain Glynd?r, a ph'un a fyddai'r ymgyrch yn hybu cynnwys Cenedlgarol. Nododd y Cadeirydd y pryder yma, ond eglurodd fod y trigolion yn aml yn dysgu am hanes brenhinoedd a brenhinesau Lloegr heb glywed am hanes Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Gymuned, fod nifer o ysgolion eisoes yn gwneud gwaith ar y pwnc a'i fod yn cael ei ddatblygu'n genedlaethol. Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelod na fyddai'r ymgyrch yn cael ei defnyddio i hyrwyddo unrhyw fudiad gwleidyddol. Yn hytrach, y nod yw hyrwyddo rhan allweddol o hanes Cymru drwy sicrhau bod modd i bawb gael gafael ar y llyfrau perthnasol mewn llyfrgelloedd lleol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Materion Cyfathrebu, mai nod y pedwar achlysur uchod yw targedu diddordeb a gwybodaeth pobl am hanes Cymru yn hytrach na chydymffurfio â'r Safonau yn unig.

 

Cafwyd trafodaeth yngl?n â'r cyfle i gynnwys rhagor o ymgyrchoedd lleol yn y gwaith yma yn y dyfodol, a fyddai'n hybu diwylliant a threftadaeth. Awgrymodd un Aelod y gallai'r Cyngor gynnal achlysur i gofio Aneurin Bevan.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)    Cymeradwyo'r ymgyrchoedd yn ffurfiol, yn ogystal â'r amserlen weithredu sydd wedi'i hamlinellu yn Atodiad 1 a 2 o'r adroddiad, yn amodol ar yr ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

 

Dogfennau ategol: