Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Clywodd yr Aelodau fod nifer yr hysbysiadau achlysuron dros dro (TENs) wedi cwympo yn dilyn yr haf, a nodwyd y gallai hynny fod oherwydd y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, lle mae rhagor o yfed alcohol/adloniant yn digwydd ledled y gymuned. Ers cyflwyno'r adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod un o'r hysbysiadau achlysuron dros dro wedi'i ddefnyddio er mwyn caniatáu i siop yn y Gilfach Goch werthu alcohol mewn hamperi ar gyfer achlysuron arbennig. Mae hyn yn dangos pa mor hyblyg yw'r broses.

 

Dywedodd fod dau gais wedi'u herio ers cyflwyno'r adroddiad diwethaf, y naill yn gais am drwydded bersonol a gafodd ei wrthod, a'r llall yn gais am amrywio tystysgrif safle clwb ar gyfer Clwb Pêl-droed Rhydfelen, a gafodd ei gymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod 90.5% o'r lleoliadau a gafodd eu harchwilio'n cydymffurfio i raddau helaeth, sy'n arddangos gwaith da parhaus y swyddogion ar y cyd â deiliaid trwyddedi. 

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Nodwyd fod yr Awdurdod Trwyddedu a Heddlu De Cymru wedi rhoi dull rhagweithiol ar waith i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sydd wedi codi er mwyn darparu cyngor a chymorth i ddeiliaid trwyddedi. Mae enghreifftiau o'r gwaith cadarnhaol yn cynnwys lleoliad yn ardal Penrhiw-ceibr/Aberpennar a lleoliad yng nghanol tref Pontypridd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth  at bryderon ynghylch yfed dan oed yn ardal Cwm Cynon, a dywedodd wrth y Pwyllgor Trwyddedu fod yr wybodaeth a ddaeth i law hefyd wedi'i rhannu â'r Panel Amlasiantaeth ar Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant (MACSE).

 

Roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod swyddogion yn mynychu cyfarfodydd 'Pubwatch' yn rheolaidd.

 

Roedd y diweddariad yn cynnwys adran o wybodaeth fanwl sy'n amlinellu'r cyngor cyn gwneud cais sydd wedi' nodi ar gyfer y rheiny sy'n dymuno gwneud cais. Mae'r wybodaeth yma'n dod gan yr Uwch Swyddog Trwyddedu, sy'n gweithredu fel yr Awdurdod Cyfrifol, sydd unwaith eto'n dangos dull rhagweithiol.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i roi sicrwydd i'r Aelodau bod swyddogion yn gweithio gyda'r busnesau hynny sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd yn dilyn Storm Dennis, a'u bod nhw'n ymweld â pherchnogion/tenantiaid ar y cyd â swyddogion hylendid bwyd, er mwyn eu helpu i ailagor cyn gynted â phosibl. 

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn dod i rym ar 2 Mawrth 2020. Eglurwyd y byddai'r Ddeddf yn cynnwys fformiwla er mwyn cyfrifo'r isafbris perthnasol.

 

Cafodd sylw'r Aelodau ei dynnu at Adran 4.6 yr adroddiad, lle roedd gwybodaeth ynghylch trwyddedu ar gyfer Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop wedi'i amlinellu. Eglurwyd bod y Llywodraeth wedi cytuno bod modd i dafarnau, clybiau a bariau yng Nghymru a Lloegr, sydd â thrwydded hyd at 11pm, agor am ddwy awr ychwanegol nos Wener 8 Mai a nos Sadwrn 9 Mai, hyd at 1am y bore canlynol. Bwriad hyn yw nodi dathlu 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. 

 

Gofynnodd un Aelod am eglurhad mewn perthynas â chronfa caledi'r Cyngor ar gyfer trigolion a busnesau bach a chanolig sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd, a ph'un a oedd camau ar waith i ddiogelu'r gymuned rhag galwyr heb wahoddiad ar adeg mor anodd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor y byddai angen i fusnesau gyflwyno e-ffurflen ar wefan y Cyngor er mwyn gwneud cais am y cyllid, a bod swyddogion yn dal i weithio'n agos â thrigolion i nodi'r rheiny sy'n gymwys i wneud cais. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ati i gydnabod fod adroddiadau wedi bod o dwyll anghyfreithlon, galwadau heb wahoddiad a masnachwyr twyllodrus yn esgus cynnig cymorth ac yn dweud eu bod nhw'n gweithio i'r Cyngor, i gymdeithasau tai neu gwmnïau cyfleustodau. O ganlyniad i hynny, mae'r Cyngor wedi rhannu canllawiau ar ei wefan gyda gwybodaeth glir yngl?n â sut i roi gwybod i Heddlu De Cymru am unrhyw achos o dwyll.

 

PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

Dogfennau ategol: