Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad a oedd yn nodi Hunanasesiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23, ar ôl iddo gael ei drafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Rhagfyr 2023,a'r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar 20 Rhagfyr 2023 (mae cofnodion y ddau bwyllgor wedi'u cynnwys yn yr atodiadau er gwybodaeth i’r Aelodau)

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai pwrpas yr Hunanasesiad statudol yw rhoi sicrwydd bod y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, yn defnyddio ei adnoddau'n effeithlon ac yn ddarbodus, ac yn sicrhau bod ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol. Wrth gynnal yr hunanasesiad blynyddol, mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd i wneud hynny o dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2021.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai dyma'r ail flwyddyn i'r Cyngor gynnal ei hunanasesiad statudol, sy'n cynnwys ei adroddiad cyflawniad corfforaethol blynyddol. Ychwanegodd fod yr asesiad yn cyfuno cyfoeth o wybodaeth a ddefnyddiwyd i adolygu cyflawniad y Cyngor yn barhaus, gan gynnwys y cynnydd a wnaed yn erbyn y themâu ar gyfer gwella a nodwyd yn y flwyddyn flaenorol, sut mae'r cynllun corfforaethol yn cefnogi'r blaenoriaethau, asesiad o Swyddogaethau corfforaethol y Cyngor, hunanwerthusiad o wasanaethau'r Cyngor a sut mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i rhoi ar waith. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr asesiad yn dod â llawer iawn o dystiolaeth ynghyd o bob rhan o'r Cyngor. Mae'r wybodaeth yma wedi'i chasglu drwy'r fframwaith rheoli cyflawniad, adroddiadau chwarterol a'r adroddiadau niferus a ddygwyd ynghyd o gyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a'r Cyngor, y mae'r Aelodau wedi'u trafod drwy gydol y flwyddyn. Mae'n cynrychioli miloedd o dudalennau o wybodaeth a thrwy gydol yr asesiad mae hyperddolenni i'r dystiolaeth a'r data ategol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad yn dangos amrywiaeth rhyfeddol swyddogaethau'r Cyngor, maint a chwmpas y gwasanaethau y mae'n eu darparu, a'r cynnydd sylweddol a wnaed o ran cyflawni ei ymrwymiadau trwy gydol 2022/2023. Dywedodd fod adrannau 2 a 3 o'r hunanasesiad yn rhoi trosolwg o'r ymrwymiadau niferus a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod yma. Roedd y Prif Weithredwr o'r farn bod yr hunanasesiad a'r sesiynau herio a gafodd eu cynnal gyda'r Cyfarwyddwyr perthnasol yn golygu bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran pobl, lleoedd a ffyniant. Dywedodd fod hyn, yn syml, yn golygu bod y Cyngor yma'n cyflawni ei ymrwymiadau.

 

O ran blaenoriaethau ar gyfer gwella wrth edrych tua'r dyfodol, dywedodd y Prif Weithredwr fod y naw thema wedi'u nodi yn yr hunanasesiad ar gyfer y

flwyddyn flaenorol (a restrir ym mharagraff 5.61 o'r adroddiad) wedi gweld cynnydd da, sydd wedi'i amlinellu yn adran un o'r asesiad. Serch hynny maen nhw'n parhau i fod yn flaenoriaethau hirdymor ar gyfer y Cyngor: Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd, yn dilyn yr ymarfer hunanasesu, fod yn rhaid i'r Cyngor barhau i atgyfnerthu ei drefniadau o ran ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a chyfranogiad. Roedd hyn yn cynnwys gwerthuso canlyniadau ac adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi mynd rhagddo i atgyfnerthu'r diwylliant sefydliadol o ran amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Mae'r hunanasesiad yn cynnwys tystiolaeth bod y Cyngor yn cael ei redeg yn dda, ond pwysleisiodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n bwysig i'r Cyngor fod yn barod i herio'i hun a newid ei ffyrdd o weithio lle bo angen.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn fodlon bod yr hunanasesiad cynhwysfawr a chadarn yma'n dangos bod y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol, ac yn defnyddio ei adnoddau mewn modd effeithlon a doeth, a bod trefniadau llywodraethu a rheoli cyflawniad cadarn ar waith i sicrhau ei fod yn parhau i wneud hynny. Ychwanegodd ei fod yn fodlon cyflwyno'r hunanasesiad i’w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ymhen pedair wythnos, ac aeth ati i gydnabod gwaith y Garfan Gyflawniad, yn arbennig Ms Lesley Lawson, o ran llunio’r adroddiad a chadw’r Cyngor ar y trywydd iawn drwy gydol y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd Arweinydd yr Wrthblaid at ran 6 o'r Ddeddf a pharagraff 4.3 o'r adroddiad, a gofynnodd am eglurhad o ran y sylwadau clo sy'n ymwneud â gwella presenoldeb disgyblion, a nodir ar dudalen 241 yr adroddiad. Cyfeiriodd at y ffaith bod presenoldeb mewn ysgolion yn benodol yn dal i fod yn fater y mae'r Cynllun Corfforaethol yn canolbwyntio'n gryf arno. Yn y gobaith y bydd presenoldeb disgyblion yn dychwelyd i'w lefel cyn y pandemig, holodd a roddir unrhyw ystyriaeth i'r genhadaeth yma ar gyfer gwella presenoldeb. Ymhellach, pe byddai'r Cyngor yn penderfynu bod angen i ddisgyblion fyw ymhellach o'r ysgol i fod yn gymwys ar gyfer cludiant ysgol, roedd hi o'r farn y byddai hyn yn effeithio ar deuluoedd ac yn tanseilio'r ymgyrch i wella presenoldeb. Gofynnodd Arweinydd yr Wrthblaid a oedd yr Uwch Reolwyr Corfforaethol yn rhoi unrhyw ystyriaeth i gynigion o'r fath, ac a yw'r gost ddynol byth yn ystyriaeth neu a yw'r ddadl ariannol yn drech na gwella presenoldeb ysgol ymhellach.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy nodi bod adran o fewn yr adroddiad sy'n amlinellu sut mae'r Cyngor yn cyflawni yn erbyn ei flaenoriaethau. Mae hefyd yn tynnu sylw at y meysydd hynny lle nad yw cynnydd wedi bod cystal ag yr hoffai'r Cyngor ei weld, gan gynnwys gwella presenoldeb yn yr ysgol, sy’n faes sy’n parhau i fod yn heriol o ran cyrraedd y ffigurau presenoldeb cyn y pandemig. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yna nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar bresenoldeb disgyblion, a bod hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â deilliannau  addysgol y Cyngor o ran cyflawniad, ac felly'n parhau i fod yn flaenoriaeth i wasanaethau addysg y Cyngor. Dywedodd fod gwelliant araf a chyson wedi bod yng nghyfraddau presenoldeb ysgolion dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i'r ymdrechion a wneir.

 

Mewn perthynas â mater Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol, dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynigion wedi'u cyflwyno i'r Aelodau ynghylch y newidiadau posibl sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad. Mae Swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried yr ymatebion cyn i argymhellion pellach gael eu cyflwyno. Aeth ati i roi sicrwydd i'r holl Aelodau bod y gyllideb yn ystyriaeth hanfodol bwysig ac yn un o’r blaenoriaethau allweddol a nodwyd o fewn yr hunanasesiad o ran 

hyfywedd ariannol parhaus y Cyngor. I gloi, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod 

goblygiadau o ran newidiadau i wasanaethau yn ystyriaeth ddifrifol i'r Uwch

Reolwyr a’r holl Aelodau.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag effaith traffig ffyrdd ac ansawdd aer, 

dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor gyfrifoldebau statudol o ran

rheoli ansawdd aer lleol. Mae ardaloedd rheoli ansawdd aer lleol

wedi'u clustnodi o ganlyniad i lygredd nitrogen deuocsid sy'n deillio o gerbydau. Mae'r ardaloedd yma'n cael eu monitro'n agos ac mae gwaith yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r Cyngor, gan gynnwys yng ngharfanau'r priffyrdd a thraffig, i reoli a lliniaru effaith hyn.

 

Dywedodd Aelod fod y dolenni niferus i ddogfennau eraill wedi'u cynnwys yn yr

adroddiad, y mae angen ei ddarllen ar y cyd â'r adroddiad i

ddeall a yw'r Cyngor wedi bodloni'r gofynion o ran cyflawniad yn ystod

y flwyddyn, yn cael effaith ar y farn gyffredinol ac yn ei gwneud hi'n anodd gweld lle dydyn ni ddim wedi gwneud cymaint o gynnydd. Ychwanegodd fod y pwyntiau bwled hefyd yn ei gwneud hi'n anodd cyfleu 'argraff onest'. Holodd yr Aelod

sut mae diffinio 'mater drygionus', a gofynnodd am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r hyn a ddisgrifir yn annigonol o ran ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a chyfranogiad (y cyfeirir ato hefyd yng Nghofnodion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio), a sut mae'r Cyngor yn bwriadu gwella'r drefn o ran gwerthuso canlyniadau.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr mai ystyr 'mater drygionus' yw'r blaenoriaethau a'r themâu allweddol sy'n deillio o'r hunanarfarniad bob blwyddyn, ac y mae angen i'r Cyngor ganolbwyntio arnyn nhw. Nodwyd naw ohonyn nhw yn yr hunanarfarniad blaenorol, megis yr argyfwng costau byw, cynllunio ariannol

a chydnerthedd, a chefnogi'r rhai sydd angen tai. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod e hefyd wedi amlygu dwy flaenoriaeth arall yn ei gyflwyniad, sef atgyfnerthu ein gwaith o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, a gwella ymgysylltiad a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau. Ychwanegodd fod y dolenni yn cefnogi'r swm enfawr o wybodaeth ac yn cyfoethogi'r ddogfen pe bai'r Aelodau'n dymuno dadansoddi'r grynodeb yn fwy manwl. Eglurodd fod adran tri o'r hunanasesiad yn nodi meysydd penodol lle dydy'r Cyngor ddim wedi gwneud cymaint o gynnydd ag yr hoffen ni ei wneud, a lle mae angen i ni ganolbwyntio ein sylw. O ystyried bod yr adroddiad yn cyfeirio at y flwyddyn flaenorol, mae’n braf nodi bod cynnydd wedi’i wneud yn llawer o’r meysydd yma yn ystod y flwyddyn. Mewn perthynas â'r ddau bwynt penodol a godwyd o ran ymgysylltiad a chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, aeth y Prif Weithredwr ymlaen i gydnabod bod angen rhagor o gysondeb a gwelliannau mewn rhai meysydd yn y Cyngor (gyda rhai meysydd gwasanaeth eisoes yn cyflawni lefelau ymgysylltu da).

 

Diolchodd Arweinydd y Gr?p Annibynnol i'r Prif Weithredwr a'r Uwch Reolwyr am lywio'r Cyngor drwy gyfnod anodd iawn.

 

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNODD yr Aelodau:

 

1.    Ystyried yr Hunanasesiad drafft yn Atodiad 1 yn adlewyrchiad cywir a chadarn o sefyllfa'r Cyngor a'i wasanaethau, a'i fod yn bodloni gofynion Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

 

2.    Nodi'r cynnydd mewn perthynas â'r themâu gwella a nodwyd yn Hunanasesiad 2021/22.

 

3.    Ystyried sylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Rhagfyr 2023a'r Cydbwyllgor Ymgynghorol ar 20 Rhagfyr 2023.

 

4.    Cymeradwyo Hunanasesiad Blynyddol 2022/23, gan gynnwys Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor, a'i gyhoeddi cyn pen pedair wythnos o gael ei gymeradwyo.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: