Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio drafod Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â Chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2018/19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg Adroddiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg 2018 – 2019 i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, a oedd yn rhoi manylion am y drydedd flwyddyn o weithredu'r safonau, ynghyd â manylion am y cynnydd yn erbyn Safonau 52, 58 a 64. Cafodd y rhain eu gohirio hyd at 31 Mawrth 2018 yn y gorffennol.

 

Cafodd Aelodau'r Gr?p llywio eu cyfeirio at Atodiad 1 o'r adroddiad, sy'n amlinellu'r gwaith mae'r Cyngor wedi'i wneud i gydymffurfio â nifer fawr o safonau sydd wedi cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

Esboniodd y swyddog bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol a'i ddosbarthu i'r cyhoedd. Yn ogystal â chynnwys y safonau; roedd yr adroddiad wedi'i wneud yn fwy tryloyw trwy amlinellu:

(1)  nifer y cwynion a gafodd eu derbyn yn ystod y flwyddyn sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â'r canlynol: (i) darparu gwasanaethau (ii) llunio polisïau (iii) safonau gweithredu yr oedd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw;

(2)  nifer y staff sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw;

(3)  nifer y staff a gymerodd ran yn y cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw;

(4)  canran y staff a gymerodd ran mewn cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw;

(5)  nifer y swyddi newydd a gwag a gafodd eu hysbysebu yn ystod y flwyddyn lle - (i) roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol, (ii) roedd hi'n ofynnol dysgu sgiliau Cymraeg ar ôl dechrau yn y swydd, (iii) roedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol, neu (iv) doedd dim angen sgiliau Cymraeg yn ystod y flwyddyn dan sylw.

 

Aeth y swyddog ymlaen i amlinellu'r datblygiadau allweddol y mae'r Cyngor wedi'u rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn:

a)    Cyflwyno Hyfforddiant Lefel 1 yn y Gymraeg i bob aelod o staff newydd a benodir;

b)    Darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i 455 o aelodau o staff (Mawrth 2019) ar bob lefel gyda rhagor o hyfforddiant Cymraeg yn nhymor yr Hydref 2018 ar gyfer lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a'r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd;

c)     Penodi Uwch Gyfieithwyr gan ganiatáu gwasanaeth mwy effeithlon, gyda chymorth penodol ar gyfer y Gwasanaethau Democrataidd a Swyddfa'r Cabinet;

d)    Darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gyfer pob pwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau e.e. Pwyllgorau Craffu a Rheoleiddio;

e)    Cyflwynwyd cwestiwn newydd i'w ddefnyddio ar gyfer pob ymgynghoriad ar newid gwasanaeth er mwyn asesu'r effaith y bydd unrhyw newid yn ei gael ar y Gymraeg neu siaradwyr Cymraeg;

f)      Adolygiad parhaus o dudalennau'r Wefan, gan ddileu unrhyw dudalennau nad oedd yn cydymffurfio

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adran 5.2, lle roedd nifer o feysydd i'w gwella wedi'u nodi. Cafwyd trafodaeth yngl?n â'r capasiti i ateb y galw cynyddol am diwtora Cymraeg Lefel 1 a'r angen parhaus i gynyddu nifer y staff sy'n siarad Cymraeg. Aeth y Gr?p ymlaen i gael trafodaeth hir am bwysigrwydd nodi'r Gymraeg fel nodwedd 'hanfodol' ar ddisgrifiadau swyddi'r Awdurdod Lleol. Nododd yr Aelodau ei bod hi'n bwysig fod gan staff y rheng flaen, yn benodol, sgiliau Cymraeg sylfaenol wrth ateb y ffôn i'r cyhoedd, ond dywedodd un Aelod bod gallu'r unigolyn i gyflawni'i swydd lawer yn fwy hanfodol na'i allu i siarad Cymraeg. Holodd un Aelod arall p'un a fyddai nodi'r Gymraeg fel sgil 'hanfodol' neu 'ddelfrydol' ar ffurflen gais yn debygol o rwystro ymgeiswyr sydd ddim yn hyderus yn y Gymraeg rhag gwneud cais. Cytunodd yr Aelodau fod hyder yn her barhaus, a'i bod hi'n bwysig i ymgeiswyr y dyfodol ddeall bod Lefel 1 yn ymwneud â sgiliau sylfaenol sy'n cael eu dysgu mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg. Hefyd, mae modd meithrin y sgiliau yma drwy weithio i'r awdurdod.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i'r adran am ei waith caled parhaus yn y maes heriol yma, a nododd fod yr adroddiad yn amlinellu cynnydd da'r meysydd gwasanaeth o ran ymgorffi'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)     Cyhoeddi'r adroddiad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sicrhau ei fod ar gael ym mhob un o swyddfeydd yr awdurdod sydd ar agor i'r cyhoedd erbyn 30 Mehefin 2019 fan bellaf a;

b)     Cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer rhoi gwybod i'r cyhoedd bod yr adroddiad blynyddol wedi cael ei gyhoeddi.

 

Dogfennau ategol: