Agenda item

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ymlaen llaw ar y Strategaeth Tir Halogedig ddiwygiedig.

 

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bwrpas yr adroddiad er mwyn i Aelodau rag-graffu ar y manylion yn yr adroddiad a rhoi sylwadau'r Pwyllgor i'r Prif Swyddog ac Aelod perthnasol o'r Cabinet cyn iddyn nhw drafod y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig arfaethedig ar gyfer RhCT, trwy'r broses penderfyniadau dirprwyedig.

 

Amlinellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai gefndir y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig a chafodd Aelodau wybod y cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei strategaeth gychwynnol ym mis Ionawr 2004 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Cafodd Aelodau wybod mai bwriad Strategaeth Archwilio Tir Halogedig y Cyngor oedd cyflawni'r blaenoriaethau canlynol o ran tir halogedig posibl:

a. Diogelu iechyd a lles pobl;

b. Annog ailddatblygu tir sydd wedi'i ddifrodi/ailddefnyddio tir llwyd; ?

c. Annog adfer gwirfoddol;

ch. Cyfathrebu a gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau eraill i ddiogelu derbynyddion eraill;

d. Ymgysylltu â chymunedau lleol i gael gwybod am eu blaenoriaethau;

dd. Sicrhau cydymffurfiaeth a gorfodi'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol.

 

Nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod y Cyngor yn hanesyddol wedi ymchwilio i nifer o safleoedd strategol allweddol a'u hadfer nhw mewn partneriaeth ag Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) a rhanddeiliaid eraill, a rhoddodd enghreifftiau megis Glofa a Golosgfa Coed-elái a'r Safle Phurnacite yn Abercwmboi. Mae gwaith adfer nifer o safleoedd eraill wedi cael ei sicrhau trwy'r broses gynllunio. Mae system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) sydd wedi'i datblygu gan yr adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd wedi bod yn hynod werthfawr yn ystod y cam ymgynghori cynllunio o ran nodi tir o'r fath. Cafodd Aelodau wybod bod materion tir halogedig yn aml yn gymhleth a bod delio â safleoedd halogedig posibl yn anodd, yn enwedig oherwydd nad oes unrhyw/llawer o wybodaeth ar gael yn aml.

 

Cafodd Aelodau wybod hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu rhaglen ariannu gyfalaf ar gyfer ymchwilio i dir halogedig a/neu adfer tir halogedig ers 2010. Yn ogystal â hyn, does gan y Cyngor ddim cyllideb gyfalaf benodol ar gyfer ymchwilio i dir halogedig a/neu adfer tir halogedig. O ganlyniad i hyn, mae'r Cyngor wedi defnyddio ei adnoddau i ganolbwyntio ar sicrhau trefniadau ymchwilio ac adfer tir effeithiol yn rhan o'r broses Rheoli Datblygu, a hynny trwy bennu amodau ar gyfer caniatâd cynllunio lle bo angen. Mae ymchwiliadau'n cael eu cynnal cyn datblygu ac maen nhw'n ceisio nodweddu natur benodol unrhyw gysylltiadau llygru posibl a sicrhau eu bod nhw'n cael eu hadfer yn briodol.

 

Aeth Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ati i gyflwyno agweddau allweddol ar y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig ac ar yr adolygiad mwyaf diweddar. Cafodd Aelodau wybod bod proses adolygu'r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig wedi cael ei defnyddio i asesu effeithiolrwydd y strategaeth wreiddiol o ran bodloni gofynion deddfwriaeth Rhan 2A a chanllawiau statudol. Cafodd yr adolygiad llawn cyntaf o'r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2008. Yn 2016, cafodd y strategaeth ei diwygio i ystyried y newid i'r canllawiau statudol yn 2012.  Rhoddwyd gwybod i Aelodau y cafodd yr amserlenni yn y Strategaeth Tir Halogedig wreiddiol eu hystyried yn fympwyol felly roedd angen eu hailddiffinio nhw wrth ystyried profiad, galw am adnoddau a newidiadau i ddarpariaeth ariannu. O ganlyniad i hyn, mae pob adolygiad o'r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig wedi ailddiffinio targedau archwilio er mwyn darparu rhaglen realistig a chyraeddadwy. Tynnwyd sylw Aelodau at Atodiad 1 a oedd yn cynnwys copi o'r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig sydd wedi'i hadolygu fwyaf diweddar o fis Rhagfyr 2023.

 

Esboniodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod tynnu cyllid grant cyfalaf yn ôl wedi effeithio'n sylweddol ar allu Awdurdodau Lleol Cymru i ymchwilio'n ffurfiol i dir halogedig posibl. O ganlyniad i hyn, defnyddiodd y Cyngor ei adnoddau i ganolbwyntio ar ddarparu mewnbwn i'r broses Rheoli Datblygu, lle mae amodau'n cael eu hychwanegu at ganiatâd cynllunio sy'n golygu bod angen cynnal gwaith ymchwilio/adfer. Mae hyn yn gofyn am amser sylweddol Swyddog ond mae'n darparu mecanwaith amgen effeithiol ar gyfer delio â halogiad trwy sicrhau bod y tir yn addas i'w ddefnyddio a sicrhau adferiad ar sail wirfoddol. Does dim cyfleoedd ariannu ar gael ar hyn o bryd a bydd y Cyngor yn parhau i ddefnyddio'i adnoddau trwy'r broses Rheoli Datblygu.

 

Tynnwyd sylw Aelodau at Atodiad 2 a amlinellodd enghreifftiau i ddangos defnydd amodau tir halogedig i sicrhau bod tir gyda ffynhonnell bosibl o halogiad yn RhCT yn cael ei ailddatblygu'n ddiogel.

 

Cyfeiriodd Aelod at dd?r mynyddoedd / glofeydd yn llifo i lawr ochrau mynyddoedd gan beryglu tai a gofynnodd am eglurhad mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol. Cadarnhaodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw rheoleiddiwr cenedlaethol dyfroedd a reolir, sy'n golygu y byddai d?r sy'n llifo i lawr ochrau mynyddoedd yn dod o dan ei gylch gwaith. Rhoddwyd gwybod i Aelodau fod gwybodaeth ar gael o ran cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru gyda phryderon.

 

Nododd Aelod fod y strategaeth yn gynhwysfawr ac yn dechnegol ac wedi'i hysgrifennu'n glir.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y cynnydd yn nifer yr achosion o lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gofynnodd a oes cysylltiadau digonol rhwng hyn

a Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor. Hefyd gofynnodd a oes protocolau yn eu lle ar gyfer asesu perygl unrhyw halogiad yn ystod llifogydd. Aeth Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ati i gydnabod effaith y newid yn yr hinsawdd a pherygl llifogydd ar ddatblygiadau a nododd y byddai rhaid i'r materion yma fod yn rhan o'r asesiadau risg ar gyfer datblygiadau fyddai'n cael eu hadolygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â'r Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod ar yr wybodaeth yn yr adroddiad o ran cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer safleoedd arbennig lle mae'r mwyaf o halogiad, a gofynnodd a yw'r Cyngor yn hapus gyda threfniadau craffu o ran gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ac a oes digon o waith monitro yn cael ei gynnal o ystyried cyfrifoldeb y Cyngor i drigolion yn yr ardaloedd lleol. Esboniodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dod yn rheoleiddiwr ar gyfer y safle pan fo ardal yn cael ei datgan yn safle arbennig, a bod y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â fe. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb dros adfer yn y dyfodol ac mae'n parhau'n safle arbennig hyd nes bod gwaith adfer wedi'i ddatrys.

 

Tynnodd Aelod sylw at yr wybodaeth o ran y gofrestr gyhoeddus, gan nodi ei bod hi ar gael ar ffurf copi caled yn unig. Gofynnodd yr Aelod a oes cynlluniau i'w chyhoeddi ar-lein, a hynny ar gyfer tryloywder. Nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai y byddai rhaid gwneud ymholiadau pellach mewn perthynas â hyn ond byddai angen cydnabod faint o wybodaeth sydd ar gael ar-lein a chyfaddasrwydd cyhoeddi'r wybodaeth yma ar-lein.

 

Gofynnodd Aelod arall a ddylid cynnal asesiad risg ychwanegol yn ystod llifogydd sylweddol er mwyn bod yn hyderus nad yw unrhyw achosion o halogi wedi digwydd. Esboniodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai y byddai hyn yn rhan o waith y carfanau rheoli perygl llifogydd a rhoddodd drosolwg o'r camau gweithredu wedi'u cymryd ers effaith Storm Dennis a gwaith adrannau eraill y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Aeth Aelodau ati i gydnabod y pwynt yma ac roedden nhw o'r farn y byddai'n fuddiol gofyn i garfan rheoli perygl llifogydd am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r mater yma.

 

Aeth Aelod ati i gydnabod yr wybodaeth yn yr adroddiad sy'n nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer ymchwilio i dir halogedig mwyach a sut mae'r Cyngor yn dibynnu ar y broses Rheoli Datblygu a Chynllunio. Tynnodd yr Aelod sylw at y ffaith bod yr adroddiad hefyd yn nodi bod rhaid i'r Cyngor, a hynny o dan ran 2 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd, archwilio ei ardal o ran tir halogedig a gofynnodd a yw'r diffyg o adnoddau'n effeithio ar allu'r Cyngor i wneud hyn ac a yw dull RhCT yn gyson ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Amlinellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai y broses archwilio, gan roi sicrwydd i Aelodau fod tir yn cael ei archwilio ond mae hyn yn cael ei wneud trwy'r broses rheoli datblygu. Ychwanegodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai y nododd y Cyngor yr ystod amrywiol o safleoedd pan gafodd y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig gychwynnol ei datblygu a nododd nad oes modd i'r Cyngor fynd ati'n rhagweithiol i gwblhau gwaith archwilio ond mae gwaith ochr yn ochr ag adran Gynllunio'r Cyngor yn sicrhau bod risgiau'n cael eu hystyried. Rhoddodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai wybod i Aelodau fod yr holl Awdurdodau Lleol yn yr un sefyllfa mewn perthynas â chyllid a'u bod nhw'n gyson o ran defnyddio rheoli datblygu.

 

Gofynnodd Aelod sut mae'r strategaeth yma'n cyfrannu at gynlluniau ehangach y Cyngor megis y Cynllun Corfforaethol a Strategaeth Lleihau Carbon y Cyngor. Nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ei bod hi'n bwysig, o ran cynaliadwyedd, ystyried yr effaith bosibl ar genedlaethau'r dyfodol a sicrhau bod tir yn ddiogel.  Rhoddwyd eglurhad mai prif ganolbwynt y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yw delio â risgiau defnydd blaenorol tir. Ychwanegodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod yna gysylltiadau â lleihau carbon o ran y broses ddatblygu a sicrhau nad oes unrhyw achosion o halogi. Cafodd Aelodau wybod bod rhagor o drefnau rheoli ar waith o ran trwyddedau amgylcheddol a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch er mwyn rheoli llygredd.

 

Gofynnodd Aelod sut mae modd i'r Cyngor fod yn sicr nad yw'r dull yma'n peryglu ein cymunedau o ystyried y diffyg o adnoddau sydd ar gael. Rhoddodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai sicrwydd i Aelodau fod y Cyngor yn gweithredu ar unrhyw gwynion sy'n dod i law gan y gymuned ac ar unrhyw risgiau a nodir yn y gymuned.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD Aelodau:

 

- Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i roi sylwadau'r Pwyllgor i'r Prif Swyddog a'r Aelod perthnasol o'r Cabinet.

 

- Gofyn i Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r ymholiadau am lifogydd sylweddol.

 

 

Dogfennau ategol: