Agenda item

Craffu ar adroddiad ychwanegol ar drefniadau i fynd i'r afael â phwysau ym mhob rhan o'r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r effaith ar achosion o bobl yn osgoi mynd i'r ysbyty neu'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion yr adroddiad i roi gwybodaeth allweddol o ran Oedi yn Achos Llwybrau Gofal ar gyfer trigolion Rhondda Cynon Taf rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2023 i Aelodau. Hefyd rhoddodd wybodaeth am effaith bresennol pwysau'r gaeaf ar ryddhau o'r ysbyty a gwybodaeth mewn perthynas â defnydd byrddau gwyn electronig a rhannu gwybodaeth cleifion i gefnogi trefniadau rhyddhau o'r ysbyty.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr gefndir oedi wrth ryddhau o'r ysbyty fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad gan esbonio bod rhagdybiaethau blaenorol am oedi wrth ryddhau o'r ysbyty yn aml yn canolbwyntio ar gapasiti cyfyngedig ym maes gofal cymdeithasol fel y prif reswm, ond mae cymysgedd o ffactorau eraill all achosi oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan gynnwys heriau o ran manteisio ar wasanaethau eraill y GIG yn y gymuned.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau fod data o ran oedi trosglwyddo ysbyty wedi'i gasglu ar dri achlysur gwahanol, sef:

• Oedi wrth Drosglwyddo Gofal (DToC) a oedd ar gael rhwng 2004 a mis Chwefror 2020.

• Adroddiadau gwybodaeth reoli ar oedi wrth ryddhau o'r ysbyty rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mawrth 2023 (wedi'u llunio a'u dilysu gan y Byrddau Iechyd yn unig).

• Oedi yn Achos Llwybrau Gofal a gyflwynwyd o fis Ebrill 2023.

 

Cafodd Aelodau wybod bod gofyniad ar bob Bwrdd Iechyd i fesur Oedi yn Achos Llwybrau Gofal trwy gyfrifiad ciplun misol ar drydydd dydd Mercher y mis ac, ar ôl dilysu a cheisio cytundeb gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaid llywodraeth leol ehangach, i roi'r wybodaeth yma i Lywodraeth Cymru.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yna amrywiaeth eang o resymau dros Oedi yn Achos Llwybrau Gofal a thynnwyd sylw Aelodau at y rhestr lawn yn Atodiad 1.

 

Esboniwyd yr wybodaeth dadansoddi data i Aelodau a thynnodd y Cyfarwyddwr sylw at y duedd tuag i lawr gyffredinol yn nifer yr adroddiadau o oedi ar gyfer Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn hyd yn hyn. Er gwaethaf bod â'r boblogaeth fwyaf, mae cyflawniad ar y cyfan yn dda o'i gymharu â gweithgarwch Cwm Taf Morgannwg ehangach.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o'r wybodaeth yn nhablau 2a-d yn yr adroddiad ac esboniodd fod y 4 prif reswm dros oedi yn Rhondda Cynon Taf yn adlewyrchu themâu tebyg ledled Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Bwrdd Rhyddhau o'r Ysbyty Integredig wedi'i sefydlu er mwyn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am gyflawniad rhyddhau o'r ysbyty ledled ardal y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys sicrhau bod achosion o Oedi yn Achos Llwybrau Gofal yn cael eu hadrodd yn effeithiol, ac yn bwysicach oll, roi cynllun gwella ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri'r risg fwyaf o ran oedi. Cafodd Aelodau drosolwg o'r meysydd sy'n peri'r risg fwyaf ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg a'r cynlluniau gweithredu.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr y sefyllfa bresennol o ran data Oedi yn Achos Llwybrau Gofal a sut mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i gyflymu'r broses o ryddhau o'r ysbyty, yn enwedig o Ysbytai Acíwt Brenhinol Morgannwg a'r Tywysog Siarl yn rhan o Strwythur Gorchymyn Aur.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybodaeth ychwanegol y gofynnodd Aelodau amdani mewn cyfarfod blaenorol mewn perthynas â defnydd byrddau gwyn electronig ar wardiau ysbytai a rhannu gwybodaeth claf i gefnogi trefniadau rhyddhau o'r ysbyty. Cafodd Aelodau drosolwg o bwrpas y byrddau gwyn mewn ysbytai a buddion eu cyflwyno yn ôl y Bwrdd Iechyd.

 

Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau o ran trosglwyddo data trwy ddefnyddio'r byrddau gwyn, ac amlinellodd y Cyfarwyddwr y dulliau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei rheoli'n effeithiol.

 

Gofynnodd Aelod am y data mewn perthynas ag anghytundebau a sut mae'r rhain yn cael eu rheoli. Aeth y Cyfarwyddwr ati i gydnabod anhawster rheoli'r achosion yma ond amlinellodd y broses o weithio ar y cyd â staff a rheolwyr wardiau ysbytai yn y Bwrdd Iechyd i drafod gyda theuluoedd er mwyn deall y rhesymau dros yr anghydfodau a cheisio dod o hyd i ddatrysiad gyda'r canlyniad gorau i'r claf. Cadarnhaodd Swyddog Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg y broses o drafod gyda theuluoedd a rhoddodd drosolwg o waith sy'n cael ei gynnal yn y Bwrdd Iechyd o ran polisi a gweithdrefn rhyddhau o'r ysbyty integredig. Cafodd Aelodau fanylion Rhaglen 'Optimise' sydd â'r bwriad o gefnogi staff ysbytai gyda chymorth ymarferol o ran rhyddhau o'r ysbyty yn effeithiol. Tynnodd y Swyddog sylw at sut mae'r Bwrdd Iechyd yn dilyn y polisi rhyddhau o'r ysbyty newydd sydd wedi cael ei gyhoeddi'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys canllawiau o ran rhyddhau cleifion cyndyn.

 

Gofynnodd Aelod arall a oes data ar gael o ran pa mor hir y mae pobl wedi bod yn aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod yr Oedi yn Achos Llwybrau Gofal yn giplun o ddata ar ddiwrnod unigol a nad yw'n darparu gwybodaeth y tu ôl i'r rhif. Ailbwysleisiodd Swyddog Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod yr wybodaeth dim ond yn berthnasol i adeg benodol, a does dim modd gwybod pa mor hir y mae claf wedi bod yn wynebu oedi gan y gall rhesymau newid o ddydd i ddydd. Nododd y Swyddog fod y Bwrdd Iechyd yn datblygu dangosfwrdd llif a rhyddhau o'r ysbyty fydd yn rhoi trosolwg cyffredinol o hyd a gwerth amser claf yn yr ysbyty.

 

Gofynnodd Aelod arall gwestiwn am y broses asesu cyn rhyddhau o'r ysbyty a gofynnodd am ragor o wybodaeth am argaeledd lleoedd mewn cartrefi gofal yn y Fwrdeistref Sirol. Amlinellodd y Cyfarwyddwr y broses asesu cyn rhyddhau o'r ysbyty ac aeth ati i gydnabod bod achosion lle mae oedi yn digwydd ond mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu yn y cyfamser ar y cyfan. Aeth y Cyfarwyddwr ati i gydnabod bod argaeledd lleoedd mewn cartrefi gofal yn amrywio sy'n gallu arwain at gyfnodau lle mae rhai cartrefi'n llawn.  Cafodd Aelodau wybod bod yna adegau lle mae pobl yn cael lle mewn cartrefi gofal y tu allan i'r sir ond pwysleisiodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cyngor yn sicrhau bod y rhain yn lleoliadau dros dro ac yn ceisio symud yr unigolion yn y dyfodol pe byddai'n well gan deuluoedd hynny.

 

Gofynnodd yr Aelod am ffïoedd cartrefi gofal a'r gwahaniaeth rhwng y lefelau o ffïoedd a bennwyd gan y Cyngor a'r rhai a bennwyd gan gartrefi gofal preifat. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod ffïoedd cartrefi gofal yn cael eu pennu ym mholisi'r Cyngor bob blwyddyn a'u bod nhw'n dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau preswyl. Nododd y Cyfarwyddwr fod modd i gartrefi gofal preifat bennu eu ffïoedd eu hunain ar gyfer pobl sy'n ariannu eu gofal eu hunain a chyfeiriodd at ddylanwad y farchnad ar bennu'r lefelau hynny. Cydnabyddir bod costau cartrefi gofal wedi cynyddu ond cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn gweithio gyda darparwyr lleol i adolygu eu costau gofal er mwyn ystyried ffïoedd y Cyngor yn unol â hynny.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD Aelodau:

 

-        Craffu ar gynnwys yr adroddiad

-        Gofyn am ddiweddariadau pellach mewn perthynas â data yn dilyn pwysau'r gaeaf er mwyn monitro tueddiadau.

 

 

Dogfennau ategol: