Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad i Aelodau sy'n nodi'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037 (sydd i'w gweld yn Atodiad 1). Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth Aelodau i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig sydd wedi cael ei pharatoi yn unol â deddfwriaeth a pholisi cynllunio cenedlaethol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn nodi'r materion allweddol, gweledigaeth, amcanion ac opsiynau'r strategaeth; cyn cyflwyno Strategaeth a Ffefrir. Ar y lefel strategol yma, bydd yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion RhCT trwy gynnig lefelau o dwf datblygu a lle y dylai hyn gael ei ddosbarthu ledled y Fwrdeistref Sirol. Ystyrir bod sawl elfen allweddol o strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol presennol yn gadarn; yn enwedig angen i barhau â'r dull strategaeth gwahanol ar gyfer ardaloedd gogleddol a deheuol y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad y cynigir ei symud at y cam nesaf ar gyfer ymgynghori statudol. Nododd y bydd adborth yr ymgynghoriad wedyn yn cael ei ystyried cyn parhau â'r camau nesaf. Dywedodd er bod targedau ar gyfer adeiladu tai yn realistig, mae angen sicrhau bod seilwaith yn cael ei gynllunio ochr yn ochr â hyn i sicrhau bod cyfleusterau meddygol, ysgolion a mannau gwyrdd digonol ar gyfer hamdden a chwarae ar gael, yn ogystal ag ehangu Metro De Cymru.

 

Gofynnodd Arweinydd yr Wrthblaid am eglurhad o ran safleoedd ymgeisiol, ac anogodd bob Aelod i roi eu barn ar safleoedd ymgeisiol i osgoi problemau dadleuol yn y dyfodol pan fydd ceisiadau cynllunio yn dod i law. Cyfeiriodd yr Aelod at y ddwy orsaf drenau a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol yn Hirwaun a Rhigos a gofynnodd am union leoliadau'r gorsafoedd yma ac a fyddai ymgynghoriad â thrigolion lleol. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu wybod na fyddai modd iddo gadarnhau lleoliadau'r gorsafoedd ar hyn o bryd a rôl y Cynllun Datblygu Lleol fydd amddiffyn tir sydd ar gael ar gyfer y gwaith arfaethedig i ehangu llinellau a gorsafoedd ond bydd y broses penderfynu ar leoliadau'r rhain yn ymarfer ar wahân i'w gynnal gan gydweithwyr Trafnidiaeth, gan gynnwys Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cymru.

 

Gofynnodd Arweinydd Gr?p Annibynnol RhCT a oes cyfle i'r Cyngor ymgysylltu â thrigolion ar faterion lliniaru llifogydd. Cododd yr Aelod bryderon y bydd un ffordd gerbydau ar gyfer y 9,000 o eiddo ychwanegol arfaethedig sydd i'w hadeiladu. Mae'r ffyrdd yn brysur yn barod felly byddai hyn yn arwain at gynnydd mawr yn nifer y tagfeydd yn yr ardal. Gofynnodd a yw opsiynau amgen yn cael eu hystyried yn y Cynllun Teithio Llesol er mwyn annog trigolion i adael eu ceir gartref a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gofynnodd hefyd, yn rhan o waith lleihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd a symud Pencadlys y Cyngor i Bontypridd, a ddylid ystyried dull hyblyg o ran gofyn i staff fynd i'r swyddfa dim ond pan fo angen iddyn nhw wneud hynny.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu mai rôl y Cynllun Datblygu Lleol fydd hyrwyddo datblygiad sy'n amddiffyn cymunedau presennol rhag llifogydd a, lle bo modd, atal datblygiadau newydd mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd a lle mae angen datblygiadau mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd, sicrhau bod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n gwrthsefyll llifogydd gymaint â phosibl. Dywedodd y Cyfarwyddwr nad oes modd iddo gadarnhau safleoedd y 9,000 o eiddo y mae angen eu cyflawni, ond mae'n debygol y bydd gan unrhyw safleoedd a nodir i'w datblygu ryw fath o broblem o ran seilwaith, llifogydd neu fioamrywiaeth ac eir i'r afael â hyn yn ystod camau drafft y cynllun. O ran yr arhosfa ym Mhontypridd, dywedodd fod Pontypridd i'w gweld yn un o'r prif ardaloedd strategol o dwf ond nid rôl y strategaeth a ffefrir oedd pennu prosiectau unigol fel arhosfa ar yr adeg yma.

 

Cododd Aelod bryder gyda'r Strategaeth gan fod Llywodraeth Cymru wedi galw ochr ddwyreiniol y datblygiad arfaethedig yn Llanilltud Faerdref i mewn a bod caniatâd cynllunio wedi cael ei wrthdroi gan ei fod yn Orlifdir C2. Yn ôl yr Arolygiaeth Gynllunio, byddai adeiladu ar y safle yma'n torri Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru felly does dim modd cyflawni'r cynllun.  Gofynnodd hefyd am eglurhad o ran yr £8 miliwn sy'n cael ei fuddsoddi tuag at glirio pwll glo yn ardal Beddau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn derbyn sylwadau'r Aelod a bod y broblem o ran llifogydd wedi'i datrys er mwyn cyrraedd y cam yma. Dywedodd mai dyma'r strategaeth a ffefrir a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a byddwn ni'n ystyried unrhyw sylwadau sy'n dod i law cyn datblygu unrhyw safleoedd.

 

Fe wnaeth Aelod, sydd hefyd yn aelod o Gr?p Llywio'r Cynllun Datblygu Lleol, sylwadau am wneud y rhestr o'r tri chant o safleoedd posibl yn gyhoeddus cyn gynted ag sy'n bosibl. Gofynnodd am ystyriaeth o ran yr amgylchedd naturiol a pheidio â gorddatblygu cymunedau felly os bydd y ddemograffeg yn newid, bydd y targedau'n cael eu newid i adlewyrchu'r data er mwyn cadw mannau gwyrdd lle bo modd. Gofynnodd yr Aelod i'r Cyngor ystyried sicrhau, lle bo modd, fod gan ddatblygiadau newydd seilwaith ategol, gyda digon o dai fforddiadwy a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus digonol, a hynny'n rhan o'r broses gynllunio. Nododd yr Aelod fod cymorth ar gyfer yr iaith Gymraeg yn allweddol a dylai cyfleoedd fod ar gael i ddisgyblion yn y datblygiadau newydd fynd i ysgol Gymraeg yn eu cymuned.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau a rhoddodd wybod bod yr holl dystiolaeth yn awgrymu bod angen y naw mil o dai a pho fwyaf y rhain y bydd modd i'r Cyngor eu cyflawni, y mwyaf o dai fforddiadwy y bydd modd iddo eu cynnig. Ychwanegodd fod gofyniad statudol ar y Cyngor i adolygu'r cynllun bob pedair blynedd a rhoddodd sicrwydd bod modd newid y ffigurau yma os bydd yr angen am dai'n newid. Cadarnhaodd y bydd y safleoedd ymgeisiol hefyd ar gael adeg yr ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelod fod gan Fioamrywiaeth fwy o flaenoriaeth yn y broses gynllunio nag erioed a bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o gamau lliniaru neu welliannau i fioamrywiaeth cyn cymeradwyo unrhyw gynlluniau datblygu. 

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad o ran yr adran o'r adroddiad sy'n awgrymu bod angen rhagor o dai fforddiadwy na'r hyn y mae modd adeiladu arno. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod allan o'r naw mil o gartrefi yn y cynllun, byddai angen dros bum mil o'r rheiny i ddelio â'r bobl sydd ar y rhestr aros am d? ar hyn o bryd mewn gwirionedd, a bod hynny'n swm sylweddol. Cadarnhaodd fod galw mawr iawn am dai fforddiadwy, yn fwy na'r hyn y mae modd ei ddarparu'n realistig.

 

Cododd Aelod bryder o ran nifer yr adeiladau gwag mawr yng nghanol tref Pontypridd a gofynnodd beth mae'r Cyngor yn ei wneud i ddenu busnesau o ansawdd da i'w defnyddio. Nododd y Cyfarwyddwr fod y Cynllun Datblygu Lleol yn hyrwyddo Pontypridd fel tref ac yn annog gwaith trawsnewid adeiladau gwag mawr. Ychwanegodd fod hyn wedi bod yn llwyddiannus o ran adfywio a bod datblygwyr preifat wedi penderfynu ailddatblygu hen fanc HSBC yn adeilad masnachol yn ddiweddar. Cadarnhaodd y bydd y Cyngor yn parhau gyda'r rhaglenni hynny er mwyn hyrwyddo cynlluniau adfywio.

 

Cyfeiriodd Aelod at y cymorth sydd ar gael i fusnesau sydd wedi'u heffeithio gan waith ffordd yn y cymoedd a gofynnodd a yw hyn wedi cael ei ystyried yn rhan o'r cynllun. Nododd y Cyfarwyddwr y bydd y Cyngor yn ceisio gwneud yn fawr o fudd y buddsoddiad yng ngwaith deuoli'r A465 a bod y safle strategol yn Hirwaun yn un o'r ffyrdd y mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cynnig gwneud hynny. Ychwanegodd y bydd y Strategaeth Ogleddol yn hyrwyddo'r cyfleoedd yma ar gyfer twf cynaliadwy a chymunedau yng nghanol pentrefi ledled ein cymoedd gogleddol.

 

Mynegodd Aelod ei siom nad yw Treorci yn cael ei nodi'n brif dref, a nododd fod y term anheddiad allweddol yn annigonol a gofynnodd fod hyn yn cael ei adolygu yn rhan o'r broses ymgynghori.

 

Yn dilyn y trafodaethau, PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig at ddibenion ymgynghoriad statudol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid

 

(Nodwch: Roedd y Cynghorydd K Johnson am gofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn yr argymhelliad).

 

 

Dogfennau ategol: