Agenda item

Rhoi gwybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas â Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2024/25.

 

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybodaeth i Aelodau yngl?n â Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2024/25, a sylwadau cychwynnol ar ei oblygiadau tebygol ar gyfer darparu gwasanaethau'r Cyngor.

 

 

Ø  Cafodd Aelodau wybod am “benawdau” Setliad Dros Dro 2024/25 a nodir yn yr adroddiad, sef:

Ø  Y cynnydd cyffredinol yn y Grant Cynnal Refeniw a chyllid Ardrethi Annomestig ar gyfer 2024/25 (cyllid heb ei neilltuo) ar lefel Cymru gyfan, ar ôl ei addasu ar gyfer trosglwyddo, yw 3.1% (+£169.8 miliwn).

Ø  Mae'r setliad ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn dangos cynnydd o 2.8%, sy'n llai na'r cyfartaledd ledled Cymru gyfan. Mae ffigurau'r setliad yn amrywio o 2.0% i 4.7% ledled Cymru.

Ø  Mae terfyn isaf o ran cyllid wedi cael ei gynnwys ar gyfer 2024/25 fel nad yw unrhyw Gyngor yn derbyn setliad sy'n is na 2.0%.

Ø  Does dim trosglwyddiadau i mewn i Setliad 2024/25 nac allan ohono.

Ø  Dydy'r Setliad ddim yn dangos unrhyw arwydd o lefelau setliadau'r dyfodol.

Ø  Mae ffigurau dros dro ac amcangyfrifon dangosol ar gyfer 2024/25 hefyd wedi'u cynnwys ar gyfer grantiau penodol, a hynny ar lefel Cymru gyfan. Bydd y Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn gostwng o £45 miliwn i £35 miliwn (lefel Cymru gyfan), dyma ostyngiad o £0.815 miliwn ar gyfer y Cyngor yma. Mae hyn yn ariannu ein cyllideb graidd.

Ø  Mae gostyngiad o £0.086 miliwn yn nyraniad Cyllid Cyfalaf Cyffredinol y Cyngor, sef £13.800 miliwn.

 

Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fod effeithiau cyfunol hyn yn golygu bod gan y Cyngor fwlch o £36.654 miliwn yn y gyllideb. Wrth baratoi ar gyfer y setliad, mae swyddogion wedi cytuno ar fesurau cwtogi'r gyllideb tua £10.74 miliwn, gan adael bwlch o £25.911 miliwn yn weddill. Cafodd Aelodau wybod y bydd y Cabinet yn trafod goblygiadau'r sefyllfa uchod wrth baratoi ei strategaeth cyllideb ddrafft. Yn rhan o hyn, bydd canlyniad cam cyntaf y broses ymgynghori ar y gyllideb yn cael ei ystyried.

 

I grynhoi, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fod Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a'u bod nhw wedi'u neilltuo at ddibenion penodol a risgiau ariannol. Nododd fod gan y Cyngor hanes llwyddiannus o ddefnyddio'r rhain mewn modd synhwyrol a chymesur a ddylen nhw ddim cael eu defnyddio i ddelio â materion refeniw cyllideb sylfaenol blaenorol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr. Dywedodd y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn heriol iawn a bydd hi'n parhau i fod yn heriol yn y dyfodol wrth i'r Cyngor wynebu pwysau parhaus. Dywedodd nad yw unrhyw swyddog nac Aelod eisiau torri neu leihau gwasanaethau gan wybod bod angen buddsoddiad ar ein cymunedau, ond gyda setliad Llywodraeth Leol ar 2.8% mae angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn pennu cyllideb gytbwys. Nododd yr Arweinydd er y bydd angen i'r Cyngor ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i gau'r bwlch yn y gyllideb, mae'n bwysig eu bod nhw'n cael eu hystyried yn ofalus cyn penderfynu eu defnyddio nhw gan fod y rhain yn cael eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer buddsoddi parhaol yn ein Rhaglen Gyfalaf.  Eglurodd yr Arweinydd er bod y cronfeydd wrth gefn wedi'u dosbarthu fel rhai y mae modd eu defnyddio, mae gan y Cyngor ymrwymiadau o hyd yn y Rhaglen Gyfalaf, megis adeiladu cyfleusterau Gofal Ychwanegol, ysgolion arbennig newydd, prynu eiddo ar gyfer cartrefi gofal i blant a phrosiectau seilwaith. Mae'r rhain wedi'u rhestru fesul eitem yng nghyfrifon y Cyngor sydd wedi'u cyhoeddi.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ddiolch i swyddogion am yr adroddiad cadarn a nododd y bydd y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau ar gyfer dyfodol ein trigolion.

 

Gofynnodd Arweinydd yr Wrthblaid am yr ardollau y mae Cynghorau'n talu amdanyn nhw ar gyfer y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ers cyhoeddi'r adroddiad annibynnol ar 3 Ionawr a gafodd ei gomisiynu yn ôl cais y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a Chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru sy'n ymwneud â'r methiant o ran rheoli swyddfeydd, byddai'n annheg disgwyl i Gynghorwyr fod yn effro i bob methiant o ran arferion rheoli ond, er gwaethaf hynny, yr Awdurdod Lleol yw'r cyflogwr a'r corff statudol.  Gofynnodd a fydd yr ardoll eleni'n cynnwys cost yr adolygiad a faint o arian cyhoeddus gafodd ei ddefnyddio i dalu am yr adolygiad ac a fydd modd adennill costau'r adolygiad.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen nad oes modd iddo gadarnhau'r hyn y byddai'r ardoll yn ceisio ei adennill, a dyma fater i'r Awdurdod Tân. Gofynnwyd i'r Cyngor am lefel ardoll ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod sy'n galluogi'r Gwasanaeth Tân i bennu cyllideb gyfreithiol.

 

Gofynnodd Aelod arall am eglurhad o ran beth mae'r cynnydd arfaethedig o 3.9% yn ei olygu mewn termau gwirioneddol ar gyfer yr eiddo Band D cyffredin, ac a oes unrhyw gostau sydd wedi'u negyddu gan y premiymau uwch y mae'r Cyngor yn mynd i'w cael gan ddeiliaid Eiddo Gwag Hirdymor ac ail gartrefi.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fod y premiymau ychwanegol o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau. Hefyd cadarnhaodd fod deiliad eiddo Band D yn talu £1,614 y flwyddyn ar hyn o bryd. Gyda chynnydd arfaethedig o 3.9%, mae hyn yn cyfateb i £1.20 yr wythnos.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y Strategaeth Cyllideb sy'n rhestru perimedrau ar gyfer pennu'r Gyllideb a gofynnodd pryd y cafodd y rhestr ei llunio a'i chymeradwyo, a yw'r perimedrau yr un peth â'r rhai gafodd eu defnyddio ar gyfer 23/24 ac a yw'r cyhoedd yn cytuno â defnydd y perimedrau. Cyfeiriodd yr Aelod at yr arbedion effeithlonrwydd cynnar a gofynnodd at beth y cyfeiriodd y rheiny.

 

Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fod y perimedrau yr un peth â'r rhai a gafodd eu defnyddio yn y gorffennol a'u bod nhw'n rhan o Adroddiadau Strategaeth Cyllideb a ddefnyddir ar gyfer Ymgynghoriadau Cyhoeddus. Cadarnhaodd y cafodd yr arbedion effeithlonrwydd cynnar eu nodi yn adroddiad y Cabinet ym mis Tachwedd 2023.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at adroddiadau eraill Cynghorau eraill ledled y DU sy'n wynebu anawsterau ariannol a nododd ei fod yn hyderus y bydd Arweinydd a Swyddogion Cyngor RhCT yn rhoi trigolion RhCT yn gyntaf. Gofynnodd i'r Arweinydd gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned i ofyn am gymorth gyda gwasanaethau. Dywedodd yn rhinwedd ei rôl fel Arweinydd Cyngor Tref Pont-y-clun eu bod nhw yno i helpu ac eisiau rhoi trigolion yn gyntaf. Nododd yr hoffen nhw weithio ar y cyd i drafod unrhyw bosibilrwydd y gall y Cynghorau Cymuned gynnig gwasanaethau y mae rhaid i'r Cyngor eu torri.

 

Croesawodd yr Arweinydd y sylwadau a rhoddodd wybod y bydd yn derbyn y cynnig i gwrdd â nhw.

 

Gofynnodd Arweinydd Gr?p Annibynnol RhCT faint o eiddo gwag hirdymor sydd yn RhCT o'u cymharu â blynyddoedd blaenorol ac a gafodd y broses ddiweddar o gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ei hariannu'n rhannol gan y Cyngor.

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybod bod y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal adolygiad wedi blwyddyn o gyflwyno mesurau Eiddo Gwag Hirdymor felly bydd hwnnw'n cael ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Cadarnhaodd hefyd fod y broses o gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya wedi'i hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi Setliad Llywodraeth Leol 2024/25 Dros Dro, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2023;

2.     Nodi bod disgwyl i'r Setliad Llywodraeth Leol 2024/25 terfynol gael ei gyhoeddi ddechrau mis Mawrth 2024; a

3.     Nodi'r dull o ran ymgynghori ar gyllideb 2024/25 fel sydd wedi'i bennu eisoes.

 

Dogfennau ategol: