Agenda item

Rhag-graffu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr adolygiad arfaethedig o drefniadau Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor cyn i'r Cabinet ei drafod ar 20 Mawrth 2024

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i Aelodau fod gyda nhw gyfle i rag-graffu ar yr adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor, cyn i'r Cabinet ei drafod.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth drosolwg i Aelodau o'r adroddiad a'r cynigion sy'n cael eu trafod yng ngoleuni'r heriau ariannol sylweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu yn y tymor canolig. Aeth ati i atgoffa Aelodau bod y cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi cyflwyno ymateb ffurfiol yn rhan ohono ym mis Rhagfyr 2023, a rhoddodd wybod am y themâu allweddol sy'n codi o'r adborth.

 

Yn dilyn cyflwyno'r adroddiad, croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd K Johnson i'r cyfarfod a rhoddodd gyfle iddo annerch Aelodau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson bryderon am effaith eang y cynnig ar nifer o gymunedau, yn enwedig y cymunedau sydd heb wasanaethau trên ac sy'n wynebu llai o wasanaethau bws. Mynegodd bryderon am y pwysau ariannol ar deuluoedd sy'n dibynnu ar y ddarpariaeth bresennol ac a fydd nawr yn gorfod talu am docyn bws bob dydd neu'n gyrru i'r ysgol.  Heriodd yr arbedion posibl a dywedodd y dylai hyn gael ei adolygu yn dilyn asesiadau risg i asesu llwybrau diogel. Yn ogystal â hyn, awgrymodd oedi rhoi'r cynigion ar waith hyd nes y bydd argaeledd cerbydau Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) yn cael ei asesu ac y bydd deddfwriaeth sydd ar y gweill sy'n rhoi p?er i Awdurdodau Lleol mewn perthynas â thocynnau a llwybrau bysiau yn cael ei hystyried. Yn olaf, tynnodd sylw at y gwrthddywediad gydag agenda newid yn yr hinsawdd y Cyngor o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffordd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cynghorydd Johnson am ei sylwadau a rhoddodd gyfle i Aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau a rhoi eu sylwadau mewn perthynas â'r cynigion. Mae crynodeb o'r sylwadau i'w weld isod:

 

Aeth Aelodau ati i gydnabod bod y Cyngor yn darparu cludiant i ddisgyblion ar hyn o bryd sydd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi pam mae'r maes yma'n cael ei drafod, gan nodi bod costau darparu'r lefel bresennol o ddarpariaeth wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Roedd sawl Aelod o'r farn nad yw cymhariaeth â Chynghorau eraill yn adlewyrchu canran y plant sy'n gymwys i gael cludiant, sy'n wahanol ym mhob Cyngor.  Hefyd dydy hi ddim yn adlewyrchu amgylchiadau daearyddol na demograffig unigryw Rhondda Cynon Taf.

 

Ar ôl adolygu canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, nododd Aelodau fod nifer y bobl a ymatebodd, yn ogystal â chanran y bobl a oedd yn erbyn y cynigion, yn dangos yn glir deimladau pobl mewn perthynas â'r cynigion.    Nododd Aelodau fod yr opsiynau amgen sy'n codi o adborth yr ymgynghoriad yn mynd i'r afael yn gyfan gwbl neu'n rhannol â rhai o'r meysydd yma sy'n peri pryder, ond nododd yr Aelodau fod ‘tegwch’ darpariaeth ar draws holl feysydd addysg yn bwysig.

 

Roedd nifer o Aelodau'n teimlo'n gryf y byddai'r cynigion yn rhoi beichiau ariannol ar deuluoedd sydd eisoes yn wynebu heriau economaidd y mae'r Cyngor, trwy benderfyniadau eraill, wedi blaenoriaethu eu diogelu.  Fe wnaeth nifer o Aelodau sylwadau am bwysigrwydd blaenoriaethu hygyrchedd pob disgybl i addysg, ni waeth be fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol.

 

Roedd rhai o'r Aelodau o'r farn y byddai'r baich ariannol yn sgil y cynnig yma yn mynd y tu hwnt i deuluoedd yn gorfod talu am docyn bws bob dydd. Nododd Aelod effaith y cynigion ar les plant, lle gallai plant ddechrau eu diwrnod ysgol gyda dillad, offer, cit chwaraeon gwlyb, a fyddai'n cael effaith ar bresenoldeb ac a allai eu rhwystro nhw rhag cyflawni'n academaidd gan y bydden nhw'n dechrau eu diwrnod yn flinedig ac yn oer ac yn wlyb o bosibl.

 

Gofynnodd Aelod fod y Cabinet yn ystyried ardal ddaearyddol y Fwrdeistref Sirol wrth drafod y mater yma, gan nodi bod disgyblion sy'n byw mewn ardaloedd pell neu wledig o bosibl yn wynebu anawsterau sylweddol o ran manteisio ar addysg. Mae effaith ar hyn yn barod o ganlyniad i lai o wasanaethau bws cyhoeddus yn sgil llai o grantiau bws. 

 

Dywedodd nifer o Aelodau nad yw'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus presennol yn ddigonol i ddiwallu anghenion y trigolion, a gallai hyn gael effaith bellach ar bresenoldeb.  Yn rhan o'r drafodaeth yma, nododd Aelod y gallai teuluoedd droi at yrru eu plant i'r ysgol (lle bo modd gwneud hynny) gan arwain at gynnydd posibl yn nifer y cerbydau ar y ffordd. Trafododd y Pwyllgor y pwynt yma yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd.   

 

Cafodd diogelwch plant yn cerdded pellter hir i'r ysgol ei drafod gan Aelodau hefyd.  Mynegodd Aelodau bryderon mewn perthynas â lleoliad rhai ysgolion ger ffyrdd prysur, anghyraeddadwy, gyda llwybrau heb oleuadau, ac sy ddim yn agos i safleoedd bws na gorsafoedd trenau. Nododd Aelod y dylai Asesiadau Risg o ran llwybrau cerdded diogel gael eu cynnal cyn gwneud penderfyniad, a hynny er mwyn nodi arbedion posibl mwy penodol allai gael eu cyflawni. Yn ogystal â hyn, cynigiodd Aelod fod y Cyngor yn oedi penderfyniad hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar gynigion diwygio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai alluogi'r Cyngor i bennu llwybrau, amserlenni a prisoedd, gan sicrhau bod gwasanaeth digonol ar waith i ddiwallu anghenion trigolion.

 

Dywedodd Aelodau y gallai'r cynigion gael effaith anghymesur ar grwpiau penodol ag anableddau, Anghenion Dysgu Ychwanegol ac amhariad ar y synhwyrau, yn ogystal â nodweddion gwarchodedig eraill, gan greu rhwystrau posibl i addysg.  Gofynnodd Aelod yn benodol fod y Cabinet yn ystyried yr anghydraddoldeb posibl y gallai'r cynnig yma ei greu, a hynny'n rhan o angen i osgoi risg adolygiad barnwrol neu her gyfreithiol. Dywedodd Aelod y dylai'r Cyngor hefyd ystyried gofyniad ac argaeledd Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) sy'n berthnasol i holl gerbydau gwasanaeth cyhoeddus newydd.

 

Codwyd pryderon y gallai rhai o'r opsiynau yn yr adroddiad gael effaith niweidiol ar y Gymraeg yn RhCT, ac ar ddewis rhieni o ran addysg cyfrwng Cymraeg, felly'n peryglu twf siaradwyr Cymraeg. Teimlwyd y gallai hyn hefyd beri risg o ddadwneud gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud yn rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP).  Gofynnodd Aelodau a fyddai angen ailfuddsoddi unrhyw arbedion posibl mewn cyflawni amcanion WESP o ganlyniad i'r cynnig yma. Nododd Aelodau fod gan y Cyngor ddyletswydd i hyrwyddo mynediad at addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedden nhw o'r farn y byddai'r cynigion yn effeithio ar hyn.

 

Gofynnodd nifer o Aelodau'r Pwyllgor fod y Cabinet yn ailystyried y newidiadau arfaethedig ac yn oedi unrhyw newidiadau i'r polisi presennol hyd nes bod effaith a chanlyniadau argymhellion adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn hysbys, yn ogystal ag ystyried canlyniad ymateb y Comisiynydd Plant i adolygiad Llywodraeth Cymru a pha effaith y gallai'r pryderon hynny ei chael ar y maes yma o bolisi yn y dyfodol. 

 

Cynigiodd Aelod gynnig, a nododd fod y Pwyllgor yma'n rhoi gwybod i'r Cabinet, a hynny ar ôl craffu ar yr adroddiad, na ddylai fwrw ymlaen â'r cynigion i newid darpariaeth Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol ac y dylai'r ddarpariaeth bresennol gael ei chadw. Ni chafodd y cynnig ei gefnogi gan fwyafrif Aelodau'r Pwyllgor. Roedd Cynghorwyr Sera Evans, K Morgan a M Powell o blaid y cynnig. 

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

1. Rhag-graffu ar yr adroddiad (wedi'i atodi yn Atodiad A), gan roi cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyfrannu at y mater yma;

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gyflwyno adborth i'r Cabinet ar ran Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

Dogfennau ategol: