Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes gan roi cyfle i Aelodau o'r Gr?p Llywio adolygu'r Adroddiad Monitro Blynyddol cyn iddo gael ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mehefin 2018.

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Gymraeg, Adroddiad Cydymffurfio Safonau'r Iaith Gymraeg 2017 – 2018 i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a oedd yn cynnwys yr ail flwyddyn o weithredu'r safonau.

 

Cafodd Aelodau'r Gr?p llywio eu cyfeirio at Atodiad 1 o'r adroddiad, sy'n amlinellu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y Cyngor i gydymffurfio â nifer fawr o safonau sydd wedi cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rhoddodd y swyddog wybod bod safonau 52, 58 a 64 wedi eu gohirio tan 31  Mawrth, 2018. Felly, bydden nhw'n cael eu cynnwys yn adroddiad cydymffurfiaeth y flwyddyn nesaf.

 

Esboniodd y swyddog ei fod yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol ac i'w ddosbarthu i'r cyngor. Yn ogystal â chynnwys y safonau; roedd yr adroddiad wedi'i wneud yn fwy tryloyw trwy amlinellu:

(1)  nifer y cwynion a gafodd eu derbyn yn ystod y flwyddyn sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â'r canlynol: (i) darparu gwasanaethau (ii) llunio polisïau (iii) safonau gweithredu yr oedd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw

(2)  nifer y staff sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw

(3)  nifer yr aelodau o staff a gymerodd ran yn y cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw

(4)  canran yr aelodau o staff a gymerodd ran mewn cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw

(5)  nifer y swyddi newydd a gwag a gafodd eu hysbysu yn ystod y flwyddyn lle - (i) roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol, (ii) roedd hi'n ofynnol dysgu sgiliau Cymraeg ar ôl dechrau yn y swydd, (iii) roedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol, neu (iv) doedd dim angen sgiliau Cymraeg yn ystod y flwyddyn dan sylw.

 

Nododd y swyddog fod camgymeraid ar dudalen 84 yn yr adroddiad, gan gadarnhau mai ‘2017-18 (Ebrill 2018)’ dylai llinell gyntaf y testun y tu allan i’r blwch ddarllen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog a'i dîm am eu gwaith caled cyson yn yr hyn a fu'n her sylweddol, gan esbonio bod adnoddau wedi'u cynyddu i sicrhau y byddai safonau'n parhau i gael eu diwallu. Canmolodd y Cadeirydd y tryloywder o gynnwys y cwynion yn yr adroddiad, gan ddweud, gyda newid, eu bod yn anochel, ond roedd yn falch mai dim ond 12 a gafodd eu derbyn a chafodd y cyfan eu hateb yn ystod y cam anffurfiol.

 

Holodd y Cynghorydd J. James am y broses gwyno ac os yw'n ffurfiol neu dim ond yn fater o gofnodi datganiadau. Dywedwyd bod y cyfeirnod CSG yn golygu bod y cwynion yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y Comisiynydd. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu trin yn ffurfiol gan y broses gyfreithiol.

 

Canmolodd y Dirprwy Arweinydd y cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Diolchodd hefyd i'r staff sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ddwyieithog ac mewn modd proffesiynol.

 

Gyda'r Gr?p yn cytuno bod amrywiaeth o lwybrau hyfforddi ar gael i Aelodau Etholedig a staff, gan arwain at gynnydd o 2% o siaradwyr Cymraeg yn y Cyngor, cafwyd trafodaethau yngl?n â recriwtio a'r cynlluniau sydd ar waith er mwyn sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael eu cyflogi. Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymuned am fentrau cadarnhaol sydd wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod rhaid i bob aelod newydd o staff fynychu dosbarth Cymraeg sylfaenol lefel 1 gyda'r bwriad o wella eu sgiliau'n barhaus, p'un a ydynt yn cael eu cyflogi ar Lefel Cyfarwyddwr neu'n is.  Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymraeg ei fod wedi bod yn gweithio'n agos â'r adran Adnoddau Dynol a bod pob manyleb swydd sy'n cael ei hysbysebu o'r newydd yn gofyn bod sgiliau iaith Gymraeg yn 'hanfodol'. Byddai yna i fyny i bob Rheolwr Gwasanaeth i roi rhesymau dros pam ddylai hyn gael ei newid i 'dymunol'.

 

Yn dilyn y sylwadau cadarnhaol PENDERFYNODD yr Aelodau:

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

b)    Cyhoeddi'r adroddiad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a sicrhau ei fod ar gael ym mhob un o swyddfeydd yr awdurdod sydd ar agor i'r cyhoedd erbyn 30 Mehefin 2018 fan bellaf a;

c)     Cymeradwyo trefniadau ar gyfer rhoi gwybod i'r cyhoedd bod yr adroddiad blynyddol wedi cael ei gyhoeddi.

 

Dogfennau ategol: