Agenda item

Derbyn cyflwyniad gan Mr Jonathan Phillips, y Swyddog Datblygu Campau D?r, mewn perthynas â'r cynnydd cadarnhaol sy'n cael ei wneud o ran cyflwyno Campau D?r Cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn ofyniad yng Nghynllun Gweithredu 5 mlynedd y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Datblygu Campau D?r gyflwyniad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n â chynnydd cadarnhaol y gwaith o gynnal Campau D?r Cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn perthynas â gwersi nofio yn Gymraeg.

 

Yn unol â Safon 84, eglurodd y Swyddog fod angen i gwrs sydd ar agor i aelodau'r cyhoedd gael ei gynnig ar yr un lefel yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyn hyn, roedd y Cyngor yn darparu gwersi nofio drwy'r Urdd, ond doedden nhw ddim yn cydymffurfio'n llawn â'r Safonau. Roedd yr Aelodau yn falch o glywed bod trafodaethau blaenorol y Gr?p, yn ogystal ag ymholiadau gan rieni, wedi arwain at wneud cynnydd cadarnhaol o ran y ddarpariaeth. Mae hyn yn golygu bod y gwersi nofio sy'n cael eu cynnal yn Gymraeg o'r un safon â'r gwersi nofio sy'n cael eu cynnal yn Saesneg. 

 

Gyda chymorth cyflwyniad fideo a lluniau, dangosodd y Swyddog Datblygu Campau D?r fod cynllun gweithredu wedi'i lunio mewn partneriaeth â'r Swyddog Cydymffurfio – Y Gymraeg er mwyn bodloni'r Safonau'n llwyddiannus. Roedd hi'n galonogol clywed bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar brofiadau cwsmeriaid a bod 50 o bobl ifainc wedi bod yn cael gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg ers mis Medi 2018. Dysgodd yr Aelodau fod y 'porth i rieni', y mae modd i bob rhiant/cynhaliwr ei ddefnyddio i gadw golwg ar gyflawniadau a chynnydd ei blentyn, bellach ar gael yn ddwyieithog er mwyn sicrhau bod pob cwsmer yn cael yr un profiad, waeth beth fo'i ddewis iaith.

 

Aeth y swyddog ymlaen i gyfeirio at yr heriau canlynol:

·       Staffio - y broblem wrth ddod o hyd i athrawon;

·       Cost - llogi'r pwll a chostau hyfforddiant; ac

·       Amser yn y pwll

 

Er gwaetha'r heriau, soniodd y swyddog am y camau gweithredu canlynol, sydd wedi'u rhoi ar waith er mwyn gwneud rhagor o gynnydd mewn perthynas â'r ddarpariaeth:

·       Trosglwyddo'r drefn ar gyfer Canolfan Hamdden Rhondda i'r Gwasanaeth Hamdden am Oes. Caiff gwersi nofio eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ond dydyn nhw ddim yn cyfateb â'r gwersi Saesneg;

·       Llunio cynllun ar gyfer Cwm Cynon, ond mae hyn yn amodol ar y cynnydd posibl yn y galw mewn mannau eraill;

·       Cyflwyno sesiynau i fabanod a phlant bach;

·       Cynyddu nifer y lleoedd drwy gynnal rhagor o wersi;

·       Hysbysebu'n well gan ddefnyddio Facebook;

·       Datblygu gweithlu'r Cyngor er mwyn gwneud y cynllun yn fwy cynaliadwy ac ymarferol o safbwynt ariannol;

·       Cwrdd â'r Urdd er mwyn adolygu'r cynnydd;

·       Yr angen i dargedu siaradwyr Cymraeg sy'n awyddus i weithio ym maes hamdden neu fod yn athrawon nofio, er mwyn buddsoddi mewn cynaliadwyedd hirdymor;

·       Yr angen i dargedu grwpiau fel Cynorthwywyr Cynnal Dysgu, pobl ifainc sy'n gadael yr ysgol a phobl sydd wedi ymddeol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad cynhwysfawr, gan nodi'r cynnydd cadarnhaol y mae'r Awdurdod Lleol wedi'i wneud er mwyn bodloni Safonau'r Gymraeg. Diolchodd y Gr?p Llywio i swyddogion y Gwasanaethau Hamdden, yn ogystal â'r Swyddog Cydymffurfio – Y Gymraeg, am ddangos gwaith partneriaeth da.

 

Cafwyd trafodaeth yngl?n â'r posibilrwydd o gysylltu â rhagor o Athrawon Nofio Cyfrwng Cymraeg drwy bobl ifainc sy'n gadael yr ysgol a myfyrwyr Prifysgol. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant at yr elfen wirfoddol o gymhwyster Bagloriaeth Cymru a nododd y byddai'r ddarpariaeth yn ffordd gadarnhaol i'r disgyblion ennill y cymhwyster yn ogystal â meithrin sgiliau a chael cyflog.   Eglurodd y swyddog ei bod hi'n anodd recriwtio pobl ifainc sy'n gadael yr ysgol a myfyrwyr prifysgol gan eu bod nhw'n aml yn methu ag ymrwymo i'r 50 wythnos llawn oherwydd problemau teithio yn ystod y gwyliau. Soniodd y swyddog am gyfle a gafodd ei hysbysebu ar wefan prifysgol leol yn y gorffennol. Dywedodd mai dim ond siaradwyr Saesneg oedd wedi dangos diddordeb, yn anffodus.

 

Rhoddodd y Fenter Iaith gamoliaeth i'r adran am gymryd camau i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, a gofynnodd p'un a oedd y Cyngor yn bwriadu datblygu gwersi nofio cyfrwng Cymraeg ar gyfer ysgolion yn y dyfodol. Er nad yw Safonau'r Gymraeg yn ei gwneud hi'n ofynnol i ysgolion gael gwersi nofio yn Gymraeg, a bod y Cyngor yn canolbwyntio ar wersi nofio y mae cwsmeriaid yn talu amdanyn nhw ar hyn o bryd, dywedodd y swyddog bod potensial ymestyn y gwasanaeth yma i ysgolion yn y tymor hir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad. PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd.