Agenda item

Derbyn cyflwyniad PowerPoint gan Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n rhoi:

 

·       Diweddariad ar waith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ei flaenoriaethau ehangach a'i effaith hyd yma.

·       Trosolwg o'r newid i fod yn Gydbwyllgor Corfforaethol a'r trefniadau llywodraethu ehangach  

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y CCRCD, ei flaenoriaethau cyffredinol a'i effaith ehangach hyd yma.   Yn rhan o'r cyflwyniad, rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau hefyd o'r broses o drawsnewid i fod yn Gydbwyllgor Corfforedig (CJC) a'r trefniadau llywodraethu ehangach.

 

Yn rhan o'r cyflwyniad, rhoddwyd manylion i'r Aelodau am yr heriau rhanbarthol a'r cynlluniau sydd ar waith i fynd i'r afael â heriau o'r fath, rôl Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chyllid, yn ogystal â'r llwyddiannau hyd yma.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i roi manylion gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Rhondda Cynon Taf, gan gyfeirio at seilwaith megis 'Metro Plus', Hwb Trafnidiaeth y Porth, a Phyrth Darganfod RhCT yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu mewn Clwstwr. Darparwyd rhagor o fanylion am fodel llwyddiannus Zip World i'r Aelodau, cyn i'r Cyfarwyddwr fyfyrio ar y camau nesaf ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

 

Daeth y cyflwyniad i ben drwy amlinellu'r symudiad i fod yn Gyd-bwyllgor Corfforedig a manteision dull gweithredu rhanbarthol ar gyfer RhCT a'r camau nesaf ar gyfer dull gweithredu o'r fath.

 

Soniodd yr Arweinydd am y gwaith mawr a wnaed gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan fyfyrio ar bryderon blaenorol y byddai’r bartneriaeth o fudd i Gaerdydd yn unig. Manteisiodd ar y cyfle i dynnu sylw at y prosiectau niferus a gyflawnwyd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, gan gyfeirio at y 'Gronfa Fytholwyrdd', 'Zip World', Buddsoddi mewn Tai, yn ogystal â chronfeydd trafnidiaeth rhanbarthol a datblygu strategol. Soniodd yr Arweinydd am gyfleoedd i fuddsoddi'n hirdymor drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r cyfleoedd am cyflogaeth a fyddai'n deillio o hynny.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at symud i Gyd-Bwyllgorau Corfforedig gan gadarnhau y byddai angen rhagor o gydweithio ac yn y dyfodol byddai pob Awdurdod yn cael ei gynrychioli ar y Byrddau a'r Paneli oddi mewn iddynt.

 

Ar ran Arweinydd yr Wrthblaid, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan am y gobaith a amlygwyd yn y cyflwyniad a'r cyfle i wireddu a chyfiawnhau'r gobaith yma yn y dyfodol.  Gwnaeth yr Aelod sylwadau ar y derminoleg 'jargon' yn y cyflwyniad a siaradodd hefyd am bryderon mewn perthynas ag unrhyw effaith bosibl ar Gynlluniau Datblygu Lleol unigol pob un o'r Awdurdodau mewn perthynas â'r datblygiadau sy'n cael eu gweithredu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr drwy roi gwybod am y cyfleoedd ariannu sy'n cael eu cynnig o fewn yr Awdurdod i helpu i adeiladu cydnerthedd a gobaith, gan sôn am gyfleoedd 'cronfa wedi'i hailgylchu'. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr na fyddai gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymyrryd nac yn tresmasu ar Gynlluniau Datblygu Lleol Awdurdodau unigol ond ei fod yn gyfle i ddod â chynlluniau lleol at ei gilydd, trwy berthynas waith agos gyda Swyddogion y Cyngor.

 

Siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Powell yn gadarnhaol am y cyflwyniad a'r cyfleoedd a amlygwyd ynddo.

 

Gwnaeth Aelod o Gydbwyllgor Craffu'r Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan sylwadau ar y seilwaith a'r cyfleoedd cynllunio rhanbarthol ac ymatebodd y Cyfarwyddwr iddynt gan roi gwybod am y blociau adeiladu ar gyfer llunio economi Gymreig ragorol.

 

Holodd un Aelod am y cyfleoedd sydd ar gael i uwchsgilio a rhoi ar y trywydd cyflym, gan dalu sylw penodol i dechnegwyr cerbydau trydan.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr nad oedd y setiau sgiliau angenrheidiol ar gael yn y cwantwm ar hyn o bryd a bod gwaith gwerthuso cyffredinol yn cael ei gynnal. Darparwyd manylion am y cyfleoedd i ddarparu cyrsiau hyfforddiant dwys mewn colegau, a hynny'n enghraifft o'r llwyfannau uwchsgilio a hyfforddi sy'n cael eu cynnig i fynd i'r afael â materion o'r fath.

 

Gofynnwyd cwestiwn ychwanegol yngl?n â gostyngiad yn y rhyddhad ardrethi i fusnesau ac a fyddai hyn yn atal buddsoddiad mewn busnesau, ac felly'n niweidiol i fuddsoddiad ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Ymatebodd y Cyfarwyddwr drwy roi sylwadau ar y pecyn o fesurau yr oedd angen cytuno arnynt gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chadw a chyfuno ardrethi busnes i helpu i annog buddsoddiad. Gwnaeth sylwadau pellach ar y gwahanol ffyrdd o edrych ar ardrethi busnes i ryddhau'r buddsoddiad treth.

 

I gloi, gwnaeth y Llywydd sylwadau ar y cynnydd a'r buddsoddiad sylweddol ledled RhCT, a'r cyfleoedd i gydweithio rhagor yn y rhanbarth yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD y byddai'r Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad.