Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

1)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Evans i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun i uwchraddio’r cwlfert ar ystad ddiwydiannol y Porth?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y gwaith bellach wedi'i gwblhau ar y cwlfert yn Ystâd Ddiwydiannol Llwyncelyn, y Porth, a ariannwyd drwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru.  Ychwanegodd fod y gwaith wedi cynnwys uwchraddio'r cwlfert yn llwyr, gyda dyfeisiau gorlif wedi'u hadeiladu i mewn, ac mae trefniadau Monitro TCC 24/7 eisoes ar waith ar y safle, sy'n gysylltiedig ag ystafell reoli argyfwng y Cyngor. Bydd unrhyw stormydd sydd â rhybudd melyn neu ambr yn y dyfodol yn golygu y bydd yr ystafell reoli yn cael ei staffio a'i monitro.

 

Soniodd yr Arweinydd am y buddsoddiad sydd wedi dod i gyfanswm o £150,000 a sut mae'r ymatebion gan fusnesau lleol i'r buddsoddiad a'r gwaith eisoes wedi bod yn gadarnhaol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

 

2)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“A oes modd i'r Arweinydd roi diweddariad ar y paratoadau sydd ar y gweill cyn i RhCT groesawu’r Eisteddfod yn yr haf?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith ar gwblhau'r Cynllun Gofodol wedi gwneud cynnydd da, a bod lleoliadau arfaethedig ar gyfer cyfleusterau parcio a theithio, maes carafanau a chyfleusterau gwersylla eraill yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Eisteddfod y Cyngor yr wythnos nesaf. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn y dyddiau nesaf gyda newyddion cadarnhaol pellach yn ymwneud â'r Eisteddfod.

Dywedodd yr Arweinydd fod cyfarfod cadarnhaol wedi'i gynnal yn ddiweddar gyda'r holl Aelodau lleol yng nghyffiniau Pontypridd, gan nodi dechrau ymgysylltiad a chyswllt rhagweithiol, parhaus ag Aelodau ar drefniadau isadeiledd yr Eisteddfod. Ychwanegodd fod disgwyl y bydd mwy na 160,000 o ymwelwyr yn dod i'r dref dros y cyfnod o wyth diwrnod. Dywedodd yr Arweinydd na fydd unrhyw reswm i yrru drwy Bontypridd yn ystod yr Eisteddfod wrth i Swyddogion barhau i weithio'n agos gyda Phwyllgor yr Eisteddfod a Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynllun Rheoli Traffig gyda gwell darpariaeth trenau a fflydoedd o fysiau yn cludo pobl a thrigolion yn rhan o'r trefniadau parcio a theithio.

Eglurodd yr Arweinydd y bu codi arian sylweddol hyd yn hyn, gyda chefnogaeth barhaus i bwyllgorau apêl lleol sy'n codi arian i'r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yr Arweinydd yn awyddus i bwysleisio bod yr Eisteddfod yn agored i’r holl drigolion, ac mae ymgysylltu â’r holl bobl ifainc ledled y fwrdeistref sirol yn hollbwysig.

Dywedodd yr Arweinydd y bydd buddion yr Eisteddfod i’w gweld ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol ac nid yn nhref Pontypridd yn unig, ac felly mae'r garfan ar gyfer Canol Trefi yn parhau i weithio, nid yn unig ag AGB Pontypridd ond hefyd AGB Aberdâr a Threorci i hyrwyddo’r Eisteddfod ymhell ac yn agos, a hynny ymhlith ymwelwyr a thrigolion.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

 

3)      Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davis i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple:

“A all yr Aelod Cabinet amlinellu’r camau nesaf ar gyfer y cynllun Gofal Ychwanegol yn y Porth yn dilyn y newyddion bod contractwr newydd wedi’i benodi?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple:

 

Manteisiodd y Cynghorydd Caple ar y cyfle i roi gwybod am fuddsoddiad y Cyngor o £60 miliwn i foderneiddio cartrefi gofal preswyl y Cyngor er mwyn sicrhau urddas a pharch i'r henoed, gyda chartrefi gofal ychwanegol o'r radd flaenaf sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer anghenion mwy cymhleth megis Dementia. Bydd y cyfleusterau yma'n gwella annibyniaeth pobl h?n ac yn rhoi dewis gwirioneddol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a hynny yn erbyn toriadau cyllidebol ac argyfwng costau byw ariannol.

Dywedodd y Cynghorydd Caple fod y datblygiad penodol hwn wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl yn wreiddiol, a hynny oherwydd effaith y pandemig a'r ffaith bod y contractwyr dethol wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Er gwaethaf yr heriau anodd hyn, roedd y Cynghorydd Caple yn falch o ddweud bod gwaith wedi ailddechrau ar y safle gyda chontractwr newydd. Ychwanegodd y bydd y datblygiad Gofal Ychwanegol yn cynnwys 54 o fflatiau sydd ag 1 ystafell wely a 6 o fflatiau sydd â 2 ystafell wely, ochr yn ochr ag ardal fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau a chanolfan oriau dydd.

Daeth y Cynghorydd Caple i’r casgliad y bydd y buddsoddiad hwn yn ganolog i gefnogi defnyddwyr canolfannau oriau dydd sydd ag anghenion a aseswyd, i sicrhau bod unigedd ac unigrwydd yn cael eu lliniaru a hyrwyddo annibyniaeth a lles pobl, gan sicrhau bod isadeiledd bariatrig a theclynnau codi ar gael ym mhob rhan o gynllun y safle.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

Ni chafodd cwestiwn 4 i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ei ofyn ac felly fe syrthiodd.

 

 

5)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Owen-Jones i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“Pa effaith fydd y cyhoeddiad gan TATA Steel ei fod yn bwriadu bwrw ymlaen â’r cynigion i dorri 2,800 o swyddi yn ei chael ar ein cymunedau?”

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Eglurodd y Cynghorydd Morgan, er mai'r pryder yw'r 2,800 o swyddi a gollwyd, atgoffodd yr Aelodau fod tair swydd cadwyn gyflenwi hefyd yn gysylltiedig â phob gweithiwr dur ac felly gallai fod llawer mwy o swyddi'n cael eu colli nag a ragwelwyd yn wreiddiol.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod wedi mynychu rali ym Mhort Talbot ychydig wythnosau yn ôl lle’r oedd y teimlad o bryder, ansicrwydd a dicter ymhlith y gweithwyr a’u teuluoedd yn amlwg. Dywedodd ei fod hefyd yn gyfle i siarad ag Arweinwyr Cynghorau eraill, cynrychiolwyr cymunedol, Undebau a Llywodraeth Cymru.

 

Eglurodd yr Arweinydd ei bod hi'n allweddol cael mynediad at gyllid y cyfeiriwyd ato gan Lywodraeth y DU, er bod y manylion ynghylch sut y bydd y pecyn £100 miliwn yn cael ei weinyddu yn parhau i fod yn aneglur ar hyn o bryd. Ychwanegodd ei fod yn awyddus i gael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgysylltu sylweddol a fu rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a staff UK Windows and Doors pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr. Ychwanegodd fod y Cyngor yn ceisio darparu cymorth tebyg ag y mae wedi’i wneud o’r blaen, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i’r rhai yr effeithir arnynt.

Dywedodd yr Arweinydd fod yr Undebau Llafur ar flaen y gad yn y frwydr, gyda chefnogaeth gwleidyddion Llafur lleol, gweithwyr dur, a’r cymunedau lleol. Ychwanegodd fod y Blaid Lafur wedi ymrwymo i gronfa dur glân gwerth £3 biliwn, a'i fod yn obeithiol y byddai TATA yn gohirio gweithredu ei gynlluniau yn ddigon hir i ddisgwyl canlyniad yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd yr angen i gadw'r sgyrsiau yn agored ac eglurodd ei bod hi'n hollbwysig bod Llywodraeth Lafur newydd yn ail-negodi pecyn gwell o fuddsoddiad sy'n diogelu swyddi ac yn sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i ddulliau cynhyrchu gwyrddach. Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa gyda TATA Steel yn debygol o gael yr un effaith ag yr oedd cau'r pyllau glo yn yr 1980au.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

6)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Ellis i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“A all yr Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen i reoli tomennydd glo ledled RhCT?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Sicrhaodd y Cynghorydd Morgan yr Aelodau fod diogelwch tomennydd glo yn flaenoriaeth i'r Cyngor ers Storm Dennis a'r tirlithriad yn Nhylorstown. Ychwanegodd fod gan y Cyngor garfan o arolygwyr sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac yn archwilio tomennydd. Rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd yn ymwneud â'r domen yn ardal Tylorstown lle mae'r hen domen lo wedi'i symud a mwy o waith draenio wedi'i wneud, gyda chamau monitro hirdymor ar waith. Dywedodd yr Arweinydd y bydd y gwaith ar domen Tylorstown yn cael ei gwblhau yr haf hwn, fel y bwriadwyd, gyda gwaith pellach gwerth £2 miliwn i fynd rhagddo.

Dywedodd yr Arweinydd fod yna domennydd eraill ledled y fwrdeistref sirol sydd naill ai angen eu monitro, eu cynnal a'u cadw neu, mewn rhai achosion, bydd angen ymyrraeth. Esboniodd fod y diffygion yn cael eu categoreiddio gan ddefnyddio system liwiau Du, Coch, Ambr a Gwyrdd (BRAG). Mae Du yn golygu bod angen cymryd camau brys ar unwaith. Mae coch yn gofyn am waith cynnal a chadw tymor byr lle mae angen gwaith adfer a dylid gweithredu arno cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mae achosion Ambr angen gwaith cynnal a chadw neu waith adfer tymor canolig ond gyda threfniadau lliniaru risg megis ymweliadau safle, monitro ac ati ac yn olaf, mae achosion Gwyrdd angen gwaith cynnal a chadw hirdymor neu waith adfer, ond ar hyn o bryd mae risg isel.

Eglurodd yr Arweinydd hefyd y diffiniadau categori a’r cyfnodau arolygu sydd fel y ganlyn: Mae D1 yn galw am arolygiad misol, mae D3 yn galw am arolygiad bob 3 mis, mae C yn galw am arolygiad bob 6 mis, mae angen arolygiad blynyddol ar B, mae A2 yn arolygiad bob 2 flynedd, yn olaf mae A4 yn galw am arolygiad bob 4 blynedd (mae'r ddau olaf yn dommennydd sydd wedi'u hadennill neu'u dileu ond mae angen eu monitro o hyd).

Dywedodd yr Arweinydd fod Swyddogion y Cyngor yn gwneud gwaith ar gynlluniau brys ar y cyd â'r Gwasanaethau Brys pe bai unrhyw bryderon ynghylch y tomennydd categori C a D yn cael eu codi. Mae hyn ynghyd ag archwiliadau rheolaidd wedi'u cynllunio, yn ogystal ag archwiliadau tywydd garw ad-hoc, yn rhoi'r Cyngor mewn sefyllfa dda i gadw ei domennydd yn ddiogel i'w drigolion.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

7)      Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S.Trask i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

“A all yr Arweinydd wneud datganiad ar yr ymgynghoriadau cyhoeddus sydd wedi digwydd yn ystod y tri mis diwethaf?”

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi cynnal chwe ymgynghoriad cyhoeddus mawr dros y tri mis diwethaf, a nododd fanylion pob un o’r chwech o fewn y cyfnod o dri mis:

Cam 1 yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb, 6 Tachwedd - 15 Rhagfyr 2023 gyda 653 o ymatebion, Clybiau Brecwast, 27 Tachwedd - 8 Ionawr gyda 1351 o ymatebion

Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, 27 Tachwedd - 8 Ionawr (estynedig 18 Ionawr – 8 Chwefror), 2858 o ymatebion, Cyfnod 2 yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb, 4 Ionawr – 8 Chwefror 2024, 530 o ymatebion, yr Ymgysylltu Cynllun Cydraddoldeb Strategol,12 Rhagfyr 2023 – 9 Chwefror 2024, 96 o ymatebion, ac Ymgysylltu â'r Cynllun Corfforaethol, 8 Rhagfyr 2023 – 29 Ionawr 2024 gyda 469 o ymatebion.                                   

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. S. Fox:

 

“Rwy’n pryderu am y pwysau a roddwyd ar yr ymatebion cyhoeddus, er enghraifft ar gyfer yr ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos, lle cafodd y cynllun ei gymeradwyo er bod dros 90% o’r ymatebwyr yn ei erbyn. Mae’r ymgynghoriad sydd ar y gweill o ran y CDLl Diwygiedig yn cynnwys ffurflenni cymhleth i awgrymu safleoedd newydd ond gwrthodwyd fy nghais i symleiddio'r ffurflenni hyn. Faint o bwysau a roddir ar ymatebion y cyhoedd?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Ymatebodd yr Arweinydd fod ymatebion y cyhoedd yn bwysig a'u bod yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgynghoriadau i sicrhau bod Aelodau'n meddu ar yr holl wybodaeth berthnasol wrth wneud penderfyniadau. Ychwanegodd fod yr ymatebion cyhoeddus hefyd yn sicrhau bod y Cyngor yn ystyried unrhyw sylwadau sy'n codi, fel bod modd gwneud unrhyw addasiadau perthnasol lle bo angen. Gofynnir i swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth yn ôl yr angen ac weithiau bydd angen ailymgynghori yn dilyn newidiadau pellach i'r cynllun yn sgil hyn. Pwysleisiodd yr Arweinydd nad yw ymgynghoriad yn gyfystyr â refferendwm.

Nid oedd unrhyw gwestiynau pellach oherwydd bod yr amser a neilltuwyd wedi dod i ben.

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: