Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes, gan roi cyfle i'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg drafod cynnydd y Cyngor mewn perthynas â Strategaeth Hybu'r Gymraeg.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg ar Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a gafodd ei gymeradwyo ar 25  Ionawr, 2017.

 

Rhoddodd y swyddog gefndir y Strategaeth i'r Gr?p Llywio. Dywedodd  fod y Cynllun wedi cael ei ddatblygu o dan Adran 145 o'r Hysbysiad Cydymffurfio a gafodd ei gyhoeddi o dan adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'i ddatblygu yn ystod 2016 mewn partneriaeth â Sbectrwm, Menter Iaith, Gwasanaethau'r Cyngor ac Aelodau Etholedig. Ymgynghorwyd â'r cyhoedd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2016 er mwyn deall yr hyn a fyddai'n eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg a pha wasanaethau roedden nhw o'r farn yw'r rhai mwyaf pwysig o ran hybu'r iaith.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai ffocws y Cynllun Gweithredu oedd:

·       Cynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg 3%

·       Cynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd cymunedol a chyhoeddus, a

·       Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad cymoedd De Cymru.

 

Siaradodd y swyddog am y camau cadarnhaol a gafodd eu cymryd o fewn RhCT i gyflawni'r camau gweithredu, gan gyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad, lle roedd y cynnydd yn erbyn targedau ar gyfer pob maes gwasanaeth unigol yn fanwl. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod y gyfran o staff sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu o 2% yn y flwyddyn gyntaf.

 

Cafodd yr Aelodau eu hysbysu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth hyrwyddo Cymraeg 2050 ym mis Gorffennaf 2017. Roedd hyn yn amlinellu targed o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru o 78% erbyn 2050. Yn dilyn gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud eisoes gan y Cyngor ac er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, byddai angen i'r Cyngor gynyddu'r ganran o siaradwyr Cymraeg o  1.66% y flwyddyn hyd 2021. Mae amlinelliad o'r ffigyrau yn adran 5.13 o'r adroddiad. Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 2 yr adroddiad ac argymhellodd fod y Gr?p yn cytuno ar darged uwch ar gyfer tyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr, gan ychwanegu ei bod yn bleser gweld faint o waith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cwrdd â'i darged a'i fod mewn sefyllfa dda i gynyddu'r nifer.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd bryderon ynghylch y targed, gan ddweud ei bod hi'n anoddach cyrraedd oedolion gydag ychydig neu ddim profiad o ddefnyddio'r iaith. Serch hynny, ychwanegodd y Dirprwy ei bod hi'n gwbl gefnogol i'r cynnydd arfaethedig. Tynnodd sylw at bwysigrwydd targedu plant ifainc a allai ddatblygu eu medrau dros gyfnod hir. Roedd yr Aelod yn falch o weld bod cymariaethau wedi cael eu gwneud gyda Chynghorau Merthyr Tudful a Chaerdydd ac roedd hi'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol ymestyn ymhellach i Gynghorau fel Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr i wella dealltwriaeth a dulliau o weithio'r cynghorau yma.

 

Croesawodd Ms E Siôn y cynnydd arfaethedig yn y targed, gan bwysleisio'r angen i roi rhagor o ystyriaeth i'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r angen i ystyried sut mae'r Cyngor yn gallu cefnogi partneriaid ymhellach i gynyddu eu darpariaeth ac i gynyddu'r nifer o ddefnyddwyr. Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cymuned fod Estyn wedi tynnu cwestiynau yn ymwneud â'r Iaith Gymraeg yn ôl yn yr arfarniadau hunanasesu. Yn hytrach mae'n ystyried yr iaith fel rhan o bob cwestiwn. Cafodd ei gytuno y byddai'r ddau swyddog yn trafod y materion yma'n dilyn y cyfarfod.

 

Roedd y Cynghorydd S. Rees-Owen hefyd yn canmol yr ymdrechion y mae'r Cyngor wedi'i wneud i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, gan roi sylwadau ar rwydwaith mewnol y Cyngor, 'Inform', sydd wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys offer a thempledi defnyddiol i wella dulliau Aelodau Etholedig a staff o weithio.

 

Siaradodd y Cynghorydd hefyd am gyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifainc lle bu'r Aelodau'n ystyried y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a phenderfynodd yr Aelodau i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y targedau sydd wedi cael eu gosod a pha rai ohonyn nhw sydd wedi cael eu cyrraedd. Derbyniodd y Cadeirydd wahoddiad i fynychu'r cyfarfod ym mis Mehefin i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg. 

 

 Yn dilyn trafodaethau pellach,  PENDERFYNODD y Gr?p Llywio:

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

b)    Cytuno ar darged newydd o 1891 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf yng ngoleuni Strategaeth Llywodraeth Cymru: 'Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' a gafodd ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2017.

c)     Parhau i fwrw 'mlaen gyda'r camau gweithredu sydd wedi'u hamlinellu yn y Cynllun Gweithredu cytunedig cyfredol.

d)    Bod Ms E Siôn, Menter Iaith, a Phennaeth y Gwasanaethau Cymuned yn cyfarfod y tu allan i'r cyfarfod i drafod Arolwg Estyn o Ddysgu Oedolion yn y Gymuned a ffyrdd i gynllunio'n strategol.

 

Dogfennau ategol: