Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd, Diogelu a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi gwybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg am y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gafodd ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf 2018, a chyfrifoldebau'r Cyngor mewn perthynas â hyn.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg wybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg am y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gafodd ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf 2018, a chyfrifoldebau'r Cyngor mewn perthynas â hyn.

 

Dywedodd y swyddog, er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol yn y pen draw am benderfynu ar ffurfiau'r enwau lleoedd maen nhw'n eu defnyddio, cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg yw rhoi cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg i unigolion a sefydliadau, ac i bwysleisio ymhellach bwysigrwydd mabwysiadu ffurfiau safonol ar gyfer gweinyddiaeth gyhoeddus, arwyddion, mapiau a pheiriannau chwilio ar-lein. O ganlyniad, Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg at Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Gorffennaf gan dynnu sylw at y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru, a gafodd ei chyhoeddi ar wefan Comisiynydd y Gymraeg. Roedd y Comisiynydd wedi nodi y byddai'n dymuno i'r Cyngor fabwysiadu'r rhestr yma.

 

Esboniodd y swyddog fod Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg wedi ymgymryd â darn eang o waith a oedd yn ystyried ystyr, hanes ac etymoleg yr enwau lleoedd ac o ganlyniad, wedi sefydlu a chyhoeddi'r rhestr ar wefan y Comisiynydd.

 

Cafodd yr Aelodau wybod fod Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell bod Cyngor RhCT yn mabwysiadu ffurf uniaith ar gyfer Llanhari, Treorci a Chwmdâr, gyda'r nod o roi'r gorau i ddefnyddio 'Llanharry', 'Treorchy' a 'Cwmdare' a'i bod yn bosibl y bydd argymhellion pellach yn cael eu cynnig yn y dyfodol.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad manwl. Wrth siarad am gynigion Comisiynydd y Gymraeg, mynegodd y Cadeirydd bryderon ynghylch diffyg ymgynghori â thrigolion lleol a diffyg ymateb gan yr Aelodau Lleol.

 

Ailadroddodd y Dirprwy Arweinydd bryderon y Cadeirydd, gan bwysleisio pwysigrwydd derbyn adborth gan y bobl y mae modd i'r cynigion effeithio arnyn nhw, cyn mabwysiadu'r rhestr. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd y Gr?p Llywio at y rhestr ehangach o newidiadau mewn perthynas â RhCT a gan gyfeirio at ei ward ei hun, Rhydfelen, holodd y Dirprwy Arweinydd pam mae'r Rhestr yn cynnwys y ffurfiau Cymraeg amgen ar gyfer rhai trefi, ac a fyddai newid sillafu yn cael effaith ar ystyr hanesyddol yr ardal.

 

Yn eu tro, cymerodd rhai o'r Aelodau y cyfle i siarad am eu wardiau eu hunain a'r effaith y byddai unrhyw newidiadau yn ei chael ar y trigolion. Roedd yr Aelodau yn cytuno y dylid rhoi dewis i gymunedau RhCT pa un a yw'r Cyngor yn dewis mabwysiadu'r cynigion a bod angen ystyried tarddiad yr ardaloedd unigol.

 

Gan fod yr Aelodau'n unfryd, awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol ysgrifennu yn gyntaf at Gomisiynydd y Gymraeg i gael dealltwriaeth o resymeg y cynigion, gan gynnwys y rhestr ehangach mewn perthynas â RhCT, cyn ymgynghori â'r trigolion lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr Materion Cyfathrebu a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Llywodraethol, pe bai Aelodau'n dymuno diwygio'r argymhellion, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod priodol nesaf o'r Cabinet i ofyn am gymeradwyaeth i ysgrifennu at y Comisiynydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y swyddogion i barhau i ddefnyddio'r enwau lleoedd sy wedi'u nodi yn Rhestr Tir ac Eiddo Lleol Rhondda Cynon Taf (LLPG), sy'n caniatáu i adrannau megis Cynllunio, Priffyrdd a Chludiant roi dull cyson ar waith o safbwynt defnyddio enwau lleoedd wrth iddyn nhw weinyddu eu dyletswyddau penodol.

 

Yn dilyn ystyriaeth, PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg:

 

a)    Argymell bod y Cabinet yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan Gomisiynydd y Gymraeg, o ran y rhesymeg dros y newidiadau sy wedi'u nodi yn Rhestr Enwau Lleoedd Safonol Cymru Comisiynydd y Gymraeg, er mwyn llywio penderfyniad y Cabinet yn y dyfodol yn well.

b)    Argymell i'r Cabinet y dylid ymgynghori â'r cymunedau sy wedi'u hamlygu yn yr adroddiad a bod y rhesymeg sy wedi'i mabwysiadu gan Gomisiynydd y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn rhan o'r broses yma. Hyd nes ei fod yn cytuno fel arall, bydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio'r enwau cyfredol sy wedi'u hamlinellu yn Rhestr Tir ac Eiddo Lleol Rhondda Cynon Taf (LLPG).

 

Dogfennau ategol: