Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yn adroddiad ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Adroddodd y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TEN), a hynny'n bennaf oherwydd adeg y flwyddyn a'r cyfnod hir o dywydd braf.

 

Cafodd yr aelodau wybod hefyd fod un cais wedi ei wrthwynebu yn ystod y cyfnod yma, sef Cwmdare Stores, ac un adolygiad wedi ei gyflwyno gan y Swyddfa Gartref, lle penderfynodd yr Aelodau ddiddymu'r drwydded.

 

Adroddodd y swyddog am ganlyniad apêl a gafodd ei hystyried yn ystod y cyfnod, sef Domino's yn Nhrefforest, lle'r oedd yr apelydd wedi gwrthwynebu penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu. Cafodd yr aelodau wybod fod yr apêl wedi'i chytuno allan o'r llys a bod y Drwydded wedi'i chaniatáu i'r apelydd ond gyda llai o oriau nag yn y cais gwreiddiol.

 

Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 4.3 o'r adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yn bleser dysgu bod 89% o'r adeiladau a oedd wedi'u harolygu yn cydymffurfio'n fras o'i gymharu â'r 80% yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod y bu cynnydd yn nifer y cwynion a dderbyniom yn ystod y cyfnod a bod y rhain yn tueddu i fod mewn perthynas â phroblemau s?n o ganlyniad i'r tywydd braf.

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg i'r Pwyllgor o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled ardaloedd Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Siaradodd y swyddog am fentrau cadarnhaol sy wedi'u rhoi ar waith fel Operation Malpas yng Nghwm Rhondda a'r 'Ap S?n' yn ardal Taf-elái a oedd wedi gweld canlyniadau cadarnhaol.

 

Dywedodd y Swyddog fod cyfarfodydd 'Pubwatch' yn cael eu mynychu'n rheolaidd ymhob ardal, ond gofynnodd a fyddai modd i Aelodau gynorthwyo i ymgysylltu â thrwyddedwyr yn ardaloedd Aberpennar ac Aberdâr gan fod presenoldeb wedi gostwng dros amser.

 

Soniodd y swyddog am y problemau a gododd mewn perthynas â'r achlysur 'Bounce Run' a oedd i'w gynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Eglurodd, oherwydd amryw faterion, doedd dim caniatâd i agor yr ardal drwyddedig ond cafodd yr Aelodau gadarnhad bod awdurdodau amrywiol wedi trafod ar ôl yr achlysur i sicrhau bod y materion hyn ddim yn codi yn y dyfodol.

 

Cafodd aelodau eu cyfeirio at adran 4.5 o'r adroddiad lle mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Alcohol Gymunedol Pontypridd (CAP) yn cael ei darparu. Yn dilyn cwestiynau, eglurodd y swyddog y byddai'r mentrau cadarnhaol yn cael eu monitro gan arolygon a thrwy weithio gydag ysgolion gyda'r nod o sicrhau eu bod yn dod yn brosiectau tymor hir ar gyfer y dyfodol.

 

Cafodd yr Aelodau eu diweddaru yngl?n â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd a ddaeth i rym ar 1 Medi. Gofynnodd Aelodau gwestiynau am bwerau'r Gorchymyn, gyda'r swyddog yn cadarnhau bod canol trefi Aberdâr a Phontypridd bellach wedi'u diffinio fel parthau gwahardd sylweddau meddwol ond bod modd cymryd alcohol oddi wrth y cyhoedd mewn ardaloedd lleol eraill, os yw'r unigolion sy'n meddu arno'n achosi neu'n debygol o achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Sicrhaodd y Swyddog yr Aelodau fod yr heddlu yn gwbl effro i hyn er mwyn gorfodi'r deddfau'n briodol ond os oedden nhw'n teimlo ei fod yn angenrheidiol, byddai modd darparu diweddariad.

 

Siaradodd un Aelod am yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro a gofynnodd a fyddai modd i Aelodau Lleol gael rhybudd o flaen llaw o unrhyw achlysuron arwyddocaol a fyddai'n arwain at faterion s?n i gymdogion. Esboniodd y swyddog, er nad oes gofyniad statudol i swyddogion ymgynghori ag Aelodau Lleol, roedd cyfle i adolygu prosesau.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Pwyllgor, a'r ymatebion gan y swyddogion perthnasol, PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

Dogfennau ategol: