Agenda item

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ar unrhyw faterion sy'n codi gyda'r deilydd portffolio sy'n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau i'r Pwyllgor a rhoddodd ddiolch i'r Aelod am ymuno. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i Aelodau a rhoddodd wybod iddyn nhw fod gyda nhw gyfle i graffu ar unrhyw faterion gyda deiliad y portffolio sy'n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â phroses sefydlu bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel a gofynnodd Aelod am ymgysylltu a sicrhau y byddai mesurau ymgysylltu â'r gymuned yn parhau yn y strwythur newydd. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod gr?p ffocws amlasiantaeth yn ei le ar hyn o bryd a'i fod yn gweithio tuag at roi Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf Morgannwg rhanbarthol ar waith o 1 Ebrill 2024. Mae disgwyl i adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno i'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 23 Chwefror ac i Bwyllgor Craffu RhCT – Gwasanaethau Cymuned (Trosedd ac Anhrefn) ar 28 Chwefror.

 

Gofynnodd Aelod a gafodd y potensial i un Awdurdod Lleol lywio'r Bartneriaeth ei ystyried ac aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod bod hyn yn bryder sydd wedi cael ei godi, a chydnabod y risgiau sy'n ymwneud â'r mater yma. Cafodd Aelodau wybod y bydd y Bartneriaeth yn cydnabod bod rhaid i unrhyw adolygiad o'r strwythurau ddarparu strwythur rhanbarthol integredig addas sy'n sicrhau bod trefniadau ar gyfer atebolrwydd lleol yn gynhwysfawr ac yn fanwl, a hynny er mwyn cadw ymreolaeth ac atebolrwydd lleol ym mhob Awdurdod Lleol unigol.

Felly, bydd y Bartneriaeth yn sicrhau bod pob Awdurdod Lleol yn cael ei fonitro a'u bod nhw'n atebol am eu cyfraniadau. Pan ofynnwyd cwestiynau pellach i'r Aelod o'r Cabinet am risg un Awdurdod Lleol yn llywio'r Bartneriaeth, ychwanegodd na ddylai datblygiad partneriaeth strategol ranbarthol gael effaith niweidiol ar y Cynghorau ac asiantaethau priodol hynny sy'n llwyddo i roi mentrau diogelwch lleol ar waith yn eu cymunedau.Bydd Cylch Gorchwyl newydd y Bartneriaeth Cymunedau Diogel yn cynnwys pwysigrwydd cynnal trefniadau cymunedau diogel lleol a'r trefniadau craffu lleol presennol sydd ar waith ar gyfer Cymunedau Diogel.

 

Cafwyd trafodaeth ar y Strategaeth Toiledau Lleol a gofynnodd Aelod a yw'r Cyngor yn gwneud digon i gyfathrebu â thrigolion mewn perthynas ag argaeledd cyfleusterau a'u lleoliadau. Siaradodd yr Aelod am fandaliaeth mewn toiledau cyhoeddus a gofynnodd beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod y broblem o ran fandaliaeth a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y Cyngor a'r heriau ariannu gwaith atgyweirio. O ran cyfathrebu, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod cynllun wedi'i ddatblygu gyda meysydd gwasanaeth eraill a bod tudalen we Cyngor RhCT yn cael ei datblygu i roi gwybod am leoliadau toiledau cyhoeddus ledled y fwrdeistref. Bydd potensial creu ap hefyd yn cael ei ystyried. Bydd hefyd modd dod o hyd i doiledau cyhoeddus trwy sticer logo. Tynnodd yr Aelod o'r Cabinet sylw at leoliadau mannau newid sydd ar gael yn y Fwrdeistref Sirol.

Gofynnodd Aelod a oes gwybodaeth ar gael o ran sut effaith y mae'r strategaeth yn ei chael ar grwpiau gwahanol ac a oes gwybodaeth ar gael o ran cynnydd ymgysylltu â busnesau lleol yng nghanol trefi i'w hannog nhw i adael i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau, a hefyd effaith nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod bod angen cyfleusterau mwy amrywiol ac er nad oedd y ffigurau ar gael yn y cyfarfod, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'n eu rhannu nhw â'r Aelod yn uniongyrchol.  Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet na ddylai heriau y mae unigolion yn eu hwynebu eu rhwystro nhw rhag defnyddio toiledau a chadarnhaodd yr Aelod o'r Cabinet fod hyn yn fater fydd yn cael ei drafod ymhellach. Mewn perthynas ag ymgysylltu â busnesau lleol, cafodd Aelodau wybod y bydd Swyddogion Carfan Datblygu'r Gymuned a Charfan Ffyniant a Datblygu yn ymgysylltu â busnesau'n fuan, gyda chanolbwynt cychwynnol ar fusnesau canol tref Pontypridd yn barod am yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Gofynnodd Aelod beth sy'n cael ei wneud i ddarparu cyfleusterau y tu allan i ganol trefi a gofynnodd am gyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod y gostyngiad yn nifer y cyfleusterau sydd ar gael ledled y fwrdeistref wrth dynnu sylw Aelodau at y ffaith nad yw darpariaeth toiledau lleol i'r cyhoedd yn ofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr her o ran ariannu cyfleusterau newydd yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni ac aeth ati i gydnabod yr awgrym o gysylltu â Llywodraeth Cymru i ofyn am gyfleoedd ariannu sydd ar gael ar gyfer hyn.

 

Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i drafod Adolygiad Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth a gofynnodd Aelod i'r Aelod o'r Cabinet i ba raddau y mae'n ystyried achosion o beidio â chydymffurfio gan landlordiaid tai amlfeddiannaeth yn broblem, yn enwedig yn ward Trefforest, ac a yw'r Cyngor yn gwneud digon i sicrhau bod camau gorfodi yn eu lle ar gyfer y rheiny sy'n peidio â chydymffurfio'n fwriadol. Atebodd yr Aelod o'r Cabinet gan nodi bod achosion o beidio â chydymffurfio gan landlordiaid yn achosi problem sylweddol i'r Cyngor ac i'n trigolion, a hynny am nifer o resymau. Mae'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer 2024 yn hanfodol er mwyn sicrhau bod modd i'r Cyngor liniaru'r effaith negyddol yma a chymryd camau gorfodi yn erbyn yr unigolion hynny sy'n peidio â chydymffurfio'n fwriadol.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r Cyngor yn rhagweld gostyngiad posibl yn nifer y tai amlfeddiannaeth yn y dyfodol gyda thystiolaeth bod nifer y myfyrwyr yn Nhrefforest wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Nododd yr Aelod o'r Cabinet ei bod hi'n anodd rhagweld y farchnad rhentu preifat. O ystyried y sefyllfa ariannol sydd ohoni gyda'r argyfwng costau byw, effaith diwygio lles, newidiadau i fudd-daliadau tai a'r galw mawr am lety llai, mae tai amlfeddiannaeth yn dod yn opsiynau mwy hyfyw i lawer o drigolion. Er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr, mae tai amlfeddiannaeth yn parhau i gael eu hystyried yn ddewis gan weithwyr proffesiynol ifainc sy'n newydd i'r farchnad gyflogaeth.

 

Siaradodd Aelod arall am y pryderon a gafodd eu codi'n flaenorol am safonau byw anniogel mewn tai amlfeddiannaeth a gofynnodd am eglurhad y byddai'r broses arolygu trwy'r strategaeth yn rhoi hyder i Aelodau fod safonau diogelwch yn cael eu bodloni. Roedd gan yr Aelod o'r Cabinet hyder yn swyddogion y Cyngor sy'n mynd i'r afael â phroblemau diogelwch a hynny fel blaenoriaeth uchel.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am ymuno â'r cyfarfod ac i'r Aelodau am eu cwestiynau. PENDERFYNWYD:

 

1.     Craffu ar yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau mewn perthynas â materion a gafodd eu trafod a'u cytuno gan y Cabinet, ac unrhyw benderfyniadau allweddol a gafodd eu gwneud, yn ystod y cyfnod rhwng 11 Mai 2023 a 15 Ionawr 2024;

 

2.     Nodi unrhyw feysydd sy'n codi o'r materion hynny a bennwyd yn ystod y cyfnod yma y mae'r Pwyllgor yn dymuno cynnal gwaith craffu pellach arnyn nhw, a hynny'n rhan o'r diwygiadau i raglen waith y Pwyllgor sydd wedi'i chyhoeddi, mewn perthynas ag Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau.

 

Dogfennau ategol: