Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, yn cynnwys dogfennau perthnasol eraill mewn perthynas â'r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol newydd arfaethedig, sydd â'r nod o gynorthwyo'r Cabinet gyda'i benderfyniad.

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth ganlyniadau'r dasg ymgynghori â'r cyhoedd a gychwynnwyd gan y Cabinet, ynghyd â'r asesiadau o'r effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg diweddaraf mewn perthynas â Pholisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol newydd arfaethedig y Cyngor, a hynny i gynorthwyo'r Cabinet wrth iddo benderfynu a yw'n dymuno bwrw ymlaen gyda gweithredu'r Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol newydd.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am rannu'r ohebiaeth a'r ymatebion i'r ymgynghoriad â'r Cabinet; a hefyd i ddiolch i'r trigolion am eu cyfraniad nhw, sydd wedi'i adlewyrchu yn yr adroddiad gyda 2858 o ymatebion gwerthfawr.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y Cyngor wedi darparu cludiant dewisol i fwy o ddysgwyr na bron pob un Cyngor arall yng Nghymru ers dros 10 mlynedd; a bod y Cyngor yn gyson wedi mynd y tu hwnt i'w ofynion cyfreithiol, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, o ran darparu cludiant am ddim i'w ddisgyblion.

Serch hynny, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet, o ganlyniad i danariannu sylweddol gan Lywodraeth y DU a bwlch yn y gyllideb gwerth £85 miliwn dros y tair blynedd nesaf, rhaid i'r Cabinet ystyried cynigion a gyflwynwyd gan Swyddogion sy'n adolygu achosion lle mae ein gwasanaethau'n mynd y tu hwnt i'r gofyniad statudol a sut mae modd gwneud arbedion. Cyn cloi, pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet fod costau cynyddol yn golygu bod polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â Chludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol bellach yn anghynaladwy a chydnabu'r rheswm dros gyflwyno'r adroddiad er mwyn i'r Cabinet ei ystyried.

O ran y cynnydd sylweddol yng nghostau Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol, ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi cynyddu o £8miliwn yn 2015 i dros £15miliwn yn y blynyddoedd diwethaf.

Ategodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet mewn perthynas â'r Cyngor yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl o'i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill ac eglurodd pe byddai'r Cabinet yn cytuno â'r argymhellion sydd wedi’u nodi yn adroddiad y swyddogion, byddai'r Cyngor yn dal i ddarparu un o'r polisïau Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol mwyaf hael yng Nghymru, gyda nifer fawr o unigolion yn elwa o gludiant dewisol. Dywedodd yr Arweinydd fod 18 Awdurdod Lleol arall naill ai wedi gwneud newidiadau sylweddol neu heb ddarparu'r elfen ddewisol ers blynyddoedd.

Pwysleisiodd yr Arweinydd nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd i'r Cabinet ei wneud ond roedd yn rhaid ystyried pob opsiwn yn rhan o’r broses o bennu'r gyllideb, a hynny oherwydd yr heriau ariannol eithriadol o ganlyniad i'r cyllid isel sydd wedi'i ddyrannu gan y Llywodraeth Ganolog a’r pwysau parhaus ar y gwasanaethau cymdeithasol.

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle yn gyntaf i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am eu sylwadau gwerthfawr a'u hadborth a nododd y llythyr a luniwyd yn rhan o'r papurau oedd yn cael eu cyflwyno i'r Aelodau.

Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y pryderon a fynegwyd gan drigolion drwy gydol y broses ymgynghori ac adleisiodd sylwadau'r Arweinydd drwy ddweud bod yr Aelodau'n wynebu penderfyniad anodd, ond un yr ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol gan ystyried yr amgylchiadau ariannol presennol.

Gan gyfeirio at adborth y broses ymgynghori a’r sylwadau a wnaed yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, nododd y Dirprwy Arweinydd fod rhai pryderon wedi’u codi ynghylch diogelwch a gofynnodd a allai swyddogion gadarnhau y byddai pob llwybr yn cael ei adolygu a’i ailasesu, lle bo’n briodol, cyn cadarnhau cymhwysedd; a phe na bai llwybr yn cael ei ystyried yn ddiogel, yna byddai disgyblion sy'n cael eu heffeithio yn parhau i gael cludiant i'r ysgol am ddim. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am lwybr penodol yn ei ward hi, sef Rhydyfelin i Garth Olwg, ac aeth ati i egluro bod swyddogion wedi bod o gymorth iddi wrth fynd i’r afael â’r pryderon a’r cwestiynau a godwyd gan drigolion o fewn y ffin yma.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd hefyd am sicrwydd ynghylch pa effaith, os o gwbl, y byddai’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr adolygiad o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn ei chael ar y cynigion a argymhellwyd i’r Cabinet.

 

O ran yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, roedd y Dirprwy Arweinydd o'r farn ei fod yn asesiad cynhwysfawr a phwysleisiodd pa mor bwysig yw hi i roi sylw dyledus i'r ddeddfwriaeth berthnasol ac effeithiau economaidd-gymdeithasol. Nodwyd bod yr Asesiad Effaith yn amlygu rhai effeithiau negyddol a fyddai'n codi pe bai’r Cyngor yn bwrw ymlaen gyda'r cynnig, ond ei fod hefyd yn nodi ystod o gamau lliniaru o ran sut y dylid monitro unrhyw effeithiau ar ôl gweithredu'r newidiadau, gan gynnwys ystyried opsiynau amgen a gyflwynwyd gan ymgyngoreion fel sydd wedi'u nodi yn adran 14 o'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg fod yna bryder naturiol ynghylch sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar bresenoldeb mewn ysgolion. O ran sut yr oedd y Cyngor yn ceisio mynd i’r afael â lefelau presenoldeb isel, soniodd yr Aelod o'r Cabinet am y buddsoddiad sylweddol mewn nifer o wasanaethau cymorth  yn y blynyddoedd diwethaf, megis y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles a’r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth a hefyd cyflwyno Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd.Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad yn dangos bod yna tebygolrwydd cynyddol na fydd disgybl yn mynychu'r ysgol os yw'n derbyn cludiant rhwng y cartref a'r ysgol.

 

Yna ceisiodd yr Aelod o'r Cabinet fynd i’r afael â phwynt allweddol arall a godwyd yn rhan o'r ymgynghoriad, sef yr effaith bosibl ar y Gymraeg. Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am y camau sylweddol a gymerwyd gan yr Awdurdod Lleol i hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg trwy Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hynod o uchelgeisiol y Cyngor a’r buddsoddiad eang mewn adeiladu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ac adnewyddu ysgolion yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf; yn ogystal ag ymdrechion y Cyngor i gyrraedd uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, rhoddwyd caniatâd i'r Cynghorwyr isod annerch y Cabinet mewn perthynas â'r eitem:

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan;

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tompkinson;

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Preddy;

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson;

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey;

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel; a

       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles.

 

Nodwch: Nododd yr Arweinydd fod deiseb wedi'i rhannu a'i derbyn gan y Cabinet cyn y cyfarfod.

 

Wrth ymateb i'r sylwadau a wnaed, dywedodd yr Arweinydd nad yw lobïo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r “Public Service Vehicles Accessibility Regulations” yn opsiwn gan nad oedd yn fater datganoledig. O ran adeiladu ysgolion newydd a mynediad i ysgolion, nododd yr Arweinydd fod 116 o ysgolion yn y Sir, sydd llawer yn uwch na nifer o Awdurdodau Lleol eraill.

 

Yna rhoddwyd cyfle i swyddogion ymateb i'r cwestiynau a'r ymholiadau a godwyd hyd yn hyn yn y drafodaeth. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth mai un o'r materion a godwyd yn aml oedd llwybrau diogel ac eglurodd fod pob llwybr yn cael ei asesu yn erbyn meini prawf y Canllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr 2014, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, ac felly'n cael eu hystyried fel llwybr sydd 'ar gael' neu 'ddim ar gael'. Gan gyfeirio at y llwybr a grybwyllwyd gan y Dirprwy Arweinydd, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y llwybr wedi'i asesu yn 2018 a thybiwyd ei fod "ar gael". Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr y byddai llwybrau'n cael eu hailasesu i sicrhau bod y meini prawf yn cael eu bodloni, lle bo'n berthnasol.

 

O ran yr adolygiad o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr, dywedodd y Cyfarwyddwr y daethpwyd i’r casgliad na ddylid diwygio’r ddeddfwriaeth sy’n sail i drefniadau teithio gan ddysgwyr yng Nghymru ar hyn o bryd. Cydnabuwyd hefyd bod costau ar gyfer cyfrifoldebau statudol presennol yr Awdurdodau Lleol wedi cynyddu'n sylweddol heb newid unrhyw agwedd ar y ddeddfwriaeth yma. Er nad oedd y diwygiadau terfynol wedi'u gwneud, dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth Teithio gan Ddysgwyr ledled Cymru, ond rhoddodd sicrwydd i'r Cabinet nad oedd yr un o'r argymhellion yma wedi effeithio ar yr argymhellion yn y ddogfen sydd ger eu bron.

 

O ran sylwadau'r Cyfarwyddwr mewn perthynas â'r llwybrau, ychwanegodd yr Arweinydd y gofynnwyd i'r Cabinet wneud penderfyniad polisi ac y byddai asesiad o'r llwybrau wedyn yn cael ei gynnal fel mater ar wahân. O ran yr arbedion a ragwelwyd mewn perthynas â'r cynnig, dywedodd yr Arweinydd fod y ffigurau'n seiliedig ar y ffigurau cyfredol, yn hytrach na'r ffigurau a ragwelwyd ar gyfer y dyfodol, a hynny er mwyn galluogi'r rhagamcaniad mwyaf cywir. Eglurodd na fyddai ffigur pendant ar gael nes bod y llwybrau wedi'u gwirio a'u dilysu'n annibynnol. Cydnabu'r Arweinydd y gallai'r arbedion fod yn fwy na'r hyn a ragwelwyd oherwydd costau trafnidiaeth dros y flwyddyn i ddod neu y gallai fod yn llai pe bai rhai o'r llwybrau cerdded yn cael eu hystyried yn anhygyrch.

 

Ategodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Gwella sylwadau'r Arweinydd a phwysleisiodd y byddai swyddogion yn ystyried effaith unrhyw newidiadau i lwybrau a chontractau presennol o ran costau ac effaith chwyddiant. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai unrhyw newidiadau'n cael eu cynnwys yng nghynlluniau ariannol tymor canolig y Cyngor i lywio prosesau pennu'r gyllideb yn y dyfodol a dywedodd na fyddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar Gyllideb Refeniw 2024-2025 y Cyngor.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ati i ddiolch i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am ei adborth a nododd y sylwadau’r Aelodau mewn perthynas â'r agenda newid hinsawdd. O safbwynt lleihau carbon, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd yn fuddiol.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at Adrannau 18.6 i 18.8 yn yr adroddiad, sy'n nodi bod y rhan fwyaf o gerbydau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ymhell o fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd a'u bod ymhlith y cerbydau sy'n achosi'r llygredd mwyaf ar briffyrdd y Cyngor. Nododd yr Aelod o'r Cabinet effaith bosibl cynnydd yn y defnydd o gerbydau preifat ond eglurodd nad oedd cynnal gwaith modelu mewn perthynas â hyn yn ymarferol nac yn ddefnydd doeth o amser swyddogion.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai'n amhosib pennu'r effaith o ran y defnydd o gerbydau preifat gan y gallai unigolion ddewis cerdded, beicio, rhannu car neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, os yw'r opsiynau yma ar gael iddyn nhw.

 

Cydnabu'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai unrhyw benderfyniad yn cael effaith ar deuluoedd; ac adleisiodd sylwadau cynharach yr Arweinydd ei bod yn sefyllfa nad oedd y Cabinet am fod ynddi. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y gofynnwyd i bob adran nodi arbedion posibl yn sgil pwysau ariannu a sefyllfa bresennol y Cyngor, ac mae modd i hyn arwain at wneud penderfyniadau anodd.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu fod rhieni yn ei ward ei hun wedi mynd ati i drefnu eu cwmni bysiau eu hunain a chytunodd y byddai'n amhosibl pennu'r effaith ar y defnydd o gerbydau preifat. Gan ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn rhan o'r ymgynghoriad a sylwadau Aelodau'r Pwyllgorau Craffu, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn mai Adran 14.2 o'r adroddiad fyddai'r mwyaf cytbwys o ran cyflawni arbedion yn ogystal â lleihau'r effeithiau posibl. Byddai'r opsiwn yma'n cynnwys cynnal meini prawf pellter dewisol presennol y Cyngor o ddarparu cludiant i bob ysgol gynradd (Cymraeg, Saesneg a Ffydd). Byddai darpariaeth cludiant i bob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) yn newid i fod yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai RhCT yn dal i gynnig darpariaeth sy'n fwy hael na'r ddarpariaeth sy'n cael ei chynnig gan 18 o’r 22 Cyngor yng Nghymru, pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo.

 

Nododd yr Arweinydd fod 1 o bob 5 Cyngor yn Lloegr wedi awgrymu y bydden nhw'n wynebu anhawster ariannol yn y flwyddyn nesaf ac mae'n bosibl y bydd Hysbysiadau Adran 114 yn cael eu cyhoeddi; ac eglurodd y byddai angen i'r Cyngor gyflwyno cynnydd o 8%+ ychwanegol yn Nhreth y Cyngor er mwyn gwneud iawn am y diffyg yma. Nododd yr Arweinydd nad oedd Aelodau'r wrthblaid wedi darparu cyllideb amgen i'w hystyried a phleidleision nhw yn erbyn cynnydd yn Nhreth y Cyngor.

 

Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau â phwynt y Cynghorydd S Emanuel ynghylch manteisio ar Metro newydd De Cymru a gweithio gyda chwmni Trafnidiaeth Cymru i liniaru rhai o’r effeithiau ar blant oedran ysgol uwchradd, yn benodol yn ardaloedd Treorci a Threherbert.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai’n cynnal trafodaeth gyda chwmni Trafnidiaeth Cymru i weld a fyddai modd cynnig cyfleoedd i deithio ar fysiau neu'r metro i liniaru'r effeithiau yma lle bo modd, pe bai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo. Fodd bynnag, atgoffodd yr Arweinydd y Cabinet bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud heddiw fod yn seiliedig ar y ffeithiau oedd ger eu bron ac nid ar y rhagdybiaeth y byddai mesurau lliniaru o'r fath yn cael eu rhoi ar waith yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Gymraeg yn cytuno bod yr opsiwn a ffefrir wedi’i nodi yn adran 14.2 o’r adroddiad, sef cynnal meini prawf pellter dewisol presennol y Cyngor o ddarparu cludiant i bob ysgol gynradd (Cymraeg, Saesneg a Ffydd). Byddai darpariaeth cludiant i bob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) yn newid i fod yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod yr opsiwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd y byddai'r effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei lliniaru, cyn belled ag y bo modd, tra'n cydnabod hefyd nad oes modd i’r Cabinet wneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth yma’n unig. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn y byddai hwn yn ddull rhesymol, a hynny'n seiliedig ar y nifer fawr o ffactorau y mae angen eu hystyried. Nododd hefyd na ddylai'r dull yma rwystro'r uchelgeisiau y mae'r Cyngor yn ymdrechu i'w cyflawni yn rhan o'i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cydnabu’r Aelod o'r Cabinet fod pryderon wedi’u codi ynghylch yr effaith ar rieni yn y dyfodol wrth iddyn nhw fynd ati i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant. Fodd bynnag daeth yr Aelod i’r casgliad y byddai’r opsiwn yma'n lliniaru’u pryderon, yn lleihau’r effaith ar ddysgwyr cyfrwng Cymraeg yn benodol ac yn parhau i ddarparu’r pellter meini prawf dewisol ar gyfer pob ysgol gynradd.

 

Gan gyfeirio at sylwadau'r wrthblaid mewn perthynas â chadw'r sefyllfa bresennol, dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd unrhyw opsiynau eraill i sicrhau arbedion neu gynnal cyllideb gytbwys wedi'u cyflwyno.

 

O ran llwybrau cerdded diogel, roedd swyddogion y Cyngor a’r cyngor proffesiynol a ddarparwyd ganddynt, sy'n seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, wedi tawelu meddwl y Dirprwy Arweinydd a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch iddyn nhw.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi rheoli ei gyllid cystal â phosibl, er gwaethaf ffactorau allanol ac aeth ati i roi bai ar Lywodraeth y DU am y sefyllfa yr oedd pob Cyngor ynddi ar hyn o bryd.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd o'r farn mai 14.2 oedd y dull mwyaf cytbwys a dywedodd fod yn rhaid i'r Cabinet fabwysiadu safbwynt cynhwysfawr ac archwilio'r holl resymau dros wneud penderfyniad. Nododd y Dirprwy Arweinydd y byddai 305 o ddisgyblion cynradd ychwanegol yn parhau i ddefnyddio'r ddarpariaeth pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, tra byddai gostyngiad hydrin hefyd yn yr arbedion sy'n cael eu cynhyrchu. Daeth y Dirprwy Arweinydd â'i chyfraniad i ben drwy ddweud bod yn rhaid i'r Cabinet fabwysiadu safbwynt cytbwys mewn perthynas ag unrhyw gynnig ac ystyried ystod o ffactorau. O'r herwydd, roedd y Dirprwy Arweinydd yn fodlon mai'r opsiwn yma fyddai'r dull cywir i'w fabwysiadu, a hynny ar sail yr angen i gynnal sefydlogrwydd ariannol a chan ystyried yr adborth a dderbyniwyd. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod sylw dyledus wedi'i roi i'r holl sylwadau a gyflwynwyd yn rhan o'r ymgynghoriad a sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan y siaradwyr yn y cyfarfod a'r ddeiseb a ddaeth i law. Nododd yr Arweinydd hefyd fod sylw dyledus wedi'i roi i'r asesiadau effaith cynhwysfawr. Er nad oedd yr argymhelliad wedi'i gynnig yn ffurfiol, cydnabu'r Arweinydd y byddai'r opsiwn a awgrymwyd gan y Cabinet yn lleihau'r arbedion posibl ond yn gam cadarnhaol o ran cludiant ysgol gynradd.

 

Adleisiodd yr Arweinydd ddatganiad y Dirprwy Arweinydd a dywedodd er nad oedd y penderfyniad yn ymwneud â gwleidyddiaeth, roedd yr economi wedi'i chwalu ac mae llawer o faterion, megis costau ynni a chwyddiant uchel, wedi cael effaith ar bob gwasanaeth cyhoeddus. Pwysleisiodd yr Arweinydd nad oedd ef eisiau gweld yr Awdurdod Lleol mewn sefyllfa lle nad oedd yn gallu fforddio darparu mwy na'i ddarpariaeth statudol yn ei feysydd gwasanaeth amrywiol.

 

Cynigiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yr argymhellion ac yn benodol y cynnig sydd wedi'i nodi ym mhwyntiau 14.2 a 14.3 o’r adroddiad (opsiwn 1), sef:

14.2) Yr opsiwn cyntaf fyddai cynnal meini prawf pellter dewisol presennol y Cyngor o ddarparu cludiant i bob ysgol gynradd (Cymraeg, Saesneg a Ffydd). Byddai darpariaeth cludiant i bob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) yn newid i fod yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur.

14.3) Er y byddai'r Cyngor yn cyflwyno newid i'w feini prawf ar gyfer ysgolion uwchradd ac addysg ôl-16, byddai hefyd yn parhau i ddarparu pob elfen arall o'i ddarpariaeth cludiant dewisol, mae hyn yn mynd y tu hwnt i ofyniad statudol sylfaenol presennol Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod cynnwys yr adroddiad a chanlyniadau'r ymgynghoriad â'r cyhoedd, ynghyd â'r Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg cysylltiedig sydd ynghlwm wrth yr adroddiad;

2.    Trafod a yw'r Cabinet yn dymuno diwygio'r cynnig a oedd yn destun ymgynghoriad, gan gynnwys ystyried yr opsiynau amgen a gyflwynwyd yn adran 14 yr adroddiad, a hynny yng ngoleuni'r adborth o'r ymgynghoriad â'r cyhoedd a'r dadansoddiad o'r Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg;

3.    Bwrw ymlaen â gweithredu Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i’r Ysgol diwygiedig fel a ganlyn:

• Cynnal meini prawf pellter dewisol presennol y Cyngor o ddarparu cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol i bob ysgol gynradd (Cymraeg, Saesneg a Ffydd);

• Newid y ddarpariaeth cludo disgyblion ar gyfer pob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) i fod yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008;

• Caniatáu i ddisgyblion barhau i ddewis eu hysgol addas agosaf yn unol â dewis addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu ddewis yn unol ag enwad crefyddol;

• Parhau i ddarparu cludiant dewisol ar gyfer plant cyn oedran ysgol gorfodol (yn unol â'r meini prawf pellter dewisol presennol) a darparu cludiant ôl-16 dewisol (yn unol â'r meini prawf pellter statudol perthnasol); a

• Parhau i ddarparu cludiant dewisol ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

4.    Cyhoeddi’r Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i’r Ysgol diwygiedig erbyn 1 Hydref 2024, yn unol â gofynion statudol, a gweithredu'r polisi ar ddechrau blwyddyn academaidd 2025/26; a

5.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth er mwyn iddo ddatblygu, cyflwyno neu ddiwygio unrhyw bolisïau/canllawiau gweithredol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol diwygiedig.

 

Nodwch - O ran y sylwadau a gafodd eu gwneud gan rai Aelodau Etholedig mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau Etholedig eraill, dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Cyngor yn mynd i'r afael â'r mater yma y tu allan i'r cyfarfod.

 

 

 

Dogfennau ategol: