Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd, Diogelu a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi gwybod i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion y Gymraeg am y broses y mae Gwasanaethau Cymraeg wedi'i mabwysiadu ar gyfer archwilio cydymffurfiaeth adrannau â Safonau'r Gymraeg, gan amlygu meysydd lle mae achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio a chynnig camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau yn y Gymuned amlinelliad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion y Gymraeg o'r broses y mae'r Gwasanaethau Cymraeg wedi'i mabwysiadu ar gyfer archwilio cydymffurfiaeth adrannau â Safonau'r Gymraeg, gan amlygu meysydd lle mae achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio a chynnig camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn.

 

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa o ddyletswydd awdurdodau lleol i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a'u dyletswydd i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Esboniodd y swyddog pe bai'r Cyngor yn destun ymchwiliad statudol gan Gomisiynydd y Gymraeg am achos o dorri'r Safonau mewn unrhyw ffordd, mae'n bosibl y bydd y broses yn cymryd hyd at 18 mis i'w chwblhau ac mae modd iddi arwain at dâl cosb o hyd at £5,000. Esboniodd fod swydd Swyddog Cydymffurfio wedi'i chreu oddi mewn i'r strwythur gwasanaeth newydd i osgoi sefyllfa fel hyn. Mae'r Swyddog Cydymffurfio yn cynnal archwiliadau mewnol rheolaidd i asesu lefel cydymffurfiaeth gwasanaethau'r Cyngor sy'n sicrhau bod modd nodi unrhyw achosion posibl o dorri safonau, neu unrhyw feysydd lle mae heriau penodol, a mynd i'r afael â nhw ar unwaith cyn i g?yn gael ei chyflwyno i Swyddfa'r Comisiynydd.

 

Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 a 2 yr adroddiad, lle mae archwiliadau mewnol cyntaf y Swyddog Cydymffurfio o'r Adran Adnoddau Dynol a'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cael eu hamlinellu. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod cydymffurfiaeth wedi'i gyflawni mewn nifer o feysydd, ac yn cydnabod bod ymgorffori'r Safonau yn broses sy'n esblygu.

 

Wrth siarad am archwiliad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau yn y Gymuned ei bod yn anodd monitro cydymffurfiaeth staff gan fod pedwar safle ar ddeg ar wahân. Serch hynny, roedd yn bleser dysgu bod Cymraeg Lefel 1 a hyfforddiant gloywi yn flaenoriaeth i staff rheng flaen, i'w helpu i feithrin hyder wrth ateb y ffôn i aelodau o'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg. Gofynnodd un Aelod a fyddai Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried materion bach roedd y Swyddog Cydymffurfio wedi eu nodi, fel yr angen am stamp llyfr dwyieithog. Esboniodd y swyddog mai'r rheol yw trin y ddwy iaith yn deg ac o ganlyniad, rhaid gwneud hyd yn oed y newidiadau lleiaf er mwyn cydymffurfio.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a siaradodd yn gadarnhaol am ei gynnwys a'r cynnydd o safbwynt cydymffurfio o fewn yr awdurdod lleol. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd gwneud ymarfer ffonio 'siopwr dirgel' yn fewnol i sicrhau bod pob aelod o staff yn teimlo'n hyderus wrth ateb eu ffonau yn ddwyieithog. Dywedodd y swyddog y byddai'r broses yn cael ei chynnal ym mis Ionawr, 2019 gyda chymorth Intern i sicrhau bod unrhyw faterion ffôn yn cael eu nodi a'u datrys cyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddod o hyd i unrhyw achosion o dorri'r Safonau.

 

Canmolodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a'r camau a oedd wedi'u cymryd gan y Swyddog Cydymffurfio a dau faes gwasanaeth i gydymffurfio ymhellach â'r Safonau a oedd wedi'u gosod. Cydnabu'r Aelod y byddai meysydd ar gyfer gwella yn debygol o gael eu nodi oherwydd y ffyrdd newydd o weithio a diffyg hyder rhai o'r staff. Dywedodd y Dirprwy y byddai hi'n canmol gwaith ardderchog yr Adran yn ystod ei chyfarfodydd rheolaidd gyda Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol a sicrhau bod gwaith yn parhau ar y meysydd targed ar gyfer gwelliant.

 

Holodd un Aelod a oedd angen i ohebiaeth i unigolion a sefydliadau y tu allan i Gymru gael ei hanfon yn ddwyieithog a chadarnhaodd y swyddog fod yr angen am ohebiaeth ddwyieithog yn berthnasol i Gymru yn unig.

 

Ar ran y pryderon a oedd wedi'u codi gan etholwyr, holodd un Aelod a oedd modd anfon gohebiaeth i'r cyhoedd yn iaith eu dewis. Esboniodd y swyddog, os yw gohebiaeth ffurfiol y Cyngor fel llythyrau Treth y Cyngor yn cael ei hanfon at nifer o bobl, yna mae rhaid iddi fod yn ddwyieithog neu mae'n torri Safon 4. Ychwanegodd y swyddog fod modd anfon gohebiaeth weithredol at berson yn iaith ei ddewis neu'r iaith wnaeth y person ei defnyddio pan wnaeth gysylltu â ni yn y lle cyntaf. Dywedodd Cyfarwyddwr Materion Cyfathrebu a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Llywodraethol fod gosod y testun dwyieithog ochr yn ochr yn lleihau'r gost i'r Cyngor.

 

Roedd trafodaethau ynghylch yr opsiwn o gynnal cronfa ddata ganolog yn y Cyngor lle mae pob preswylydd lleol a'i ddewis iaith yn cael ei nodi, fodd bynnag, y dybiaeth oedd bod hyn yn amhosibl ei rheoli. Cydnabu un Aelod bwysigrwydd hyrwyddo'r Gymraeg ond dywedodd y dylai dewis personol fod yn hollbwysig.

 

Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd, o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, bod gan RCT ddemograffeg wahanol a rhaid trin pob preswylydd yn deg.

 

Roedd yr Aelodau'n cytuno, wrth symud ymlaen, ei bod hi'n bwysig parhau â'r archwiliadau adrannol i leihau'r risg o dorri'r safonau gan y Cyngor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

a)     Nodi cynnwys yr adroddiad; a

b)     Cymeradwyo cynnal archwiliadau pellach er mwyn lleihau'r risg i'r Cyngor, a chynnig atebion er mwyn i feysydd gwasanaeth fynd i'r afael ag unrhyw achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio.

 

Dogfennau ategol: