Agenda item

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen y Strategaeth Gyllideb a argymhellir gan y Cabinet ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae'r strategaeth bellach yn cael ei hargymell i'r Cyngor Llawn.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y strategaeth ddrafft wreiddiol wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet ar 24 Ionawr, a'i bod wedi bod yn destun ail gam ymgynghori a gafodd ei gynnal rhwng 24 Ionawr a 9 Chwefror. Mae'r holl adborth o ail gam yr ymgynghoriad wedi'i ystyried gan y Cabinet ac mae ynghlwm wrth yr adroddiad. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr adborth yn cynnwys yr adroddiad ymgynghori, cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor, y Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Cydbwyllgor Ymgynghorol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y strategaeth, y cytunwyd arni wedyn gan y Cabinet ar 21 Chwefror, wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y rhagwelir y byddai bwlch cychwynnol y Cyngor yn y gyllideb, fel y'i nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig diwethaf, yn £36 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn erbyn y sefyllfa yma, mae nifer o fesurau lleihau cyllideb cynnar, yr adroddwyd arnynt yn flaenorol ac y penderfynwyd arnynt yn flaenorol, wedi'u gwrthbwyso, gan adael bwlch o £25.9 miliwn yn weddill. Dyma'r sefyllfa y lluniwyd strategaeth y gyllideb yn ei herbyn. Ychwanegodd fod y Cyngor bellach wedi derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu. Ychwanegodd fod y setliad terfynol yn cadarnhau cynnydd mewn cyllid ar lefel Cymru gyfan o 3.3% a 3% ar gyfer y Cyngor hwn. Mae lefelau setliadau ledled Cymru yn amrywio o 2.3% i 5% gyda chyllid gwaelodol yn ei le ar lefel is y setliad. Ychwanegodd fod tri throsglwyddiad i'r grant cynnal refeniw yn y setliad terfynol, fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael effaith net ar sefyllfa'r gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran am elfennau allweddol strategaeth y gyllideb a nodir yn adran 7 yr adroddiad, sy’n ymdrin â’r bwlch cyllidebol o £25.9 miliwn sy’n weddill:

 

Ø   Y cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yw 4.99% a fydd yn darparu incwm ychwanegol o £1.122 miliwn, yn ychwanegol at y 3.9% a fodelwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £1.03 yr wythnos ar gyfer eiddo Band A neu £1.55 ar gyfer eiddo Band D. Mae elfen o’r cynnydd yn nhreth y cyngor wedi’i neilltuo i gefnogi darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol;

 

Ø     Mae ysgolion y Cyngor wedi'u diogelu ers blynyddoedd lawer, gyda'u cyllidebau wedi cynyddu gan 34% dros y deng mlynedd diwethaf, pan mae gwasanaethau eraill y Cyngor wedi gweld cynnydd sy'n gyfystyr â dim ond hanner y lefel honno. Roedd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn £15 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sydd ar lefel hanesyddol o uchel, o’i gymharu â 31Mawrth 2020 pan oedd cronfeydd wrth gefn yr ysgol yn £2.4 miliwn. Cynigir bod y Cyngor yn ariannu ysgolion yn llawn ar gyfer yr holl bwysau cyflog y flwyddyn nesaf ynghyd â rhoi £1 miliwn pellach o gyllid cylchol iddyn nhw, yn ogystal â £0.5 miliwn pellach o gyllid unwaith ac am byth. Bydd hyn yn gweld cynnydd o £12.4 miliwn neu 6.6% yng nghyllideb Ysgolion ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan godi cyllideb gyffredinol ysgolion i £198.5 miliwn. Mae'r lefel yma o gynnydd dros ddwywaith y cynnydd o'i gymharu â'r cynnydd yng nghyllid cyffredinol y Cyngor. Mae'r Cyngor yn aros am gadarnhad gan Lywodraeth San Steffan ynghylch cyllid ar gyfer costau uwch sy'n gysylltiedig â chostau pensiynau athrawon o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac mae'r Cyngor wedi cael gwybod bod hyn yn fater o amseru.

 

ØMae arbedion effeithlonrwydd ychwanegol gwerth £5.2 miliwn wedi'u nodi gan Uwch Arweinwyr y Cyngor fel mesurau y gellir eu cyflawni'n weithredol a heb effaith andwyol sylweddol ar wasanaethau rheng flaen y Cyngor. Mae'r £5.2 miliwn yma'n ychwanegol at yr £8.2 miliwn o fesurau lleihau cyllideb cynnar a nodwyd yn flaenorol ac yr adroddwyd arnyn nhw ym mis Tachwedd 2023, a bydd yn dod â chyfanswm y mesurau effeithlonrwydd, sydd bellach wedi'u cynnwys yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, i dros £13 miliwn.

 

Ø     Mae cyfres o fesurau, a nodir yn adran 10 o’r adroddiad sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni ac addasiadau i’r gyllideb sylfaenol ac effaith y penderfyniad i godi tâl am elfen gofal plant clybiau brecwast. Bydd yr arian sy'n deillio o hyn yn cael ei fwydo i mewn i gyllidebau Ysgolion, cyfalafu a chynigion ynghylch lefel y ffioedd a thaliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Ø     Roedd y setliad terfynol hefyd yn cadarnhau'r hysbysiad cynnar a gafodd y Cyngor gan Lywodraeth Cymru am lefel yr adnoddau ychwanegol y bydd y Cyngor nawr yn eu derbyn o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Ionawr, gyda £600 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer llywodraeth leol yn Lloegr. Arweiniodd hyn at £25 miliwn ychwanegol i Gymru a £1.951 miliwn ychwanegol i Rondda Cynon Taf. Darperir y cyllid ychwanegol yma drwy gyfuniad o grant cynnal refeniw ychwanegol ac adfer grant y gweithlu gofal cymdeithasol i £45 miliwn ar lefel Cymru gyfan.

 

Ø     Cyfanswm gwerth cydrannau'r strategaeth yw £16.457 miliwn sydd, gyda'r adnoddau ychwanegol yn y setliad terfynol, yn gadael bwlch yn y gyllideb sy'n weddill o £7.502 miliwn, a nodir hyn yn nhabl 2 (paragraff 10.4). Cynigir bod y bwlch sy'n weddill yn y gyllideb yn cael ei gydbwyso â dyraniad o'r gronfa arian pontio wrth gefn sydd wedi'i sefydlu at y diben hwn a'i ailgyflenwi wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod cyllid pontio a chronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael eu defnyddio'n synhwyrol yn rhan o brosesau pennu cyllideb flynyddol y Cyngor, gan gydnabod nad yw defnyddio cronfeydd wrth gefn yn unig yn strategaeth gynaliadwy. Ychwanegodd ei fod yn fodlon bod gan y Cyngor drefniadau ar waith i barhau i gyflawni arbedion yn gynnar sy'n fodd i ailgyflenwi'r gronfa wrth gefn hon a chyflawni'r arbedion cylchol angenrheidiol o ran y gyllideb sylfaenol wrth symud ymlaen.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Cyfadran i'r casgliad, yn gyffredinol, y bydd hyn yn arwain at gyllideb net o £631.795 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dywedodd fod eleni wedi bod yn flwyddyn ac yn amgylchedd ariannol heriol o ran llunio'r opsiynau cyllideb a nawr y gyllideb a argymhellir gan y Cabinet. Pwysleisiodd efallai y bydd angen bod yn barod ar gyfer cyfyngiadau ariannol pellach a mwy sylweddol, ond sicrhaodd yr Aelodau y bydd uwch swyddogion yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i fanteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd a diogelu gwasanaethau rheng flaen y Cyngor.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am ei adroddiad a chydnabu ddiwydrwydd yr uwch swyddogion wrth reoli'r gyllideb er gwaethaf yr anawsterau a wynebwyd eleni gyda chyfraddau uchel chwyddiant, twf cyflog a'r galwadau cynyddol ar wasanaethau'r Cyngor. O ran lefel arfaethedig treth y Cyngor, gwnaeth yr Arweinydd sylwadau ar lefelau treth y Cyngor a osodwyd gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gyda Chyngor RhCT yn yr ail safle o'r gwaelod.

 

Atgoffodd yr Arweinydd yr Aelodau fod y Cyngor yn gwneud ei orau glas i ddiogelu ac ariannu ysgolion, gyda'r Cyngor hwn yn ariannu'r dyfarniad cyflog addysgu a'r rhai nad ydynt yn addysgu yn llawn gyda'r Cabinet yn argymell taliad untro ychwanegol o hanner miliwn o bunnoedd i ysgolion (fel y nodir yn yr adroddiad). Soniodd am bwysigrwydd llunio cyllideb gytbwys sy'n gredadwy ac yn gynaliadwy i drigolion RhCT.

 

Manteisiodd Arweinwyr Gr?p/Dirprwy Gr?p eraill ar y cyfle i drafod yr adroddiad yn fanwl ac ymatebodd y Cyfarwyddwr Cyfadran i nifer o ymholiadau mewn perthynas â Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25.

 

I gloi, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (Rebecca Evans AS) a'r tabl ar setliad llywodraeth leol terfynol 2023/24, yn Atodiad 1;

 

2.     Nodi'r goblygiadau i'r Cyngor a'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb fel sydd wedi'i nodi yn adran 5;

 

3.     Cytuno ar gynnydd o 4.99% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25;

 

4.     Cytuno ar y cynnydd yng Nghyllideb Grynswth yr Ysgolion fel sydd wedi'i nodi yn adran 8;

 

5.     Cytuno ar gynigion y strategaeth gyllideb fel sydd wedi'u nodi ym mharagraffau 10.2 i 10.4;

 

6.     Cytuno i ddefnyddio'r 'Gronfa Gweddnewid Gwasanaeth a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig Wrth Gefn' fel arian pontio, sef cyfanswm o £7.502 miliwn ar gyfer 2024/25;

 

4.      Cymeradwyo Tablau 4 a 5 yn Adran 13 yr adroddiad yn sail ar gyfer dyrannu adnoddau i Gyllidebau Ysgolion Unigol, i Wasanaethau eraill y Cyngor, ac i fodloni gofynion ariannu corfforaethol y Cyngor; a

 

4.      Cytuno ar gyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2024/25 o £631.795 miliwn, er mwyn cymeradwyo'r penderfyniadau statudol angenrheidiol o ran pennu Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod erbyn y terfyn amser statudol, sef 11 Mawrth 2023.

 

(Nodyn: Datganodd y Cynghorydd R Lewis fuddiant personol—“Rwy’n Is-Gadeirydd Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De”).

 

Dogfennau ategol: