Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd ei adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yn adroddiad chwarterol ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Dywedwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TEN) yn ystod y chwarter. Roedd hyn yn bennaf oherwydd digwyddiadau a gynhaliwyd ar gyfer y Nadolig a Nos Galan.

 

Dysgodd yr Aelodau fod nifer o geisiadau wedi'u herio ers yr adroddiad cryno diwethaf a bod modd i'r swyddog ddarparu diweddariad mewn perthynas â'r cais am amrywio'r Drwydded Safle ar gyfer Club Ice, Pontypridd. Cadarnhawyd bod yr Is-bwyllgor wedi gwrthod y cais ar gyfer nos Iau, ond wedi rhoi'r Drwydded  ar gyfer  nos Wener a nos Sadwrn. Rhoddwyd yr amrywiad hefyd ar nos Sul i'r eiddo agor i'r cyhoedd rhwng 11:00 a 01:30, gan gyflenwi alcohol rhwng 11:00 a 01:00, yn amodol ar nifer o amodau ychwanegol.

 

Cafodd Aelodau wybod na chafodd unrhyw adolygiadau nac apeliadau eu cyflwyno ers yr adroddiad diwethaf.

 

Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o safleoedd a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod 89% o'r adeiladau a arolygwyd yn cydymffurfio'n gyffredinol er bod oedi wedi bod cyn cynnal arolygiadau oherwydd cyfnod y Nadolig.

 

Cyflwynodd y swyddog drosolwg i'r Pwyllgor o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y Garfan Drwyddedu ledled RhCT yn ystod y cyfnod. Cafodd y Pwyllgor wybod y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion a dderbyniwyd ar gyfer ardal Cwm Rhondda yn ystod y cyfnod, yn ogystal â gostyngiad mewn digwyddiadau y cafodd yr heddlu wybod amdanyn nhw. Siaradodd y swyddog yn gadarnhaol am 'Ymgyrch Marsileo', a ffurfiwyd yn ardal Cwm Rhondda i sicrhau bod yr Amcan Trwyddedu 'Amddiffyn Plant rhag Niwed' yn cael ei hyrwyddo. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod pob eiddo trwyddedig, ar wahân i un eiddo sy'n peri pryder, wedi bod yn barod i gydymffurfio yn ystod yr arolygiadau. Dywedodd y swyddog hefyd na chafodd unrhyw bryderon eu codi yn dilyn nifer o archwiliadau i eiddo trwyddedig gan Safonau Masnach er mwyn gwirio lleoliadau peiriannau hapchwarae.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd yn y cyfarfod diwethaf ynghylch y gwerthiannau dan oed honedig yng Nghwm Cynon, roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod gweithdy wedi'i gynnal, a bod 16 o bobl wedi cymryd rhan. Roedd hwn yn weithdy gwirfoddol ac roedd yr adborth yn gadarnhaol, felly mae modd cynnig y digwyddiad eto.

 

Aeth y swyddog ymlaen i siarad am yr ymweliad safle diweddar a gynhaliwyd yn ardal 'Y Tymbl', Pontypridd, lle'r aeth Aelodau o'r Pwyllgor Trwyddedu gyda swyddogion i ymweld â'r ystafell reoli TCC, y safle tacsis a rheolwyr yr eiddo trwyddedig yn y cyffiniau. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa o'u cais i ymweld ag ardal Aberdâr, a nodwyd y byddai'r swyddogion yn ystyried trefnu hyn ar gyfer y dyfodol.

 

Cafodd yr aelodau y newyddion diweddaraf am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a oedd wedi'i roi ar waith ar 1 Medi, 2018 a nodwyd bod y parthau gwahardd yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr yn parhau i gael eu monitro gan yr heddlu a staff yn yr Awdurdod Lleol. Eglurwyd bod y nifer helaeth o achosion wedi digwydd ym Mhontypridd, lle cafodd alcohol ei atafaelu.

 

Mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005, cafodd yr Aelodau wybod nad oedd unrhyw newidiadau mawr i'r sefyllfa adennill ffioedd blynyddol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth gadarn sy'n caniatáu tynnu'r drwydded/hawlen yn ôl am beidio â thalu ffioedd priodol.

 

 

Mynegodd un Aelod bryderon yngl?n â defnyddio Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro i brofi hyfywedd gwneud cais am Drwydded Safle. Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelod fod yr Adran Drwyddedu yn ymwybodol o fusnesau sy'n defnyddio'r dull hwn, ac yn defnyddio dulliau monitro i sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael cyn gwneud unrhyw gais dilynol i amrywio trwydded sy'n cael ei chyflwyno i'r Is-bwyllgor Trwyddedu.

 

Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am eu hymweliad craff ag ardal 'Y Tymbl', Pontypridd, gan wneud sylwadau ar y deunydd teledu cylch cyfyng clir a'r sgiliau rheoli cadarnhaol a arddangoswyd gan ddeiliaid y drwydded safle ar y noson.

 

PENDERFYNWYD:-

a)     Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)     Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

Dogfennau ategol: