Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd ei adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yn adroddiad chwarterol ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Dywedwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TEN). Roedd hyn yn bennaf oherwydd digwyddiadau a gynhaliwyd ar gyfer Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt a digwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer adeg y Nadolig. Tynnodd y swyddog sylw hefyd at un safle a oedd wedi defnyddio Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro i dreialu gwerthu alcohol mewn bar micro fragdy i brofi hyfywedd gwneud cais am Drwydded Safle.

 

Dysgodd yr aelodau fod un cais wedi ei herio, sef cais Clwb Platform 11, Pontypridd, lle penderfynodd Aelodau ganiatáu amrywio'r oriau gweithredu ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn ond gwrthod caniatáu oriau masnachu ychwanegol ar ddydd Iau. Cafodd Aelodau wybod na chafodd unrhyw adolygiadau nac apeliadau eu cyflwyno ers yr adroddiad diwethaf.

 

Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o safleoedd a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod 89% o'r adeiladau a arolygwyd yn cydymffurfio ar y cyfan, o'i gymharu â 79% yn ystod yr un cyfnod yn 2017.

 

Cafodd Aelodau wybod bod nifer o gwynion wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â niwsans s?n. Eglurwyd bod cynnydd yn nifer yr achosion honedig o werthu alcohol i bobl dan oed yn ystod y cyfnod, ond cafodd Aelodau sicrhad bod y rhain wedi cael blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod yr Amcan Trwyddedu i 'Ddiogelu Plant rhag Niwed' yn parhau i gael ei fodloni.

 

Cyflwynodd y swyddog drosolwg i'r Pwyllgor o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y Garfan Trwyddedu ledled RhCT yn ystod y cyfnod. Roedd y swyddog yn falch o roi gwybod i Aelodau y bu cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu cyfarfodydd 'Pubwatch' ers y cyfnod diwethaf a bod cyfarfod newydd wedi'i sefydlu yng Nghlwb Hibernian y Gelli sy'n rhoi sylw i safleoedd trwyddedig o'r Pentre i Lwynypïa.

 

Soniodd y swyddog am gamau cadarnhaol sy wedi cael eu gwneud er mwyn annog pobl ifainc i beidio ag yfed alcohol. Dechreuodd y gwaith yma yn dilyn lansio Partneriaeth Alcohol Gymunedol Pontypridd yn llwyddiannus. Siaradodd y swyddog am y gystadleuaeth Dragons Den a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn partneriaeth â Sainsbury's, Pontypridd a Charfan Partneriaeth Ymgysylltu Ieuenctid y Cyngor. Dywedodd y byddai'r cynlluniau llwyddiannus yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol. Roedd Aelodau hefyd yn falch o glywed bod y chwe pherson ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn y cymhwyster Hyrwyddwr Iechyd Pobl Ifainc wedi llwyddo.

 

Cafodd Aelodau eu diweddaru yngl?n â'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd a ddaeth i rym ar 1 Medi, 2018 a chawsant wybod bod naw o bobl wedi cael eu halcohol wedi'i gymryd oddi wrthyn nhw hyd yma ac wedi derbyn rhybuddion.

 

O ran y Datganiad o Egwyddorion diwygiedig, o dan ddarpariaethau Deddf Gamblo 2005, cafodd Aelodau eu hatgoffa bod y diwygiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu ar 11 Medi, 2018 wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor ar 28 Tachwedd, 2018.

 

Mynegodd un Aelod bryderon yngl?n â defnyddio Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro i brofi hyfywedd gwneud cais am Drwydded Safle, sef y cais diweddar mewn perthynas â Platform 11, Pontypridd. Holodd yr Aelod a oedd swyddogion yn ymweld â safleoedd yn dilyn caniatáu amrywio oriau gweithredu i sicrhau nad oes cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd bod rhagor o alcohol yn cael ei yfed. Sicrhaodd y swyddog yr Aelod bod y mwyafrif o'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro a dderbyniwyd yn rhai ar gyfer digwyddiadau cymunedol, ac nad oedd unrhyw duedd ar hyn o bryd o ran Safleoedd Trwyddedig yn defnyddio'r Hysbysiadau hyn fel ffordd o wneud cais i amrywio eu trwydded. Pwysleisiwyd i Aelodau y byddai pob cais yn cael ei drin yn ôl ei rinweddau ei hun. Yn dilyn y cais gan Platform 11, esboniodd y swyddog y byddai'r Garfan Trwyddedu yn ymweld â Digwyddiadau Dros Dro tebyg yn y dyfodol neu'n ymweld â'r safle y diwrnod wedyn i fonitro'r teledu cylch cyfyng. Byddan nhw'n gwneud hyn er mwyn sicrhau bod gyda nhw ddigon o dystiolaeth cyn i unrhyw gais gael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor Trwyddedu.

 

Mynegodd yr Aelod bryderon yngl?n â defnyddio Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar gyfer achlysuron sy'n para tan oriau mân y bore mewn ardaloedd preswyl, gan ddweud y dylai Iechyd y Cyhoedd fod yn ymyrryd a chysylltu â'r Aelod Lleol. Esboniodd y swyddog fod digwyddiadau chwaraeon yn gynnar yn y bore ddim yn anarferol a'i bod hi'n anodd gwrthwynebu cais gan safle trwyddedig lle mae ymddygiad da wedi bod yn y gorffennol gan fod Canllawiau'r Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro yn dibynnu'n helaeth ar hanes cwynion.

 

Dywedodd un Aelod wrth swyddogion fod nifer o gwynion wedi'u derbyn mewn perthynas â gwerthu alcohol dan oed mewn tafarn yn Aberdâr, a chytunodd y swyddogion i ymchwilio.

 

PENDERFYNWYD:-

a)     Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)     Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

Dogfennau ategol: